Newyddion brys!
Os ydach chi’n hoffi llyfrau a drama, be am fynd i Theatr Felin-fach ar 23 a 24 Hydref? Yng nghanol yr wyl ddrama flynyddol, bydd Gwasg Carreg Gwalch – gyda chydweithrediad Siop y Smotyn Du, Llanbed – yn cynnal bwrdd gwerthu llyfrau yng nghyntedd y theatr. Cyfle gwych i bori drwy a phrynu copïau cynnar o rai o deitlau y Nadolig.
I blant mae dwy gyfrol newydd: Straeon Nadolig y Plant
sef casgliad o straeon a sgwennwyd gan blant cynradd ac a ddarlledwyd ar y radio y Nadolig diwethaf. Ro’n i’n un o’r beirniaid ac mae ‘na straeon GWYCH yn eu canol nhw!
Cyfrol arall a gaiff groeso yw Dim Gobaith Caneri sy’n cyflwyno idiomau drwy stori, cartŵn a rhigwm.
Bydd y ffotograffydd Marian Delyth yn hyrwyddo ei chyfrol hyfryd o ffotograffau ac atgofion personol am Ynys Enlli
a bydd cyfrol arall yn cyflwyno straeon a hanesion nifer o’r ynyswyr yn ystod yr ugeinfed ganrif: Pobol Enlli.
Neu be am gyfrol ar hanes y traddodiad drama sy’n sylfaen gadarn i Theatr Felin-fach: Theatr a Chymdeithas gan Euros Lewis.
Bargen yr ŵyl yw cynnig yn seiliedig ar gyfres o bum nofel hanes diweddar i blant – unrhyw 3 nofel am bris 2. Mae dwy o’r nofelau – gan Gareth F. Williams – wedi ennill gwobrau Tir na n-Og ac mae’r lleill gan Angharad Tomos a Siân Lewis. Straeon ydyn nhw am drychineb glofa Senghennydd 1913; Nadolig yn y ffosydd 1914; brwydr Teulu’r Beasleys; ymgyrch baentio arwyddion ffyrdd 1969 a thaith y Cymry cyntaf i Batagonia.
Ewch a mwynhwch!