Archif

All posts for the month Ionawr, 2017

Holi Dewi Pws – a Rhiannon

Published Ionawr 26, 2017 by gwanas
Dewi Pws a’i wraig Rhiannon yw’r awduron diweddaraf i mi eu holi am eu hoff lyfrau yn blant. Dyma Dewi:
Popular singer and actor Dewi 'Pws' Morris
A dyma Rhiannon:
d9a30628e2a2faf78b1796d219de7e58
Dydi hi ddim yn gwisgo fel’na drwy’r amser.
A dyma rai o’u llyfrau nhw:
 6
Dwi wedi cyfeirio at rai o’r llyfrau ar y blog yma o’r blaen. Mi wnes i ddangos un o dudalennau Dewi, Dwpsi a’r Dreigiau i chi, a dyma fo eto:
image21
A dyma i chi adolygiad Gwales gan hogyn 8 oed o Dewi, Dwpsi a’r Aur:

Mae’r stori hwn am fachgen o’r enw Dewi, sydd yn mynd ar daith ysgol i fwyngloddiau aur Clogau, ger Dolgellau. Ond yn rhyfedd iawn, pan agorodd Ron Auron, y gofalwr, ddrws y mwynglawdd, doedd dim byd yn sgleinio yno. Roedd rhywun wedi dwyn yr aur!

Tybed a all Dewi ddatrys y dirgelwch? A fydd angen cymorth ei ffrindiau arbennig arno? Bydd angen i chi ddarllen y stori gyffrous hon er mwyn darganfod yr atebion. Rwyf yn wyth oed, ac fe ddarllenais y llyfr yn gymharol hwylus ar fy mhen fy hun. Roedd y clawr yn atyniadol, a’r lluniau lliwgar ar bob tudalen yn ei wneud yn fwy diddorol. Fe fwynheais y stori’n fawr iawn a byddwn wrth fy modd yn cael darllen mwy o lyfrau Dewi a Dwpsi, cyn fy mod yn rhy hen!

Gwern Prysor Davies

Ond mae Dewi wedi sgwennu bob math o lyfrau eraill – rhai digri, gwirion, boncyrs yn aml…!

 

A llyfr o gerddi doniol i blant:

getimg-2

A dyma i chi ddarn o un adolygiad gafodd Wps!:

Nid cerddi parchus y byddai rhiant am glywed ei blentyn yn eu hadrodd sydd yma, ond eto mae yma fyd anturus, dyrys a lliwgar. Mae’r cerddi yn mynd â phlentyn i fyd chwareus a direidus, byd lle mae Superman yn methu mynd i’r lle chwech a byd lle mae Tylwyth Teg y To yn gyfrifol am bopeth drwg y mae rhieni’n tueddu i ddwrdio’u plant amdano.
Sarah Down

Ac os dach chi dros tua… ym… 14? ( Dibynnu pa mor aeddfed/anaeddfed ydach chi) Dyma ei hunangofiant o, Theleri Thwp:

getimg-3

Y llyfr cynta erioed i mi ei olygu a deud y gwir. Lyn Ebeneser, ffrind Dewi ( mae gynno fo lot o ffrindiau) oedd yn gwneud y sgwennu, a Dewi jest yn ateb ei gwestiynau o – ond y broblem efo Dewi ydi nad oes gynno fo gof gwych iawn a doedd o ddim yn gallu cofio llawer! Bosib mai dyna pam fod ei atebion o i fy nghwestiynau am lyfrau ei blentyndod fymryn yn fyr…! Neu mae’r ddau jest mor hurt o brysur yn eu cartref newydd yn Nefyn – neu Forfa Nefyn, dwi byth yn siwr pa un. Dwi ddim wedi bod yno eto. Mi fydd raid i mi fynd rwan, yn bydd?!

Iawn, barod am atebion Dewi a Rhiannon? Mae’r ddau wedi ateb fel un. Dyma chi:

Pa lyfrau oeddet ti’n eu hoffi yn blentyn?                                                                          Ysgol Gynradd  – Cymraeg a Saesneg

 

Straeon Awr Hamdden (Dal i ddarllen nhw!)
9780715403952-us-300
 Ysgol Uwchradd – Cymraeg a Saesneg  
Oxford Book of Welsh Verse (Cymraeg)
41fjbcmsdbl-_sy344_bo1204203200_
a Lord of the Rings J.R.R Tolkien
lotr
a  Catch 22 gan yr Americanwr Joseph Heller yn Saesneg.

