Archif

All posts for the month Hydref, 2017

Llyfrau lliwio Cymraeg

Published Hydref 31, 2017 by gwanas

Isio cefnogi llyfrau Cymraeg ond ddim yn hoffi darllen? Neu’n nabod rhywun sydd ddim yn hoffi darllen am ryw reswm? Neu ydach chi’n un o’r miloedd sy’n cael pleser wrth liwio? Wel, dyma syniad ar gyfer anrheg Nadolig:

 

image001

Mae Lliwio’r Chwedlau / Colouring Welsh Tales gan yr artist Dawn Williams yn cynnwys 21 o luniau hyfryd i’w lliwio, yn seiliedig ar chwedlau poblogaidd Cymru, gan gynnwys golygfeydd o straeon Blodeuwedd, Cantre’r Gwaelod, Twm Siôn Cati, Rhys a Meinir, Santes Dwynwen, a Culhwch ac Olwen.

Mae’n dilyn llwyddiant Lliwio Cymru / Colouring Wales, sef y llyfr lliwio cyntaf Cymreig i oedolion a gyhoeddwyd llynedd gan werthu dros fil o gopïau.

 

9781784613556

Ond maen nhw jest y peth ar gyfer plant o rhyw 10 oed i fyny hefyd ddeudwn i – os ydyn nhw’n hoffi lliwio wrth gwrs!

Gwelwyd twf yng ngwerthiant llyfrau lliwio i oedolion wedi i seicolegwyr honni bod canolbwyntio ar liwio yn cael gwared ar feddyliau negyddol, yn gwella effeithiau straen ac yn ymlaciol. Er mai rhywbeth i blant oedd lliwio rhwng y llinellau ar un adeg, mae bellach yn cael ei ddefnyddio fel math o therapi i helpu oedolion leddfu straen a gorbryder ac i ymlacio’r meddwl, y corff a’r enaid. Mae ‘na lyfrgelloedd yn cynnig sesiynau lliwio ers tro rŵan, a dwi’n siŵr y byddan nhw’n hapus iawn efo’r llyfr yma.

Os oes gynnoch chi awydd rhoi cynnig arni, mae’r sesiwn nesaf yn Llyfrgell Dolgellau ar Tachwedd 7fed, 10.30-11.30 a Sesiwn liwio nesaf Llyfrgell Porthmadog ar 14 Tachwedd 1:30- 3:00. Dyma griw Porthmadog yn ddiweddar:

22730506_1764460256919631_8795801736744653503_n

Mae’n siŵr bod llyfrgelloedd eraill wrthi hefyd.

‘Mae chwedlau Cymreig yn rhan bwysig o’n diwylliant a’n hanes ni fel Cymry ac wedi ffurfio asgwrn cefn corff ein llenyddiaeth Cymraeg,’ meddai Dawn, yr arlunydd. ‘Gobeithio bydd y llyfryn hwn yn ffordd wahanol o adrodd straeon ac yn galluogi i bobl ymlacio hefyd.’ A dyma hi yn edrych yn falch iawn o’r llyfr:

image002

Mae hi’n haeddu edrych yn falch tydi! Da iawn Dawn. Pob lwc efo’r gwerthiant.

Ar gael rwan am £4.99, (Y Lolfa)

Cyfres newydd i blant 5-8 oed

Published Hydref 21, 2017 by gwanas

DMbknFfX4AQe-9s

Ieee! O’r diwedd! Mae Nia Gruffydd, sydd wedi gweithio fel Llyfrgellydd Plant a Phobl ifanc yn  Ynys Môn a Gwynedd am flynyddoedd ( felly mae hi’n gwbod ei stwff) (er mai Rheolwr Gwasanaeth Llyfrgelloedd yng Ngwynedd ydi hi rŵan) wedi sgwennu cyfres o bedair o nofelau byr gwreiddiol Cymraeg i blant 5 i 8 oed. Cyfres Maes y Mes ydi’r enw, ac mae’r gyntaf, sef Mwyaren a’r Lleidr newydd ei chyhoeddi! Mae’n debyg bod yr ail, Rhoswen a’r Eira hefyd, ond dwi’m wedi gweld honno eto.

