Archif

All posts for the month Gorffennaf, 2019

Chwedlau ardal yr Eisteddfod

Published Gorffennaf 31, 2019 by gwanas

20190731_091836

Ia, map o ardal Eisteddfod Dyffryn Conwy, ond yn dangos lle mae rhai o’r chwedlau. Hyfryd! Felly os dach chi awydd mynd am dro yn ystod yr wythnos, pam ddim i rai o’r mannau hyn?

Bydd raid i chi brynu/benthyca’r llyfr wrth gwrs:

20190731_091851

Deg o Chwedlau Dyffryn Conwy gan Myrddin ap Dafydd – sy’n cyhoeddi cymaint o lyfrau y dyddiau yma, dwi’n cael trafferth cadw i fyny efo fo – mae gen i bentwr o’i lyfrau i’w darllen pan gai gyfle. Ond mi wnes i bori drwy hon dros frecwast bore ma – difyr!

Mae’r arwydd ar gyfer Cadair Ifan Goch wastad wedi tynnu fy sylw a gwneud i mi feddwl pwy oedd Ifan Goch, tybed? Wel, mae’r ateb yn y stori hon:

20190731_092350

Ia, cawr oedd o, ac os dach chi isio gwybod mwy, mae’r llyfr ar gael am £6.95. Ond er cystal lluniau Lleucu Gwenllian a’r llun o gi dieflig yr olwg, dwi’n siŵr mai ci coch fel fy ngast i oedd ci Ifan go iawn!

DSC_0194

Ro’n i wedi clywed am chwedl Llyn yr Afanc yn Metws y Coed, ac mae na fersiwn fywiog iawn ohoni yma. Dyma’r dudalen olaf efo llun yr afanc wedi ei ddal, a hanes ych-a-fi Pwll Llygad yr Ych:

20190731_093257

Os fyddwch chi’n crwydro i Ysbyty Ifan a gyrru neu gerdded dros fawnogydd a rhosydd y Migneint, byddwch yn ofalus a darllenwch stori Y Telynor yn y Gors yn gyntaf. Dim syniad pam fod y llun ar ei hanner, sori, ond mi gewch ei weld yn llawn yn y llyfr…

20190731_092938

Mae’n gyfrol fydd yn boblogaidd iawn efo pobl yr ardal wrth reswm, ond dydi Myrddin ddim yn dwp, dwi’n siŵr y bydd Steddfodwyr sydd am wybod mwy am yr ardal a hanes enwau ac ati yn hapus iawn efo hi hefyd.

Os ydach chi’n gyfarwydd â stori Culhwch ac Olwen, be am ddilyn ôl troed Culhwch a phedwar o farchogion eraill y Brenin Arthur i chwilio am Dylluan Cwm Cowlyd? Iawn, bydd angen defnyddio eich dychymyg i weld y coedwigoedd a fu yno ers talwm, gan mai tir mawnog, corsiog sydd yng Nghwm Cowlyd bellach, ond mae’n werth mynd yno yr un fath, ac os welwch chi dylluan… wel!

Dyma llyfr ar gyfer plant ac oedolion – a jest y peth i’w ddarllen yn uchel yn y garafan cyn mynd i gysgu…

O, a dwi’n nabod nifer o bobl sy’n gwirioni pan fydd map mewn llyfr – mi wnaiff chwip o anrheg iddyn nhw hefyd!

Beth i’w brynu yn y Steddfod?