61k33tu1cal

Wyt ti’n dal i ddarllen llyfrau plant? Pa rai wyt ti wedi eu hoffi’n ddiweddar?  

Ail edrych ar Lyfr Mawr y Plant a storïau T. LLew

225px-llyfr_mawr_y_plantimages

Pwy ydi dy hoff ddylunydd/arlunydd llyfrau? Pam?

eric-heyman-wesite-pic

Eric Heyman – Ffrind personol ac artist talentog o Gaerdydd. Lluniau yn llawn hwyl a lliw. Fo ddaru arlunio Dewi a Dwpsi x 2 a hefyd Wps!

 

  • Nodyn gan Bethan: Roedd o’n ddyn tân am flynyddoedd cyn mentro i fyd dylunio llyfrau plant. A dyma fwy o’i luniau o, yn cynnwys llyfrau Catherine Aran – fi olygodd rheina hefyd, ac ro’n i wedi GWIRIONI efo lluniau Eric!

ericheymanpirates

c2mnz2tviaawh9q

Be nath i ti ddechrau sgwennu?

Sgwrsio yn y camper van wrth drafeilio ar y cyfandir ar ein gwyliau.

Be wyt ti’n ei fwynhau fwya am sgwennu?

Codi gwên – a bod yn annisgwyl a gwahanol.

Dwed chydig am dy nofel ddiweddara i blant.

Dau gyfieithiad o storïau plant – Rwdolff a Môr Leidr mewn Pyjamas.

12106276_202054063464147_1479137498_n

Gwell gen i fod yn wreiddiol ond mae plant i weld wrth ei bodd gyda’r ddau lyfr – yn enwedig Rudolff yn torri gwynt!

Pa lyfr(au) plant sydd ar y ffordd nesa gen ti?

Cyfieithiad arall o lyfr i blant am fywyd ar y fferm

_80005019_dewipws

Diolch yn fawr Dewi a Rhiannon! xx

Holi Emily Huws

Published Ionawr 20, 2017 by gwanas

Emily Huws, un o hoelion wyth y byd llyfrau plant yng Nghymru ydi’r diweddaraf i ateb fy nghwestiynau am ei hoff lyfrau yn blentyn.

_41276353_huws203300_45519775_emily-huws203

Mae Emily, sy’n 75 eleni, yn byw ar dyddyn yng Nghaeathro ger Caernarfon, efo llwyth o anifeiliaid!

Er iddi ddysgu am dros ugain mlynedd yn Ysgol Gynradd y Bontnewydd, daeth yn adnabyddus fel un o awduron llyfrau plant mwyaf poblogaidd Cymru. Mae hi wedi ennill gwobrau Tir na n-Og a Gwobr Goffa Mary Vaughan Jones am ei chyfraniad i faes llenyddiaeth plant – ac yn haeddu pob un!

Cyhoeddodd ei llyfr cyntaf, Gwyliau Rhian yn y Syrcas, yn 1975, a nifer fawr o nofelau difyr, hyfryd wedyn.

getimg-2

Adolygiad Gwales

Mae’r llyfr hwn yn rhan o gyfres o lyfrau deniadol a rhwydd i’w darllen ac yn denu darllenwyr ifainc Cymraeg. Dyna fy marn i – darllenydd deg oed. Heb os, dyma lyfr sy’n addas ar gyfer plant rhwng wyth a deg oed ac mae’n addas i fechgyn a merched: ‘Tolc! Bang! CRASH! . . . Edrychai Mam yn syn – doedd hi ddim yn deall beth oedd wedi digwydd. Ond deallai Llŷr yn iawn. “Fy meic i!” sibrydodd . . .’

Ar ôl i Dad facio’r car dros ei feic, mae Llŷr mewn penbleth. Sut yn y byd caiff yr arian i brynu un arall? Wel, yn Dim Problem cewch hanes bachgen annwyl iawn ond anniben sy’n dysgu’r ffordd anodd bod yn rhaid rhoi eich pethau gadw. Mae’n stori sy’n trafod pethau difrifol megis cyfrifoldeb a gofalu am eich eiddo, ond mewn ffordd deniadol a doniol.

Mae’r lluniau yn y llyfr hwn yn eithriadol o dda.

