Dyna’r dasg ro’n i wedi ei gosod i ddisgyblion Bl 3, 4, 5 a 6 Ysgol Bro Cinmeirch, lle dwi’n Gyfaill Darllen: dod o hyd i, darllen a rhannu llyfrau oedd yn gwneud iddyn nhw chwerthin.
Roedd ‘na lawer o rai Saesneg wrth gwrs, a nifer fawr o Henri Helynts, Tudur Budurs ac ati, ond addasiadau ydi’r rheiny, drapia!
Doedd neb wedi dod o hyd i lyfr Cymraeg, wedi ei sgwennu gan awdur Cymraeg, oedd wedi gwneud iddyn nhw chwerthin?
Oedd, diolch byth!

Hwre am Yr Wmp o Blwmp! A Llongyfarchiadau i’r awdures, Dwynwen Lloyd Llywelyn! Dyma i chi’r adolygiad ar wefan gwales.com :
Adolygiad Gwales
Ond dyw hi’n braf cael llyfrau gwreiddiol Cymraeg? Mae yna groeso mawr, felly, i gyfres Lolipop gan Gomer. Dyma stori gan awdures newydd – Dwynwen Lloyd Llywelyn – ond un sydd â phrofiad helaeth mewn ysgrifennu ar gyfer y theatr ac y mae dawn Dwynwen i ysgrfennu deialog yn amlwg yn y gyfrol hon.
Hanes efeilliaid a geir yn y stori hon, efeilliaid tawel iawn ar ddechrau’r gyfrol ond os oes rhywun yn achosi iddynt siarad – wel, yr Wmp o Blwmp yw hwnnw. Dyma greadur glas, blewog a chrwn a ddarganfuwyd yn ystafell wely Defi a Dewi. Ers iddo gyrraedd, mae popeth rywsut yn llwyddo. Mae’r efeilliaid yn siarad, ac yn fwy na hynny mae’r ddau yn llwyddo i roi taw ar fwli mawr Blwyddyn 6 a’i antics. Mae yna ddigon o gyffro yn y stori hon, a phob canmoliaeth hefyd i Helen Flook am y lluniau.
Dyma lyfr addas i’w ddarllen i unrhyw blentyn ond fe fydden ni’n tybio ei fod yn bennaf addas ar gyfer oed darllen Blynyddoedd 2 a 3. Edrychwn ymlaen at straeon eraill yn y gyfres Lolipop.
Sarah Down-Roberts
Iawn, felly prynwch o (£4.99) neu ei fenthyg o’r llyfrgell. Wedyn bydd yr awdures yn cael rhywfaint o £ fydd yn ei galluogi a’i hysbrydoli i sgwennu mwy o lyfrau gwreiddiol, Cymraeg i wneud i chi chwerthin. Dydi David Walliams ddim yn brin o bres, felly mi allwch chi fenthyca llyfrau hwnnw i’ch gilydd heb deimlo’n euog. A fydd Gruffudd Antur, sydd wedi addasu un o’i lyfrau i’r Gymraeg ddim yn cael ceiniog yn sgîl gwerthiant y llyfr. Yr awdur gwreiddiol sy’n cael y breindal dach chi’n gweld.
Chwarae teg, roedd un disgybl wedi dewis hwn hefyd, llyfr am neiniau oedd wedi ei sgwennu ymhell cyn y llyfr Saesneg am nain, ac sy’n llawer gwell hefyd, yn fy marn i! Nain! Nain! Nain! gan Sian Eirian Rees Davies – darllenwch o i weld os ydach chi’n cytuno.

Roedd un o Bl 6 wedi dewis Pen Dafad hefyd, diolch byth!

Be amdanoch chi? Oes ‘na lyfrau Cymraeg wedi gwneud i chi/eich brodyr/chwiorydd/rhieni/ffrindiau chwerthin?
Mi wnes i ofyn y cwestiwn ar Facebook, a dyna sut ges i wybod am hwn, Straeon Bobli Blaidd gan Catherine Jones:

A hei, ydi, mae o’n ddigri! 4 stori am deulu o fleiddiaid sy’n llawn cymeriad a dawn deud. Mae o allan ers 2010, ond chafodd o fawr o sylw felly does neb yn gwybod amdano. Grrrr… wel, dach chi’n gwybod rwan!
Addas i oed 7-9 neu Cyfnod Allweddol 2 yn ôl Gwales. A dwi wedi ychwanegu adolygiad cwsmer a 5 seren:
“Gwych! Straeon wirioneddol ddoniol. Iaith eitha gogleddol ond ddylai hynny ddim cadw’r deheuwyr draw. Dawn dweud a straeon wnaeth i mi chwerthin. Lluniau gwych hefyd.”
Be am i chi wneud yr un peth? Neu rhowch wybod i mi ar hwn, ac mi wnai roi sylw i’r llyfrau hynny.
A dyma i chi fwy o lyfrau digri:



A hwn:

Llyfr llawn hwyl sy’n cynnwys posau, jôcs, gêmau a storïau am gymeriadau fel Capten Clonc a’r Prif Cop. Oriau o chwerthin i blant o bob oed.
Roedd yr awdur, Huw Aaron yn un o’r criw oedd yn cymryd rhan yn Sioe Lyfrau Fwya’r Byd yng Nghaernarfon wythnos yma. Sbiwch ciw oedd ar ei gyfer o wedyn:

A dim ond un neu ddau oedd i fi a Gruffudd:
Hoffi’r ffoto-bomiwr?!
A dydi hwn ddim yn lun gwych, ond mae’n dangos y gwahaniaeth mewn maint ciwiau…

Does dim pwynt trio cystadlu efo cartwnydd…
Gyda llaw, yn Ysgol Cinmeirch, rydan ni’n rhoi bathodynnau arbennig i’r sêr darllen, a dyma i chi lun neu ddau:


Da iawn pawb! Daliwch ati.
O, a dyma fy hoff lun o Ddiwrnod y Llyfr: Awen o Ysgol Treganna efo’i hoff lyfr! Ieee! Gwylliaid!

Diolch Awen… ti’n grêt. xx