Adolygiadau Sôn am Lyfra

Published Rhagfyr 12, 2023 by gwanas

Mae na wefan wych arall sy’n cyhoeddi adolygiadau da a difyr – a dwyieithog – o lyfrau Cymraeg, sef:

https://www.sonamlyfra.cymru/

Ac mi ges i sypreis hyfryd ddoe pan welais i adolygiadau hyfryd o Gladiatrix yno. Llyfr plant meddech chi? Wel, ro’n i’n anelu at bobl ifanc dros 15 oed, a dyna pam nad oes llawer o ryw yn y nofel! (Rhywun wedi cwyno’n barod nad oes digon…) Ond mae’n addas ar gyfer oedolion hefyd wrth reswm. Wel, rhai sy’n hoffi’r math yma o beth, fel mae hwn gan Sôn am Lyfra yn egluro:

A’r rhan yma o adolygiad Morgan Dafydd:

Ha! Yn union, Morgan…

Mae’r linc i’r adolygiad cyfan ar waelod y dudalen ond dyma ran o farn Rebecca Roberts:

Shycs, diolch, Sôn am Lyfra.

Mae hi’n iawn i mi dynnu sylw at fy llyfrau fy hun weithiau tydi? Mor anodd i ni’r Cymry sydd o ryw oed arbennig…

Tra dach chi’n picio i’r wefan, cymrwch olwg ar adolygiadau eraill ar gyfer gwahanol oedrannau, a chliciwch ambell galon a theipio ambell sylw. Maen nhw’n gweithio’n ofnadwy o galed ar y wefan hon ac mae cael ymateb yn llonni’r galon. Mae’n helpu darllenwyr eraill i ddod o hyd i’r llyfrau iawn ar eu cyfer nhw hefyd.

https://www.sonamlyfra.cymru/post/gladiatrix-bethan-gwanas

Chwilio am lun o Gladiatres hapus o’n i – dim clem be ydi’r llun gwaelod yn y canol…?!

Anrhegion Nadolig

Published Rhagfyr 9, 2023 by gwanas

Mae’n siŵr bod pawb wedi gweld copi o Gwledd y Nadolig erbyn hyn, sydd â rhestr gynhwysfawr o’r holl lyfrau sydd wedi eu cyhoeddi yn y misoedd diwethaf –

  • gweld be wnes i yn fanna?

Mae’r rhan fwyaf o rai plant yn addasiadau o lyfrau llwyddiannus Saesneg a does dim angen mwy o sylw i’r rheiny ar draul awduron ac arlunwyr o Gymry yn fy marn i, felly y gwreiddiol yn unig amdani, sori!

Dwi ddim wedi cael cyfle i ddarllen POB llyfr plant gwreiddiol, ond dyma dri i chi:

i’r plant iau, mae Caryl Lewis a Valériane Leblond wedi creu perl fach arall: Mari a Mrs Cloch.

Mae’r lluniau fel arfer, yn hyfryd, a’r stori wedi ei deud yn syml ond yn dda ac mi fyddwch chi’n gallu gorffen hwn mewn un eisteddiad, dim problem.

Un noswyl Nadolig, mae Mari fach yn poeni am yr hen ddynes unig sy’n byw drws nesaf. Wel, dros y cae.

Hogan fach garedig ydi Mari. Mae’n mynd draw i weld yr hen ddynes, yn cadw cwmni iddi ac yn ei helpu i addurno ei choeden Nadolig:

Dyma pryd wnes i gymryd sylw o ddifri. Dwi, hefyd, wedi bod yn casglu addurniadau o wahanol wledydd!

Mae’r dylwythen deg o Iwerddon, yr esgid gowboi o Arizona, y ddwy ‘ddoli’ top dde o Rwsia, yr un oddi tanyn nhw o Tseina a’r hosan o Norwy. Mae gen i olygfa’r geni o Chile hefyd. Erbyn deall, mae Doreen, mam Caryl wedi bod gwneud yr un peth a hynny ysbrodolodd y stori. Dyma lun o Doreen:

Ond nid Doreen Lewis ydi Mrs Cloch! Mae gan honno (Mrs Cloch) gyfrinach, oes, a bydd raid i chi ddarllen y llyfr i weld be ydi hwnnw. Llyfr delfrydol ar gyfer ei ddarllen efo plant bach neu i rai sy’n dechrau dod yn fwy hyderus i ddarllen ar eu pennau eu hunain.

Mynd i Weld Nain

Awdur newydd sbon ydi Delyth Jenkins, ac ro’n i’n meddwl mai arlunydd newydd sbon oedd Lily Mŷrennyn, ond naci, hi nath ddarlunio y Soddgarw gan Manon Steffan Ros (ond dwi’m wedi gweld hwnnw na’i adolygu fan hyn naddo? – wps, sori!)