Mae’r pedwar llyfr yn canolbwyntio ar wahanol gymeriadau o blith y tylwyth teg sy’n byw yng nghoedwig Maes y Mes. Yn Mwyaren a’r Lleidr, mae’r hydref wedi cyrraedd ac mae Mwyaren y dylwythen deg â’i bryd ar wneud teisen fwyar duon.

FullSizeRender tud1

Ond mae cyffro yn y goedwig gan bod Swnyn, un o blant y tylwyth teg, ar goll a does dim golwg ohono fo yn unlle, ac ar ben hynna i gyd, mae ‘na rywun neu rywbeth yn dwyn  teisennau o sil ffenest Nain Derwen! Be sy’n mynd ymlaen ‘dwch? Mi fydd raid i chi ddarllen y llyfr eich hun i gael gwybod…

Mi wnes i fwynhau’n stori’n arw ac mi faswn i wedi bod wrth fy modd efo cyfres fel hon yn hogan fach. Mi ddylai unrhyw blentyn sy’n hoffi straeon am dylwyth teg bach direidus ac annwyl fwynhau hon. Mae’r gyfres yn chwip o syniad da, straeon bach hyfryd, syml ond llawn dychymyg. Mae’r enwau jest y peth (Briallen, Brwynen, Sbrowtyn ayyb) ac mae’r cloriau a’r lluniau gan Lisa Fox

2661c5_5bb2a5a2647a406680757e1a2db037d1

yn arbennig hefyd. Mi fyddai mwy o luniau tu mewn wedi bod yn braf ond mater o gost fyddai hynny wedyn ac mae’r rhain yn rhesymol iawn am £3.99 yr un.
Dwi’n arbennig o hoff o’r logo ‘Llyfr Gwreiddiol nid addasiad’ ar y cefn!

FullSizeRender

Edrych mlaen at weld mwy o’r logo yma!

Edrych mlaen at weld y llyfrau eraill hefyd.

holiawdurmam-copy

Dyma i chi be ddeudodd Nia ( dyna hi yn y llun) am y gwaith sgwennu:

‘Mae’n waith caled, a doeddwn i ddim yn sylweddoli gwaith mor astrus oedd llunio straeon sydd mor syml â’r rhain. Mi fues i’n Llyfrgellydd Plant a Phobl Ifanc am dros 15 mlynedd, a does dim profiad tebyg i ddarllen darnau cyffrous allan o lyfrau a chael y plant yn gwrando’n astud, ac yn mynd ati i ddarllen y llyfr eu hunain wedyn.’

‘Roeddwn i eisiau sgwennu’r math o straeon fyddwn i wedi mwynhau’u darllen yn ifanc, lle mae rhywun yn gallu dianc i fyd y dychymyg, a dod ar draws merched a bechgyn cyffredin, cydradd â’i gilydd, yn cael antur!’

Bydd rhaid aros tan y gwanwyn i fwynhau y drydedd a’r bedwaredd yn y gyfres, sef Briallen a Brech y Mêl a Brwynen a’r Aderyn Anferth.

Mae Mwyaren a’r Lleidr a Rhoswen a’r Eira gan Nia Gruffydd (£3.99, Y Lolfa) ar gael rŵan.

Gobeithio y caiff y llyfrau yma y sylw maen nhw’n ei haeddu rŵan! Ar flaen y silffoedd mewn siopau a llyfrgelloedd plîs… ac mi wnawn nhw anrhegion Nadolig perffaith.

Sgwennu – Blwyddyn 5 a 6

Published Hydref 18, 2017 by gwanas

Unwaith eto eleni, mae rhaglen Aled Hughes ar BBC Radio Cymru yn cyflwyno cystadleuaeth i ddisgyblion blynyddoedd 5 a 6 ysgolion cynradd Cymru.

Mae “Stori Fer Aled Hughes” yn galw ar ddisgyblion i ysgrifennu stori fer o ddim mwy na 500 gair ar thema “Y Nadolig”.

Bydd y bump stori fuddugol yn cael eu perfformio gan un o enwogion Cymru a’u darlledu ar BBC Radio Cymru rhwng y 18fed a’r 22ain o Ragfyr (gyda chaniatâd y disgybl, rhieni/gwarchodwyr a’r ysgol).

