Archif

All posts for the month Ionawr, 2016

LLyfrau o wledydd eraill

Published Ionawr 15, 2016 by gwanas

Do, wedi bod yn rhy brysur i flogio mae arna i ofn! Mae ‘na sôn am lyfrau plant ar y ffordd, dwi’n addo.

Ond, gan fod un o wrandawyr Radio Cymru bore ‘ma ( sy’n digwydd bod yn olygydd llyfrau felly mae hi’n CARU llyfrau) wedi gofyn i mi flogio am y llyfrau wnes i sôn amdanyn nhw, dyma chi. Wel, rhai ohonyn nhw.

FullSizeRender

Llyfrau i’w darllen pan dach chi ar wyliau neu’n teithio yn y gwledydd dan sylw, neu cyn mynd yno, ydyn nhw. Mi allech chi eu darllen ar ôl bod hefyd wrth gwrs, ond dwi’n meddwl bod hynny fymryn yn rhy hwyr i chi gael ‘y pecyn cyfan.’

Mae ‘na rywbeth yn arbennig am ddarllen llyfr gan awdur o’r wlad, yn y wlad; mi allwch chi arogli’r blodau a’r bwyd a’r tirwedd, mi allwch chi deimlo’r gwres neu’r oerfel tra’n darllen amdano, clywed yr iaith neu’r acen – byw y llyfr go iawn.

Mae ‘na filoedd o lyfrau da allan yna wrth gwrs. Cantamil os ewch chi i America neu Loegr, ond mynd am y rhai llai adnabyddus sy’n braf.

Dwi’m yn meddwl y bydd llawer ohonoch chi am fentro i Nigeria yn fuan ( chydig yn beryglus o hyd) ond mae’n werth darllen rhain beth bynnag o ran pleser, agoriad llygad, addysg ac ti:

220px-ThingsFallApart

Y clawr gwreiddiol. Ac un mwy cyfredol:

premiumtimesng.com_

Things Fall Apart Chinua Achebe, gafodd ei gyhoeddi yn 1958, am ddyn o lwyth yr Igbo. I chi gael gweld be oedd dylanwad y dyn gwyn ar bentre yn Nigeria – o safbwynt un o’r trigolion.

Ac i ddeall be’n union oedd rhyfel Biafra, ble, sut, pwy ac ati, mae hwn yn arbennig:

half-of-a-yellow-sun

Half of a Yellow Son. Mi ddarllenais i hwnna cyn mynd yn ôl i Gbara. Gwych.

Bydd mwy o obaith i fwy ohonoch chi fynd i Gambodia neu Fietnam. Os Cambodia, hwn gafodd effaith ryfeddol arna i:

RB11932

Hanes dirdynnol be ddigwyddodd i’r awdur wedi i’r Khmer Rouge reoli’r wlad. Mi es i i’r ‘Killing Fields’ a’r hen garchar  y diwrnod ar ôl darllen hwn. Crio fel babi.

Dyma linc arall i chi amdano:

https://books.google.co.uk/books/about/Stay_Alive_My_Son.html?id=IvhwAAAAMAAJ&redir_esc=y

Ac yn Fietnam, mi ddarllenais i hwn:

Unknown

Catfish and Mandala gan Andrew Pham – hanes yr awdur yn teithio ar feic o gwmpas y wlad nath o ddianc ohoni’n blentyn – ar gwch. Ia, fel un o’r ‘Vietnamese boat people.’ Difyr. Addysg.

Iwerddon: oes, mae na awduron mwy cyfredol ( Roddy Doyle yn wych) ond y ddau yma fachodd fy niddordeb i gyntaf am y wlad a’r bobl a’u hiwmor a’u hanes:

Frank O’Connor :

Iomha10

Tydi o’n edrych yn gymêr? Y llygaid llawn himwor ‘na, fel ei straeon. Er, mae ‘na dristwch wrth reswm. Un o’i straeon o oedd y tu ôl i’r ffilm ‘The Crying Game.’

 

a Brendan Behan, rafin os bu rafin erioed:

images

Cenedlaetholwr, bardd, yfwr trwm – mae hwn yn reiat i’w ddarllen. Os nad ydach chi wedi clywed am y boi, chwiliwch am un o’i lyfrau o, a ‘Borstal Boy’ ydi’r un dwi’n ei argymell.

Unknown Mi gafodd hwn ei wneud yn ffilm hefyd. A dyma lyfr arall gafodd ei gyhoeddi yn 1958… blwyddyn dda yn amlwg.

Os dach chi’n mynd i Barcelona – unrhyw beth gan Carlos Ruiz Zafón. Gwych iawn, iawn, ond wedi darllen rheiny adre dw i, felly dydi’r profiad ddim yr un fath.

Mynd i Fecsico? Dach chi’n GORFOD darllen Como agua para chocolate  ( dangos fy hun) neu Like water for chocolate gan Laura Esquivel.

Unknown-1

Mi wnes i syrthio mewn cariad yn llwyr efo hon – ac mi neith Manon Steffan Ros hefyd. Riset ym mhob pennod, fel Blasu! A mor deimladwy, efo ambell olygfa sydd wedi aros efo fi am byth. Mae ‘na ffilm, OND MAE’R LLYFR YN WELL SIWR IAWN!

Mi wnai sôn am y gweddill mewn blogiad arall ( mae gen i waith i’w wneud!) ond dwi am orffen heddiw efo disgrifiad o lyfr gafodd ei ganmol ar wefan y Guardian, lle cafodd hyn i gyd ei symbylu, linc isod i’r wefan honno, lle mae Martha Jack & Shanco yn cynrychioli Prydain!

http://www.theguardian.com/travel/2016/jan/12/literary-travel-10-must-read-books-for-travellers

A dyma’r llyfr dwi isio’i ddarllen – yn Greenland – a Togo – os yn bosib! Ond do, dwi wedi bod yn Togo…

An African in Greenland” by Tété-Michel Kpomassie (translated from French by James Kirkup). You will learn something about Togo and much more about Greenland in the 1960s. Kpomassie writes engagingly about the clash of two non-Western cultures without descending into tedious academese: he simply goes to Greenland and bluntly but charmingly describes what he experiences. It is also funny, in parts unintentionally, as when the author criticises the Greenlanders for their promiscuity while freely partaking of it.

Swnio’n wahanol tydi?