Archif

All posts for the month Rhagfyr, 2013

Llyfrau ar gyfer Mam

Published Rhagfyr 31, 2013 by gwanas

Mi wnes i ddarganfod Jojo Moyes drwy fenthyg llyfr ar dâp o’r llyfrgell-Image  Nefi, mi wnes i fwynhau, efallai am ei fod yn sôn am y Rhyfel Byd Cynta a minnau newydd fod yn Fflandrys.

Mae rhannau o’r llyfr yn y presennol hefyd, a dyw’r rheiny ddim cystal, ond mae stori y Ffrances gafodd ‘ei gadael ar ôl’ gan ei gwr pan ymunodd â’r fyddin yn cydio go iawn. Nid llyfr i blant mo hwn (na’r gweddill yn y blogiad yma), ond efallai y byddai Mam neu Dad yn ei hoffi. Mae angen gofalu amdanyn nhw hefyd does!

Gan mod i wedi fy mhlesio gymaint, mi wnes i ddarllen llyfr arall ganddi:image
Hwn ydi ei llyfr mwya poblogaidd a llwyddiannus, am ferch sy’n gofalu am ddyn ifanc mewn cadair olwyn. Rhybudd- bydd angen stoc go dda o hancesi. Chwip o stori fydd yn aros yn y cof am hir. Clincar.

Mi fedrai argymell hwn hefyd:image Stori dda. Stori garu, ia, ond stori glyfar oedd yn anodd ei roi i lawr.

Ond dwi newydd orffen nofel arall ganddi oedd ddim cystal.image
Stori garu lle dach chi jest yn gwybod bod diweddglo hapus iddi o’r cychwyn cynta. Dim byd o’i le efo hynny, ond gan fod y llyfrau eraill gymaint mwy na chick-lit, mi ges i fy siomi. Ond os dach chi’n teimlo fel stori garu sy’n sôn am forfilod a dolffiniaid hefyd, mi wnewch chi fwynhau hon. Mi wnes i hedfan drwyddi, digon joli. Un o’i nofelau cynharach ddeudwn i, ac mae hi wedi datblygu gryn dipyn fel awdur ers hynny.

Advertisements

Hoff lyfrau arswyd Gareth F.

Published Rhagfyr 28, 2013 by gwanas

Mae’r awdur Gareth F Williams – awdur un o fy hoff lyfrau i’r arddegau: images

wedi cysylltu efo fi yn sgîl y blog yma, a dyma ei neges am lyfrau arswyd:

Haia Beth,

Dyma rai llyfrau arswyd (y mwyafrif wedi’u hanelu at blant a phobol ifainc) y cefais flys arnyn nhw. Chwaeth personol yw pob rhestr o’r fath, wrth gwrs.

Cychwynnaf, fodd bynnag, gydag awdur nad oedd o’n sgwennu ei straeon ar gyfer ieuenctid: ro’n i yn f’arddegau pan ddeuthum ar ei draws o gyntaf, ac er i mi ddarllen miloedd o straeon dros y blynyddoedd, y fo yw’r Meistr heb os nac oni bai. Sôn ydw i wrth gwrs am M.R. James. DownloadedFile-3Dylai’r Collected Ghost Stories fod ar silff lyfrau pawb sydd â diddordeb mewn llên o’r fath. Yr argraff gyntaf gan ddarllenwyr ifainc cyfoes mae’n siŵr fyddai “Hen Ffasiwn” (h.y. mae Saesneg da’r dyddiau yma’n hen-ffash!). Ond bydd dyfalbarhau yn eu gwobrwyo’n fawr. Awgrymaf Oh Whistle and I’ll Come to You, My Lad; A Warning to the Curious; The Ash Tree… o, awgrymaf y blŵming lot!

Reit – plant ac ieuenctid.
Rwyt ti esioes wedi canu clod The Graveyard Book gan Neil Gaiman. Hoffais yn fawr un arall o’i waith, sef Coraline, am ferch sydd wedi cael ei dal yr ochr anghywir i ddrws – gyda rhieni ffug sydd â botymau yn lle llygaid.