Bydd dau o awduron plant Cymru – sef Casia Wiliam ( Bardd Plant Cymru) a fi:

 

( sori am y llun gwrach- ond mae hi bron yn Galan Gaeaf)

– yn pori drwy’r straeon ac yn dewis y pump stori orau. Cofiwch – gall fod ar unrhyw bwnc o fewn thema “Y Nadolig” ond mae’n rhaid i’r stori fod yn ffuglen ac mae pump elfen sy’n holl bwysig i’r straeon:

• Gwreiddioldeb
• Plot
• Cymeriadu
• Iaith
• Mwynhad

Os am gystadlu, rhaid i’r ysgol anfon eu straeon byrion (ynghyd â ffurflen gais) i Radio Cymru erbyn y dyddiad cau, Tachwedd y 24ain 2017. Felly brysiwch!

Y cyfeiriad yw:

Stori Fer Aled Hughes
BBC Radio Cymru
Bryn Meirion
Bangor
LL57 2BY

Rhaid nodi’n glir ffugenw’r disgybl a’r ysgol ar ben pob stori os gwelwch yn dda.

Bydd angen i’r ysgol gadw rhestr o’r enwau sy’n cyd-fynd a’r ffugenwau.

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â rhaglen Aled Hughes ar aled@bbc.co.uk

Iawn? Dwi’n gwybod bod enillwyr y gorffennol ( a’u hathrawon – a’u hysgolion – a’u teuluoedd – a’u ffrindiau) i gyd yn hapus iawn eu bod wedi mynd i’r drafferth i sgwennu – ac mi gafodd rhai eu cyhoeddi mewn llyfr hyd yn oed!

9781845275013_1024x1024

POB LWC!

Cystadleuaeth Darllen Dros Gymru 2018

Published Hydref 17, 2017 by gwanas

Mae’r llyfrau wedi eu henwi ar gyfer: Cystadleuaeth Llyfrau i Ysgolion Cymru 2017–2018!

Dyma i chi’r rhai ar gyfer Rownd Sirol Blynyddoedd 3 a 4 – cliciwch ar y ddolen:

 

Darllen_Dros_Gymru_Rownd_Sirol_Bl._3_a_4_2017-2018

Falch o weld rhain yno! 9 allan o 10 llyfr yn rai gwreiddiol Cymraeg – da. A dau gan fam a merch, digwydd bod – Haf Llewelyn a’i merch Leusa. Y tro cynta i hynna ddigwydd, mae’n siŵr?

imageLayout 1imagegetimg20141024Straeon-Gorau-Byd9781845276164getimggetimggetimg

 

A dyma rai Blynyddoedd 5 a 6. 3 allan o 10 yn addasiadau. Ond mae ‘na lai o lyfrau gwreiddiol ar gael ar gyfer yr oedran yma, dwi’n gwybod.

Darllen_Dros_Gymru_Rownd_Sirol_Bl._5_a_6_2017-2018

Dyma luniau rhai o’r cloriau:

Cysgod_y_Darian

9781845276232_1024x1024

220px-Dirgelwch_y_Bont  Hoffi’r clawr hwn yn arw, gyda llaw.

 

image1

trysorfa_chwedlau_cymru

Ac mae maint y lluniau yn dibynnu ar faint y lluniau oedd ar gael ar y we – dim byd i neud efo fy marn i, iawn!

Mae’n siwr bod y rhan fwyaf o ysgolion eisoes wedi cael y wybodaeth uchod, ond rhag ofn bod gan ryw ysgol awydd rhoi cynnig arni am y tro cynta erioed, cysylltwch â darllendrosgymru@llyfrau.cymru | 01970 624 151 os hoffech chi ragor o wybodaeth.

Ac mae’n siwr bod awduron y llyfrau hyn yn falch o gael gwybod eu bod ar y rhestr hefyd! Sgwn i pa rai gaiff eu dewis i’w trafod, a pha rai i wneud cyflwyniad? Hmm…

Mwy o newyddion da: mae ‘na rifyn newydd o Mellten yn y siopau:

DMV8gRGXUAAfylm

Pob hwyl ar y darllen – a phob lwc i’r ysgolion!