Published Gorffennaf 26, 2019 by gwanas

Mi fydd ‘na lwyth o lyfrau hen a newydd o bob math ar faes yr Eisteddfod yn Llanrwst, a llwyth o ddigwyddiadau a chyfleon i gyfarfod awduron hefyd. Fel hwn, er enghraifft:

EAJzBwLXsAIbevT

A dwi wedi addo darllen stori yn y Pentre Plant am 3.00 ar y pnawn Llun, sef fy stori yn Straeon Nos Da Sali Mali.

image001

Roedd un arall o’r awduron yn darllen a llofnodi yn y Sioe yn Llanelwedd, sbiwch:

EAKEM6VXUAAGLS5

Ia, Elen Pencwm, efo plentyn mawr iawn ar ei glin – brawd un arall o’r awduron, fel mae’n digwydd! Llyr Ifans yr actor ydi hwnna, a Rhys (actor arall…) sydd wedi bod yn sgwennu.
A dyma’r llun bach sydd ar ddiwedd stori Elen:

20190726_162534

Mae’r llyfr yn un hyfryd, clawr caled, efo tudalennau a lluniau sgleiniog, a dyna pam ei fod yn £12.99. Ond mae’n drysor bach o lyfr, efo 12 o straeon gwahanol. Mi wnes i fwynhau pob un ond mae’n siŵr y bydd rhai gwahanol yn apelio at wahanol ddarllenwyr ifanc.

Mae’n deud ar y cefn y bydd yn apelio at blant o bob oed. Hm, dwi’m yn siwr am hynna, chwaith! Ar gyfer plant iau mae Sali Mali a’i ffrindiau wedi’r cwbl.

Dyma flas i chi o stori Tudur Owen, i chi gael syniad (mae’n un dda!), ac mae ‘na lun mawr fel’na efo pob stori:

20190726_162458

A dyma ddechrau un Rhys Ifans, sydd, fel y byddech chi’n ei ddisgwyl, yn ddigri:
20190726_162445

Mae hyd yn oed Eigra – ia, yr anhygoel Eigra Lewis Roberts (bydd sesiwn amdani hi yn y Babell Lên gyda llaw) wedi cyfrannu stori, ac un dda ydi hi hefyd:

20190726_162523

Mae ‘na fwy nag un Prifardd wedi cyfrannu. Mae Mererid Hopwood yn un arall, ac mae diweddglo ei stori hi’n dangos i chi sut gymeriad sydd gan Mererid. Ydi, mae hi’n un glên ac annwyl, ac yn fardd:

20190726_162604

Mae’n siŵr bod fy stori innau’n deud llawer am fy nghymeriad innau, a dewis sgwennu am Y Pry Bach Tew drwg wnes i…

20190726_163420

Bydd raid i chi brynu/benthyca copi o’r llyfr i weld sut lun mawr ges i! Ac i ddarllen gweddill y straeon.
Llongyfarchiadau i Simon Bradbury am wneud lluniau mor hyfryd.

Gyda llaw, os wnewch chi brynu copi o Barn y mis yma, mae ‘na lawer o sylw i lyfrau plant ynddo, yn cynnwys Straeon Nos Da Sali Mali a nifer o’r llyfrau dwi eisoes wedi eu hadolygu ar y blog yma.

A dwi’n wirioneddol chyffd a diolchgar bod Edenia wedi cael ei chanmol:

20190725_094903

Ieee! Diolch byth. Ar ôl y slepjan gafodd Y Diffeithwch Du ar Radio Cymru, roedd darllen hynna’n ryddhad mawr. Ffiw. A diolch Gwenan Mared am fod mor glen. Plîs wnei di adael i mi brynu diod/cacen i ti yn y Steddfod?

Llyfr dwi wir yn edrych ymlaen at ei ddarllen ydi hwn gan Ifan Morgan Jones:

EAOeJAaXUAAFYY9

Dwi’n meddwl mai ar gyfer oedolion mae o, ond mae’r clawr yn gwneud i mi feddwl efallai fod Babel ar gyfer Oedolion Ifanc (OI) hefyd. Efallai mod i’n anghywir, cofiwch. Ond tydi o’n chwip o glawr?

A sôn am gloriau, mae Gomer wrthi’n ail-gyhoeddi llyfrau Blodwen Jones, fy llyfrau i ar gyfer dysgwyr, ac wedi comisiynu Brett Breckon i wneud cloriau newydd. Ssh, peidiwch a deud, ond dyma fraslun o glawr newydd Bywyd Blodwen Jones. Dwi wedi gwirioni!

