Mae ’na dri llyfr da iawn o stabal Gwasg Carreg Gwalch fyddai’n gwneud anrhegion Nadolig da:
I blant 9 + ( ac oedolion sy’n ddysgwyr Canolradd + yn fy marn i) be am hwn?
Dim Gobaith Caneri, rhagor o idiomau hwyliog i blant wedi eu casglu gan Siân Northey a Myrddin ap Dafydd. Yr ail lyfr ydi hwn ganddyn nhw – Dros Ben Llestri oedd y cynta, ac roedd o mor boblogaidd, dyma nhw’n penderfynu gwneud un arall.
Gewch chi wybod pethau difyr fel: o ble mae’r dywediad ‘Dim gobaith caneri’ yn dod? Dwi’m yn deud, bydd raid i chi gael copi o’r llyfr.
Wedyn efo idiomau eraill, fel ‘canmol i’r cymylau’ a ‘cerdded ling-di-long’ mae Sian Northey wedi sgwennu straeon bach syml i ddangos be maen nhw’n ei feddwl a sut i’w defnyddio nhw.
Ac mae Myrddin ap ( sy’n Brifardd) wedi sgwennu cwpledi bychain i fynd efo bob un. Fel hon ar gyfer ‘tynnu coes’:
Does dim drygioni yn y meddwl –
Dim ond jôc fach ydi’r cwbwl.
A be am ddyfalu pa idiom sy’n ffitio’r cwpled yma:
Mae’r bwyd yn edrych mor hyfryd a blasus
Nes bod fy ngheg yn diferu’n awchus!
Llyfr difyr a defnyddiol tu hwnt – a be am neud addewid i ddefnyddio un idiom newydd ohono bob wythnos yn 2016? Ond gan fod ’na 72 yn y llyfr, bydd raid i chi neud yn 2017 hefyd…
Gwasg Carreg Gwalch £5.99 Lluniau syml, digri gan Siôn Morris.
Mae ‘na ddwy stori o fewn un llyfr yn y gyfrol nesa ’ma: Pedrig y Pysgodyn Pengaled ac Arthur yn achub y Byd, gan Casia Wiliam. Mae’n rhan o gyfres sydd wedi ei hanelu at blant 6+ a dwi wedi mwynhau’r straeon yn arw. Hoffi’r lluniau gan Hannah Doyle hefyd.
Mae ’na neges werdd yn y stori am Arthur, felly jest y peth ar gyfer athrawon sydd isio gwneud gwaith thema neu brosiect ar yr amgylchedd.
A neges fach handi sydd yn stori Pedrig hefyd – be sy’n digwydd pan na fydd plant yn gwrando ar eu rhieni neu eu hathrawon!
Wel, tasech chi’n bysgodyn.
Bargen am £4.99.
Syniad ardderchog ydi cynnwys dwy stori o fewn un gyfrol os gai ddeud. Mi wnaethon ni hyn sbel yn ôl yng Ngwasg Gwynedd gyda Dwy Stori Hurt Bost,
ond roedd gen i un stori oedd yn defnyddio mwy o iaith y de ac un yn fwy o iaith y gogledd.
Adolygiad fan hyn:
http://www.gwales.com/bibliographic/?isbn=9780860742593&tsid=4#top
A chafodd y llyfr fawr o sylw ar y pryd – doedd o ddim yn ran o gyfres (clyfar iawn, bobol Carreg Gwalch…) a doedd ’na neb yn blogio fel hyn ar y pryd chwaith!
A’r 3ydd llyfr o stabal Gwasg Carreg Gwalch oedd Straeon Nadolig y Plant ond dwi wedi sôn am hwnnw yn y blog dwytha yndo.
Addas i blant 8-12 oed yn ôl y wasg, ond mae ’na straeon fysa’n plesio rhai 6 a 7 oed hefyd – ac iau, dim ond i rywun fel rhiant neu fodryb neu daid neu rywun eu darllen yn uchel iddyn nhw.
Mwynhewch!
O ia, ac i’r oedolion – mae gen i ryw lansiad bach heno – nofel hanesyddol sydd â stori drist ynddi mae arna i ofn. Ond doedd gen i ddim dewis o ran y plot – mae’r prif elfennau yn y stori yn wir – wedi digwydd go iawn nôl yn 1833. Dwi’n falch nad o’n i’n byw yn y cyfnod hwnnw, dwi’n deud wrthach chi rwan…