Y tro nesa fydda i’n mynd yno, dwi’n gobeithio clywed gan blant Ysgol Bro Cinmeirch pa lyfrau sydd wedi gwneud iddyn nhw wenu a chwerthin. Yn y cyfamser, dwi wedi bod yn pori drwy ambell un fy hun.

Mae Llyfr Mawr y Pants allan ers 2006, ac mi brynais gopi i fy nai, Daniel ( fo ydi’r un tal efo cap yn y llun yma)

Ond roedd o dipyn iau pan rois i’r llyfr iddo fo, ac mi fuodd o’n rhowlio chwerthin – am sbel o leia. Dydi o’m yn foi am lyfrau. Mwy o foi pêl-droed. Ond roedd o’n hoffi’r pethau gwirion sydd yn y llyfr yma gan Daniel a Mathew Glyn. Jôcs a ffeithiau am rechu, trôns ac ati – bingo.

Mi blesiodd adolygydd Gwales.com hefyd, sbiwch:
Adolygiad Gwales
Sôn am chwerthin! Dyma lond trol hollol ddi-chwaeth o ffeithiau, jôcs, straeon, posau, cwisiau, awgrymiadau, a ryseitiau sy’n sicr o apelio at blant 7-12 oed (a phlant mawr hefyd). Mae’n llawn o gyfeiriadau at drôns, mynd i’r tŷ bach, rhechu, tisian – hynny yw yr union bethau mae bechgyn bach yn arbennig o hoff o greu jôcs amdanynt. Mae cartwnau Chris Glynn yn ychwanegiadau ardderchog at yr hiwmor.
Dylai bod copi o hwn ym mhob cartref a dosbarth yng Nghymru – bydd hyd yn oed y darllenwyr mwyaf anfoddog yn ysu i gael eu dwylo anarchaidd ar hwn!
Bethan Hughes
Ond barn bobol iau na ni fysa’n neis. Be dach chi’n ei feddwl o’r llyfr?
Mi fues i’n pori drwy hwn hefyd:

Llwyth o gerddi byr ac nid mor fyr, lloerig a gwirion ac nid mor wirion â hynny am wahanol anifeiliaid. Roedd un ohonyn nhw yn ddarn gosod llefaru yn yr Urdd sbel yn ôl – cofio ‘Os na cha i gi at y Dolig…’?
Ro’n i’n hoffi hon hefyd:

Mae o wedi ei anelu at blant 7-9 oed, ac mae hwn allan ers sbel hefyd: 2003. Mi wnes i fwynhau y rhan fwya o’r cerddi, ond nid pob un, rhaid cyfadde. Be amdanoch chi?
Mi fyswn i, yn bersonol, wedi hoffi cael gwybod mwy am y beirdd. Dim clem pwy ydi ambell un. A dyna sy’n braf am y gyfrol hon ar gyfer oedolion:

Mae ‘na lun a darn byr am awduron bob un o’r straeon.

Rhywbeth i’w ystyried ar gyfer llyfrau eraill sydd â mwy nag un awdur? Neu efallai nad oes gan blant ddiddordeb yn yr awduron ac mai jest fi sy’n fusneslyd… neu’n hoffi cael sylw a gweld fy llun fy hun ynde…;)
Mae ‘na domen o lyfrau plant efo cerddi ynddyn nhw rwan, a dwi newydd brynu y ddau yma:

Stwff da ynddyn nhw! A rhai fydd jest y peth ar gyfer fy nghriw i o ddysgwyr sydd isio llefaru yn Eisteddfod y Dysgwyr… nid dim ond ar gyfer plant mae’r rhain!