BlodwenJ_finalA-W_300Flat

Cadi a’r Celtiaid ar y ffordd!

Published Gorffennaf 18, 2019 by gwanas

CADI CELTIAID P5

Mae Janet Samuel yr arlunydd wedi gyrru cynlluniau bras o ddarluniau ar gyfer y 4ydd llyfr am Cadi, Cadi a’r Celtiaid, a dwi wedi gwirioni!

Dyma i chi un o fy ffefrynnau, gan ei fod yn cynnwys ci coch tebyg iawn i Del ni!

CADI CELTIAID P39
DSC_0194

A dyma i chi flas o chydig o luniau eraill:

CADI CELTIAID P28-29CADI CELTIAID P33 copyCADI CELTIAID P37 copyCADI CELTIAID P41

A sgwn i os allwch chi ddyfalu lle mae’r stori wedi ei gosod?

CADI CELTIAID P24-25 copy

Dydi’r clawr ddim wedi ei benderfynu’n iawn eto. Ro’n i’n hoffi hwn, ond roedd fy Modryb Rhiannon (sy’n dallt y pethau ‘ma) yn teimlo ei fod yn rhy frawychus ar gyfer plant 5-8 oed, ac mae hi’n iawn tydi?

CADI CELTIAID COVER2 FRONT copy

Hwn oedd y cyllun arall, ond mae angen chydig mwy o gliwiau ynglyn â chynnwys y stori dwi’n meddwl. Be dach chi’n feddwl?

CADI CELTIAID COVER1 FRONT

Methu aros i weld y cyfan yn orffenedig ac yn llawn lliw!

Gyda llaw, mae ‘na arddangosfa ‘Darlunwyr Cymreig’ yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth ar hyn o bryd, yn dangos “y gorau ym maes darlunio Llyfrau Cymreig, o’r Mabinogion i Rala Rwdins” a dwi jest a drysu isio mynd i’w weld o, hyd yn oes os ydyn nhw wedi anghofio am Janet!

D9krhn9X4AAZ1GKD9krdBsXoAE8TuZD9krfM4WsAAWm8i

Mi fydd ar agor tan Awst 22.

Asiant A – Her LL

Published Gorffennaf 17, 2019 by gwanas

D-jJikyXYAEY57P

Dyma be sgwennais i am y llyfr cyntaf, Asiant A:

Mi wnes i hedfan drwy hon, mi wnewch chithau hefyd, a dwi’n edrych ymlaen at y nesa. Mae Alys yn gymeriad dwi am weld mwy ohoni yn bendant.

A dyma’r ail yn y gyfres gan Anni Llŷn wedi cyrraedd!

20190717_103919

A deud y gwir, mae hi yn y siopau ers tro, ond es i â hi efo fi i Nant Gwrtheyrn gan feddwl y cawn i amser i’w darllen yno – ha! – a dim ond newydd ddod o hyd iddi eto ydw i.

Dyma’r clawr cefn:
20190717_104114

Felly mae Alys, yr ysbîwr, yn dal yn 14 oed (dyna fydd hi am byth, siŵr gen i!) ac yn cael antur arall. Mae’r syniad y tu ôl i’r stori hon yn grêt, ac mi fydd darllenwyr sy’n mwynhau posau yn mwynhau’n arw. Mae’r tensiwn a’r elfen gystadleuol yn dod drosodd yn arbennig.

Iawn, mi wnai gyfadde i mi gael trafferth ar y dechrau, roedd hi’n araf yn cydio ynof fi. Ond dyna’r drafferth efo llyfrau sy’n ran o gyfres… faint o atgoffa sydd angen ei wneud? Os dach chi’n eu darllen un ar ôl y llall, does dim problem wrth gwrs, ond roedd ‘na sbel ers i mi ddarllen y gyntaf, a do’n i ddim yn cofio bob dim o bell ffordd. Pwy oedd Lleucu a Twm? A Mrs Pi? Oedd angen eu henwi o gwbl ar y dudalen gyntaf?

