Archif

All posts for the month Hydref, 2014

Darllen mewn mannau annisgwyl

Published Hydref 31, 2014 by gwanas

Dyma i chi lun o Lleucu, 13 oed o Nefyn, mewn cystadleuaeth Carnifal yng Nghastell Caernarfon eleni. Falch o weld nad oedd hi’n gallu rhoi ei llyfr i lawr!

image

Ei mam, Gwenda roddodd o i mi, pan roedden ni’n ffilmio diwrnod o hwyl yng ngardd Canolfan Felinfach ym Motwnnog efo cyfres Tyfu Pobl.

Unknown-1

Erbyn meddwl, dwi’m yn meddwl gawson ni siot o unrhyw un yn darllen llyfr yn eu gardd neu randir drwy gydol y gyfres. Ond mi fydda i’n gwneud hynny pan fydd hi’n braf, fyddwch chi?
Tydi gardd ddim yn le annisgwyl i ddarllen llyfr nacdi? Ond mae o ar ben lori mewn carnifal a chithe’n Frenhines!

Dyma i chi engreifftiau eraill:
images-5Unknown-3Unknown-2Unknown-1images-4

Allwch chi guro hynna?

O, a gyda llaw, os ydach chi’n meddwl bod rhaglen radio Tudur Owen wedi anghofio am y Clwb Darllen, tydi o ddim. Maen nhw jest wedi cael estyniad bach i orffen Awst yn Anogia
image

ac mi fyddwn ni’n cael gwybod eu barn ( heb Manon Rogers, bechod, dio’m run peth hebddi) ar ddydd Gwener Tachwedd y 7fed.

Edrych mlaen!

Straeon ar y teledu

Published Hydref 28, 2014 by gwanas

Un i’r oedolion: ydach chi wedi gweld cyfres ar sianel Dave o’r enw Crackanory?

Unknown-1

Cyfres sydd wedi ei hysbrydoli gan yr hen Jackanory, ond ar gyfer oedolion ( sy’n cofio Jackanory wrth gwrs); mae pob pennod yn cynnwys dwy stori 15 munud wedi eu hadrodd gan actorion neu gomediwyr adnabyddus, fel Jack Dee, Meera Syal a Stephen Mangan,

images-5

images-4

a dwi wrth fy modd efo nhw. Mae’r straeon mor ffres, mor wahanol (a gwreiddiol), efo hiwmor hyfryd – hiwmor tywyll gan amla. Mae’r awduron yn glyfar, yn ffraeth ac yn arbenigo ar sgwennu ‘comic’ – adloniant pur a dim arlliw o geisio plesio beirniaid llenyddol.

Mae’r straeon yn cynnwys chydig o actio a chydig o animeiddio, ond y prif beth ydi rhywun yn ‘darllen’ o’r un gadair fawr gyfforddus.

Mae’n debyg bod y gyfres gynta wedi bod yn llwyddiant ysgubol ac wedi denu dros hanner miliwn o wylwyr newydd i sianel Dave. Rhywbeth i’w ystyried, S4C?

O, ac os golloch chi bennod gynta Llwyth ar y radio, dyma’r linc:

http://www.bbc.co.uk/programmes/p029htf7
Mae ‘na ddarn oedd ar goll pan gafodd ei ddarlledu ddoe, sydd wedi ei roi’n nôl mewn, diolch byth! Felly os oeddech chi wedi drysu os fuoch chi’n gwrando’n fyw, dyna pam. Mi fydd y penodau nesa am 10.50 tan ddydd Gwener. neu ar wefan Radio Cymru wrth gwrs.

A dydi o DDIM yn llyfr ar gyfer plant bach!

Llwyth ar Radio Cymru

Published Hydref 24, 2014 by gwanas

Unknown-9

Dwi’n edrych ymlaen mwya ofnadwy. Dyma’r tro cynta erioed i unrhyw un o fy llyfrau i fod ar y radio. Wel, os nad ydach chi’n cyfri darnau o Pen Dafad, Ceri Grafu neu Hi yw Fy Ffrind yn cael eu hadrodd yn y Steddfod.

Mi wnes i wir fwynhau ei addasu yn 5 darn o tua 10 munud yr un. Nid yn hawdd, ond yn ddifyr.

Mae’n bosib y bydd ambell frawddeg ychwanegol ( neu baragraff hyd yn oed…o dîar) wedi gorfod mynd yn ystod y golygu wedi’r perfformio, yn dibynnu faint o sylw roddodd yr actores Catrin Mara

Unknown-5

i’r atalnodi. Ond dwi’n gwybod y bydd hi wedi gwneud chwip o joban dda o’r actio! Mae hi’n dallt llyfrau, gan ei bod hi a Dyfrig Evans

Unknown-1

wedi gwneud ambell daith Hei Hogia ( sef perfformio llyfrau) dros y blynyddoedd.