Thomas Huw Constantine

getimg-11

51e33newr9l-_uy250_getimg-10

Adolygiad Gwales

Nofel fer ar gyfer darllenwyr hyderus yw hon, yn ddigon syml ar gyfer darllenwyr sydd ym mlynyddoedd olaf yr ysgol gynradd, ond eto sy’n ymdrin â phwnc heriol – sydd yn ei gwneud yn addas hefyd ar gyfer darllenwyr mwy aeddfed.

Mae’r nofel wedi’i hysgrifennu o safbwynt Ela, merch fach a gafodd ei darganfod ar ochr y ffordd fawr, wedi’i hanafu’n ddrwg. Cawn fynd gydag Ela ar daith i ddarganfod o ble y daeth, sut orffennol fu ganddi, a sut y daeth i fod yn gorwedd ar ochr y ffordd. Ond mae cwestiwn arall yn poeni Ela hefyd. Beth ddaw ohoni nawr, tybed? A gaiff hi aros gyda Dil, y ferch wnaeth ddod o hyd iddi, ac a ofalodd amdani mor garedig? Ydy, mae’r dyfodol hefyd yn ansicr iawn i Ela.

Mae’n stori sy’n llwyddo i ddal ein sylw o’r bennod gyntaf, ac mae’n ymdrin â phynciau anodd yn sensitif. Mae’r arddull yn llifo’n rhwydd, a’r ddeialog yn fywiog, ac mae’r cwestiynau sy’n codi o bennod i bennod yn annog y darllenydd i ddarllen ymlaen. Nofel fydd yn bendant yn apelio, yn arbennig efallai at y merched – ac mae’n gorffen yn hapus!

Haf Llewelyn

Adolygiad Gwales

Stori gyfoes gyda chymeriadau cryf yw Hogan Mam, Babi Jam. Ceir yma hanes cyfnod eithaf byr ond cythryblus iawn yn hanes teulu Beca. Mae Mam wedi diflannu i Unol Daleithiau America er mwyn dianc rhag ei phroblemau, gan adael Beca i ofalu am ei brawd a’i chwaer fach. I wneud pethau’n waeth fyth, mae’n rhaid iddi adael ei chartref a’i brawd mawr a mynd i aros gyda theulu ei llystad.

Ar ddechrau’r nofel mae Beca yn y maes awyr yn aros, gan obeithio bod ei mam ar ei ffordd yn ôl. Yna, mae hi’n meddwl am yr hyn sydd wedi digwydd iddi hi a’i theulu. Ceir diwyg diddorol a deniadol i’r nofel ac rydym yn teimlo bron fel petai Beca yn chwarae tâp fideo o’r cyfnod hwn yn ei bywyd.

Mae’r nofel hon yn apelio at ferched yn bennaf; ceir clawr pinc wedi’i orchuddio â dillad sy’n cyfleu hyn i’r dim! Hefyd, gan fod y stori wedi ei hysgrifennu o safbwynt Beca, rydym yn dod i’w hadnabod yn dda ac yn cydymdeimlo gyda’i sefyllfa. Archwilir y berthynas a’r gwrthdaro rhwng y cymeriadau yn effeithiol iawn. Braf fyddai wedi cael ymateb Geth, brawd Beca, i’r digwyddiadau ar ddiwedd y nofel ond efallai mai stori arall yw honno!

Gail Roper

Mae Emily hefyd yn enwog am gyfieithu nifer o glasuron yr iaith Saesneg i’r Gymraeg, yn eu plith straeon Beatrix Potter, Roald Dahl a Michael Morpurgo.

Ond efallai ei bod yn fwyaf enwog am ei chyfieithiad o un o lyfrau Harry Potter and the Philosopher’s Stone, sef Harri Potter a Maen yr Athronydd.

harrypotter

Yn 2009 cyfieithodd lyfr arall enwog i blant, ‘The Boy in the Striped Pyjamas’ sef ‘Y Bachgen Mewn Pyjamas’, ac enillodd wobr Tir Na Nog arall am ei chyfrol wreiddiol, ‘Bownsio’ yn yr un flwyddyn.

getimg-3

“Stori rymus yn sôn am ferch yn ei harddegau cynnar sy’n darganfod nad yw ei mam wedi marw wedi’r cyfan. Nofel sy’n ymdrin â gobeithion preifat a realiti bywyd go-iawn; addas i ddarllenwyr 9-11 oed.”

Felly os nad ydach chi wedi darllen un o lyfrau Emily eto – mae ‘na ddigon o ddewis i chi!