Ond Mynd i Weld Nain sydd dan sylw fan hyn. Mae’r stori’n un digon syml am ddwy chwaer a’u mam yn mynd i’r gogledd (cliw yn y teitl) i weld eu nain ac yna’r hyn maen nhw’n ei neud dros gyfnod y Nadolig – a phob Nadolig posib yn ystod eu plentyndod, dybiwn i.

Mae’r llyfr wedi ei seilio ar atgofion Delyth o’i phlentyndod a’r rheswm gwreiddiol dros ei sgwennu oedd er mwyn dangos i’w merched a’i hwyrion sut berson oedd Nain.

Ond mae’n fwy na stori teulu Delyth (sy’n delynores adnabyddus gyda llaw), mi allai fod am unrhyw deulu ac mae’n dangos pa mor bwysig ydi cariad a chreu atgofion. Does na ddim anrhegion drudfawr fan hyn na chwyno am WiFi. Felly iawn, mi allech chi ddeud ei fod o’n llyfr hen ffasiwn, ond dyna be sy’n hyfryd amdano fo! Mi fydd neiniau a theidiau – a modrybedd ac ewythrod – unrhyw un deud gwir – yn mwynhau darllen hwn efo’r plant gan ei fod yn gyfle i hel atgofion efo nhw.

Yn gynnil iawn, mae’n cyffwrdd â’r syniad o farwolaeth hefyd. Nid yn unig y taid, ond does na’m tad yma chwaith. Dwi’n digwydd gwybod mai Nigel Jenkins y bardd oedd gŵr Delyth.

Mi wnaeth o farw’n llawer rhy ifanc yn 2014 ac mi fues i’n ddigon lwcus i’w gyfarfod o. Dyn hyfryd, gwych a dewr efo llais fel melfed ac mae ‘na golled mawr ar ei ôl. Fo sgwennodd am George Thomas, gwleidydd o Gymru yn Nhŷ’r Cyffredin:

“…may his garters garrotte him … the Lord of Lickspit, the grovelsome brown-snout and smiley shyster whose quisling wiles were the shame of Wales…”

Na, dwi’m yn siŵr be ydi quisling chwaith ond dwi’m yn meddwl ei fod o’n licio’r boi ryw lawer.

Beth bynnag, rhyfedd lle mae llyfr yn mynd â chi tydi! Da iawn, Delyth a da iawn Lily – lluniau hyfryd eto!

Llyfr i’r arddegau ydi’r 3ydd llyfr dan sylw gen i y tro yma: Fi ydy fi gan Sian Eirian Lewis.

Llyfr ffeithiol ydi hwn, llyfr gwybodaeth i ferched 8+ oed am dyfu i fyny, ond yn nwylo nofelydd profiadol fel Sian Eirian, mae’n darllen yn rhwydd tu hwnt – ac mae na gyffyrddiadau bach o hiwmor hefyd! Taswn i’n ferch 8+ mi faswn i WRTH FY MODD yn cael copi o hwn. Mae’n deud bob dim do’n i ddim isio’i glywed gan Mam – “Ych na, cwilydd!” A does dim angen i rieni deimlo’n annifyr nad yw eu plant isio trafod pethau fel hyn efo nhw – rhieni ydach chi. Dydi pob un yn eu harddegau ddim isio clywed am bethau personol fel hyn gan eu rhieni, iawn? Dyna lle mae modrybedd fel fi’n dod yn handi… neu gwell fyth – lyfr fel hwn!

Mae pob pennod yn trafod agwedd benodol o’r profiad o dyfu i fyny: Pam mae fy nghorff yn datblygu, Hormonau, Bronnau, Blew, Chwysu chwartiau, Croen a Gwallt, Babis, y Mislif, Dathlu fy nghorff, Deall Sut dwi’n Teimlo, Ffrindiau, Preifatrwydd a Theimlo’n Ddiogel a reit yn y diwedd un, Beth am y Bechgyn?

Mae’r cynnwys yn glir iawn a’r lluniau gan Celyn Hunt yn ffitio’n berffaith:

Mae yma atebion i’r cwestiynau fyddwn i’n pori drwyddyn nhw yng nghomic Jackie flynyddoedd yn ôl:

A DWI WRTH FY MODD efo’r dudalen hon!

Handi ofnadwy ydi Geirfa’r Corff ar y diwedd hefyd. Er, mi wnes i orfod sbio ddwywaith ar ‘olion ymestyn’.

