Dwi wedi dotio at hwn am sawl rheswm:
- Mae’n lyfr bychan ac ysgafn iawn a hawdd ei gario o gwmpas (ee- ar awyren i Batagonia).
- Mae’n rhad – dim ond £4.95.
- Mae o jest y peth ar gyfer plant iau a dwi jest a drysu isio gweld be fydd Anna Gwen (newydd gael ei 4 oed) a Vinnie John (3 oed – dwi’n meddwl? Byth yn cofio!) yn ei feddwl ohono fo.
Mae’r syniad yn un syml ond hyfryd. Dyma gwpwl o engreifftiau.
A fy ffefryn:
Fel y gwelwch chi, mae’r lluniau yn arbennig (arhoswch nes gwelwch chi’r llew) ac os dach chi’n dysgu Cymraeg, mae ‘na ddwy dudalen o eirfa Saesneg yn y cefn. Dwi’n dangos un i chi.
Da iawn Luned Aaron a Gwasg Carreg Gwalch!