
Mae’n siwr eich bod chi wedi clywed am hwn yn barod gan iddo ennill Gwobr Tir Na Nog 2014 – y 5ed tro i Gareth F! Ond dim ond newydd ei ddarllen ydw i, a dwi’n gweld pam ei fod o wedi ennill. Waw.
Y categori cynradd oedd y wobr, ond os ydach chi dros 11 – dros 50 hyd yn oed, mi wnewch chi fwynhau hon. Mae hi wedi ei hanelu at ddarllenwyr CA2 a gwaelod 3, ond darllenwyr DA yn CA2 ddeudwn i. Mae’r iaith yn goeth, felly fydd hi ddim yn hawdd i bawb – ond mae’n werth yr ymdrech!
Mae’n chwip o stori efo cymeriadau arbennig o ddifyr, fel Now Be Nesa, teulu’r bwlis- y Maldoons a Big Annie (sy’n ANFERTH) a Ceridwen sy’n perthyn i lwyth y Romani. Mae’r darluniau gan Graham Howells yn wirioneddol dda hefyd ac yn ychwanegu at y testun go iawn.

Dyma ddywedodd Gareth ( uchod, ar y chwith) amdani:
“Cefais f’ysbrydoli i ysgrifennu’r nofel hon gan ddigwyddiadau canmlwyddiant trychineb Senghennydd y llynedd. Mae’r hyn a ddigwyddodd yno ar 14 Hydref 1913 – sef cefndir y stori – yn ddychrynllyd wrth feddwl am faint y drychineb. Collodd 440 o ddynion a bechgyn eu bywydau y bore ofnadwy hwnnw. Fy nod gyda Cwmwl dros y Cwm oedd dod â’u straeon yn fyw i genhedlaeth newydd o blant Cymru, sy’n gwybod fawr ddim am yr hanes, ac adrodd y stori honno trwy lygaid bachgen 13 oed fu’n byw drwy’r cyfan.”
A dyma i chi linc i flog Gwasg Carreg Gwalch – ac un da ydi o – mae angen mwy o’r rhain, weisg Cymru!
http://carreggwalch.wordpress.com/2014/09/09/cwmwl-dros-y-cwm-gan-gareth-f-williams-enillydd-gwobr-tir-na-nog-2014/
Mae Cyfres yr Onnen ar gyfer tua’r un oedran (9-12 yn fras) a dyma i chi un newydd i’r gyfres honno:

Sgrech y Môr gan Casia Wiliam. Fel mae’r teitl yn ei awgrymu, stori antur ydi hon, am fachgen Blwyddyn 8 o’r enw Siôn sy’n cael ei anfon i dreulio’i wyliau haf gyda’i Anti Beth yn Rhos y Grug, sydd yn bendant rhywle ym Mhen Ll^yn.
Un o Ben Ll^yn ydi Casia Wiliam yr awdures, 
a dyma ei nofel wreiddiol gyntaf, er ei bod wedi cyfieithu un o rai Michael Morpurgo cyn hyn. Dwi’n cofio sylwi bod addewid awdures ynddi flynyddoedd yn ôl, a hithau’n ddisgybl ysgol gynradd, a dwi’n falch o ddeud ei bod hi wedi aeddfedu yn nofelwraig gampus.
Mae cymeriad Siôn yn apelio’n syth, er, ro’n i’n teimlo bod y disgrifiadau cyntaf ohono’n mynd i apelio mwy at fechgyn 9 oed na 12 – ond efallai mai fi ydi honno. Ro’n i’n falch iawn ei fod o’n ddringwr ( mae angen mwy o’r rheiny yn ein llyfrau – a chan^wyr – bob dim awyr agored) ac ro’n i’n cael fy nhynnu i mewn i’w berthynas (anodd) efo’i lys-dad, Seimon, a’r ffordd roedd o’n ymdopi efo marwolaeth ei dad.
Digon o themáu yma felly. A chwip o gymeriad yn Anti Beth, oedd/sydd yn swnio’n anghyfforddus o debyg i mi…! Mae hyd yn oed y t^y yn swnio’r un fath. Bydd raid i fy nith 12 oed ddarllen hwn, i ni gael gweld os ydi hithau’n gweld tebygrwydd rhwng Anti Beth ac Anti Bethan…
Dwi’n hoff iawn o’r map sydd ar y dechrau, ond mae arna i ofn nad ydw i cweit mor siwr o’r clawr. Mae’n lun da, ond dydi o ddim yn cyd-fynd efo’r teitl i mi. A bod yn onest, roedd y teitl wedi gwneud i mi ddisgwyl stori efo mwy o sgrechian ynddi – a does na’m llawer o hynny. Mae’n fwy o stori hamddenol, llawn hiwmor efo ambell ddirgelwch. Mae’n goblyn o deitl da, apelgar, ond nid yn siwtio’r stori benodol hon efallai. Cofiwch chi, efallai mai fi sydd â ryw syniadau od ac wedi disgwyl mwy o fôr ladron ac arswyd. Mae’n Criw Darllen ni am drafod hon cyn bo hir a gawn ni weld be fydd eu barn nhw am addasrwydd y teitl.
Un peth sy’n sicr, mae’r sgrifennu yn hyfryd, ac os ydach chi isio gweld engreifftiau o gymariaethau da, annisgwyl ac unigryw, mae ‘na lond gwlad fan hyn. A hiwmor oedd yn apelio’n arw ata i (a phlant 9-12 oed) fel ‘Pam wyt ti’n edrych mor hapus?…Ti’n edrych fel ‘sat ti newydd daro rhech a chael gwared ar boen bol neu rywbeth.’ Haaa!