Ia, ‘stretch marks’. Dwi’n siŵr bod ‘na derm Cymraeg mwy naturiol yn bod. Holwch Nain. Efallai ei bod hi’n gwybod?

Llyfr gwerth ei gael – ond er gwaetha’r chydig dudalennau ar y diwedd, llyfr i ferched ydi o. Dwi ddim yn bod yn wleidyddol anghywir fan hyn: ffaith ydi o – mae o am gyrff merched. Er, os oes na fachgen yn ei arddegau isio ehangu ei orwelion a dallt pam fod ei chwaer/ffrindiau yn ymddwyn fel maen nhw, mi fydd yn addysg iddo yntau.

Sara Mai ac Antur y Fferm

Published Tachwedd 6, 2023 by gwanas

Llyfr newydd am Sara Mai gan Casia Wiliam – ieee! Dyma’r trydydd rŵan a bosib iawn mai dyma fy ffefryn. Wel, dwi’n hogan ffarm tydw? Dyma i chi lun i brofi’r peth. Ond fase rhywun call ddim yn gwisgo dillad felna i drwsio wal. Pôsio ar gyfer y Daily Telegraph o’n i achos doedd y golygydd ddim isio llun o “wrinkled old man, get me a young woman.” Ond doedd Dad ddim yn hen iawn ar y pryd – dim ond 50, y creadur. A tydi hynna’n beth hyll i’w ddeud a’i neud beth bynnag? Holi Dad oedden nhw, ddim fi – a dim ond adre dros y penwythnos o’n i! Ydy hi’n amlwg pa mor wirion a ffals dwi’n teimlo?

Ta waeth, digon am hynna, nôl at Sara Mai a’r llyfr. Dyma’r broliant ar y cefn:

Ia, trip ysgol…

Ro’n i wir yn teimlo dros Sara Mai yn hon – yn union fel yn y llyfrau eraill, ond yn fwy y tro yma am ryw reswm. Dwi ddim isio deud gormod, ond fel un fu’n gweithio gryn dipyn yng Ngwersyll yr Urdd Glan-llyn, dwi wedi gweld fy siâr o blant bach (a mawr) yn hiraethu am adre yn ofnadwy pan fyddan nhw’n aros dros nos yn rhywle heb eu rhieni am y tro cyntaf. Mae 99% o’r plant yn iawn ar ôl awr neu ddwy – yn enwedig os fydd eu ffrindiau yn trio eu cysuro a’u helpu i fwynhau. Ac mae hiraethu a be sy’n gwneud ffrind da yn bendant yn codi yn y llyfr hwn.

Mae ‘na lot o hiwmor hefyd, ac mi fyddwch chi wedi gwirioni efo Gomer yr afr. Ac Ifan “hanner ffermwr hanner cawr” a Non ei wraig fechan, fach o. “Fel polyn a pheg!”

O, a’r cŵn bach…

Dyma’r dudalen gyntaf i chi gael blas (hoffi’r pennawd?):

Ond mae gen i gŵyn. Nid am y llyfr ond am reol iaith nad ydw i a fy ffrindiau ym Meirionnydd yn cytuno efo hi o gwbl. Darllen yr isod ro’n i a synnu o weld ‘y codwm mawr.’

Codwm mawr? Codwm fawr i mi – hen godwm gas, dwi newydd gael codwm fach… ond mae geiriadur Bruce a GPC yn deud mai gair gwrywaidd ydi codwm. Be haru nhw?!

Sgwn i pa un sy’n dod yn naturiol i Casia Wiliam? Ond un o Ben Llŷn ydi hi ynde ac maen nhw’n deud pethau od yn fanno weithiau. Ond mae’r llyfr yma’n hyfryd – diolch, Casia!

Fel y gwyddoch chi ddilynwyr selog y blog (ddim cweit mor selog) hwn, fydda i byth bron yn rhoi sylw i addasiadau gan mai holl bwynt y blog o’r cychwyn cynta oedd i roi sylw i lyfrau Cymraeg GWREIDDIOL. Dyma un rheswm pam:

Onibai am lyfr Sara Mai, mi fysa’r rhestr yna’n addasiadau I GYD. Felly dyna’r addasiadau yn cael eu gweld a’r llyfrau Cymraeg druan yn mynd i waelod y domen/bocs/silff eto, yn aros yn anweledig.