20190717_103931

Ond efallai mai fi sy’n hen ac yn dwp. Ta waeth, unwaith i mi “ddallt y dalltings” a chyrraedd y cystadlu, ro’n i wedi fy machu go iawn, ac yn mwynhau bob munud. Roedd yn f’atgoffa o ‘The Hunger Games’ efo criw o bobl ifainc gyda phersonoliaethau a galluoedd cwbl wahanol yn gorfod cystadlu yn erbyn ei gilydd. Da iawn, iawn.

Dyma i chi dudalen arall i chi gael blas:

20190717_104104

Mae’r stori’n llifo’n gyflym, y cymeriadau’n ddifyr, rhai â iaith y gogledd, rhai â iaith y de, ac fe ddylai plant 9-12+ fwynhau hon gymaint â’r gyntaf. Mae’r ‘baddies’ yn hyfryd o ddrwg ac mae ‘na ôl gwaith ar y plot.

Yn fy marn i, byddai darnau o hon yn gweithio’n wych ar lwyfan, felly byddai’n ddewis da ar gyfer cystadleuaeth Darllen Dros Gymru:
http://www.cllc.org.uk/gwasanaethau-services/plant-children/gweithgareddau-activities?diablo.lang=cym

Gawn ni weld! Ac o sôn am y gystadleuaeth honno, dwi’n gwybod y byddai awduron wrth eu bodd yn cael gwahoddiad i weld darnau o’u llyfrau yn cael eu perfformio yn y rownd derfynol… jest deud.

Dyma chydig o luniau o’r rowndiau terfynol eleni, a llongyfarchiadau i bawb! Mi glywais i eich bod chi’n arbennig o dda.


D-dNXU9XoAAAaOd

O, a dyma i chi syniad gwych o Brasil (sy’n digwydd yn yr Eidal hefyd, mae’n debyg):

Screenshot_20190714-182026_Facebook

30% yn llai yn ail-droseddu? Dyna brofi bod darllen yn gallu newid bywydau! Efallai y bydd troseddwyr llyfrau Anni yn darllen tra byddan nhw yn y carchar ac yn newid yn llwyr…?

Gwerthwyr Gorau i blant a’r Goeden Ioga ac Ysgol Maes y Gwendraeth

Published Gorffennaf 3, 2019 by gwanas

Hwrê! Drwy ryw ryfedd wyrth, mae 7 o’r 10 Gwerthwr Gorau ar gyfer Mehefin yn lyfrau gwreiddiol Cymraeg, wedi eu sgwennu gan awduron o Gymru! Dyma’r rhestr – cliciwch ar y ddolen isod:

http://www.gwales.com/ecat/?lang=CY&tsid=1

Iawn, mae 2 o’r tri uchaf yn addasiadau, ond tydi hi’n braf gweld llyfrau fel hyn yn cael eu GWELD? A da iawn Genod Gwych a Merched Medrus (Rhif 2) am fachu sylw’r siopau llyfrau cystal!

20190526_100316

Dach chi’n gweld, nid faint sydd wedi eu gwerthu sy’n gyfrifol am y rhifau yma, ond faint sydd wedi eu harchebu gan y siopau, sef faint maen nhw’n meddwl fydd yn gwerthu neu faint o archebion maen nhw wedi eu cael ymlaen llaw gan gwsmeriaid. Felly mae’n bosib y caiff llwythi o Seren Orau’r Sêr! / Super Duper You! (Rhif 1) eu gadael yn hel llwch ar y silffoedd, ac mai Genod Gwych a merched Medrus fydd yn gwerthu fwyaf yn y pen draw. Fel’na mae’r system yn gweithio.