Rhestr:
Coraline – Neil Gaiman
The Graveyard Book – Neil Gaiman
A Monster Calls – Patrick Ness
Breathe – Cliff McNishDownloadedFile-3
Whispers in the Graveyard – Theresa Breslin
The Ghost of Thomas Kempe – Penelope Lively
Robert Westall – dwy gyfrol o straeon byrion, Shades of Darkness a Demons and Shadows, yn ogystal â nofel, The Scarecrows
Black Harvest – Ann Pilling
The Skull in the Wood ¬– Sandra Greaves
Wait Till Helen Comes – Mary Downing Hahn
The Owl Service – Alan Garner (clasur!)images-2

A rhaid sôn am gerdd Walter de la Mare, The Listeners.

Manteisiaf ar y cyfle i argymell (plîs prynwch! mewn geiriau eraill) fy mhump ymdrech i yn y maes: Jara; Eira Mân, Eira Mawr; Ffrindiau; Y Dyn Gwyrdd a Hwdi.images-1DownloadedFileDownloadedFile-1DownloadedFile-2

Cofion,
Gareth F.x

Bethan sy’n siarad/sgwennu rwan: diolch Gareth! Ac mi fedra i argymell llyfrau Gareth i gyd – yn enwedig Eira Mân, Eira Mawr – enillydd Gwobr Tir na Nog gyda llaw. Ac mi fydda i’n siwr o chwilio am un o’i restr Saesneg o rwan hefyd. Rhowch wybod os ydach chi wedi darllen rhai o’r lyfrau yma, a be oedd eich barn – ac os gawsoch chi eich dychryn!

Pen yr Enfys, Leusa Fflur Llewelyn

Published Rhagfyr 24, 2013 by gwanas

Dwi ddim yn deall pobl sy’n deud nad oes gynnyn nhw amser i ddarllen. Yn y salon trin gwallt ro’n i yn darllen hwn, os sylwch chi ar y ffoils yn fy ngwallt a’r geriach salon o’m cwmpas.Image Mi fydda i’n mynd a llyfr efo fi at y deintydd hefyd, i’r ysbyty, unrhyw le lle dwi’n gwybod y bydd raid i mi eistedd yn aros am sbel. Ia, dwi’n gwybod bod cylchgronau yno gan amla, ond does gen i fawr o ddiddordeb mewn cylchgronau ceir na golff, a dim amynedd o gwbl efo hanesion gwahanol ‘selebs’ mewn copi o Hello 2011. Pam ddim mynd a llyfr bach ysgafn efo chi?

Mae llyfrau Cyfres Pen Dafad yn ddelfrydol ar gyfer adegau fel yna: maen nhw’n eitha byr a hawdd eu darllen, felly nid yn unig allwch chi adael y salon efo gwallt del, ond wedi gorffen llyfr hefyd – wel, ei hanner o leia.

Dwi wedi sgwennu dau lyfr ar gyfer y gyfres fy hun: Ceri GrafuImage a Pen DafadImage felly dwi’n gwybod beth yw gofynion y gyfres. Ond mae Ceri Grafu ar gyfer oedran iau na’r lleill – doedd y ‘brief’ ddim mor glir ar y dechrau! Mae Ceri Grafu‘n iawn ar gyfer Blwyddyn 4, 5 a 6, ond mi fyswn i’n argymell Pen Dafad ar gyfer criw Blwyddyn 6, 7 ac 8. Ac mae Blwyddyn 9 yn ei hoffi hefyd, yn enwedig os ydyn nhw’n fechgyn sydd ddim fel arfer yn hoffi darllen.

Un arall hynod boblogaidd yn y gyfres ydi Sbinia, gan Bedwyr Rees Image ( fo oedd yn cyflwyno cyfres am Arfordir Môn ar S4C yn ddiweddar) ond mae hwnnw, fel Jibar a Ti ‘sho bet, yn  bendant ar gyfer yr ysgol uwchradd!

Dyma i chi flas o arddull Jibar:Image

A thudalen gynta Pen Dafad:Image

Ia, y ddau yn cyfeirio at ‘biso’, sydd ddim wir yn addas ar gyfer ysgolion cynradd o bosib! ‘Pi pi’ mae rhywun nes maen nhw’n 11/12 wrth gwrs…

Mae teitlau eraill yn y gyfres yn fwy aeddfed ( yn ôl rhai!) neu’n llai gwirion, fel Mewn Limbo neu Ca va, Safana, a dyna sy’n braf – maen nhw i gyd mor wahanol.