 

A dyma ei hatebion:

  1. Pa lyfrau oeddet ti’n eu hoffi yn blentyn? a) Ysgol Gynradd  – Cymraeg a Saesneg

Fawr o gof am lyfrau ysgol. Adra: Darllen a Chwarae 2.

A Raggedy Ann. b78bdb8a9c78cf27f8503876b0299fb7

Mae gen i deulu yn America roddodd gopi i mi flynyddoedd yn ôl, ac ro’n i wedi ei ddarllen gymaint, roedd o wedi mynd yn ddarnau.

img_5142Ond dwi wedi cael fersiynau newydd, mwy modern ohono fo rwan. Ond dwi methu dallt sut ar y ddaear ro’n i’n deall y Saesneg pan ro’n i mor ifanc!

raggedy-ann-with-books

(Nodyn Bethan ar ôl sbio ar Google: Johnny Gruelle (1880–1938), awdur o America ysgrifennoddy gyfres o lyfrau am ddoli glwt efo gwallt coch a thrwyn siâp triongl. Cafodd y cymeriad ei chreu yn 1915 fel doli a chael ei chyflwyno i’r cyhoedd yn 1918 efo’r llyfrau. Mi werthodd fel slecs wedyn!)

A Luned Bengoch gan Elizabeth Watkin Jones

c09999636887293596f79706741434f414f4141

 

  1. b) Ysgol Uwchradd – Cymraeg a Saesneg

Eto…ddim yn cofio (mae’n bell, bell yn ôl i mi!!!!)

  1. Wyt ti’n dal i ddarllen llyfrau plant? Pa rai wyt ti wedi eu hoffi’n ddiweddar?

Heb wneud ers tro, ond wedi mwynhau, ymysg eraill, gwaith Dahl ar hyd y blynyddoedd. Morpugo hefyd. Roedd hi’n fraint cael addasu’r ddau, a hefyd Ted Hughes.

getimg

O ie … dau lyfr GWREIDDDOL brynais i’m cymdogion dros y Dolig: Y llyfr ABC bendigedig gan Luned Aaron a Santa Corn Ceri Wyn Jones. GWYCH ( ond pam o PAM roedd yn rhaid iddo ddefnyddio No We ynddo?????)

 

  1. Pwy ydi dy hoff ddylunydd/arlunydd llyfrau? Pam?

Jac Jones (wedi arlunio llawer o’m gwaith.)

 

  1. Be nath i ti ddechrau sgwennu?

Athrawes oeddwn i … ac yn gweld yr angen mawr, mawr am ddeunydd i blant. Yn gweld yr holl gyfoeth oedd ar gael yn Saesneg a meddwl fod gan blant Cymru’r hawl i fwy nag oedd ar gael ar y pryd.

  1. Be wyt ti’n ei fwynhau fwya am sgwennu?

Y sbort o feddwl am wahanol bytiau yn dod at ei gilydd i wneud stori.

  1. Dwed chydig am dy nofel ddiweddara i blant.

Ddim yn cofio prun oedd yr olaf, ond roedd Eco, Carreg Ateb a Babi Gwyrdd yn sôn am warchod yr amgylchfyd a ballu.

getimg-9

 

Adolygiad Gwales

ENILLYDD GWOBR TIR NA N-OG 2005

Nofel yw hon am ferch fach o’r enw Blodyn Haf, sy’n ferch i ryfelwraig eco o’r enw Helygain. Mae’r stori wedi cael ei hadrodd ar ffurf dyddiadur y ferch. Gwêl y ferch ei hanes hi yn debyg i stori y tri mochyn bach a’u hymdrechion i godi tai. Fel daw’r blaidd i chwythu a difetha’r cartrefi – hanes tebyg sydd i Blodyn Haf wrth i’r awdurdodau ddifetha cynlluniau a breuddwydion y fam a’r ferch. Cyflwyna’r stori egwyddorion y rhyfelwyr sy’n brwydro i amddiffyn ecoleg y byd rhag cael ei ddifrodi.

Ceir tair pennod i’r nofel sy’n adlewyrchu stori’r moch, dan y penawdau Tŷ Byrnau, Tŷ Gwiail a Thŷ Cerrig. ‘Yr hen a ŵyr a’r ifanc a dybia’ yw’r hen ddihareb, ac fe welir pawb yn ei dro yn gorfod cyfaddawdu er mwyn parhau â’u breuddwyd a byw’n hapus.