Ond mi wnai roi sylw bach i hwn:

Gwyddel sy’n byw yng Ngwlad Belg ydi’r awdur a’r darlunydd Paddy Donnelly, felly mae o’n fwy ‘rhyngwladol’ na jest cyfieithiad o lyfr arall o Loegr. Mae’r stori a’r lluniau yn hyfryd:

Ond cofiwch, os ydach chi isio gweld mwy o lyfrau Cymraeg gan awduron Cymraeg – prynwch nhw! Dwi’n gwbod ei bod hi’n anodd ynghanol y môr o Peppas a Tudur Budurs, ond… mae na rai da i’w cael, ac os ydyn nhw’n dda, mi fyddan nhw ar y blog yma!

Plant creadigol dan 12!

Published Medi 13, 2023 by gwanas

Mae’n ddrwg iawn gen i mod i ddim wedi adolygu fan hyn ers sbel – dwi’n brysur! Ond isio tynnu eich sylw at hwn: cystadleuaeth dylunio clawr blwyddlyfr plant y Cyngor llyfrau. Dwi wedi copïo hwn o Twitter/X y CLLC. Mae gynnoch chi tan Medi 25 – felly tân dani!

Ymestyn dyddiad cau ein cystadleuaeth i blant dan 12!   ✏️Yr her: Dylunio clawr ar gyfer Blwyddlyfr Plant 2024 ar y thema #CaruDarllen   Gwobr: Y llun buddugol ar glawr ein Blwyddlyfr. Ond hefyd…📚3 llyfr o’ch dewis chi.   Anfonwch ein llun at cllc.plant@llyfrau.cymru erbyn 25 Medi.

Pob lwc!

https://x.com/LlyfrauCymru/status/1701997945502028049?s=20

Bach a Mawr – llyfr hyfryd i’r plant lleiaf

Published Gorffennaf 12, 2023 by gwanas

Dwi wedi dotio at hwn am sawl rheswm:

  1. Mae’n lyfr bychan ac ysgafn iawn a hawdd ei gario o gwmpas (ee- ar awyren i Batagonia).
  2. Mae’n rhad – dim ond £4.95.
  3. Mae o jest y peth ar gyfer plant iau a dwi jest a drysu isio gweld be fydd Anna Gwen (newydd gael ei 4 oed) a Vinnie John (3 oed – dwi’n meddwl? Byth yn cofio!) yn ei feddwl ohono fo.

Mae’r syniad yn un syml ond hyfryd. Dyma gwpwl o engreifftiau.

A fy ffefryn:

Fel y gwelwch chi, mae’r lluniau yn arbennig (arhoswch nes gwelwch chi’r llew) ac os dach chi’n dysgu Cymraeg, mae ‘na ddwy dudalen o eirfa Saesneg yn y cefn. Dwi’n dangos un i chi.

Da iawn Luned Aaron a Gwasg Carreg Gwalch!

Mwy o Enwogion o Fri

Published Mehefin 26, 2023 by gwanas

Yn sgil llwyddiant diweddar Nye gan Manon Steffan (mae hi jest yn wych am ennill gwobrau tydi!) a lluniau gwych gan Valériane Leblond, roedd hi’n syniad da i Llyfrau Broga gyhoeddi bron yn syth bin ddau lyfr arall yn y gyfres Enwogion o Fri: un am Ann Griffiths yr emynydd ac un am Laura Ashley y cynllunydd. Dyma nhw:

Menna Machraeth sgwennodd stori Ann, ac Emily Kimbell wnaeth y lluniau. Ac maen nhw’n luniau hyfryd eto, yn union y math o beth ro’n i’n ei hoffi yn blentyn:

Fel gyda gweddill y gyfres, mae’r dweud yn glir ac yn syml:

Ond do’n i ddim yn siŵr sut fyddai Menna’n egluro tröedigaeth i blant bach! Wel, ei gadw’n syml siŵr iawn:

Mae’n sôn am dynnu coes a thaflu cerrig ar y dudalen nesaf felly mae na ddigon o gyfle i chi drafod sut/pam ddylen ni fod yn garedig efo pobl sy’n credu pethau gwahanol i chi/ni os dach chi isio. Mi wnes i ddarllen y stori hon efo Anna Gwen sy’n bedair oed gan ddisgwyl iddi ofyn pam fod pobl yn taflu cerrig at y Methodistiaid, ond wnaeth hi ddim. Ond mi wnaeth hi fwynhau’r stori a dotio at y lluniau:

Mae lluniau hanes Laura Ashley yn llawer mwy plaen. Ond doedd Merthyr ddim yn lle lliwgar iawn pan gafodd Laura ei geni mae’n debyg!

