Dyma i chi golofn sgwennais i ar gyfer Yr Herald Gymraeg wythnos dwytha:
Bob tair blynedd, bydd Cyngor Llyfrau Cymru yn cyflwyno tlws er cof am yr awdures Mary Vaughan Jones, ‘mam’ Sali Mali a Jaci Soch a chymaint o gymeriadau eraill helpodd genedlaethau o blant i ddysgu a mwynhau darllen.
Hogan o ardal Llanrwst oedd hi, aeth yn athrawes ac yna’n ddarlithydd yn Y Coleg Normal, Bangor.
Bu farw yn 1983, ac yn 1985, dechreuwyd cyflwyno’r tlws i unigolion a wnaeth gyfraniad arbennig i faes llenyddiaeth plant yng Nghymru.
Dros y blynyddoedd, mae’r wobr wedi’i chyflwyno i’r mawrion, fel Ifor Owen, Emily Huws, T. Llew Jones, W. J. Jones, Roger Boore, J. Selwyn Lloyd, Elfyn Pritchard, Mair Wynn Hughes, Angharad Tomos, Jac Jones a Siân Lewis.
Ac eleni, y diweddar Gareth F Williams sydd wedi ei hennill a bydd yn cael ei chyflwyno i deulu Gareth mewn seremoni arbennig ym Mhortmeirion nos fory, sef nos Iau, 18 Hydref.
Dwi mor falch ei fod yn cael ei anrhydeddu fel hyn. Cyn iddo fo’n gadael ni mor greulon o fuan, llwyddodd Gareth i ysgrifennu ugeiniau o gyfrolau ar gyfer plant, pobl ifanc ac oedolion, ac mae pob un wan jac ohonyn nhw yn werth eu darllen. Enillodd o Wobr Tir na n-Og chwe gwaith (dwi’m yn meddwl bod neb arall wedi dod yn agos), ac yn 2015, pinacl ei yrfa, enillodd wobr Llyfr y Flwyddyn am ei nofel epig ar gyfer oedolion, Awst yn Anogia.
A rŵan, ac yntau ddim yma i roi’r wên annwyl ’na, mae o’n ennill gwobr arall. A deud y gwir, dwi bron yn siŵr mai hon ydi’r wobr fyddai wedi golygu fwya iddo fo; roedd o wrth ei fodd yn sgwennu ar gyfer plant a phobl ifainc, a dyma’r clod uchaf posib yn y maes. Diolch yn fawr i’r Cyngor Llyfrau am ei anrhydeddu fel hyn.
Bydd rhai o ddisgyblion Ysgol Eifionydd yn darllen a pherfformio eu hoff ddarnau o’u hoff lyfrau ganddo ar y noson, a dwi’n edrych ymlaen i’w clywed nhw na fu’r ratsiwn beth.
Pan fydda i’n meddwl am Gareth, mi fydda i’n meddwl am dŷ yn llawn llyfrau – ar silffoedd, ar lawr, ar ddesg a byrddau – bob man. Rhywbeth tebyg i fy nhŷ i a bod yn onest, a’r math o dŷ sy’n gwneud i mi wenu. Efallai bod tai taclus â dim llyfrau yn y golwg yn plesio cylchgronau sgleiniog fel Ideal Home a Hello ac ati, ond dydyn nhw’n gwneud dim lles i ddyfodol eich plant chi!
Mae’n ffaith: mae astudiaeth ar y cyd rhwng prifysgolion yn Awstralia a Nevada wedi darganfod bod cael eich magu mewn tŷ llawn llyfrau, hyd yn oed os nad ydech chi’n eu darllen nhw, yn gwella eich canlyniadau addysg – a chyfoeth – ac IQ. Nid dim ond o ran eich sgiliau iaith ond o ran mathemateg a thechnoleg gwybodaeth hefyd.
