Luned Aaron sydd dan sylw yr wythnos yma: (this is all about Luned’s favourite children’s books and illustrators)

Mae hi’n byw yng Nghaerdydd rŵan, ond un o Fangor ydi hi, a dwi’n gwybod, achos ro’n i’n ei dysgu yn Ysgol Tryfan am gyfnod! Ac oedd, roedd hi’n bleser i’w dysgu.
Mae hi’n artist ac yn awdur – ac yn “wneuthurwr llyfrau” yn ôl ei Twitter (sy’n berffaith wir gan ei bod yn gwneud y lluniau yn ogystal â’r lluniau) sy’n creu llyfrau hyfryd sydd wedi bod yn llwyddiannus iawn:

Mae hi a’i gŵr, Huw, ar y rhestr fer efo’i gilydd eleni:

A dyma gloriau rhai o’i llyfrau hyd yma:






Felly mwynhewch ei hatebion am ei hoff lyfrau:
- Pa lyfrau oeddet ti’n eu hoffi yn blentyn?
Pan ro’n i’n yr ysgol gynradd, dwi’n cofio i mi fwynhau cyfrolau Mary Vaughan Jones a Jac Jones,


Janet ac Allan Ahlberg,


yn ogystal â llyfrau Elwyn Ioan,


Roald Dahl, Elgan Philip Davies a Patricia St John.



Roedd cyfresi yn apelio hefyd, er enghraifft, cyfres Rwdlan gan Angharad Tomos a chyfres Storïau Hud pan ro’n i’n ifanc iawn; yn hwyrach ymlaen, mi ro’n i’n llyncu cyfresi fel Cyfres y Corryn neu gyfres y Llewod gan Dafydd Parry.




Roedd cyfresi Narnia gan C.S.Lewis a St Clare’s a Malory Towers gan Enid Blyton yn mynd â fy mryd hefyd.



Yn yr ysgol uwchradd, ro’n i’n mwynhau nofelau gan awduron fel Bethan Gwanas (Diolch! B x), Angharad Tomos, T. Llew Jones, Gareth F. Williams, Maya Angelou, Meg Elis, Irma Chilton, Judy Blume, Gwenno Hywyn a Mihangel Morgan.






Wyt ti’n dal i ddarllen llyfrau plant? Pa rai wyt ti wedi eu hoffi’n ddiweddar?
Ydw, yn gyson. Mae cael plant yn golygu fy mod i gyda’r esgus perffaith i brynu a darllen llyfrau da i blant! Dwi’n hoff iawn o ddarganfod gwaith sy’n torri tir newydd gan artistiaid ac awduron tramor.
Yn lled ddiweddar, dwi wedi darganfod yr awdur a’r darlunydd amryddawn Beatrice Alemagna,

yn ogystal â darlunwyr dawnus eraill fel Isabelle Arsenault, Kenard Pak,


Tim Hopgood

a Britta Teckentrup.

Mae Gŵyl Llên Plant Caerdydd yn lle delfrydol i gyfarfod awduron ac artistiaid dwi’n eu parchu. Yno y gwnes i gwrdd â Yuval Zommer a Petr Horáček – awduron a darlunwyr llyfrau plant dawnus dros ben.


Pwy ydi dy hoff ddylunydd/arlunydd llyfrau? Pam?
Dwi eisoes wedi crybwyll yr Eidales Beatrice Alemagna – dwi wrth fy modd gyda’i gwaith hi, ei harddull gweledol anhygoel yn ogystal â’i gwaith storïo gwreiddiol a dychmygus.
Awdur ddarlunwyr eraill dwi’n eu parchu’n fawr ydi Rebecca Cobb a’r diweddar John Burningham gyda’i arddull trawiadol sy’n gamarweiniol o naïf.


Athrylith arall ym maes llyfrau plant yn fy marn i ydi Shirley Hughes – mae hi’n llwyddo i gamu i mewn i fyd plentyn gyda’i lluniau a’i geiriau mewn modd tyner a llawn manylion hyfryd sydd wir yn argyhoeddi.

Mae Lauren Child hefyd yn llwyddo i gyfleu meddyliau ifanc yn wych iawn,

ac i mi, pencampwraig yr odl fyddai Julia Donaldson.