Deri Dan y Daliwr Dreigiau

Published Hydref 13, 2017 by gwanas

image

Llyfr newydd, gwreiddiol gan Haf Llewelyn, a lluniau hyfryd gan Petra Brown. Wel, newydd ers yr haf ond dim ond rŵan dwi’n llwyddo i’w darllen hi! Mae’n werth aros weithiau…

Mae’n ran o gyfres Roli Poli, fel Nan a’r sioe fawr gan Ifan Jones Evans.

9781785621093_large

Felly mae wedi ei anelu at blant 7-9 oed ( yn fras).

Mae pawb yn disgwyl i Deri Dan ddilyn ôl traed ei gyndeidiau trwy fod yn ddaliwr dreigiau o fri. Ond “byddai’n well gan Deri Dan fod yn UNRHYW BETH yn y byd, heblaw bod yn ddaliwr dreigiau…” Mae o’n hoffi dreigiau; mae ganddo ddraig fach anwes, annwyl o’r enw Beti a dydi o ddim isio bod yn gyfrifol am gaethiwo draig mewn dwnjwn tywyll… ond does ganddo fawr o ddewis. Y canlyniad ydi stori ddifyr, llawn antur a hiwmor ddylai blesio plant sy’n ei darllen yn annibynnol neu fel dosbarth.

Dyma i chi sut mae’n dechrau ( cliciwch ar y llun i’w wneud yn fwy):

A dyma lun yn nes ymlaen yn y stori, sy’n rhoi syniad da i chi o arddull  y llyfr:

image

A dyma adolygiad oddi ar wefan gwales.com gan ddarllenydd 9 oed:
Adolygiad Gwales
Stori antur yw Deri Dan y Daliwr Dreigiau gan Haf Llewelyn. Stori gynhyrfus, lawn dychymyg am deulu dewr a mentrus sy’n ceisio dal dreigiau ffyrnig a pheryglus ers blynyddoedd. Roedd Taid Deri Dan yn ddaliwr dreigiau adnabyddus, ac wedi llwyddo i ddal Dorcas y ddraig enfawr pan oedd yn iau. Mae Deri Dan a Beti yn mynd am antur i geisio dal Dot y ddraig sy’n dinistrio gerddi Cwm Cynnes.

Perthynas agos sydd gan Deri Dan a Beti’r ddraig fach ffyddlon, sef anifail anwes Deri Dan. Ond a ydy Deri Dan a Beti yn llwyddo i ddal y ddraig wyllt sy’n creu trafferth i drigolion pentref Cwm Cynnes? A all Deri Dan a Beti achub y dydd er mwyn sicrhau bod diwrnod carnifal Cwm Cynnes yn llwyddiannus?

Mae’r awdur talentog wedi defnyddio iaith loyw a llawer o idiomau, ansoddeiriau a chymariaethau er mwyn creu dirgelwch. Gall chwarae gyda geiriau hefyd i ychwanegu hiwmor i’r stori, a lluniau llawn manylder sy’n creu cymeriadau lliwgar a realistig sydd i’w gweld gan yr arlunydd crefftus, Petra Brown.

Llyfr cyffrous a llawn antur ydi hwn. Heb os nac oni bai, bydd plant sy’n hoffi dreigiau ac anifeiliaid anwes wrth eu boddau yn ei ddarllen ac ar bigau drain i’w orffen. Rwyf yn argymell y llyfr yma i ddarllenwyr ifanc rhwng 6 a 9 oed, felly dewch am helfa i chwilio am ddreigiau cynddeiriog gyda Deri Dan a Beti bach!

