Dyma’r llyfr enillodd wobr Saesneg Tir na-nOg eleni: The Nearest Faraway Place gan Hayley Long.
A nefi, roedd o’n haeddu cael ei wobrwyo. Hanes 2 frawd, Griff a Dylan yn gorfod ymdopi efo trasiedi deuluol. Mae hanner y nofel yn digwydd yn yr Unol Daleithiau a’r hanner arall yn Aberystwyth ( lle bu’r awdur yn fyfyrwraig). Mae’n drist, ydi, a do, mi wnes i grio, ond mae’n ddigri a llawn gobaith hefyd. Mae’n delio gyda galar, teuluoedd, cyfeillgarwch a chariad a chydymdeimlad, a hynny mewn ffordd wahanol, eitha ‘quirky.’ Wel, mae rhai o’r cymeriadau reit wahanol a ‘quirky’, ond mi wnewch chi gymryd atyn nhw i gyd. O, ac mi fyddwch chi eisiau clywed y gerddoriaeth sy’n ran pwysig o’r stori.
Mi fedra i argymell hwn ar gyfer pobl ifanc (a hŷn) o tua 12/13 oed i fyny. Ardderchog.
(This book is wonderful, for YA, and deals with grief, loss, love, sympathy, hope etc in a compelling, multi-layered, heart-wrenching way. Excellent.)
Fel mae’n digwydd, dwi newydd ddarllen nofel arall sy’n delio efo galar: The List of Real Things gan Sarah Moore Fitzgerald o Iwerddon:
Mae’n hyfryd, ac yn addas ar gyfer plant (aeddfed) tua 11 oed +, ond bydd y criw ‘oedolion Ifanc’ yn ei mwynhau hefyd. Mae Gracie yn 14 oed (ac mi fyddwch chi isio ei blingo hi weithiau!) a’i chwaer fach ryfeddol yn 6 oed, ond yn gwybod a gweld cymaint mwy na’i chwaer fawr. Nofel am bwysigrwydd y dychymyg, am alar, gobaith a chyfeillgarwch. Gwych.
(A magical novel for children around 11+ and adults like me. About the imagination, grief, loss, hope and friendship. I loved it.)
Ar yr ochr Gymraeg, Mererid Hopwood ddaeth yn fuddugol yn y categori Cynradd gyda stori ‘Dosbarth Miss Prydderch a’r Carped Hud’ gan Wasg Gomer.
“Mentrwch gyda Miss Prydderch a’i disgyblion o Ysgol y Garn ar y carped hud i Goedwig y Tylluanod lle cewch weld rhyfeddodau, ond peidiwch, da chi, ag edrych i fyw llygaid Dr Wg ab Lin! Dyma’r teitl cyntaf mewn cyfres o lyfrau am yr athrawes anghyffredin a’i hanturiaethau.” Ac mi fedra i ddeud bod y gyfres yn siŵr o brofi’n boblogaidd efo plant tua 7-9+ oed. Mae’r plot syml, hawdd ei ddeall yn ei wneud yn addas iawn i ddarllenwyr ifanc sy’n magu hyder wrth ddarllen yn annibynnol. Mae ‘na nodiadau i egluro geiriau ac idiomau anghyfarwydd ar ochr y dudalen, wedi eu hesbonio mewn ffordd fodern, hwyliog. Mi fydd y lluniau gwreiddiol, cartwnaidd o help hefyd. Y darn gorau i mi oedd yr ‘iaith’ newydd – ond bydd raid i chi ddarllen y llyfr drosoch chi’ch hun i weld be dwi’n ei feddwl!
Ac aeth y wobr yn y categori Uwchradd i Myrddin ap Dafydd am ‘Mae’r Lleuad yn Goch’, gan Wasg Carreg Gwalch.
“Nofel sy’n clymu’r Tân yn Llŷn yn 1936 a’r ymosodiad ar Guernica yng Ngwlad y Basg yn 1937. Mae tân yn y cartref henoed yn gorfodi Megan, sydd bellach yn nain, i ddewis un peth o’i llofft wrth i’r adeilad gael ei wagio gan y timau diogelwch. Pam mae hi wedi dewis hen faner denau goch, gwyrdd a gwyn?”
Ia, nofel hanesyddol ydi hon, un swmpus i blant a phobl ifanc – ac oedolion o ran hynny. Mae’n rhoi i ni hanes llosgi’r Ysgol Fomio ym Mhen Llyn, ond mae hefyd yn dod â hanes erchyll trychineb Guernica yn fyw, ac yn rhoi darlun arbennig o bobl ryfeddol Gwlad y Basg i ni – rhywbeth sydd wedi bod yn llawer rhy brin mewn llyfrau Cymraeg – tan rwan.
Dyma lun enwog Picasso o’r hyn ddigwyddodd yno:
Allwch chi ddim peidio â gweld tebygrwydd rhwng hanes plant y Basgiaid a ffoaduriaid heddiw, felly mae’n rhoi digon i ni bendroni drosto – a dysgu ohono, gobeithio.
Ro’n i’n teimlo bod trydydd rhan y nofel yn llifo’n well na’r dechrau, a hanes y Basgiaid gydiodd yn fy niddordeb go iawn. Felly os fydd ambell blentyn yn nogio ar y dechrau – daliwch ati – mi fydd o werth o!
Ar ddiwedd y llyfr mae ‘na nodiadau difyr a dadlennol iawn hefyd.
Llongyfarchiadau Myrddin a Mererid!
A dyma un i’ch rhieni: dwi wedi bod yn yr ysbyty eto yn diweddar (clun newydd – yr ochr arall tro ma) ac mi ges fodd i fyw yn darllen Sgythia gan y diweddar Gwynn Ap Gwilym:
Epig o nofel hanesyddol yn dilyn stori John Dafis, a fu’n rheithor ym Mallwyd, ger Dinas Mawddwy o 1604 hyd ddiwedd ei oes. Hynod ddifyr a darllenadwy – campwaith yn bendant.
Ac i’r plant iau – sbiwch be sydd ar y ffordd yn fuan!
Cadi a’r Deinosoriaid. Dwi wedi gwirioni efo lluniau a lliwiau Janet Samuel eto fyth. Dwi’m wedi cael y proflenni eto a dim dyddiad cyhoeddi ond dwi bron yn siŵr y bydd yn barod erbyn y Steddfod. Wwww-y! Fi sy’n teimlo fel’na – yn cynhyrfu efo pob llyfr newydd…