Mari Lovgreen ydi awdur y llyfr yma a Sara Rhys wnaeth y lluniau. Mae hanes y ferch greadigol o Ferthyr yn llwyddo i wneud ei ffortiwn allan o’i syniadau yn ddifyr iawn:

A dyma nhw ei ffrogiau hi go iawn, fu’n harddu wardrobs cymaint o ferched yn y 1970 a’r 80au. Roedd gen i un werdd fy hun a barodd am flynyddoedd!

Roeddech chi hyd yn oed yn gallu copio’r arddull i wneud eich ffrog Laura Ashley eich hun:

Dyma’r darlun am y ffrogiau yn y llyfr:

Ond mae na lawer mwy i hanes Laura na’r ffrogiau wrth reswm.

Dau lyfr pwysig arall i’r casgliad am Gymry enwog, yn enwedig y merched.

Mi wnaethon ni ddarllen am Laura efo Anna Gwen hefyd ac wedyn mi wnes i holi pa un oedd orau ganddi. Ann. Sori, Mari a Sara!

Mwy o Helynt a Sêr y Nos yn Gwenu

Published Mai 25, 2023 by gwanas

Ymddiheuriadau am beidio sgwennu dim fan hyn ers oes pys. Dwi’n darllen llwyth o lyfrau ond rhai oedolion ydyn nhw fwya ers tro, felly dyma ddau i chi ar gyfer yr arddegau, a dau blesiodd fi’n fawr:

Mwy o Helynt, Rebecca Roberts i gychwyn. Dilyniant i #helynt wrth gwrs. Ac mi nath i mi grio! Ond dwi ddim am ddeud pam – heblaw mai ar y diwedd ddigwyddodd o. Ro’n i yn fy ngwely a mwya sydyn roedd y gobennydd yn wlyb.

Dwi’n hynod falch bod cymeriad dewr, byrbwyll, ffraeth a doniol Rachel Ross yn ei hôl. Dwi’n gwybod y bydd nifer fawr o ddarllenwyr ifanc yn cytuno achos mi wnaeth #helynt  gydio yn eu dychymyg nhw go iawn. Roedd ’na ddarllenwyr llawer iawn hŷn wedi eu plesio’n arw hefyd. Dwi’n cofio’i thrafod hi efo llyfrgellydd wedi ymddeol ac roedd o wedi dotio.

Ar ôl gorfod gadael eu cartref yn y Rhyl wedi’r hyn ddigwyddodd efo Jason, y dyn a’i magodd hi, a’r dyn fu’n camdrin ei mam hi, mae Rachel wedi llwyddo i greu bywyd newydd. Mae’n byw efo’i mam a’i chwaer fach mewn rhan arall o ogledd ddwyrain Cymru ac wedi setlo mewn ysgol – wel, coleg chweched dosbarth newydd – mae ganddi gariad a bob dim, a hwnnw’n rhannu’r un hiwmor â hi a mae o’n “weirdo sy’n obsessed efo Avicii a Swedish House Mafia, ond dwinne’n weirdo sy’n obsessed efo Slipknot…” Mae hi’n dechrau dod i nabod Tony, ei thad go iawn hefyd, er mai yn y carchar mae hwnnw o hyd – ar gam, wrth gwrs. Ond dan ni’n gwbod y bydd Rachel mewn rhyw fath o helynt cyn bo hir… ai oherwydd Jason, sy’n mynd i gael ei ryddhau o’r carchar cyn bo hir? Gewch chi weld. Dwi ddim am ddifetha cynllunio gofalus yr awdur. Ond ro’n i’n gwingo am benodau, yn meddwl “Na, Rachel, paid…o, hec… dyma ni.” Mae isio ysgwyd Rachel weithiau. Ac nid hi yn unig chwaith – ro’n i isio sgrechian ar un o’r cymeriadau eraill ar un adeg. Y twmffat gwirion. Grrr. Ac wedyn roedd ’na gymeriad arall – wel! Dwi’n gwybod nad ydi trais byth yn syniad da ond tasai gen i fat baseball…

Dyna ddawn Rebecca: i wneud i ni falio am y cymeriadau (da) a bod isio iddyn nhw ddod allan o bob twll maen nhw ynddo. Ac mae Rebecca Roberts yn gallu creu chwip o dyllau. Dilyniant gwerth aros amdano. Ardderchog – eto. A dyma’r dudalen gyntaf i chi:

Mae ’na gymeriad tebyg iawn i Rachel yn Sêr y nos yn gwenu gan Casia Wiliam. Mae Leia wedi aros yn fy nghof i am hir. Mae hi’n gneud pethe dwl ac yn gyrru ei theulu’n hurt ac yn brifo pobl, ond mae hi’n berl o gymeriad, yn ddoniol, yn ffraeth, yn fyrbwyll ac mae angen ei hysgwyd* hithau hefyd ond dach chi’n dal i’w hoffi hi ac mae hi’n galon i gyd. *Gyda llaw, dwi ddim yn trio annog pobl i ysgwyd pobl ifanc – dywediad ydi o, iawn?