Mi fydd y darnau i’w clywed am 10.50 ar raglen Shan Cothi, heblaw am y darn cynta ddydd Llun ( am fod na FWY o Dylan Thomas ar y radio…deud dim) pan fydd o yn gynharach, yn ystod rhaglen Dylan Jones, ond dwi’m yn siwr faint o’r gloch. Os gollwch chi o, mi allwch wrando eto ar y we.

Gobeithio y bydd rhywun yn gwrando ( er gwaetha’r ymchwil diweddara am niferoedd gwrando – pwy maen nhw’n eu holi a phryd ac yn lle dwch?) – ac y gwnewch chi fwynhau!

Soldier Dog, Sam Angus.

Published Hydref 19, 2014 by gwanas

Llyfr wirioneddol dda am gŵn. Ond byddwch yn barod i grio; mae o am ryfel a cholled hefyd. Nid ar gyfer plant iau; dwi’n meddwl bod angen bod yn 12+ i ddarllen hwn, neu’n 11 aeddfed iawn. image

Y Rhyfel byd Cyntaf ydi’r cefndir, ac mae’r stori yn dechrau yn 1917.
Plentyn 14 oed ydi Stanley, ac mae’n addoli cŵn. Ond mae ei dad yn ddyn caled, sydd wedi mynd yn rhyfedd ers colli ei wraig. Mae’r brawd mawr yn y fyddin yn Ffrainc, a phan fydd Stanley yn cael digon o greulondeb ei dad, mae’n penderfynu deud celwydd am ei oed, ac enlistio.

Roedd hynny’n digwydd yn aml yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.

Ro’n i’n meddwl mod i’n gwybod gryn dipyn am y Rhyfel hwnnw, ond doedd gen i ddim syniad eu bod nhw’n defnyddio cŵn i yrru negeseuon yn ôl a mlaen rhwng y ffosydd. Meddyliwch- ynghanol yr holl sŵn ffrwydro a bwledi, roedd na gŵn oedd wedi eu hyfforddi mor dda, ac yn caru eu hyfforddwyr gymaint, mi fydden nhw’n mynd drwy ddŵr a thân – yn llythrennol – i fynd â negeseuon yn ôl atyn nhw, negeseuon oedd yn gallu achub bywydau cannoedd os nad miloedd o ddynion a bechgyn a newid cwrs y frwydr.
Unknown-3
Unknown-2

Mae rhai o’r pethau sy’n digwydd yn debyg iawn i hanes ci go iawn, Airedale Jack, ond bydd raid i chi ddarllen y llyfr i weld be oedd y pethau hynny. Mae hanes Airedale Jack yn y nodiadau yn y cefn.
A dyma sut gi ydi Airedale:

Unknown-1

Ond dyma sut gi ( wel, un o’r cŵn) oedd gan Stanley yn y stori hon:
Unknown-4

Mi wnes i grio fel babi, dwi’n cyfadde. A mwynhau bob munud.

Dyma i chi flas o’r arddull: image

Llyfr da i ddysgu am hanes y Rhyfel Byd Cyntaf yn ogystal â darllen am y berthynas arbennig sy’n gallu bod rhwng pobl a’u cŵn. Themau eraill ydi: perthynas rhwng tad a mab, brawd a brawd, penaethiaid y fyddin a’r milwyr bach cyffredin fel Stanley.

Mae’r disgrifiadau o’r lladd a’r brwydro yn gignoeth, felly nid llyfr bach neis am gŵn bach ciwt mo hwn. Mi fyddwch chi angen stumog go gryf. A hances. Mae hyn yn wir am blant 12+ yn ogystal ac oedolion, ac ydi, mae hwn yn lyfr neith apelio at oedolion hefyd – yn enwedig os ydyn nhw’n caru cŵn.
Mwynhewch!

O.N. Newydd gael ebost gan Gareth F Williams yn deud bod Gwasg Gomer wedi gofyn iddo gyfieithu hon i’r Gymraeg, felly mae o wedi gwneud hynny ac mae hi yn y siopau rwan, dan yr enw Ci Rhyfel. Rhyfedd o fyd. Do’n i wir ddim yn gwybod!

Unknown-1

Mwy o lyfrau am Anifeiliaid

Published Hydref 16, 2014 by gwanas

Es i i’r Llyfrgell i chwilio am fwy o lyfrau plant sy’n sôn am anifeiliaid, a dyma bedwar i chi. Llyfrau ar gyfer plant bach ydyn nhw, tua 5-7 oed, ac iau.
Dau yn wreiddiol, a dau yn addasiadau… ydw, dwi’n gwybod mod i’n torri un o fy rheolau fan hyn, ond maen nhw’n digwydd bod yn lyfrau bach da.