Llwydda Emily Huws i adrodd y stori hon gyda diniweidrwydd a sylwgarwch y plentyn. Crea gymeriad bach difyr yn Blodyn Haf, a daw un i gydymdeimlo â’r fechan wrth iddi geisio gwneud synnwyr o’r byd mawr, a mygu ei dyheadau ei hun er mwyn cefnogi ei mam.

Caf fy nhemtio i ddisgrifio’r gyfrol fel perl fach.

Ion Thomas

  1. Pa lyfr(au) plant sydd ar y ffordd nesa gen ti?

Dim byd. Wedi dweud hanes fy nghŵn, Wmffra a Ned, yn y gorffennol. Dau labrador bendigedig. Rŵan, Tobi (ci defaid) sydd gen i. Ac mae o yn haeddu llyfr, chwarae teg. Ond wir, mae ’na gymaint o bethau rheitiach fel tyfu bwyd a chwynnu i’w gwneud!! A gofalu am Tobi a’r ieir a thair cath a thri chwarter (Mae ’na gath strae dwi’n ei alw yn Y Tramp yn dod i ngweld i’n gyson).

ned_llyfr

Diolch Emily, a plîs gawn ni lyfr am Tobi rwan? Neu’r Tramp?!

 

 

Cadi ar ei ffordd – a ffrindiau ar eu ffordd i China!

Published Ionawr 10, 2017 by gwanas

Dwi wedi cynhyrfu! Mae’r arlunydd Janet Samuel wedi gyrru ei darluniau cychwynnol ar gyfer Cadi dan y Dŵr!

cadi2-clawr1

Dan ni’n meddwl mai hwn fydd y clawr. Methu aros i weld y cyfan mewn lliw llawn!

A dyma i chi ragflas o ganol y llyfr:

cadi2-page24

Dw i newydd feddwl – mi fyddai llyfr lliwio Cadi yn syniad! Does na’m llawer o lyfrau lliwio ‘Cymraeg’ ar gael nagoes? Ia, dwi’n gwybod nad oes angen iaith i liwio, ond mi fyddai lliwio straeon gwreiddiol o Gymru yn braf, dach chi ddim yn meddwl? Dwn i’m – dim ond syniad wnaeth fy nharo i rwan wrth roi’r llun yna ar y blog – a theimlo’n eiddigeddus o Janet yn cael lliwio’r siapiau hyfryd yna!

Dwi wir yn mwynhau’r teimlad o fod wedi gorffen llyfr, teimlo bod fy rhan i o’r broses wedi ei wneud, a’r cwbl sydd raid i mi ei neud ydi edrych ymlaen at weld be fydd yr arlunydd a’r cyhoeddwyr wedi ei wneud ers i mi bwyso botwm ‘Send’…

Wel, a sgwennu mwy o bethau yn y cyfamser wrth gwrs.

Dau sydd wedi cael llwyddiant anhygoel yn ddiweddar ydi Llinos a Dylan Rowlands, ffrindiau i mi sy’n rhedeg Gwin Dylanwad yn Nolgellau – a bwyty Dylanwad Da cyn hynny.

image002

Mi wnaethon nhw gyhoeddi llyfr hyfryd Bwyd a Gwin yn 2013:

9781847717191

Ac yna’r fersiwn Saesneg yn 2016.

cc5hrmcwaaauukp

Ac maen nhw newydd glywed eu bod wedi ennill gwobr anhygoel ym myd llyfrau coginio y byd, sef Gwobr Gourmand!

Sefydlwyd Gwobrau Gourmand yn 1995 gan Edouard Cointreau, a bob blwyddyn, maen nhw’n anrhydeddu’r llyfrau bwyd a gwin gorau – yn y byd! Mae llyfrau o dros ddau gant o wledydd yn cymryd rhan eleni a Llinos a Dylan enillodd drwy Brydain yn eu categori nhw.

Bydd y seremoni wobrwyo yn cael ei chynnal yn Yantai, China ar y 27ain a’r 28ain o Fai – a bydd Dylan a Llinos yn cael mynd yno!

Dyma luniau o Yantai ddois i o hyd iddyn nhw drwy Google:

Dwi’n wyrdd!

Cystadlu yn erbyn enillwyr o wledydd eraill er mwyn cipio gwobr, ‘The Best in the World’ fydd Llinos a Dylan – a wyddoch chi be? Dwi’n meddwl eu bod nhw’n beryg. Mae o’n hyndingar o lyfr…

Pob lwc eich dau!

39a41e3