Nid y darllen fel y cyfryw oedd yn gwneud y gwahaniaeth, mae’n debyg. ‘Mae’n anodd iawn rhoi eich bys arno,’ meddai Dr Sikora, prif awdur yr astudiaeth, ‘mae ’na fwy iddi na deud “jest darllena lwyth o lyfrau.” Mae’n ymwneud â bod o gwmpas llyfrau a phobl sy’n darllen. Mae’n bwysig i blant ifanc weld eu rhieni a phobl eraill yn amgylchynu eu hunain â llyfrau.’
Pobl o wledydd fel Estonia, Norwy a Gwlad Tsiec oedd â’r nifer fwya o lyfrau yn eu tai pan oedden nhw’n 16. Cyfartaledd o 218 llyfr yn Estonia, dim ond 143 ym Mhrydain (dim clem faint o Gymru gafodd eu holi), 125 yn Nghanada a 114 yn yr Unol Daleithiau. Twrci oedd â’r nifer lleiaf o’r astudiaeth – 27 llyfr. Ond Norwy oedd â’r nifer fwya o bobl gyda thros 500 llyfr yn eu tai.
A dyma i chi ganlyniad diddorol: roedd gan oedolion gyda graddau prifysgol, ond oedd wedi eu magu gyda llai o lyfrau, yr un lefel llythrennedd â phobl oedd wedi gadael yr ysgol yn 15 oed, ond oedd wedi byw mewn tai llawn llyfrau.
Roedd y gwahaniaeth mwya ymysg pobl oedd wedi eu magu â llai o bres a manteision, felly gallai teuluoedd tlawd heddiw leihau’r gagendor addysg drwy ‘addurno’ eu cartrefi â llyfrau. Syml!
Felly faint o lyfrau oedd o’ch cwmpas chi yn 16 oed? Doedd gynnon ni ddim gymaint â hynny gan fod Mam yn mynnu rhoi ein hen lyfrau plant i aelodau eraill y teulu estynedig dragwyddol, ond wedi deud hynny, roedd hynny’n gweithio ddwy ffordd: roedden ni’n cael llyfrau ail law gan amrywiol fodrybedd yn weddol gyson. Mi fyddwn i’n cael llyfrau fel anrhegion pen-blwydd a Nadolig yn rheolaidd, ac yn eu trysori. Ond y fan llyfrgell oedd gwir ffynhonell ein deunydd darllen ni, a byddai’n rhaid rhoi’r rheiny yn ôl, wrth gwrs.
Mi fydda i’n dal i ddefnyddio ein llyfrgell leol yn aml, a diolch byth fod y lle yn dal yn agored, achos dwi wedi prynu a derbyn cannoedd ar gannoedd o lyfrau dros y blynyddoedd. Gormod a bod yn onest, gan mod i’n dechrau rhedeg allan o le i’w cadw, ac yn mynd â bocseidiau i siopau elusen pan fydd yr awydd i ddystio neu hŵfro yn codi (na, dydi hynny ddim yn digwydd yn aml…)
Mae rhai’n deud nad oes y fath beth â gormod o lyfrau, ond mae’n dibynnu ar faint eich tŷ chi tydi!
Dyma i chi ambell ddyfyniad am ddarllen sydd wedi fy nifyrru dros y blynyddoedd:
‘“Clasur” – llyfr y bydd pobl yn ei ganmol ond ddim yn ei ddarllen.’ Mark Twain.
‘Dylai llyfr gwych eich gadael â llawer o brofiadau, ac wedi ymlâdd fymryn ar y diwedd. Rydach chi’n byw sawl bywyd wrth ddarllen.’ William Styron
Ac un yn y Saesneg gwreiddiol am fod cyfieithu ‘daunting’ yn fachog yn anodd:
(wrth drafod llyfrau plant) ‘Books shouldn’t be daunting, they should be funny, exciting and wonderful…’ Roald Dahl.
Byddai Gareth F wedi cytuno.
Roedd y noson yn un hyfryd, gynnes, emosiynol a diolch i bawb gyfrannodd iddi.
Wrth gerdded yn ôl drwy bentre Portmeirion, roedd y lleuad yn disgleirio ar yr afon roedd Gareth wedi ei fagu wrth ei hymyl, a dyma lun dynnais i efo fy ffôn.