Y rhai gwreiddiol i gychwyn:

getimg.php

Iona’r Iâr, lluniau a stori gan Dylan Thomas ( naci – un gwahanol – o Ros-y-bol, Ynys Môn mae hwn).
Addas i blant hyd at 7 oed. Stori fach ddigri am Iona’r iâr sydd am fynd ar ei gwyliau i lan y môr ac yn penderfynu dysgu nofio yn gynta, ond mae’n cael pob math o drafferthion! Iâr ydi hi wedi’r cwbl, nid hwyaden…

Hoffi’r lluniau yn arw – digon o hiwmor ynddyn nhw, ac mae corff iâr mewn bicini yn codi gwên yn sicr. Mae ‘na dipyn o sgrifen yma, felly llyfr ar gyfer darllenwyr da ddeudwn i, ond mae yma ddigonedd o gyfle i rieni ac athrawon wneud lleisiau gwirion a dramatig i’r plant iau. Digon o hwyl.

Yn ail, dyma Sglod a Blod gan Ruth Morgan, lluniau gan Suzanne Carpenter:

getimg-3.php

Hanes ci o’r enw Sglod sy’n sglaffio sglodion sydd wedi eu taflu a’u gollwng ar hyd llawr y pier. Mae hynny’n betha da ar gyfer cadw’r lle’n lân a thaclus wrth gwrs, ond nid yn beth da ar gyfer corff Sglod, sy’n mynd yn dewach ac yn dewach – nes i Blod yr wylan roi gwersi ymarfer corff iddo fo. Stori ddigri, hwyliog efo digon o negeseuon a deunydd trafod am fwyta, gor fwyta, cadw’n heini, a chadw llefydd yn lân a thaclus. Lluniau digon digri, ond doedd pob un ddim yn llwyddo yn fy marn i. Ond fi ydi honno.

A rwan yr addasiadau:
getimg-2.php

Llyfr dwyieithog Mae Mali eisiau Mwy! / Mali wants More! – y sgrifen yn fawr yn Gymraeg ac yn llawer llai yn Saesneg. Un da iawn ar gyfer rhieni sy’n dysgu Cymraeg, neu’n ansicr eu Cymraeg. Neu blant sydd am wella eu Saesneg – neu eu Cymraeg.
Ac mae’n chwip o stori ddigri am ddafad fach sydd isio bod yn fwy, ac yn gyflymach ac yn gryfach, ond yn mynd dros ben llestri a deud y lleia. Eto, mae ‘na negeseuon amlwg iawn yma: peryglon bod yn farus; hunanddelwedd; cymharu efo pobl eraill; balchder; be ydi bod yn ffrind da – rhip ohonyn nhw. Ac fe ddylai plant fod wrth eu boddau efo’r diwedd. Dwi’n gwybod y byddai fy ngor-nai tair oed i, Caio, yn rhowlio chwerthin!

Ac yn olaf:

getimg-1.php

Stori hyfryd a lluniau hyfryd am Cara sydd eisiau ci bach. Ro’n i’n cydymdeimlo’n llwyr efo Cara a’i theulu a’r cwn – OND, ro’n i ( ac adolygydd ar gwales.com) yn teimlo bod Cara wedi cael ci yn llawer rhy hawdd – jest felna! Nid fel’na mae’n digwydd yn y byd go iawn naci, felly efallai nad dyma’r llyfr i’w roi i blentyn sydd isio ci bach ond sydd â rhieni sydd ddim isio ci yn y ty! Iawn ar gyfer rhywun sydd â chi eisoes falle.
Fel fi.
Dyma fy ngast goch i, Del, efo fy nor-nith i Cadi, pan oedd hi’n fach iawn:
DSC_0065

Un peth arall. Do’n i ddim yn siwr be fyddai rhai rhieni yn ei feddwl o adael i gwn gysgu ar y soffa ac ar y gwely… mae’n golygu llawer iawn mwy o hwfro a golchi dillad gwely!

Cyfaill Darllen a Llyfrau am Anifeiliaid

Published Hydref 10, 2014 by gwanas

Photo on 10-10-2014 at 13.52

Fues i yn Ysgol Bro Cinmeirch eto, ar fy ymweliad rheolaidd fel Cyfaill Darllen ( Patron of Reading). Pleser bob amser!
A’r tro yma, ro’n i wedi gosod cystadleuaeth, i bawb yn Bl 3,4,5 a 6 wneud lluniau o Rhys a Mari, prif gymeriadau Gwylliaid
image

A dyma i chi’r lluniau ro’n i’n eu hoffi fwya.

