Barod am y gêm heno?
Mi wnes i feddwl y byddai’n syniad i mi dalu sylw i ddau lyfr arall oedd yn y pecyn o lyfrau plant gan Wasg Gomer, cyn gêm Lloegr v Cymru yn Twickers. Dwi’n meddwl y bydd hi’n haws eu hadolygu cyn gwybod y sgôr.
Peidiwch â nghamddallt i, dwi’n eitha siwr mai Cymru eith â hi, ond dydach chi byth yn gwybod nacdach? A dwi’n crynu yn fy sgidiau bob tro mae Mike Brown yn cael y bêl.
Felly dyma ni, dyma’r ddau lyfr:
Sbiwch, ro’n i’n gwylio De Affrica v Samoa wrth ddarllen ‘Dau Mewn Cae’:
sef llyfr hyfryd mewn mydr ac odl am ddau frawd sydd wrth eu bodd yn chwarae rygbi.
Gan mai’r Prifardd Ceri Wyn Jones o Aberteifi ydi’r awdur, does dim syndod mai iaith y de mae o’n ei ddefnyddio, ond dwi’n gwybod am blant gogleddol fydd wrth eu bodd yn dynwared yr acen wrth ddarllen!
Sbiwch ar y bennill hon er enghraifft:
Dwi’n meddwl mai mwd neu faw neu laid ydi ‘stecs’, a dwi’n gwybod mai baw neu bw pw neu ‘tail’ ydi ‘dom.’ Dallt rwan?!
Mi fydd plant wrth eu bodd yn clywed a darllen ac ailadrodd hon – a’i dysgu ar eu cof, synnwn i daten.
Mae’r lluniau gan Adrian Reynolds yn hyfryd hefyd:
a dwi wir yn gobeithio y bydd y llun nesa ‘ma yn addas ar gyfer heno!
DOWCH ‘LAEN CYMRU!
Ac os fyddwch chi ar dân eisiau gwybod pob dim sydd i’w wybod am dîm rygbi Cymru, a rygbi yn gyffredinol yng Nghymru, mi fydd ‘A wyddoch chi am…rygbi Cymru’ yr union beth i chi. Mae ‘na gymaint o ffeithiau difyr ynddo fo, mae mhen i’n troi!
Dyma i chi rai o’r tudalennau sydd ynddo fo:
Yn ogystal â dysgu am rôl anifeiliaid yn y gêm (!), mi gewch yr ateb i gwestiynau fel hyn: pam y bu’n rhaid i’r dorf ganu’r anthemau heb y timau yn y gêm rhwng Cymru a Lloegr yn 1963? Pryd chwaraeodd tîm rygbi SWYDDOGOL Cymru yn erbyn Lloegr am y tro cyntaf?
Na, dwi ddim am ddweud fan hyn; bydd raid i chi ddarllen y llyfr i gael yr atebion!
Dau lyfr gwych i’w darllen (a’u rhoi yn anrhegion…?) yn ystod Cystadleuaeth Cwpan Rygbi’r Byd, dim bwys be fydd y sgôr heno!