Mae’n siwr bod y rhan fwyaf o ysgolion cynradd sydd wedi cymryd rhan yn y gystadleuaeth flynyddol hon wedi bod, neu ar fin mynd drwy’r rowndiau sirol bellach. Mae’n gystadleuaeth wych a hynod bwysig ar gyfer hyrwyddo llyfrau a darllen.
Ysgol Dyffryn Banw (Powys) – Enillwyr Blynyddoedd 3 a 4. 2011
Nid yn unig mae’n annog plant i drafod a pherfformio darnau o’r llyfrau ond mae’r rhai sy’n cyrraedd y rownd derfynol yn cael llyfr am ddim!
Ysgol Gymraeg Treganna a Than yr Eos (Caerdydd) – Enillwyr Blynyddoedd 5 a 6. 2011
A gwobrau ariannol i’r ysgolion. Gwych.
Ond mae gen i gwyn: mae’r ysgolion yn gorfod dewis o restr llyfrau sy’n cael eu dewis gan bwyllgor y Cyngor Llyfrau. Dyma i chi’r rhai sirol ar gyfer 2017:
Llwyth o lyfrau da. Ond mae David Walliams a Roald Dahl yn eu canol nhw. Rwan ta, gan fod athrawon yn bobl brysur tu hwnt, efo hen ddigon ar eu platiau fel mae hi, faint ohonyn nhw sy’n mynd i drafferthu darllen pob un er mwyn dewis pa rai i’w perfformio a’u trafod? Onid yw’r demtasiwn i fynd am y rhai enwog, y rhai y bydd y plant yn gwybod amdanyn nhw yn barod, yn ormod? Felly oni fydd y rhai gwreiddiol Cymraeg, sef y rhai SYDD ANGEN y sylw a’r gwerthiant, yn cael eu hanwybyddu? Pam na fedr y rhestr gael ei chyfyngu i rai gwreiddiol yn unig?
Os oes ‘na brinder rhai gwreiddiol Cymraeg, wel mae angen buddsoddi, ‘does? Ar y linc isod mae rhestr o’r 10 llyfr i blant werthodd orau yn ystod Mawrth 2017. Pob un wan jac yn addasiad:
http://www.gwales.com/ecat/?sf_ecat_id=1133&interest=0&available=0&tsid=2
Sori i swnio fel tiwn gron, ond mae hynna, i mi, yn sefyllfa hynod drist.
Yn ôl at y gystadleuaeth. Dyma ddewis rownd sirol y criw Bl 3 a 4:
Mwy o rai Cymraeg fan hyn, diolch byth (a Coeden Cadi – ieee!). Difyr fyddai cael gwybod faint o ysgolion ddewisodd drafod a pherfformio addasiadau yn y ddau gategori. Efallai bod fy ofnau’n gwbl anghywir, wrth gwrs. Ond dwi’n amau…
Wedyn dyma’r dewis ar gyfer y rowndiau cenedlaethol:
Tri addasiad – a dau yn hynod adnabyddus eto… hm.
A’r dewis i Bl 3 a 4:
Dau addasiad eto. Sgwn i pa rai gaiff eu dewis? Pa rai fyddech chi’n eu dewis i’w trafod a’u perfformio?
Pob lwc i bawb sy’n cystadlu beth bynnag. Mae’r trafod a’r perfformio wastad mor dda yn y rowndiau cenedlaethol, mae’n bechod nad oes modd i mwy o bobl eu gweld a’u clywed wrthi. Mae ‘na ambell berfformiad ar gael ar youtube, ond dydi safon y ffilmio ddim yn wych, gyda phob parch! Bechod na fyddai’r cyfryngau yn ymddiddori mwy yn y gystadleuaeth ynde?
Ond dyna fo, nid pawb sy’n credu bod llyfrau yn bwysig. Ond sbiwch ar y llun yma o Irac:
Ydyn, mae gwerthwyr llyfrau yn eu cadw allan ar y stryd. Does dim angen poeni am law yn eu difetha, ond yn bwysicach, does dim angen poeni am bobl yn eu dwyn chwaith! Pam? Oherwydd, yn ôl y llyfrwerthwyr:
“The reader does not steal and the thief does not read.”
Da ‘de!