Photo on 10-10-2014 at 13.52

Mi wnes i anghofio sgwennu’r manylion i lawr, ond dwi’n 99% siwr mai Cari enillodd, yr un ieuenga ohonyn nhw i gyd – yn Bl 3! Dwi’n arbennig o hoff o’r ci, a gwallt Mari. Do, mi gafodd wobr gen i – copi o Gwylliaid. Ro’n i wedi bwriadu sgwennu neges y tu mewn, ond aeth amser yn drech na ni am ryw reswm, felly os wnei di ddod a’r llyfr i’r ysgol efo ti y tro nesa, mi wnai sgwennu neges bryd hynny, Cari!

Trafod llyfrau am anifeiliaid fuon ni efo’r rhai h^yn, ac roedd sawl un wedi dod â llyfrau Michael Morpurgo efo nhw, oedd ddim yn sioc o gwbl; mae o’n sgwennu’n wych am anifeiliaid. Ond mi ges i sioc bod cymaint o lyfrau am ddreigiau! Roedd eu Cyfaill Darllen Saesneg, Shoo Rayner, newydd fod draw hefyd,ac roedd pawb yn canmol hwn:

Unknown-1

Roedd Efa wedi mwynhau “One dog and his boy” gan Eva Ibbotson ( yr un wnes i ei argymell)

Unknown-3

ond roedd hi’n canmol “Sky Hawk” gan Gill Lewis i’r cymylau.

Unknown-2

Felly dwi’n bendant am ddarllen hwnna rwan. Ac mae ‘na fersiwn Gymraeg:

getimg-2

Addasiad gan Elin Meek. Ond mynd am y gwreiddiol fydda i, a bod yn gwbl onest. Ydw, dwi’n un styfnig!

Gwefan am lyfrau plant bach

Published Hydref 2, 2014 by gwanas

Dwi newydd ddarganfod gwefan sy’n cyd-fynd efo cyfres ‘Darllen ‘da fi’ ar S4C.
Gwych! Dyma’r linc:

https://www.s4c.co.uk/darllendafi/c_index.php

Ac maen nhw wedi rhoi llyfrau dan benawdau fel: Difyr a Doniol, Straeon Anifeiliaid ac ati.
Mae gwir angen gwneud hyn.
Hefyd, mae ‘na blant ac oedolion wedi rhoi eu barn am rai o’r llyfrau, ee:

Bili Boncyrs a’r Planedau
gan Caryl Lewis
bili_boncyrs_a'r_planedau

Dyma farn Allwyd Edwards, Aberystwyth am y llyfr hwn:
(5/5)
Cyfres gwreiddiol o lyfrau doniol, cymraeg. Mae’r mab wrth ei fodd yn eu darllen. Brysiwcch gyda’r nesa!

Dyma farn Gafyn Jones, Caerdydd am y llyfr hwn:
(5/5)
Rydym ni wrth ein boddau efo’r gyfres hon. Hoff ddarn Gwion yw’r bwydydd rhyfedd – cornfflecs a chwstard !. Hoff ddarn Gruffudd yw’r trip i’r seler at y pry copyn anferth! Fel rhiant, dwi wrth fy modd fod hwyl y llyfr yn hudo’r plant i’w ddarllen dro ar ol tro! Gruffudd a Gwion Jones, Caerdydd

Dyma farn Cris, Ceredigion am y llyfr hwn:
(5/5)
LLyfr ardderchog fel lleill yn y gyfres. Mae’r llyfrau yn ddonilo iawn ac mae’r gyfres yn gwella efo pob llyfr newydd.

Dyma farn Samantha Evans, Lampeter am y llyfr hwn:
(5/5)
My friend’s children, who are Welsh learners, absolutely adore the characters in this book and the rest of the Bili Boncyrs books.

Dyma farn Siwan Jones, Caerdydd am y llyfr hwn:
(4/5)
Mae’r plant yn mwynhau’r gyfres hon, mwy am y lluniau a’r ‘byd’ gwahanol na’r straeon eu hunain sy’n gallu bod yn reit denau

Dyma farn Catrin Evans, Caerdydd am y llyfr hwn:
(4/5)
Llyfr gwych, hoffi hwn, mae’n ddifyr yn glir ac yn hwyl i ddarllen gyda’r plant. Ma yna gyfres o lyfrau Bili Boncyrs felly mae’n gyfle i’r plant enyn diddordeb yn y cymeriad, ac maent yn disgwyl mlan i ddarllen am helyntion Bili yn y llyfr nesa…..

Da de?

Mi fyddai’n wych tase modd gweld gwefan debyg i blant 7 oed +…