Ydach chi wedi cael eich copi o Mellten, y comic newydd Cymraeg i blant (tua) 7-13 oed eto?
Dwi wedi.
Mae Mellten yn gyfuniad o storiau stribed doniol, arswydus a chyffrous gyda rhai stribedi yn fyr iawn a stribedi eraill yn dal i fynd o rifyn i rifyn, ond hefyd mae ‘na bosau, jôcs, cystadleuthau, a chyngor ar sut i greu eich comics a’ch chartwnau eich hun.
Dyma rai o’r cymeriadau:A dim gwobrau am ddeud pa bêl-droediwr mae hwn yn debyg iddo fo!
Mae ei stori o yn un o fy ffefrynnau i fel mae’n digwydd.
Ond dwi ddim yn (tua) 7-13 oed. Be ydi eich barn chi? Ro’n i wedi meddwl cael barn Robin a’i ffrindiau sy’n 10, ond dwi byth yn ei weld o y dyddiau yma!
Pa straeon ydach chi’n eu hoffi fwya? Be fysach chi’n hoffi gweld mwy/llai ohono?
Mi fues i’n ddigon lwcus i gael holi Huw Aaron, ‘tad’ Mellten ar gyfer Golwg,
ac mae o wir isio gwybod be dach chi’n ei feddwl. Mae o’n gobeithio y bydd yn apelio at bob oed, ond “un o’r rhesymau dros wneud hyn o gwbl yw mod i wedi gweld bod bwlch mewn pethau gwreiddiol, cyffrous, Cymreig ar gyfer yr oedran 8-12 – a hŷn – ac oedolion sy’n hoffi comics. Dw i’n gobeithio ei fod e’r math o gomic y bydd mam a dad yn ei ddwyn oddi ar y plentyn am eu bod nhw isie gwd laff hefyd!”
“Dw i’n bendant ddim isie bod Mellten yn siarad lawr at blant, ac mae comics yn dda fel’na – yn help i blant sydd falle ddim yn darllen lot. Ti’n gallu rhoi stori gafaelgar, gymhleth ac aeddfed iddyn nhw heb fod angen yr eirfa anodd a chymhleth allai fod mewn nofel. Jyst diddanwch dwl ydy hwn i fod.”
Mi wnes i ofyn iddo fo o ble daeth ei gariad o at gomics:
“Ro’n i wrth fy modd gyda Asterix a Tintin – a dwi’n dal i’w hoffi nhw, ac ro’n i’n cael y Beano bob wythnos.”
Bydd Mellten yn ymddangos bedair gwaith y flwyddyn – dim ond £2 y copi ac mi allwch chi danysgrifio ar y wefan: http://www.mellten.com/
Neu mi allwch chi ei ddarllen yn eich Llyfrgelloedd lleol wrth gwrs. Mae ‘na gopi mewn 9 o lyfrgelloedd Gwynedd beth bynnag.
Hefyd, os dach chi awydd gwneud eich comic eich hun, mae croeso i’r ysgol drefnu i un o arlunwyr Mellten ddod i’ch gweld chi, efo adnoddau fel hyn:
Swnio’n grêt tydi?
Mi fues i’n addoli comics am flynyddoedd, a rhai fel hyn oedd fy ffefrynnau i:
“Gripping fiction”…dyna dwi’n ei fwynhau o hyd!