Mae ’na lwyth o gymeriade difyr yn y llyfr yma a deud y gwir, yn cynnwys hen bobl, ac mae geiriau Mary Jones yn y cartref henoed yn hyfryd. Nes i orfod rhoi’r llyfr i lawr ac anadlu’n ddwfn am hir cyn cario mlaen. Ond efallai mai’r busnes rhoi dŵr ar ben y lobsgows darodd dant efo fi. Wedi bod ene…

Hon ydi nofel gyntaf Casia ar gyfer oedolion ifanc, a nefi, mi wnes i fwynhau. Mi fysa hon, fel #helynt yn gneud drama lwyfan wych, a chyfres deledu. Mae ’na deimlad ‘Normal People’ amdani oherwydd ei bod hi am ddau berson ifanc yn trio gneud synnwyr o’u bywydau a’u perthynas ond nes i gymryd at gymeriadau Leia a Sam y boi beics yn llawer mwy nac at Connell a’r hogan ’na, methu cofio ei henw hi – o ia, Marianne.

Hon yn fy marn i ydi’r nofel orau i Casia ei sgwennu hyd yma. Mi wnes i feirniadu drafft o nofel ganddi yn yr Eisteddfod Genedlaethol ryw dro ac mae’r gwahaniaeth rhwng honna a hon yn dangos ei bod hi wir wedi dysgu a mireinio ei chrefft. Da iawn Casia! Ro’n i’n gwybod ers i mi dy glywed yn blentyn cynradd yn disgrifio hapusrwydd fel sglefrio ar enfys bod ’na botensial…

Dyma’r clawr cefn a’r dudalen gyntaf:

Honesty & Lies gan Eloise Williams

Published Mawrth 20, 2023 by gwanas

Os ydach chi’n mwynhau hanes ac isio gwybod mwy am gyfnod Elizabeth y 1af/Oes y Tuduriaid, mae’r nofel hon yn berffaith i chi. Os dach chi’n mwynhau stori dda, llawn tensiwn ac “O na, be fydd yn digwydd rŵan?!” a chymeriadau difyr, gwahanol, mi fyddwch chi’n ei mwynhau hi hefyd.

Mae Eloise wir yn gwybod sut i greu stori sy’n cydio yn y dychymyg. Dyma’r dudalen gynta i chi gael gweld lefel yr iaith:

Ond hogan o Gymru ydi Honesty, ac mae Eloise yn un dda am ddod â chydig o Gymraeg i mewn i’w llyfrau Saesneg, hyd yn oed os ydyn nhw wedi eu gosod yn 1601! Fel yn y darn yma, er enghraifft:

Mi wnes i fwynhau hon yn arw ac mae Honesty’n gymeriad fydd yn aros yn y cof am hir. Da iawn eto, Eloise!

The Tide Singer – nofel gan awdur o Gymru

Published Mawrth 14, 2023 by gwanas

Awdur o Lantrisant sydd bellach yn byw yn y de-orllewin ydi Eloise Williams. Mae hi’n dysgu Cymraeg ond dydi hi’m wedi mentro sgwennu llyfrau yn iaith y nefoedd eto.

Ro’n i eisoes wedi cael blas garw ar Seaglass a Gaslight

Stori ysbryd wedi ei lleoli yng ngorllewin Cymru ydi Seaglass (cynradd + ddwedwn i) a stori arswyd wedi ei lleoli yn strydoedd Caerdydd yn ystod oes Fictoria ydi Gaslight. Perffaith ar gyfer Bl 6,7 ac 8. Straeon sy’n cydio ac arddull Eloise yn taro deuddeg yn gyson.

Felly ro’n i isio darllen un arall ganddi. Barrington Stoke sydd wedi cyhoeddi hon, ac mae’n berl. Dyma sut mae’n dechrau:

