Gwên fawr ar fy wyneb i a sawl awdur arall oherwydd hyn:
http://www.llyfrau.cymru/news/news-detail?diablo.lang=cym&id=13216
– neu os ydach chi’n rhy ddiog i glicio ar y linc, mae na grynodeb o’r datganiad i’r wasg isod.
Cyhoeddi Rhestr Fer Gwobrau Tir na n-Og 2018
26 Maw 2018
Cyhoeddodd Cyngor Llyfrau Cymru y teitlau sydd ar restr fer Gwobrau Tir na n-Og 2018, sef y gwobrau a roddir yn flynyddol gan y Cyngor i anrhydeddu gwaith gwreiddiol gan awduron ac arlunwyr llyfrau plant yn y Gymraeg a’r Saesneg.
Dywedodd Llinos Davies, Cadeirydd y Panel Llyfrau Cymraeg, “Roedd yn flwyddyn arbennig o gref heb yr un gyfrol wan, felly rhaid llongyfarch y gweisg am gynnyrch amrywiol o safon uchel.” Ychwanegodd, “Braf yw gweld nifer dda o nofelau grymus wedi eu hanelu at yr arddegau.”
“Y mae’r amrywiaeth o lyfrau sydd ar y rhestr fer eleni yn galonogol dros ben,” meddai Helen Jones, Pennaeth Adran Llyfrau Plant a Hyrwyddo Darllen y Cyngor. “Ein prif nod yw gwobrwyo’r llyfrau gorau i blant a phobl ifanc, ac annog plant i brynu a darllen llyfrau er mwyn pleser.”
Bydd enwau enillwyr y gwobrau Cymraeg (cynradd ac uwchradd) yn cael eu cyhoeddi ar lwyfan Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Brycheiniog a Maesyfed yn Llanelwedd ar 31 Mai 2018.
Cyhoeddir enillydd y wobr Saesneg yng nghynhadledd CILIP Cymru yn Aberystwyth ddydd Mercher, 9 Mai.
Teitlau’r rhestr fer Gymraeg:
Cyfres Yma: Yr Ynys – Lleucu Roberts (Y Lolfa)
Y gyfrol gyntaf mewn trioleg o nofelau ôl-apocalyptaidd ar gyfer yr arddegau. Y flwyddyn 2140 yw hi a cheir hanes 49 o bobl a oroesodd ar ôl cuddio rhag bom niwclear mewn ogof ar ynys bellennig yn yr Arctig. Mae’r cenedlaethau wedi tyfu o darddiad Mam Un, ac mae ei dyddiadur hi yn allweddol ac yn ddylanwadol, yn arbennig yn hanes Gwawr, y ferch sydd yn ganolog i’r stori.
Merch y Mêl – Caryl Lewis (Y Lolfa)
Llyfr stori-a-llun hyfryd i blant 4–8 oed. Bydd cyfle i’r plant ddysgu enwau blodau ac am fyd natur trwy stori annwyl Caryl a lluniau bendigedig Valériane Leblond. Mae Elsi’n byw gyda’i mam-gu, sy’n cadw gwenyn. Trwy ddilyn y gwenyn, a sylwi ar bopeth sy’n digwydd yn yr ardd drwy gydol y flwyddyn, daw Elsi i garu pob tymor yn ei dro.
Gethin Nyth Brân – Gareth Evans (Carreg Gwalch)
Nofel ffantasi gyffrous sy’n plethu dau fyd. Mae bywyd yn boen i Gethin, 13 oed, ym Mhontypridd. Mae e’n ffraeo â’i fam o hyd, does gan Caitlin ddim diddordeb ynddo, ac mae’r Tri Trist yn mynnu ei blagio. Ond, yn dilyn parti yng nghartref Caitlin ar noswyl Calan Gaeaf, mae bywyd Gethin yn troi ben i waered, ac mae’n deffro mewn byd arall yn y flwyddyn 1713.
Mae’r Lleuad yn Goch – Myrddin ap Dafydd (Carreg Gwalch)
Nofel sy’n clymu’r Tân yn Llŷn yn 1936 a’r ymosodiad ar Guernica yng Ngwlad y Basg yn 1937. Mae tân yn y cartref henoed yn gorfodi Megan, sydd bellach yn nain, i ddewis un peth o’i llofft wrth i’r adeilad gael ei wagio gan y timau diogelwch. Pam mae hi wedi dewis hen faner denau goch, gwyrdd a gwyn?
Y Melanai: Efa – Bethan Gwanas (Y Lolfa)
Y nofel gyntaf mewn trioleg ar gyfer yr arddegau. Mae Efa yn ddarpar frenhines gwlad Melania ond mae hi’n gyndyn i ddilyn yr hen draddodiadau, gan gynnwys lladd ei mam, y frenhines, ar ei phen-blwydd yn 16 oed. Yn y stori, dilynwn Efa wrth iddi frwydro yn erbyn ei thynged ei hun.
Dosbarth Miss Prydderch a’r Carped Hud – Mererid Hopwood ( Gomer)
Mentrwch gyda Miss Prydderch a’i disgyblion o Ysgol y Garn ar y carped hud i Goedwig y Tylluanod lle cewch weld rhyfeddodau, ond peidiwch, da chi, ag edrych i fyw llygaid Dr Wg ab Lin! Dyma’r teitl cyntaf mewn cyfres o lyfrau am yr athrawes anghyffredin a’i hanturiaethau.
Teitlau’r rhestr fer Saesneg:
Santa’s Greatest Gift – Tudur Dylan Jones (Gomer)
King of the Sky – Nicola Davies (Walker)
St. David’s Day is Cancelled! – Wendy White (Gomer)
Gaslight – Eloise Williams (Firefly)
The Jewelled Jaguar – Sharon Tregenza (Firefly)
The Nearest Faraway Place – Hayley Long (Hot Key)
Dwi wedi canmol nifer o’r llyfrau uchod ar y blog yma eisoes ac mae gen i syniad go lew pwy gaiff y wobr… (naci, nid fi!) ond mae hi’n hyfryd cael bod ar y rhestr fer. Pob lwc i bawb!
Gyda llaw, llongyfarchiadau i’r awdures Anni Llyn a Tudur y gŵr ar enedigaeth hogan fach o’r enw Martha Crug!
O, a gyda llaw, dyma ddau lyfr Saesneg ardderchog i blant dwi newydd eu darllen:
The Call, Peadar O’ Guilin ( Nofel OI/YA – tua 13+? Mae hi reit frawychus mewn mannau! Do’n i methu ei rhoi i lawr.)
The Road to ever after, Moira Young (tua 9+) Hyfryd, hyfryd. Darllenwch hi, dim bwys os ydach chi’n 9, 29, 49 neu 79.