O ran y gweledol, mae arddulliau collage Leo Lionni ac Eric Carle wastad yn fy swyno,


yn ogystal â darluniau paentiadwy a lliwgar Brian Wildsmith o’r chwedegau a’r saithdegau.

Be nath i ti ddechrau sgwennu?
Dwi wedi mwynhau ysgrifennu ers yn ifanc iawn, a dwi’n dal i fod â chopïau o’r llyfrau bach gair a llun ro’n i’n eu creu pan yn yr ysgol gynradd gan i fy rhieni eu cadw nhw yn yr atig ar hyd y blynyddoedd!
Dwi’n siŵr fod mwynhau cyfrolau da fel cyfres Rwdlan yn fychan wedi bod yn sbardun mawr. Dwi’n cofio ysgrifennu at Angharad Tomos yn ifanc a sôn wrthi gymaint ro’n i’n hoffi ei gwaith.
Roedd gen i rieni ac athrawon oedd yn fy nghymell i o oedran ifanc i ysgrifennu’n gyson ac ymgeisio am gystadlaethau ac ati. Mi roedd ennill gwobrau mewn ambell i eisteddfod yn sicr yn hwb ac yn ysgogiad i ddal ati.
Be wyt ti’n ei fwynhau fwya’ am sgwennu?
Mae ysgrifennu dyddiadur yn gyson wedi bod yn arferiad ers ro’n i tua deg oed, felly mae rhoi mynegiant ar bapur i brofiadau yn bwysig iawn imi. Mewn rhyw ffordd, mae ysgrifennu yn fodd o ddogfennu a chroniclo teimladau a syniadau, ac mae hynny’n rhoi boddhad mawr imi.
Mae’r broses o greu rhywbeth mor derfynol â llyfr, sydd â pharhad iddo, yn sicr yn dod â’i foddhad. Mae yna wefr arbennig mewn agor bocs sy’n llawn llyfrau sydd newydd eu hargraffu!

Dwed chydig am dy nofel ddiweddara i blant.
Mae’r Cyfan i Ti (Atebol) ydi fy llyfr diweddaraf sydd wedi ei anelu at gynulleidfa ifanc. Mae’r gyfrol yn dilyn diwrnod ar ei hyd o wawrio’r haul ben bore tan iddi nosi yn yr hwyr, ac yn cyflwyno’r pum synnwyr i blant trwy wahanol olygfeydd cyfarwydd o fyd natur.

Mae’n gyfrol sydd ar ffurf mydr, a dwi’n gobeithio fod yr odl gyson a’r rhythm sydd yn y llyfr yn help i blant ymlacio ar ddiwedd y dydd.

Wrth ysgrifennu, ro’n i’n awyddus i gyfathrebu mewn modd a fyddai’n glir a diwastraff. Felly mi wnes i ofyn barn ambell i riant (gan gynnwys rhieni Cymraeg ail iaith), cyn athrawon ac ambell i fardd ro’n i’n eu parchu yn ystod y broses o ysgrifennu, er mwyn cael gwahanol safbwyntiau ynglŷn â ffyrdd o symleiddio’r dweud rhyw gymaint. Ro’n i am iddi fod yn gyfrol hygyrch, hawdd ei darllen, a do’n i’n sicr ddim eisiau dieithrio rhieni, yn enwedig rhieni ail iaith. Dwi’n falch bod cyfieithiad syml yng nghefn y llyfr sy’n llwyddo i ehangu apêl y llyfr gobeithio.
Wrth greu’r gyfrol, roedd helynt Covid a’r cloi mawr ar ddechrau, a ro’n i’n fwriadol eisiau creu cyfrol gadarnhaol a fyddai’n ddathliad o rodd natur. Er caledi’r cyfnod yma, a’r holl golledion sydd wedi dod yn ei sgil i gynifer o unigolion, dwi’n meddwl fod y cyfnod yma wedi peri i ni werthfawrogi ein milltir sgwâr yn fwy nag erioed, ac roedden ni fel teulu, fel y rhelyw ohonom, yn mwynhau dod i adnabod ein milltir sgwâr yn well wrth fynd ar ein troeon dyddiol. A dweud y gwir, roedd dipyn o’r syniadau ar gyfer y llyfr yn dod i mi wrth fynd ar y troeon yma.

