Myrddin ap Dafydd yw perchennog Gwasg Carreg Gwalch, cwmni sy’n cyhoeddi rhyw 50 o lyfrau y flwyddyn.

Ond mae o hefyd yn fardd – yn brifardd hyd yn oed: fo enillodd y Gadair yn Eisteddfodau Cenedlaethol Cwm Rhymni 1990, a Thyddewi 2002.



Ac os dach chi isio dysgu cynganeddu:

Ac mae o wedi cyhoeddi llwythi o lyfrau o gerddi i blant, nifer ohonyn nhw yn ddarnau gosod mewn steddfodau:






Ond mae o hefyd yn awdur rhyddiaith. Mae o wedi sgwennu nifer o ddramâu, cyfres o lyfrau ar lên gwerin, a ffuglen i blant yn Gymraeg a Saesneg.







Mae o’n mynd o amgylch ysgolion yn gyson i siarad am ei gerddi a’i lyfrau.

A does dim syndod ei fod yn hoff iawn o lyfrau gan iddo gael ei fagu mewn siop lyfrau yn Llanrwst, a’i dad oedd yr awdur Dafydd Parri. Fo sgwennodd y gyfres hynod lwyddiannus am Y Llewod.
Felly Myrddin ydi’r nesa i ateb fy nghwestiynau am ei hoff lyfrau pan oedd o’n blentyn:
- Pa lyfrau oeddet ti’n eu hoffi yn blentyn?
- a) Ysgol Gynradd – Cymraeg a Saesneg
Nofelau T Llew Jones a Thwm Siôn Cati yn arbennig, Ein Hen Hen Hanes, Jac Jamaica a nofelau Famous Five, Enid Blyton




- b) Ysgol Uwchradd – Cymraeg a Saesneg
Islwyn Ffowc Elis, cyfres yr ‘Hardy Boys’ a chyfres Pocomonto – nofelau am ddau dditecif ifanc a chowboi ifanc oedd y rheiny


- Wyt ti’n dal i ddarllen llyfrau plant? Pa rai wyt ti wedi eu hoffi’n ddiweddar?
Dwi’n hoff iawn o nofelau Michael Morpurgo – ac rydan ni wedi cyhoeddi fersiynau Cymraeg o nifer ohonyn nhw fel Ceffyl Rhyfel, Gwrando ar y Lloer a Llygaid Mistar Neb.
Dwi’n hoff o feirdd plant fel Charles Causley, Michael Rosen a Benjamin Zephaniah.

Gan fy mod i’n gweithio yn y maes, mi fydda i’n darllen llawer o lyfrau plant Cymraeg hefyd – mae Gareth F. Williams ac Angharad Tomos yn ffefrynnau, Manon Steffan Ros a Caryl Lewis hefyd.




- Pwy ydi dy hoff ddylunydd/arlunydd llyfrau? Pam?
Dorry Spikes – dwi wedi cael pleser mawr o gydweithio efo hi ar sawl cyfrol. Mae’n wych mewn lliw ac mewn du a gwyn, yn gweld onglau a gorwelion gwahanol, ac mae ei phobol hi’n bobol ddiddorol iawn.



- Be nath i ti ddechrau sgwennu?
Cael gwahoddiad i fynd i siarad mewn ysgol wnes i, ar ôl ennill cadair genedlaethol am gerdd oedd yn sôn am enedigaeth plentyn. Mi sylweddolais nad oedd gen i ddim i’w rannu efo nhw a dyma drio sgwennu am brofiadau roeddwn i wedi’u cael pan oeddwn i eu hoed nhw.
- Be wyt ti’n ei fwynhau fwya am sgwennu?
Mewn rhyw ffordd, dwi’n cael ail-fyw fy mhlentyndod wrth sgwennu i blant – ac mae’n syndod be sy’n dod yn ôl i’r cof! Rhannu ydi sgwennu, ac felly mae cael ymateb yr un sy’n derbyn yn bwysig iawn. Mae’n braf iawn dal i fynd o gwmpas ysgolion a chael clywed barn y plant.

- Dwed chydig am dy nofel ddiweddara i blant.
Mae’r Lleuad yn Goch sydd newydd ei chyhoeddi. Mae hon yn rhan o gyfres sydd ganddon ni i bobol ifanc yn creu straeon gyda chefndir darnau o hanes y ganrif ddiwethaf iddyn nhw. Yn y cefndir mae hanes y Tân yn Llŷn a thref Gernika yng Ngwlad y Basg yn llosgi ar ôl cael ei bomio gan y Ffasgwyr yn 1937. Ond stori am deulu o Lŷn ydi hi – mi gawsant eu troi allan o’u fferm i wneud lle i’r Ysgol Fomio, mae’r ferch yn dod yn agos at y rhai a losgodd yr Ysgol Fomio ac mae’r mab yn llongwr ac yn cael ei hun yng nghanol peryglon helpu ffoaduriaid o Wlad y Basg.

- Pa lyfr(au) plant sydd ar y ffordd nesa gen ti?
Mae gen i focs ar lawr y swyddfa sgwennu. Dwi wrthi’n hel pytiau am hanes y Welsh Not ar hyn o bryd a dyna fydd cefndir y nesaf.
(does a wnelo’r llun isod dim byd â’r ateb roddodd Myrddin, ond dwi’n licio’r llun – Geraint Lovgreen ydi hwnna wrth ei ochr o)

Diolch, Myrddin!