Mae yma hud a lledrith, perygl a thensiwn, yr union bethau fydda i’n eu mwynhau fwya mewn llyfrau plant. Morwenna ydi’r prif gymeriad, hogan ifanc sy’n helpu ei thad i drin y meirw. Ia, morbid – ond ofnadwy o ddifyr! A sbiwch ar frawddeg ola’r dudalen gynta uchod i gael blas o’r bluen o hiwmor sy yn y nofel (Mae Eloise yn un dda am hiwmor ysgafn). Beth bynnag, un diwrnod, mae ‘na andros o storm ac un o gychod pysgota’r pentre wedi mynd ar goll. Ar adegau felly mae’r dynion i gyd, yn cynnwys tad Morwenna, yn mynd allan ar y môr i chwilio, er mor beryglus ydi hynny. Diolch byth, mae o’n dod yn ei ôl yn ddiogel – ond mae ‘na ferch ifanc ddiarth a rhyfedd ganddo fo. Pwy ydi hi? Un o’r ‘Tide Singers’ wrth gwrs, ond dyw oedolion y pentre ddim yn hoffi’r rheiny o gwbl. Pam? A be’n union ydi ‘canwr llanw’? Mi fydd raid i chi ddarllen y llyfr yn bydd…

Mae o’n hyfryd o lyfr ac yn llawn negeseuon pwysig. Da iawn, iawn, Eloise.

Dwi wedi maddau iddi am sgwennu stori yn The Mab oedd yn chwarae ar eiriau yn Saesneg – ac yn andros o anodd ei gyfieithu i’r Gymraeg!

Ac os dach chi’n hoffi ei harddull hi, mae ganddi ddigon o lyfrau eraill ddylai apelio.

Honesty & Lies ydi’r un nesa i mi.

Powell, Merched Dewr a Gwlad yr Asyn

Published Ionawr 19, 2023 by gwanas

Nofel ar gyfer yr arddegau ydi Powell gan Manon Steffan Ros: hanes bachgen o’r enw Elis yn mynd am bythefnos i America i hel achau’r teulu efo’i daid. Mae o’n gwybod erioed mai ei gyndaid, “yr Ellis Powell arall” yrrodd bres adref o America i sefydlu ysbyty, ysgol gynradd ac ati yn Nhrefair. Y Powell Arms ydi enw’r dafarn leol ac mae Elis yn pasio cerflun ohono ar y ffordd i’r ysgol bob dydd. Dyn pwysig, dyn arbennig.

Mae cynnwrf Elis a’i daid yn pefrio drwy’r tudalennau, ond rydan ni’n gwybod bod rhywbeth yn mynd i fynd o’i le, felly mae’r ofn yn llechu wrth droi pob tudalen hefyd. Na, doedd Ellis Powell mo’r arwr roedden nhw wedi ei ddisgwyl. Caethwasiaeth ydi’r cefndir, fel yn nofel Angharad Tomos, Y Castell Siwgr, ond oherwydd mai rhywbeth yn y gorffennol ydi o yn Powell, y berthynas rhwng Elis a’i daid sy’n cydio fan hyn, ac mi wnes i fwynhau’r croeso a’r tensiwn maen nhw’n ei gael a’i deimlo gyda Yncl George ac Anti Hayley yn eu tŷ mawr crand ym Maryland. Felly nofel gyfoes am deulu, cyfeillgarwch a phwysigrwydd cydnabod y ffeithiau i gyd ydi hon.

Fel un gafodd ei hudo gan gyfres Roots ers talwm ( llun o’r gyfres wreiddiol isod),

ro’n i wedi disgwyl mwy am y caethweision, ond mae Manon yn hogan glyfar – doedd dim angen misoedd o waith ymchwil i sgwennu hon, nag oedd! Ac mae hi’n anghyfforddus iawn yn sgwennu fel rhywun nad oes ganddi’r ‘hawl’ i sgwennu amdanyn nhw – y busnes cultural appropriation ‘ma. Dwi’n dallt yn iawn ond dwi’m yn siwr os ydw i’n cytuno bob tro chwaith, neu be ydi diben dychymyg? I’w drafod eto…

Dwi’n hoffi’r clawr hefyd – syml, ond mae ’na lun yn rhoi cliw am y cynnwys. A dach chi’n gallu deud yn syth nad ydi hi’n mynd i fod yn nofel ffrili, lawen. Nid bod Manon yn sgwennu llawer o bethau felly! Ond mae ‘na hiwmor ynddi, dwi’n prysuro i ddeud. Dyma’r dudalen gyntaf i chi gael blas:

Yndi, mae Gwil yn gymeriad a fo sy’n gyfrifol am y rhan fwya o’r hiwmor sy yn y llyfr. Wedyn dyma i chi ddarn arall sy’n digwydd yn America – a Manon â’i bys ar y pyls fel arfer:

A dyma i chi ganmoliaeth gafodd hi ar Twitter gan Vaughan:

“Waw! Wel, dwi newydd cwpla’r llyfr hwn ac mae’n bwerus iawn iawn a hyd yn oed wedi gwneud i fi grio, ychydig. Ac yn bendant yn gwneud i chi feddwl. Da iawn@ManonSteffanRos unwaith eto x”

Ac ateb gan Y Dyn Barfog: “Dwi newydd ei orffen hefyd, tua chwarter awr yn ôl. Cytuno. Pob tro mae llyfr msr yn gwneud i mi drio bod yn berson gwell.”