A braf ydi sylwi mod i eisoes wedi rhoi sylw i bob un o’r llyfrau Cymraeg ar y rhestr ar y blog yma, wel, heblaw am un: rhif 5, Y Goeden Ioga gan Leisa Mererid.

20190703_142339

Felly dyma roi’r sylw haeddiannol yn syth bin! Yn un peth, mae’n lyfr sy’n TEIMLO’N neis am ryw reswm. Oherwydd y siâp, y pwysau, llyfnder y clawr? Dwi ddim yn siwr, ond ro’n i wrth fy modd yn ei deimlo yn fy nwylo.

Hefyd, mae’n lyfr unigryw, gwahanol (disgwyl dim llai gan Leisa Mererid!), y cyntaf o’i fath yn y Gymraeg, sef llyfr sy’n cyflwyno ioga i blant (a’r teulu cyfan o ran hynny).

Dyma lun o Leisa gyda llaw, sy’n athrawes ioga ac yn actores ac yn berson annwyl tu hwnt.

Selog-a-Leisa-Mererid-ioga-Caergybi-yoga-in-Holyhead-300x300

Dach chi’n dysgu siapiau ioga syml trwy ddilyn hanes un hedyn bach wrth iddo dyfu’n goeden:

20190703_142455

Ac fel y gwelwch chi, mae’r cyfan yn odli! A hynny’n gwbl naturiol a syml – ond dydi hi ddim yn hawdd sgwennu felna, nacdi? Nacdi.

Mae’r darluniau gan Cara Davies yn hyfryd a gwahanol hefyd, yn siwtio’r cynnwys i’r dim. Dyma i chi ddwy dudalen arall, ac mae’n ddrwg gen i am y golau rhyfedd, fy ‘serious reader’ i ydi hwnna!

20190703_142640

Allwch chi ddim peidio â cheisio gwneud y siapiau sy’n y lluniau eich hun. Ond na, dach chi wir ddim angen gweld llun ohona i’n rhoi cynnig arni.

Mae’n gyfrol wirioneddol hyfryd, yn fargen am £5.99 gan Wasg Gomer. A dwi’n synnu dim bod rhai o enwogion Cymru wedi gwirioni efo hi:

D9l3qwbX4AEjsAk
D9lNNK2XsAglFYA

Ia, Rhys Ifans a’i fam yn fanna!

Gyda llaw, os oeddech chi’n meddwl tybed pam fod Llinyn Trôns ar y rhestr, a hwnnw allan ers bron ugain mlynedd bellach, wel, mae’n amlwg bod rhai ysgolion wedi gweld bod eu setiau nhw o’r llyfr wedi mynd yn fler neu’n brin ac wedi archebu set newydd neu ddau. Ieee! Dwi ddim yn annog disgyblion i amharchu’r llyfrau o gwbl wrth gwrs, jest yn falch eu bod yn cael cymaint o ddefnydd.

Fel mae’n digwydd, ro’n i yng Ngwersyll Glan-llyn neithiwr, efo criw Blwyddyn 9 Ysgol Maes y Gwendraeth, sy’n cael cwrs Llinyn Trôns bob blwyddyn, sef cyfle i wneud y pethau sy’n digwydd yn y llyfr (a mwy – does dim cerdded afon yn y nofel, sori) a chyfarfod yr awdures, wrth gwrs, a bathu cyffelybiaethau gwallgof yn arddull Llion/fi. Roedden nhw’n griw hyfryd, a dyma ni:

20190702_215334

(Sori, Zack/Zak…)

Ac i orffen, dyma syniad gwych o Loegr, sy’n gwneud dod o hyd i lyfrau yn antur ac yn rhoi bywyd newydd i lyfrau yr un pryd. Be am i rywun wneud yr un peth yn eich tref/pentref chi? Mi faswn i wedi bod WRTH FY MODD efo hyn yn blentyn:

https://www.cambridge-news.co.uk/news/local-news/cambridgeshire-st-neots-book-children-16490689