

Dyma i chi lyfr difyr arall gan Sian Northey a Gwasg Carreg Gwalch. Dilyniant i Dros Ben Llestri! a Dim Gobaith Caneri. 66 dihareb sydd dan sylw y tro yma, ac mae Sian wedi sgwennu stori fach sy’n eich helpu i ddeall pob un, gyda lluniau gan Siôn Morris. ee:

Merch o’r enw Bethan sy’n caru llyfrau… byd bach ‘de?
Hon ydi fy hoff stori i – mi wnaeth i mi chwerthin, rhaid i mi ddeud!

Mae rhai o’r diarhebion yn gyfarwydd, ac erail yn gwbl ddiarth i mi – ond dwi am eu defnyddio o hyn ymlaen. A dwi wedi dysgu gair newydd: goganu!

Dal ddim yn deall?! Yn ôl Geiriadur y Brifysgol: Dychanu, canu dychan, gwawdio, gwatwar, difrïo, difenwi, absennu.
to satirize, lampoon, mock, deride, revile, disparage, dispraise, defame.
Dwi am ddefnyddio goganu hynny fedra i rŵan – mae’n chwip o air – a chwip o ddihareb. A chwip o lyfr defnyddiol, addysgiadol.
Da iawn unwaith eto Sian Northey! O, ac mi wnes i ei gweld hi yn y Ffair Lyfrau yn Llundain – dyma ni efo Dr Siwan Rosser (sy’n gwybod bob dim sydd i’w wybod am lyfrau plant o Gymru)

A dyma Siwan a minnau ac awduron eraill o Gymru (Eloise Williams a Catherine Fisher) yn barod i drafod hud a lledrith mewn llyfrau plant o Gymru:

Chwilio am glawr un o fy llyfrau i ar fy ffôn ro’n i… cyfle gwych i’w dangos i gynulleidfa gwbl newydd a wnes i’m meddwl dod â chopiau efo fi. Dyyyy. Ond mi wnes i sôn am Ramboy, fy nghyfieithiad o Pen Dafad ac mae o leia un ddynes wedi archebu copi o’r herwydd!

Ond mi fydd na copiau o fy llyfrau yn bendant ar gael yng Nghaerdydd ddiwedd y mis! Bellach yn ei 6ed blwyddyn, mae Gŵyl Llên Plant Caerdydd yn para dros ddau benwythnos ym mis Ebrill ac yn cynnwys mwy na 40 o ddigwyddiadau. Ewch draw i (link: http://www.gwylllenplantcaerdydd.com) gwylllenplantcaerdydd.com i archebu’ch tocynnau heddiw!
A dyma i chi un digwyddiad:

Plis dowch draw. Dowch â rhiant/nain/taid/modryb/ewyrth/brawd/chwaer efo chi!