Archif

All posts for the month Hydref, 2020

Llyfr Hyfryd am yr Amgylchedd – a gwenyn.

Published Hydref 22, 2020 by gwanas

Dwi wedi gwirioni efo’r llyfr yma!

Criw’r Coed a’r Gwenyn Coll

Dwi wedi bod yn cadw gwenyn mêl fy hun. Mae gen i un cwch fach dawel, glên, ond dwi ddim yn dwyn eu mêl nhw, achos dwi’n meddwl eu bod nhw ei angen o’n fwy na fi! A dwi ddim yn licio cael fy mhigo…

Ond does dim sôn am fêl yn y llyfr hwn. Mae ‘na 20,000 o fathau gwahanol o wenyn dros y byd, ac maen nhw I GYD yn bwysig. Pam? Darllenwch y llyfr i gael gwybod!

Bwriad y llyfr yw i agor llygaid plant i fyd natur a’u gwneud nhw’n ymwybodol o’r problemau mae’r blaned yn eu hwynebu – CYN EI BOD HI’N RHY HWYR!

Dyma lyfr arall gafodd ei eni ar gwrs yn Nhŷ Newydd, Llanystumdwy ar ddechrau 2019, gyda Manon Steffan Ros a Jac Jones yn arwain ac ysbrydoli. Roedd y cwrs yn syniad gwych, yn amlwg.

Mae rhai partneriaethau jest yn ‘gweithio’ a fan hyn, mae’r awdures newydd sbon, Carys Glyn, a’r arlunydd profiadol, Ruth Jên, wedi cydweithio’n hynod lwyddiannus i gyfuno rhai o anifeiliaid y Mabinogi a’r broblem gyfoes o wenyn yn diflannu i greu stori antur – sydd â thraed iddi.

“Neges y stori yw cofiwch y gwenyn! Mae’n bwnc sydd yn agos at fy nghalon.” Ruth Jên.

Mae’r stori’n ail-ddychmygu anifeiliaid hynaf y byd fel archarwyr sydd yn helpu anifeiliaid eraill i ddatrys problemau’r byd naturiol o’u cwmpas. Trwy ddefnyddio eu doniau anhygoel mae’r pum cymeriad unigryw – G.Hw, Carwww, Eryr, Chwim a Mal yn gweithio gyda’i gilydd i achub y dydd ac i achub y blaned!

Daeth y 5 cymeriad o ddychymyg Ruth Jên:

“Dwi wedi defnyddio’r Anifeiliaid Hynaf o’r Mabinogi fel ysbrydoliaeth i fy ngwaith celf ers rhai blynyddoedd. Wedi i Carys weld brasluniau yn seiliedig ar y cymeriadau fel criw o archarwyr aeth hi ati i ddatblygu stori ar eu cyfer.”

Sbiwch gwych ydy’r lluniau:

Ac mae’r geiriau a’r stori’n hyfryd hefyd. Mae ‘na lot o eiriau, ond maen nhw’n cynnwys rap, a dyma fo:

Sbiwch hapus ydy Carys Glyn efo’r llyfr!

Dwi’n hapus iawn hefyd, ac mi fydd plant, rhieni ac athrawon dros Gymru’n mwynhau pori dros y lluniau a’r stori – a chreu gweithgareddau wedi eu hysbrydoli gan y gwenyn, natur, bob dim.

Ro’n i’n arbennig o hoff o’r tudalennau yma:

Syml, a hynod effeithiol

Mae’r amrywiaeth sydd yn y llyfr yn ffres ac yn gofiadwy. O, ac ro’n i’n hoffi’r ffaith bod gan un plentyn yn y llyfr ofn gwenyn. DOES DIM ANGEN I NI OFNI GWENYN. Dwi’n ymateb yn ddrwg i bigiadau gwenyn mêl, ond does gen i mo’u hofn nhw, dwi jest yn gadael llonydd iddyn nhw. Dydyn nhw ddim ISIO pigo neb, ac os dach chi’n dawel ac yn llonydd, mi fydd pawb yn hapus – wir yr.

Dydi hwn ddim yn un o luniau’r llyfr – ro’n i jest isio llun o wenynen hapus…

Llyfr lliwgar a thestun hwyliog sy’n dysgu gwers bwysig am yr amgylchedd.

Addas i blant dan tua 7 oed. £6.99. Y lolfa.

Mwynhewch!

Y Pibgorn Hud – nofel 11+

Published Hydref 2, 2020 by gwanas

NOFEL ANTUR WEDI EI GOSOD MEWN CYFNOD O’N HANES NA WYDDWN I FAWR DDIM AMDANO.

Rydan ni’n gwybod cryn dipyn am gyfnod y Rhufeiniaid yng Nghymru, a rhywfaint am yr Oesoedd Canol cynnar o tua adeg Clawdd Offa, Rhodri Mawr a Hywel Dda ac ati. Ond mae’r cyfnod yn y canol yn ddiarth iawn – tan rŵan!

Mae’r awdur Gareth Evans wedi bod yn hynod ddewr yn dewis gosod nofel ar gyfer pobl ifanc yn y flwyddyn 552. ‘Mission Impossible’ o ran ymchwil. Ond efallai mai clyfar oedd o – achos pwy sydd i ddeud ei fod o’n anghywir?! Ac ro’n i wedi gwirioni efo’r ffaith bod ein hynafiaid wedi sefydlu gwladfa yng ngogledd Sbaen: Brythonia! Wir yr – ymhell bell, cyn bodolaeth Patagonia. A Haleliwia! – mae yma fapiau – dwi wrth fy modd efo mapiau mewn nofelau fel hyn.

