Dwi wedi sôn am gyfres Pen Dafad o’r blaen, ond gan fod Y Lolfa wedi’i dallt hi, ac wedi gyrru dau o’u teitlau diweddara ata i yn y post, dyma roi sylw i’r ddau:
<a 
Ro’n i wedi fy nrysu braidd ar y dechrau, nes i mi sylweddoli nad un o gyfres Pen dafad ydi Llanast gan Gwen Lasarus, ond rhan o gyfres newydd Cyfres Copa ar gyfer yr arddegau ( addas i’w defnyddio yn y dosbarth). Yn sicr, mae honno’n mynd i apelio mwy at griw hÿn na chriw Pen Dafad. Mae’n hollol, gwbl wahanol i un Haf Llewelyn!
Dwi’n gweld cyfres Pen Dafad yn un ddifyr am fod pob teitl mor wahanol beth bynnag. Ond mi allai ddychmygu bod athrawon a phlant yn drysu weithiau gan eu bod yn amrywio cymaint; e.e – anelu at plant Bl 5,6,7 o’n i efo Ceri Grafu
ond ges i gais i anelu at oedran uwch, Bl 7,8,9 efo’r nesa, sef Pen Dafad
Ond mae cynnig y fath amrywiaeth yn golygu y bydd o leia un yn siwr o blesio rhywun, am wn i!
Mae print Llanast gan Gwen Lasarus yn fwy na phrint Breuddwyd Siôn ap Rhys, efallai am fod Breuddwyd Siôn ap Rhys yn addas ar gyfer darllenwyr da Blwyddyn 6, 7, 8. A Blwyddyn 5 os ydyn nhw’n darllen yn wirioneddol dda. Nofel hanesyddol ydi hi, wedi ei gosod ym Meirionnydd yn 1590, sef cyfnod y Tuduriaid, cyfnod oedd yn bendant angen sylw yn y nofel Gymraeg.
Mae Siôn a’i frawd yn gorfod byw gyda’u ‘hewythr’ cas a chreulon ar ôl i’w mam gael ei chyhuddo o fod yn wrach a’i charcharu yn Nolgellau.
Dyma i chi’r dudalen gyntaf:
a dyma dudalen arall sy’n egluro be ddigwyddodd i fam Siôn ac Wmffra:

Mi wnes i fwynhau hon, ac mi fydd athrawon yn sicr yn falch iawn o’i gweld. Mae’n dod â’r cyfnod yn fyw yn gelfydd, fesul tipyn, a dwi’n siwr y bydd yn cydio yn nychymyg y darllenwyr. Ro’n i’n hoffi’r cymeriadau’n arw, yn enwedig Wmffra, y brawd bach sydd â gallu rhyfedd i drin anifeiliaid. Mi fyddwn i wedi hoffi mymryn mwy am y fam a’r hyn ddioddefodd hi wrth gael ei chyhuddo o fod yn wrach a’i rhoi yn y carchar, ond fi ydi honno! Mae gen i ddiddordeb mewn pethau felly…
Mi fyddai T Llew Jones wedi mwynhau hon; roedd hi’n hen bryd cael nofel hanesyddol, llawn antur ar gyfer yr oedran yma, ac mi ddylai hon fod yn boblogaidd iawn. Da iawn, Haf.
Mae Llanast yn wahanol iawn i lyfrau eraill Gwen Lasarus:
<a
Mae hon yn dywyllach o lawer, ac mae'r arddull yn gwbl wahanol:

Y dudalen gynta ydi honna, ac mae’n hyfryd tydi? Mae hon yn nofel sy’n ymylu ar farddoniaeth yn aml, felly mi fydd yn apelio at ddarllenwyr sy’n hoffi arddull hudol, myfyriol.
dyma i chi flas arall o’r canol:

Hawdd iawn ei ddarllen, a stori a chymeriadau ddylai apelio at Blwyddyn 9, 10, 11. Mae gen i deimlad y bydd yn plesio merched yn fwy na bechgyn ar y cyfan, ond cofiwch roi gwybod os ydw i’n anghywir! Dwi ddim yn hollol siwr os alla i dderbyn bob dim sydd ynddi, cofiwch. ee: fyddai bachgen yn ei arddegau yn rhedeg i ffwrdd heb bres na bwyd ganol gaeaf oherwydd ei fod yn mynd i fod yn dad? Efallai y gellid egluro mwy am ei berthynas efo’i fam, ond efallai mai fi sydd angen gwybod pethau fyddai ddim yn poeni darllenwyr eraill. Rhywbeth i’w drafod yn y dosbarth yn sicr.
Mi fedrai weld hon yn codi sgyrsiau difyr, ac mi fyddai bechgyn yn sicr â barn am Sbeic – a’r ferch sy’n gyrru negeseuon tecst cas a bygythiol ato.
O, ac un peth bach arall ( dibwys efallai), ond allwn i ddim derbyn y defnydd o’r ferf ‘sboncio.’ I mi, oen bach neu gwningen sy’n sboncio. Felly roedd ‘Sbonciodd ei galon a daeth cryndod drosto’ yn fy nharo’n od ar y naw. Be oedd o’i le efo ‘neidio’? Ond unwaith eto, os mai fi sy’n bod yn ffyslyd, rhowch wybod!