A dwi’n meddwl mod i’n eitha saff yn deud mai Pen yr Enfys ydi’r un mwya ‘gwahanol’ ohonyn nhw i gyd. A deud y gwir, mae’r stori’n un hollol boncyrs – ac mae hynny’n gompliment, gyda llaw. Dwi’m yn siwr be fyddai ffans Sbinia yn ei feddwl ohoni, gan mai ffantasi llwyr  ydi hi, wedi ei gosod mewn gwlad o’r enw Pen yr Enfys ( “sy’n hofran uwchlaw’r Ddaear ac islaw’r lleuad”), ac mae’n llawn hud a lledrith a dreigiau a chwcws dof a bananas a rhyw bethau felly, na fydd, o bosib, yn apelio at yr ‘hogia caib a rhaw’.

Mi gymrodd sbel i mi fynd mewn iddi, rhaid cyfadde, ond unwaith ro’n i wedi arfer efo’r syniadau a’r arddull, ro’n i wedi fy hudo.

Dyma i chi’r dudalen gyntaf; mae’r frawddeg gynta’n un wych i dynnu sylw pawb o bob gallu, ond wedyn, mae’n newid:Image Bu’n rhaid i mi ei darllen ddwywaith i ddeall fod dau gymeriad gwahanol yma ( fy mai i am ddarllen yn rhy gyflym mae’n siwr) ac efallai y dylid bod wedi gwneud hynny’n fwy clir ar y cychwyn fel hyn, ond wedyn, mae’r stori’n llifo. Ro’n i wrth fy modd efo Siani a Seimon y pysgotwr yn enwedig, a wir isio gwybod eu hanes nhw.

Mae’n stori am genfigen ac anhegwch cymdeithas lle mae rhai’n cael popeth ac eraill yn cael briwsion, felly mae ‘na foeswers yma, a digon i feddwl amdano a’i drafod. Clyfar iawn oedd cynnwys hyn mewn stori sy’n cynnwys cymaint o elfennau gwallgo a gwirion. O, ac mi wnes i chwerthin yn uchel yn y darn lle mae cloc cwcw enfawr yn taro’r amser ac yn gollwng gwcw go iawn o’i grombil, dim ond i foi hurt o’r enw Pob weiddi ‘Pull!’ Annisgwyl – a digri. Digri iawn.

Na, wneith hi ddim apelio at bawb, ond mi fydd unrhyw un sy’n ddarllenwr eitha da ac sy’n hoffi dychymyg gwallgo a dawn dweud bywiog a hynod ‘wahanol’ wrth eu bodd efo hi. Mi ro’n i.

Y Gwaith Powdr, Sian Northey

Published Rhagfyr 22, 2013 by gwanas

image

Un o’r nofelau newydd yn y gyfres Strach gan wasg Gomer ydi hon, cyfres ar gyfer plant 9-11 oed yn fras. Ond dwi’n meddwl mai un ar gyfer darllenwyr da ydi hon, plant sy’n darllen yn h^yn na’u hoed, plant sy’n mwynhau geiriau ac arddull dawel, hyfryd, sydd bron yn freuddwydiol.
Mi wnaiff y stori ei hun apelio at fechgyn sy’n mwynhau stori ysbryd, ond gan fod y dechrau yn symud yn eitha araf, mi fydd angen iddyn nhw ganolbwyntio go iawn i gychwyn!
Dyma i chi flas o’r arddull – a pennod 2 ydi hwn:
image
Ia, er mai llun bachgen sydd ar y clawr, stori merch ifanc o’r enw Cira ydi hi. Ifan, y bachgen rhyfedd mae’n ei weld weithiau yn yr hen waith powdr, sydd bellach yn warchodfa natur, ydi’r bachgen ar y clawr.
Unig blentyn ydi Cira, sydd ddim yn hapus o gwbl bod ei mam wedi cael cariad newydd, sy’n mynd ar ei nerfau, yn helpu ei mam o gwmpas y ty, a gosod teils yn gam “neu dim ond yn gorweddian ar y soffa a’i law’n gorffwys ar y teclyn newid sianel.” Ia, mae dynion yn tueddu i wneud hynna! Mae Sian Northey’n un wych am ddeud lot efo ychydig eiriau.
Mi ddowch chi i nabod Cira’n dda, a’i hoffi. Ond falle nid Annes, ei ‘ffrind.’ Do’n i ddim yn rhy hoff ohoni o leia, ond fi ydi honno!
Mae hon yn stori ysbryd ‘neis’, chewch chi mo’ch dychryn, ond mi fyddwch chi isio gwybod pwy ydi Ifan a be ydi’r cysylltiad rhyngddo fo a thaid Cira, sy’n sal yn yr ysbyty. Ac os ydach chi’n hoffi hanes, ella y byddwch chi am wybod mwy am yr adeg pan fyddai pobl yn gwneud ffrwydron yn y ffatri, a pham fyddai gwalltiau pawb yn troi’n oren bryd hynny.
Nofel ddifyr, dawel, braf – a thrist. Wnaeth hi’m gwneud i mi grio, ond mi fues i’n meddwl gryn dipyn amdani wedyn.
Un pwynt negyddol – dydi cefn y clawr yn gwneud dim i’ch bachu! Rhyw sgwaryn bach plaen o froliant. Cymharwch arddull a golwg y ddau froliant yma:
imageimage
Ydach chi’n gweld gwahaniaeth mawr, neu ai jest fy llygad i ydi o?