Mae o wedi taro deuddeg o ran yr ochr ddychmygol hefyd, gan fod y cymeriadau i gyd yn dal yn fyw yn fy meddwl ddyddiau ar ôl gorffen ‘Y Pibgorn Hud.’ Mae Ina, ein harwres ddeuddeg oed yn apelio o’r cychwyn cyntaf: mae hi’n wahanol (a dydi hi ddim yn berffaith: roedd ’na adegau pan ro’n i isio’i hysgwyd hi!). Hi ydi’r unig un o’i theulu i fyw drwy’r pla. Mae’n ddewr a chlyfar, yn medru hela a thrin pastwn yn dda, yn medru darllen ac ysgrifennu – yn Lladin. Ond doedd bod yn wahanol bryd hynny ddim yn hawdd.

Mae pobl yn meddwl bod Ina’n rhyfedd. Ci mawr sy’n hanner blaidd yw ei hunig ffrind, ond nefi, am ffrind da ydi o. Ro’n i wrth fy modd efo Bleiddyn.

Dyma’r dudalen gyntaf i chi gael syniad o’r arddull:

Taith Ina o’i chartref yng Ngwent trwy diroedd deheuol y Brythoniaid (de-orllewin Lloegr heddiw) a thros y môr i ogledd Sbaen yw’r nofel, ac ydi, mae’n cael sawl tro trwstan, ambell un yn gwbl annisgwyl – does gan yr awdur ddim ofn chwarae efo’n hemosiynau ni (cawsoch eich rhybuddio!). Mae hi’n cyfarfod bobl ddrwg, ond bobl dda hefyd, ac un o fy hoff gymeriadau yw Efa, sydd unai’n gwrthod neu’n methu siarad, a chawn ni ddim gwybod tan y diwedd un pwy’n union yw hi. Mae’r awdur yn giamstar am gadw cyfrinachau a’n cadw ni fel darllenwyr ar bigau’r drain o un bennod i’r llall.

Dydi’r iaith ddim yn hawdd bob tro; roedd Gareth am gyfleu’r ffaith bod y Frythoneg  yn newid a datblygu yn ystod y cyfnod hwn, felly mae rhai’n defnyddio iaith ffurfiol fel ‘Paham’ a ‘Mi a’th glywaist’ ac mae rhai cymeriadau’n siarad yn wirioneddol od, fel yr hen jaden Morwenna: ‘Agor y drâs!’ a ‘Gwnewch foyd.’ Ond mae’r darllenydd yn dod i arfer o fewn dim, ac mae wir yn ychwanegu at y nofel.

Dyma nofel hanesyddol hynod o ddifyr a chyffrous, ddylai apelio at ddarllenwyr o tua 11 oed i fyny – ac at oedolion ifanc eu hysbryd. Ro’n i wrth fy modd efo’r themâu sy’n dal yn hynod o berthnasol heddiw: mewnfudo, ffoaduriaid, caethwasiaeth a diffyg cydraddoldeb cymdeithasol. Campwaith arall, Mr Evans – ac mae angen dilyniant.

*Ro’n i’n hoff iawn o’r Nodyn Hanesyddol gan yr awdur ar y diwedd. Ond byddai’r rhestr enwau llefydd wedi bod yn llawer mwy defnyddiol ar ddechrau’r llyfr yn hytrach nag ar t. 276!

Wythnos Llyfrgelloedd

Published Hydref 1, 2020 by gwanas

Mae hi’n Wythnos Llyfrgelloedd wythnos nesa (5-10 Hydref), felly cofiwch ddefnyddio eich llyfrgell leol a Borrowbox a’r holl adnoddau sydd yn ein llyfrgelloedd. Ond hefyd, mae ‘na ymgyrch ar draws y Deyrnas Gyfunol i annog pobl i rannu llun o’u silff lyfrau ar y cyfryngau cymdeithasol.

Er mwyn gwneud yn siŵr bod llyfrau o Gymru ac yn Gymraeg yn rhan o’r ymgyrch, be am dynnu llun o’ch silff llyfrau a’i bostio ar y cyfryngau cymdeithasol ar ôl 9.15yb ddydd Llun 5 Hydref gyda’r hashnodau #DymaFySilff #WythnosLlyfrgelloedd (#ExpressYourShelf #Libraries Week).

Gellid hefyd dewis lawrlwytho templed arbennig gan ddefnyddio’r ddolen isod, gan ychwanegu dyfyniad byr:https://drive.google.com/drive/folders/1H9aEzfqqd4oEYQOvTg7_1ak3xDhENbeV

Dwi newydd fod rownd y tŷ yn trio penderfynu pa silff i’w chynnwys, achos mae gan bawb fwy nag un silff siawns, oes ddim?

Dyma rai i chi:

A dyma fwy:

Na, dwi ddim yn daclus iawn o ran cadw fy llyfrau mewn trefn. Ond dwi’n gwybod lle maen nhw i gyd! Hefyd, dwi ar ganol gwagio rhywfaint ar fy silffoedd achos mae’r tŷ ar werth …

dyma’r manylion os oes gynnoch chi ddiddordeb: http://www.rgjones-property.co.uk/eng/property_details.php?pid=4831196

Ro’n i wedi cael cynnig gan Gymraes leol (ieee!) ond mae hi wedi tynnu’n ôl. C’est la vie.

Beth bynnag, dyma lun o rai o fy hoff lyfrau (am wahanol resymau):

Hen ffefrynnau

Gobeithio bod hyn wedi eich ysbrydoli chi i dynnu lluniau o’ch silffoedd chithau. Nod yr ymgyrch yw dathlu llyfrgelloedd a llyfrau a hyrwyddo darllen, sydd wrth gwrs yn bwysicach nag erioed yn y cyfnod yma.

Cofiwch hefyd bod dydd Sadwrn yma, 3 Hydref, yn Ddiwrnod Siopau Llyfrau!