Waw – dwi’n gwybod yn union be maen nhw’n ei feddwl.

Dros y môr a’r mynyddoedd. Straeon Merched dewr y Celtiaid Os dach chi isio gwario mwy ar lyfr, be am £18 ar gyfer clamp o lyfr hardd, clawr caled.

Mae ’na ddarluniau hyfryd gan Elin Manon, merch o Gymru sy’n byw yng Nghernyw, a lob sgows o awduron: Angharad Tomos, Haf Llewelyn, Mari George, Aneirin Karadog, Myrddin ap Dafydd, Anni Llŷn a Branwen Williams.

Ond pam dewis peidio rhoi enw’r awdur wrth bob stori, wn i ddim. Rhaid troi i’r cefn i weld pwy sgwennodd pa stori. Dwi ddim wedi darllen pob un gan fod ’na bymtheg ohonyn nhw, a llyfr i bori ynddo fesul tipyn ydi hwn yn fy marn i. Ond mi wnes i wir fwynhau y rhai dwi wedi eu darllen – Nia Ben Aur, y chwedl o Iwerddon gan Angharad Tomos,

Rhiannon a’r gosb o fod yn geffyl  (o’r Mabinogi) gan Myrddin a Ker Is o Lydaw gan Aneirin Karadog. Fersiwn o chwedl Cantre’r Gwaelod ydi honno. Y Gaer Isel ydi ystyr Ker Is, gwlad lle roedd y brenin yn flin am fod ei bobl mor aniolchgar ac yn gwneud dim ond gwledda a phartïo dragwyddol a phoeni am ddim ond gneud mwy o bres a bwyta ac yfed mwy a mwy.Yn ei farn o, roedden nhw wedi colli golwg ar beth oedd yn bwysig mewn bywyd. Ia, dach chi’n gweld y diwedd yn dod tydach ond efallai nid yn y ffordd fyddech chi’n ei ddisgwyl…

Mi wnes i fwynhau Llygad am Lygad gan Haf Llewelyn hefyd, am y frenhines Maebh o Iwerddon, rhywun na wyddwn i ddim oll amdani tan y llyfr hwn. Ond nefi, am gymeriad difyr. Hogan ffyrnig a deud y lleia!

Dwi’n edrych mlaen yn arw i ddarllen y gweddill.

Mae’n cael ei farchnata fel llyfr i blant ond dwi’n gwybod am sawl oedolyn a dysgwr fyddai’n hoffi’r straeon yma.

Mi wnes i wir fwynhau Gwlad yr Asyn gan Wyn Mason.

Nofel graffig i blant ydi hi, gyda’r lluniau gan ferch yr awdur, Efa Blosse Mason, ond mae’n bendant yn siwtio oedolion ac mae angen bod yn blentyn go soffistigedig i’w dallt hi’n iawn beth bynnag. Ddwedwn ni 9+? Mae angen dallt pethau fel ‘Paid â diystyru dy nerth cynhenid’ a ‘Mae angen bod yn wasaidd i fyw ymhlith pobol.’

Welais i mo’r ddrama, ac ar ôl darllen y nofel, mae’n anodd iawn ei dychmygu fel sioe un-person, ond roedd ’na ganmol mawr iddi doedd? Doedd y ddrama ddim yn addas i rai o dan 13 oed oherwydd y themàu, y rhegfeydd a’r cyfeiriadau at ryw ynddi, ond: “Unwaith rydych chi’n gwneud darlun o’r asyn, yn sydyn mae’n newid yn rhywbeth ar gyfer plant,” meddai’r awdur. Fel un sy’n mwynhau llyfrau graffig ar gyfer oedolion, dwi ddim mor siwr bod jest troi cymeriad yn ddarlun yn ei droi’n rywbeth i blant, ond mi wnes i wir fwynhau. Teimladwy, ffraeth, a chwa o awyr iach. Mae angen mwy o nofelau fel hyn, ond mi fydd yn anodd creu’r dilyniant a’r galw gan nad ydi’r traddodiad gynnon ni yma, ar wahân i gyfieithiadau Tintin ac Asterix. Gobeithio y bydd Gwlad yr Asyn yn gwerthu’n dda beth bynnag. Mae’n fargen am £12 gan fod llyfrau graffig yn gallu bod dipyn drytach na hynna.

A dyma i chi flas o’r cynnwys: