Archif

All posts for the month Mawrth, 2020

Gwefan am lyfrau Cymraeg: sonamlyfra.cymru

Published Mawrth 29, 2020 by gwanas

O’r diwedd! Mae ‘na ddau berson sy’n caru llyfrau wedi sefydlu gwefan fywiog, liwgar sy’n llawn o adolygiadau dwyieithog o lyfrau Cymraeg i blant a phobl ifanc.

Dyma nhw’r ddau:

Morgan Dafydd a Dr Llio Mai Hughes, ac mae ‘na fwy amdanyn nhw ar y wefan.

Dwi wedi tynnu’r lluniau oddi ar fy ffôn lôn, felly mae’r fformat fymryn yn wahanol i be gwch chi ar eich cyfrifiadur.

Cliciwch ar y linc isod i weld y wefan gyfan:

https://www.sonamlyfra.cymru/

Dwi wedi cyfri 74 o adolygiadau (ond fues i rioed yn dda efo syms, cofiwch), o lyfrau i blant bach i Llyfr Glas Nebo.

A dyma rai o’r tudalennau:

IMG_0619

Dyma lyfr nad ydw i wedi ei weld eto (sut wnes i ei fethu o? Mae o ar restr fer Gwobr Tir naN-og rŵan!) -Y Ddinas Uchel gan Huw Aaron:

IMG_0620

A dwi wrth fy modd efo’r rhestr glir, hawdd yma ar ddechrau pob adolygiad:

IMG_0621

Dydyn nhw ddim yn adolygiadau siwgrllyd chwaith – maen nhw’n onest iawn. Dyna i chi hwn am Edenia, y drydedd yn fy nhrioleg Cyfres y Melanai.

Adolygiadau Sonamlyfra

Cytuno’n llwyr! Ro’n i’n gwybod yn iawn fod y diwedd yn digwydd ar ras, ond mae gen i esgus: ro’n i’n trio cadw at y nifer geiriau ofynwyd amdano, ac ro’n i angen sgwennu pethau eraill er mwyn talu biliau! Dyna broblem oesol yr awdur Cymraeg (yn enwedig efo llyfrau plant/OI ar y pryd): onibai eich bod wedi ymddeol neu â swydd arall sy’n talu’n dda, dim ond hyn a hyn o amser sydd gynnoch chi i’w roi i bob llyfr. Ac yn anffodus, dwi’n cymryd OES i sgwennu nofelau.

Ond dwi’n derbyn y feirniadaeth yn llwyr. Teg iawn, a chwa o awyr iach!

Mae ‘na amrywiaeth o bobl wedi sgwennu’r adolygiadau, ond be fyddai’n braf fyddai i chi, ddarllenwyr Cymru, yn blant, yn rieni – unrhyw un, nodi eich sylwadau chitha. Gewch chi hyd yn oed yrru fidios!

Jest y peth tra dach chi’n sownd adre. Dwi am neud un neu ddau sylw fy hun rŵan – ond gorau po fwya fydd yn rhoi eu barn.

Da iawn Morgan a Llio – diolch o galon am wefan oedd wir ei hangen!

images

Dawns y Gwrachod

Published Mawrth 24, 2020 by gwanas

Roedden ni wedi bwriadu cael lansiad ‘Merch y Gwyllt’ yn Sesiwn Fawr Dolgellau fis Gorffennaf.

Merch y Gwyllt f2

Bosib na fydd o’n digwydd rŵan, ond mi fydd yn digwydd yn rhywle, rhyw ben, a dyma be o’n i a chriw o ferched o Feirionnydd wedi pasa’i neud: gwisgo fel gwrachod a pherfformio’r ddawns hon yn y Sgwâr, i gyfeiliant yr un miwsig, sef ‘Schüttle deinen Speck’ (Sigla dy din) gan Peter Fox. Dyma’r ddawns:

Felly, os dach chi isio chydig o ymarfer corff yn y tŷ neu’r ardd, cydiwch mewn brwsh llawr/hŵfyr/be bynnag a gwyliwch y fidio isod sy’n cynnwys cyfarwyddiadau gan y criw uchod. Mae o yn Almaeneg efo is-deitlau Saesneg, felly mae’n gyfle i wella eich Deutsch neu ddysgu chydig o’r iaith ar yr un pryd!

Mae’r syniad a’r fidios wedi cael ymateb da iawn ar fy nhudalen Facebook!

IMG_0558

Mwynhewch, a bydd croeso i chi ymuno efo ni yn y ddawns pan fydd hyn i gyd drosodd.
tenor

Llyfrau Plant/OI o Iwerddon

Published Mawrth 19, 2020 by gwanas

Roedd hi’n ddiwrnod Sant Padrig ar y 17eg, ond dwi’m yn meddwl i’r creadur gael ei ddathlu ryw lawer ynghanol hunllef Y Feirws.

Ond mae’n gyfle i flogio mymryn am lyfrau o Iwerddon tydi? Dwi newydd fod yn gŵglo fel peth gwirion i drio dod o hyd i nofel ddarllenais i rhyw flwyddyn neu dwy yn ôl: do’n i methu cofio enw’r nofel nac enw’r awdur ond ro’n i’n cofio rhywfaint o’r stori, ac o’r diwedd, haleliwia – dyma fo!

51ll-I9nqqL._SX313_BO1,204,203,200_

The Call gan Peadar Ó Guilín o Donegal. Nefi, mi wnes i fwynhau hon.

Mae’n gyfuniad o ffantasi, arswyd digon brawychus a byd y tylwyth teg. Mae Iwerddon yn wlad wedi ei melltithio a phan fydd plant yn cyrraedd oed arbennig (eu harddegau) maen nhw’n cael eu ‘dwyn’ am 3 munud gan y Sidhe – y tylwyth teg. Am y 3 munud hwnnw maen nhw mewn byd arall ac yn gorfod ymladd/dianc am eu bywydau. Mae plant yn cael eu paratoi a’u hyfforddi i fedru delio efo’r 3 munud erchyll yma, ond mae’r rhan fwya’n dod yn ôl unai wedi eu llarpio a’u darnio’n erchyll neu yn gelain. Ddeudis ei fod o’n frawychus yndo!

Mae’r prif gymeriad, Nessa, yn arwres hyfryd o od. Wedi diodde o polio, does neb yn meddwl bod ganddi unrhyw fath o obaith, ond mae Nessa’n dipyn o hogan…

Fydd y nofel ddim at ddant pawb, ac yn sicr nid os ydach chi’n cael eich dychryn yn hawdd, ond os dach chi’n cael eich temtio – ewch amdani. Mae’n glincar. Mae’n cael ei marchnata fel ffantasi ar gyfer oedran 12-16 ond mae’r School Library Journal â’r rhybudd canlynol: “The language, sex, violence, and world of the Grey Land are more appropriate for mature fantasy fans.”

A dyma lun o’r awdur:

image-asset

Llyfrau eraill o Iwerddon sy’n cael eu hargymell gan yr awdures Sinead O’Hart yw’r rhain:

ETUDb7BWAAEfdx9-1

The Hounds of the Morrigan, Pat O’Shea. Llyfr ymddangosodd rhyw 30 mlynedd yn ôl. Hanes Pidge a’i chwaer Brigit, sy’n gorfod rhwystro duwies rhag ennill ei hen bwerau yn ôl. Yn ôl Sinead, mae’n “Madcap, fast-paced, hilarious, and at times deeply, thrillingly, satisfyingly frightening.”

Neu be am Under the Hawthorn Tree, Marita Conlon-McKenna?
Dwi bron yn siŵr mod i wedi darllen hon ryw dro. Mae’n sicr yn canu cloch. Mae wedi ei gosod yn ystod cyfnod erchyll Y Newyn Mawr (the Great Famine) ddigwyddodd yn ystod 1845-1850au. Y cyntaf o drioleg ydi hon, yn dilyn hanes
Eily, Peggy a Michael sy’n colli bron bob dim ond yn llwyddo i frwydro’n rhyfeddol i ddod drwyddi.

Mae hon yn swnio’n dda hefyd: The Switchers Trilogy, Kate Thompson
Hanes Tess a Kevin, sydd â’r gallu i droi yn unrhyw anifail maen nhw’n ei ddymuno. Dyna egluro’r teitl – maen nhw’n ‘switchio’! Ac mae’n rhaid iddyn nhw achub y byd rhag cael ei droi’n uffern o rew. “These books are wonderful, mingling modern-day Ireland with the stories and legends of its past, and adding a special layer of uniqueness all their own.”

3 nofel mwy diweddar o Iwerddon mae hi’n eu harmgymell ydi:
The Maloneys’ Magical Weatherbox, Nigel Quinlan
Arthur Quinn and the World Serpent, Alan Early
Begone the Raggedy Witches, Celine Kiernan – ac mae’r olaf ‘na yn sicr yn apelio ata i – mae hi am wrachod!

maxresdefault

Dwi newydd archebu copi o’r llyfrgell, ac mae na fersiwn CD ar gael hefyd.

A sôn am wrachod… mi ddylai fy nofel i ar gyfer oedolion (16+ o leia) fod allan fis Mehefin, a dyma’r clawr:

Merch y Gwyllt f2

Ro’n i yn ffafrio clawr arall, ond mi es i â 3 cynllun gwahanol efo fi pan fues i’n siarad efo MYW Glantwymyn yn ddiweddar, a dyma’r un oedd yn apelio at 80% ohonyn nhw! Roedd fy ffrindiau mwy ‘llenyddol’ yn ffafrio un arall, ond isio denu llygad pobl sydd ddim fel arfer yn darllen llyfrau Cymraeg o’n i, felly hwn amdani! A dwi’n hoff iawn ohono wedi ychwanegu brain i’r llun. Maen nhw’n bwysig… o, ac mae rhan go helaeth o’r nofel yn digwydd yn Iwerddon!

Nofel arall wedi ei lleoli yn Iwerddon ydi Môr a Mynydd gan Rhian Cadwaladr:

DgxxpJGW4AA5JQ4

Un hynod ddarllenadwy, ac eto ar gyfer oedolion sy’n mwynhau stori dda.

Dwi wedi bod yn crafu mhen ynglyn â nofelau eraill o Gymru sydd wedi eu lleoli yn Iwerddon, ond dwi’n styc. Unrhyw awgrymiadau? Yn enwedig llyfrau plant? Ia, dwi’n gwybod bod Branwen a Bendigeidfran wedi bod yn Iwerddon, ond unrhyw beth mwy modern?

images

Y Twrch a chyfres am feirws…

Published Mawrth 13, 2020 by gwanas

Mae’r Twrch Cymraeg wedi cyrraedd! A llyfrnod bach handi, ylwch:

IMG_0466

Mae’r llyfr yn fwy nag o’n i wedi’i ddisgwyl, ac yn edrych yn GRET!

IMG_0469

Dyma flas o’r tu mewn i chi:

IMG_0465IMG_0468IMG_0467

A sbiwch del ydi’r ‘end papers’ (rhywun yn gwybod oes na derm Cymraeg am rheiny?):
IMG_0470

I’r rhieni, mae ‘na ddarn ychwanegol am hanes y llyfr dros y blynyddoedd (yn cynnwys enwau’r cŵn mewn gwahanol ieithoedd) a darn am sut y daeth y fersiwn Gymraeg i’r fei O’R DIWEDD! A pham penderfynu ar Dwrch yn hytrach na Gwahadden…

Gyda llaw, os fydd hyn yn codi diddordeb mewn tyrchod/gwahaddod, mae Siân Lewis wedi cyhoeddi cyfres am yr un anifail:

51u18Q0FXkL._SX353_BO1,204,203,200_

Llyfrau yn y gyfres Ffrindiau Bach a Mawr, sef cyfres o lyfrau darllen ar gyfer disgyblion CA1/2 Ail Iaith. Llyfrau gwybodaeth syml am y twrch daear.

Hefyd, i blant chydig hŷn, mae Dafydd Llewelyn wedi sgwennu am Tomi:

getimg

Ac mae na dyrchod yn rhain hefyd:

A be am fynd draw i Ganolfan y Dechnoleg Amgen tua 3 milltir i’r gogledd o Fachynlleth ar yr A487 ger pentref bach Pantperthog, i gyfarfod Megan y Wahadden?

megan3-1920x1020

“Ymwelwch â byd tywyll tanddaearol Megan y Wahadden a darganfod mwy am y creaduriaid sy’n byw yn y pridd” meddai’r blyrb. Dwi rioed wedi gweld Megan fy hun, ond mae’n edrych yn wych yn y llun!

LLYFR AR GYFER OEDOLION IFANC:

Diolch i Lia sy’n gweithio yn Llyfrgell Dolgellau, dwi wedi darganfod awdur Saesneg sy’n sgwennu llyfrau wirioneddol anturus a brawychus ar gyfer oedolion ifanc. Roedd hi wedi sylwi mod i’n benthyca llwyth o lyfrau OI, ac mi gynigiodd ddod â’i chopi personol o The Enemy i mewn i mi gael blas.

Charlie Higson fu’n actio yn ‘The Fast Show’ (holwch eich rhieni) ydi’r awdur, dyma fo:

charlie-higson-967a727

A nefi, mi ges i fy machu gan The Enemy! Jest y peth i fechgyn a merched tua 12+ sy’n mwynhau cael sioc bob yn ail bennod. A’r peth od ydi: mae o am fyd lle mae ‘na feirws wedi cymryd drosodd, feirws sydd ddim yn effeithio ar blant!

Shocked-Face-1

Wel, nid rhai dan 15 oed o leia. Mae’r oedolion i gyd unai wedi marw neu wedi troi’n zombies… difyr. Felly oes, mae ‘na lot o ymladd a marw, felly peidiwch â mentro os nad ydach chi’n hoffi’r math yna o beth. Ond o… mae ‘na gymeriadau hyfryd. Ydyn nhw’n marw? Gewch chi weld.

3 llyfr oedd i fod yn y gyfres, ond mae’r rheiny wedi bod mor llwyddiannus, mi sgwennodd o 7 yn y diwedd!

71+UajF0YlL

Hoff lyfrau Lleucu Roberts

Published Mawrth 2, 2020 by gwanas

Mae ‘na awdur arall wedi ateb fy nghwestiynau i!

Lleucu-Roberts
59635005_397756824287759_5568033346706997248_o

Ganwyd Lleucu Roberts yn Aberystwyth a chafodd ei magu yn ardal Bow Street, Ceredigion. Aeth i Ysgol Gynradd Rhydypennau, Ysgol Gyfun Penweddig a Phrifysgol Aberystwyth – lle y ces i’r fraint o ddod i’w nabod hi, ond mae hi fymryn yn iau na fi.

2689.14648.file.eng.lleucu-roberts.355.400

Erbyn hyn, mae hi’n byw yn Rhostryfan, Gwynedd efo’i gŵr, Arwel (Pod) sydd hefyd wedi cyhoeddi llyfr o’i gerddi, Stompiadau Pod, ond mi ddylai yntau sgwennu llyfrau ar gyfer plant os dach chi’n gofyn i mi.

41jCGEMlZfL._SX353_BO1,204,203,200_

Mae ganddyn nhw 4 o blant, ac wedi llwyddo i fagu’r rheiny tra’n sgwennu a chyfieithu. Yn ogystal â sgwennu llyfrau ar gyfer plant hŷn ac oedolion, mae Lleucu hefyd yn sgriptio ar gyfer y radio a’r teledu ac yn ennill gwobrau dragwyddol, fel Gwobr Tir na n-Og droeon.

getimg-1getimgannwyl-smotyn-bachimages-1
images-2getimg-2DemWTUxXcAArXan
images

Enillodd Wobr Goffa Daniel Owen a’r Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr 2014, y person cyntaf i gipio’r ddwy brif wobr ryddiaith yn yr un flwyddyn. Tipyn o gamp!

_76785909_medalryddiaith4

Tipyn o awdur felly, a dyma ei hatebion hi:

Pa lyfrau oeddet ti’n eu hoffi’n blentyn?

51BcvObBsWL._SX373_BO1,204,203,200_

Dwi’n cofio dwli ar Teulu’r Cwpwrdd Cornel a oedd yn un o’r llyfrau a oedd gan fy mam yn blentyn, yn fwy na Llyfr Mawr y Plant, er bod ‘Siôn Blewyn Coch’ yn ffefryn.

p02fjf2l

A stwff Blyton, fesul y llath (dwi’n gwaredu at y ffordd roedd merched Malory Towers ym mhellafion Lloegr yn llwyddo i ddal fy nychymyg). Dwi’n meddwl ‘sa well gen i weld plentyn â’i drwyn yn sownd yn ei ffôn nag yn hynt a helynt preswylwyr ysgolion bonedd Blyton, felly dwi ddim yn siwr ‘mod i’n cytuno gant y cant fod darllen unrhyw beth yn well na darllen dim. Roedd y Fives a’r Sevens dwtsh yn well.

A1jJs+LVsYL._AC_SL1500_
(ia, llun o’r ffilm, sori, ond mae’n un da tydi!)

Ond gwell o lawer oedd un o lyfrau fy nhad yn blentyn – Swallows and Amazons, Arthur Ransome – a greai fyd dychymyg plentyn i’r dim.

Dotiwn at nofelau Beti Hughes ac Elizabeth Watkin-Jones, ond i raddau, roedd prinder llyfrau i blant yn Gymraeg pan oeddwn i’n blentyn ar ddiwedd y chwedegau a dechrau’r saithdegau yn ein gwthio i ddarllen llyfrau oedolion yn gynt, a doedd hynny ddim yn ddrwg o beth i gyd: J Ellis Williams, Jane Edwards, Islwyn Ffowc Elis – darllenais Cysgod y Cryman
38477331
ddwy waith ac Yn Ôl i Leifior unwaith tra ar wyliau cyfnewid am bythefnos gyda theulu yn Llydaw yn dair ar ddeg, cymaint oedd fy hiraeth am adre.

Copi fy rhieni o The Great Short Stories of the World

il_570xN.950720898_lhu1
a agorodd fy meddwl i nofelau o rannau o’r byd y tu hwnt i’r ynysoedd hyn, ac er bod rhai nofelau’n fwy o sialens na’i gilydd, po fwya’r her, mwya’r wobr. Mae’n dda cael llyfrau heddiw wedi’u targedu at wahanol oedrannau, ond ddylen ni ddim categoreiddio’n ormodol chwaith: mae Llyfr Glas Nebo yn brawf o’r ffordd y mae llenyddiaeth wych yn rhychwantu oedrannau.

Wyt ti’n dal i ddarllen llyfrau plant?
Dim digon. Rydyn ni’n eithriadol o lwcus o’r awduron gwych sy’n ysgrifennu yn Gymraeg ar gyfer plant a phobl ifanc – Bethan Gwanas, Manon Steffan Ross, Myrddin ap Dafydd a chymaint o rai eraill, heb anghofio nofelau Gareth F Williams. Bûm am flynyddoedd yn ei chael hi braidd yn anodd i ymgolli mewn llyfrau gwych fel trioleg wreiddiol Phillip Pulman am nad oeddwn yn hynod o hoff o ddarllen nofelau heb eu gwreiddio yn y byd real fel petai, ond gwendid oedd hyn, a dwi’n dechrau gwella.

Ar ôl dweud hynny, yn y cyfnod pan oedd fy mhlant yn fach, a minnau’n darllen iddyn nhw’n nosweithiol, roeddwn i wrth fy modd gyda’r holl ddewis oedd ar gael erbyn hynny: trysorau Angharad Tomos, Cyfres Rwdlan wrth gwrs

510YCIrlpHL._SX258_BO1,204,203,200_
(collais sawl deigryn yn darllen Yn Ddistaw Bach, ac mae fy mhlant a minnau’n dal i allu adrodd talpiau o’r gyfres ar ein cof), a Sothach a Sglyfath (yr orau un i mi o bosib);

51am7s43iCL._SX324_BO1,204,203,200_

Tŷ Jac, cyfrol fendigedig am y ddaear a’r ffordd rydyn ni’n effeithio arni a roddai neges werdd ymhell cyn i negeseuon felly ddod yn fwy cyfarwydd.

0862433126_300x400

Erbyn hynny hefyd, roedd ‘na lu o lyfrau lliwgar gwych – yn cynnwys cyfrolau bendigedig Gwyn Thomas a Rhiannon Ifans ac eraill – yn adrodd straeon gwerin Cymru a’r byd, a chwedlau a hanesion arwyr Cymru.

0862434580_300x400

Pwy ydi dy hoff ddarlunydd llyfrau plant?
Yn dilyn o’r uchod, mae gwaith Margaret Jones ar y Mabinogi yn aros yn y cof:

branwen_ferch_llyr
Ond yn bersonol, does dim curo ar symlrwydd Cyfres Rwdlan.

51UyIi3UNmL

A Sothach a Sglyfath wedyn, yn debyg i luniau Y Tywysog Bach, Antoine de Saint-Exupery.

41SeIkERwGL._SX355_BO1,204,203,200_

Er mai yn y dychymyg drwy eiriau’r awdur y mae’r lluniau gorau’n digwydd, mae’r darlunwyr gorau’n ategu lluniau’r dychymyg yn hytrach na’u disodli. Mae fy mhlant (sy’n oedolion ers tro byd bellach) yn dal i gofio’r murlun o holl gymeriadau Cyfres Rwdlan baention ni yn eu hystafell wely.

Beth wnaeth i ti ddechrau ysgrifennu?
Darllen. Llarpio llyfrau, a chael fy llyncu gan lyfrau, wrth iddyn nhw ymestyn fy ngorwelion i fydoedd a phrofiadau eraill heb i mi orfod symud o fy unfan. A hynny yn ei dro yn codi awydd arna i i drio ysgrifennu straeon sy’n gwneud yr un peth i eraill.

Beth wyt ti’n ei fwynhau fwyaf am ysgrifennu?
Yn union yr un peth â dwi’n ei fwynhau fwya am ddarllen llyfrau – ymgolli. Codi ‘mhen ar ôl teirawr o ddarllen/ysgrifennu a meddwl faint o’r gloch yw hi? Lle goblyn ydw i? Pwy ydw i?
girl-funny-facial-expression-pretty-teenage-standing-confused-front-grey-wall-background-drawn-question-marks-concept-116355452

Dwed ychydig mwy am dy lyfr diweddaraf i blant:
Afallon: yr olaf yn nhrioleg Yma, a ddaeth allan y llynedd. Enwau’r ddwy gyntaf oedd Yr Ynys a Hadau.

59635005_397756824287759_5568033346706997248_o

Trioleg yw hi am ddau yn eu harddegau, Gwawr a Cai, sy’n byw ar ynys yng nghylch yr Arctig yn y flwyddyn 2141. Yn dilyn trychineb niwclear, does dim llawer o bobl ar ôl yn y byd, a diolch i Fam Un, a aeth o Gymru ychydig cyn y drychineb, cafodd y Gymraeg ei chadw a’i throsglwyddo o genhedlaeth i genhedlaeth ar yr ynys. Daw’n ddiogel dros ganrif yn ddiweddarach i deithio’n ôl i Gymru, a phan ddaw’r ynyswyr yma, does neb ar ôl wrth gwrs. Tybed…?
Mae’r ail a’r drydedd nofel yn dilyn beth sy’n digwydd i Gwawr a Cai ar ôl iddyn nhw gyrraedd Aberystwyth, a’u cymdogion newydd yno.

Pa lyfr plant sydd ar y gweill gen ti?
Mae gen i nofel i oedolion ar y gweill, ond dim byd penodol i blant ar hyn o bryd. Mi wnes i fwynhau ysgrifennu trioleg Yma yn fawr iawn, a dwi’n teimlo ‘mod i wedi byw gyda Gwawr a Cai a’r cymeriadau eraill yn y dyfodol am y ddwy neu dair o flynyddoedd a gymerodd hi i gyhoeddi’r tair. Dwi’n hoff o ddyfalu’r dyfodol a chanlyniadau pethau sy’n digwydd heddiw, a dyna wnes i mewn nofel gynharach hefyd, Annwyl Smotyn Bach.

annwyl-smotyn-bach

Mae’n ddigon posib mai aros yn y dyfodol wna i ar gyfer fy nofel nesa i blant hefyd. Caf weld!

A dyna ni – diolch yn fawr Lleucu, a brysia efo’r llyfr nesa i blant!

maxresdefault