Nid llyfrau plant y tro yma, na llyfrau Cymraeg chwaith, ond ro’n i jest isio sôn am y llyfrau dwi wedi bod yn eu benthyca o’r llyfrgell dros y misoedd dwytha.
Mi fydda i’n treulio oriau yn y car, ac un ffordd o wneud i’r oriau hynny hedfan ydi drwy wrando ar lyfr. Mae rhai yn cydio ynof fi’n syth, eraill yn mynd yn ôl i’r llyfrgell ar ôl 5 munud oherwydd mod i methu diodde llais y darllenydd neu arddull y llyfr.
Dyma un wnes i ei fwynhau’n arw:

Clasur o lyfr ond clasur nad o’n i rioed wedi’i ddarllen am ryw reswm. Mae’n nofel dywyll iawn, am ryfel gangiau yn Brighton yn y 1930au, ac mae cymeriad Pinkie, y bachgen 17 oed sy’n bwriadu bod yn fos ar ei giang o, yn un o’r rhai mwya erchyll erioed i mi ddod i’w nabod drwy lyfr. Roedd gen i ei ofn o go iawn. Mae yma unigrwydd, ofn a chreulondeb, felly fydd hi ddim yn apelio at bawb. Ond nefi, mae’n dda!
Mi wnes i fwynhau hon yn arw hefyd:

Digri, difyr, llawn gwybodaeth hanesyddol ( yr Eidal 1527 ymlaen) a thrist hefyd. Es i drwy bob emosiwn posib efo hon, a syrthio mewn cariad efo Bucino, y prif gymeriad, sy’n gorach digon tebyg i Tirion yn Game of Thrones. Ardderchog.
Mae’r nesa ma jest y peth ar gyfer merched sy’n agosau at y 50 neu wedi ei hen basio. Tair ffrind tua 50 yn mynd drwy gyfnodau gwahanol mewn bywyd ac yn cael tipyn o ‘road trip’ ar y ffordd i hen dy yn rhywle fel Tennessee os cofia i’n iawn. O, ac os ydach chi’n hoffi cŵn, dyna reswm arall i fwynhau hon.

Naci, nid llenyddiaeth fawr mohono, ond mae o’n hwyl ac yn hawdd (er, roedd yr holl fanylu am ddillad ac ati yn fy mlino ar adegau) a phun bynnag, dwi wedi trio stwff ‘llenyddol’ yn y car a dydi o jest ddim yn gweithio. Mae angen bod yn gwbl ddealladwy yn syth bin, a dydi gyrrwr DDIM isio ffidlan efo botwm rewind tra’n gyrru.
Dwi ar ganol hon ar hyn o bryd:

Tair merch eto, ond yn Coventry yn ystod yr ail Ryfel Byd. Oes, mae ‘na elfennau twee ac amlwg iddi, ond dim bwys, dwi’n mwynhau ac yn edrych mlaen at ddal i fyny efo’r cymeriadau pan fyddai ar y bali lôn ‘na eto.
Oes, mae ‘na lyfrau Cymraeg i’w cael yn y llyfrgell hefyd, diolch i Gymdeithas y Deillion, a dwi wedi gwrando ar ambell un. Ydach chi? Gallu argymell un da i mi?