Mewn ffordd, ro’n i’n awyddus i gyfleu yn y gyfrol fod cymaint o ryfeddodau ar ein stepen drws y gallwn ni eu mwynhau – does dim angen mynd dramor i ryfeddu! Mi fyddwn i’n sylwi yn yr ardd, er enghraifft, fel y byddai fy merched yn mopio’n lân at bethau mor ymddangosiadol fychan; o deithiau prysur y morgrug i’r siapiau ar ddail a phetalau. Nhw sy’n iawn wrth gwrs – mae’r rhyfeddodau yma reit o flaen ein trwynau ni, dim ond i ni sylwi arnyn nhw.
O bosib, ar ryw lefel isymwybodol wrth fynd ati i greu’r llyfr, fy mod i am annog rhieni i sylwi o’r newydd ar y pethau yma hefyd, yng nghwmni’r plentyn, gan ddeffro’r plentyn ynddyn nhw o bosib. Elfen arall sy’n dod drosodd yn gynnil yn y gyfrol dwi’n meddwl ydi’r ffaith bod cyfrifoldeb arnom ni i edrych ar ôl y greadigaeth ryfeddol yma, yn ogystal â’i mwynhau. Eto, doedd hyn ddim yn neges ro’n i’n ei gyfleu’n amlwg, ac yn sicr, doeddwn i ddim am fod yn bregethwrol a didactig, ond mae’r neges yno o dan yr wyneb.
O ran arddull weledol y llyfr, techneg collage sydd yma gan fwyaf, gan gynnwys technegau argraffu a pheintio hefyd ar brydiau. Dwi wrth fy modd gyda thechneg collage – mae modd ymgolli a gwirioneddol fwynhau’r broses haenog yma o greu. Mewn ffordd, mae’r gyfrol yma’n esblygiad naturiol o’r cyfrolau yn fy nghyfres Byd Natur (Gwasg Carreg Gwalch), sy’n cynnwys technegau tebyg, ond bod mwy o gynnwys geiriol a stori yn perthyn i’r gyfrol yma, ochr yn ochr â’r lluniau.
Mi hoffwn i ategu mai dechrau taith y gyfrol oedd cael treulio wythnos ar gwrs ysbrydoledig yng nghanolfan Tŷ Newydd –

cwrs a gafodd ei drefnu ar y cyd gan Gyngor Llyfrau Cymru a Llenyddiaeth Cymru. Dwi’n ddiolchgar am bob cyfle i dreulio amser yn Nhŷ Newydd gan ei fod yn fan mor arbennig sydd wedi rhoi cychwyn ar sawl prosiect creadigol imi ar hyd y blynyddoedd. Yn ystod y cwrs yma y cychwynnodd y sgwrs ynglŷn â’r posibilrwydd o gyhoeddi’r gyfrol gyda Rachel Lloyd o gwmni Atebol. Braf oedd y broses o gydweithio gyda hi, ynghyd â’r dylunydd dawnus Elgan Griffiths.
Pa lyfr(au) plant sydd ar y ffordd nesa gen ti?
Y ddwy gyfrol nesaf i blant fydd wedi eu hysgrifennu gen i fydd Nos Da Tanwen a Twm (Gwasg Carreg Gwalch) a Pam (Y Lolfa). Prosiectau ar y cyd gyda fy ngŵr, Huw Aaron, fydd y rhein – Huw fydd yn darlunio a dylunio’r ddwy gyfrol. Rhein fydd ein llyfrau cyntaf ar y cyd, felly dwi’n gyffrous iawn am gydweithio.
Cyfrol fach liwgar a chwareus i blant ifanc ydi Nos Da Tanwen a Twm sy’n cyflwyno’r elfennau gwahanol o fynd i’r gwely gyda’r hwyr trwy ddangos teulu bach o deigrod yn mynd trwy’r rwtîn nosweithiol. Llyfr ysgafn, ar odl, ydi Pam, sy’n cyflwyno cwestiynau sy’n peri penbleth i blentyn bach direidus!
Diolch am dy atebion, Luned, a diolch arbennig am dynnu ein sylw at arlunwyr mor ddifyr! Pob lwc efo’r llyfrau i gyd.

Gyda llaw, dwi newydd ddarganfod y linc bach hyfryd yma, sy’n rhoi sylw i arlunydd llyfrau gwahanol bob wythnos (Mae’n siŵr bod Luned yn gwybod amdano’n barod). Mwynhewch!