Siwan Fflur Rees (9 oed)

Wedi ei phlesio, ddeudwn i! A finna hefyd, Siwan.
Ond jest un peth bach. Mae’r rhain yn bwysig i’r stori:
chillies-1200x800
Ond rhaid i mi ddeud, mae’r sillafiad ‘tsili’ yn edrych braidd yn ‘sili’ i mi. Mae Geiriadur Bruce yn hapus efo ‘chilli’; mae’r sillafiad dros y byd yn amrywio rhwng chili, chile a chilli. Ond dyna fo, fydda i byth yn bwyta ‘tsips’ chwaith na galw rhywun yn ‘tsaf’. Chips a chafs ydyn nhw i mi. Anghytuno? Cytuno? Trafodwch!
Ond diolch Haf, am lyfr gwreiddiol arall ar gyfer plant 7-9 oed. Ieeee!
Mae plant Cymru yn ysu am fwy o straeon tebyg – dwi’n gwybod achos dwi wedi bod yn siarad efo llwythi ohonyn nhw yn ddiweddar. e.e: dyma griw o blant ardal Llanwddyn a Phapur Bro yr Ysgub, lle fues i’n darllen straeon fel rhan o’r Ffair ddydd Sadwrn ( a phrynu chytnis a bara brith bendigedig):
FullSizeRender
Ac fel rhan o Wythnos LLyfrgelloedd, mi fues i yn Llyfrgelloedd Tywyn, Pwllheli a Phorthmadog a chael coblyn o hwyl efo plant fel rhain:
FullSizeRender 2
Bechod garw bod cyn lleied o ymweliadau awduron bellach oherwydd yr holl doriadau. Maen nhw’n gwneud gwahaniaeth, tydyn athrawon/rieni/blant?
Ysgolion: cysylltwch efo’ch hoff awduron – yn enwedig os ydyn nhw’n lleol – does dim rhaid i ymweliad awdur fod yn ddrud. Ers talwm, ro’n i’n daer bod angen i ni awduron Cymraeg fod yn fwy ‘Proffesiynol’ a hawlio tâl fel awduron dros y ffin, ond yn yr oes dlawd hon, dwi, a sawl awdur arall, wedi gadael i’r ‘p’ fynd yn un llai. Yn anffodus, dwi ddim yn meddwl bod gynnon ni ddewis os am geisio osgoi cael ein boddi o dan yr holl addasiadau ‘enwog’.
Ac mae sgwrsio efo’ch darllenwyr yn eich ysbrydoli, bobol bach!

 

 

Amser Stori a Diwrnod Siopau Llyfrau

Published Hydref 7, 2017 by gwanas

22007444_1464356617013994_1187637140055394275_n

Mae unrhyw un call yn gwybod bod amser stori yn gwneud byd o les i blant. Roedd Michael Morpurgo yn brifathro am flynyddoedd, ac yn gwneud hyn yn rheolaidd. Ond mae trefnwyr y cwricwlwm yn Lloegr yn anghytuno am ryw reswm. Dwi’m yn hollol siŵr be ydi’r rheolau ynglyn â amser stori penodol yng Nghymru ond dwi’n gwybod bod ein cwricwlwm ni’n pwysleisio’r angen i ddarllen er mwynhad.

A gredwch chi hyn? Mae un athrawes o Loegr yn deud (ar Twitter) ei bod wedi cael ei lambastio gan OFSTED am gynnal ‘amser stori’. Roedd ei gwersi eraill i gyd yn “outstanding” neu “good with outstanding features”. Bu’n rhaid iddi gael ei goruchwylio’n wythnosol am weddill yr hanner tymor. Does isio gras!

8024df764535c768344d37c056628009--teacher-evaluation-smiley-faces

Mi fydda i’n darllen storis i blant yn Llanwddyn pnawn ma tua 2.15 – os llwydda i i ddod o hyd i’r lle. Dwi rioed wedi bod yn Llanwddyn, cofiwch. Cadi dan y Dŵr yn un y bydda i’n darllen pytiau ohoni. Addas iawn i bentre gafodd ei foddi!

cadi danydwr p37

 

Gyda llaw, mae heddiw yn ddiwrnod dathlu siopau llyfrau. Am hynny mae Palas Print Caernarfon yn  cynnig bargen o 4 llyfr am bris 3 heddiw. Hefyd, bag Môr a Mynydd o Lyfrau am ddim wrth wario £10 neu bag ‘limited edition’ Orla Kiely am wario £25. Mae’n siŵr bod eich siopau llyfrau lleol chi yn gwneud pethau tebyg. Ewch yn llu i fwynhau eich siopau llyfrau!