Lapio anrhegion Nadolig

Published Rhagfyr 21, 2013 by gwanas

image
Wedi bod yn gwrando ar hwn tra’n lapio anrhegion Nadolig. Chwerthin yn uchel! Doniol iawn. Os ydach chi’n hoffi llyfrau Roald Dahl, mi fyddwch wrth eich bodd efo hwn. Hollol boncyrs. A llawn pethe fel ‘bottom burps’ – efo’r effeithiau sain ar y fersiwn CD wrth gwrs…
Mae na ddewis da o lyfrau ar CD yn eich llyfrgell leol. Jest y peth ar gyfer taith hir yn y car neu joban hir, ddiflas fel lapio anrhegion. Hyd yn oed y selotep wedi bihafio’n well nag arfer.
Ond dwi’m yn meddwl y bydd deintyddion yn rhy hapus efo hwn!

Cynllun Darllen newydd, gwych!

Published Rhagfyr 18, 2013 by gwanas

Mae ‘na gynllun gwych o’r enw ‘Patron of Reading’ yn bod yn Saesneg (er mai yng Ngogledd Cymru y ganwyd o) ers tro rwan. Dyma’r wefan os am wybod mwy:http://www.patronofreading.co.uk/

Yn syml, mae ysgol yn dewis awdur i fod yn ‘patron’ neu gyfaill darllen iddyn nhw. Mae’r awdur hwnnw/honno yn ymweld â’r ysgol unwaith bob tymor, yn trafod llyfrau a darllen a phob dim sy’n ymwneud â darllen, er mwyn dathlu pa mor ffantastic mae llyfrau’n gallu bod.

Os oes rhai o’r plant yn gwneud cynnydd da yn eu sgiliau darllen neu’n ennill gwobr o ryw fath, mae’r awdur yn sgwennu atyn nhw i’w llongyfarch – neu – fel y gallwn i ei wneud – yn eu gwneud nhw’n enwog ar eu blog!

Swnio’n hwyl tydi? A dwi wedi cael y fraint a’r anrhydedd o fod yr awdur Cymraeg cyntaf i fod yn ran o’r cynllun – drwy’r Gymraeg wrth gwrs.

A dyma fy nghriw i!

Cynllun Darllen newydd, gwych!
Criw hyfryd Blwyddyn 3,4,5 a 6 Ysgol Bro Cynmeirch, Llanrhaeadr yng Nghynmeirch (rhwng Rhuthin a Dinbych) ydi’r rhain, ac efo nhw fues i heddiw, drwy’r pnawn, yn cael modd i fyw yn trafod eu hoff lyfrau. A motocross a chwn, a siarcod mawr gwyn ac acne. Ia, gwahanol…!

Ond y peth pwysica i’w wneud ar y cychwyn oedd penderfynu be i alw ‘patron of reading’ yn Gymraeg… noddwr darllen yn swnio fel taswn i’n talu; anogwr neu hyrwyddwr yn swnio’n rhy ffurfiol; gwthiwr yn swnio’n gas; ac yna mi gafodd Siwan y syniad o fynd ar ôl ‘dotio at ddarllen’. Aha! Roedden ni’n hoffi Dotiwr Darllen nes i’r Brifathrawes gall, Mrs Gwennol Ellis, awgrymu efallai y byddai pobl yn fy ngalw’n ‘dotty’! Hm. Mae ‘na elfen o wirionedd yn hynny, ond ta waeth.
‘Be am Gyfaill Darllen?’ meddai hi.

Ddeudais i ei bod hi’n gall yndo? Felly dyna ni, Cyfaill Darllen ydw i rwan, Cyfaill Darllen Bro Cynmeirch.

Do’n i methu dangos y blog yn iawn iddyn nhw am fod gwefan y Cyngor yn ei flocio fo am ryw reswm! Roedden ni’n gallu gweld y dudalen am Baba Hyll, ond dim byd arall. Ond mae un o’r criw, Efa, wedi rhoi sylw ar y blog yn syth (am ‘Ceffylau’r Cymylau’) a dwi’n gobeithio cyhoeddi rhai o’u sylwadau/adolygiadau nhw yn y dyfodol.

Mi wnes i ddarllen chydig o Pen Dafad iddyn nhw image– y dechrau, pan mae o’n gweld ei hun yn y drych – a ges i ymateb gwych. Rhowlio chwerthin! Ond dydi hwnnw ddim yn llyfr ar gyfer Blwyddyn 3 a 4 a bod yn onest. Mwy at Blwyddyn 7 a 9!

Gyda llaw, oeddech chi’n gwybod mod i wedi cyfieithu hwnnw i’r Saesneg? Dyma fo:9780862439934
Ond does ‘na fawr o neb wedi clywed amdano fo, felly os oes gynnoch chi ffrind sy’n hoffi darllen ( llyfrau chydig bach yn od) ond ddim yn gallu darllen Cymraeg – dyma’r anrheg Nadolig perffaith iddyn nhw, ylwch!

The Graveyard Book, Neil Gaiman

Published Rhagfyr 18, 2013 by gwanas

The Graveyard Book, Neil Gaiman
Mi brynais i hwn fel e-lyfr i’r kindle bore ma. Dwi’m yn cofio pam. Am ei fod yn rhad. Am mod i’n meddwl ei bod hi’n hen bryd i mi ddarllen un o’i lyfrau o – er dwi wedi prynu un o’i rai eraill o i’r kindle ers misoedd (The Ocean at the end of the Lane) ond jest ddim wedi sbio arno eto.
Anaml fydda i’n darllen ar y kindle beth bynnag. Bali batri’n darfod yn rhy sydyn tydi, ac mae’n well gen i lyfr ‘go iawn.’ Y rhan fwya o blant Ysgol Gynradd y Brithdir yn cytuno mae’n debyg – difyr.
Ond yn ol at y pwnc: waw! Am lyfr! Mae o yn y categori Young Adult/ bobl ifanc, ac mae’n anodd deud pryd mae’r oed hwnnw’n dechrau ( a gorffen o ran hynny). Dydi o’m yn lyfr i ddarllenwyr diog, a bosib na neith o apelio at bawb. Ond dwi’n gwybod y byddwn i wedi gwirioni efo hwn yn 12 oed, yn 10 oed hefyd dwi’m yn amau.
Ydi, mae’n son am farwolaeth a lladd ac ysbrydion, ond mewn ffordd sydd ddim yn codi ofn. Mae’r meirw yn annwyl ac yn ddigri, ac yn ddoeth. Ar ol gorffen y llyfr, dwi’n gweld eu colli nhw’n barod.
Mae’n lyfr clyfar, llawn dychymyg, ac wedi ei sgwennu’n wych. Dwi’m wedi gallu stopio ei ddarllen, a finne i fod yn sgwennu nofel fy hun! Drapia fo. Mi fyswn i wedi bod wrth fy modd taswn i wedi gallu sgwennu’r llyfr yma yn Gymraeg cyn i Mr Gaiman hyd yn oed feddwl am y peth, ond wnes i ddim, naddo.
Mae na fwy i’w ddeud, ond mae’r batri bron a darfod ar hwn rwan – diolch i’r ffaith mod i jest methu ei roi i jarjo am fod y llyfr wedi cydio ynof fi i’r fath raddau! Ia, wn i, eistedd wrth ymyl plwg fysa’r ateb ond mae fy mhlwgiau i yn y lle anghywir, iawn?