
Dwi wedi dotio eto! Mae’r llyfr yma’n berl. Ond bosib mod i’n biased – dwi’n hoff iawn o Batagonia (wedi bod ene, nôl yn 1991), dwi’n hoff iawn o’r math yma o stori a dwi’n hoff iawn o’r awdur:

sydd hefyd wedi gneud y lluniau, a dwi’n hoff iawn o’r rheiny hefyd… felly mi fyddai wedi bod yn anodd i hon beidio â mhlesio i.
Chlywais i rioed mo’r chwedl hon o’r blaen, ond roedd Lleucu wedi gorfod gneud tipyn o ymchwil i ddod o hyd iddi mae’n debyg, felly go dda hi.
Mae’r cwbl yn deillio o’r dywediad:
El que come calafate, siempre vuelve – Mae’r sawl sy’n bwyta’r calaffate, wastad yn dychwelyd.
Sôn am ffrwyth y coed calaffate maen nhw, sy’n gnweud jam neis iawn, mae’n debyg:

Ond dwi ddim yn cofio ei flasu o. Caws llaeth gawson ni pan o’n i ym Mhatagonia – neu ai jam llaeth oedd o? A phun bynnag, roedd hi’n ganol gaeaf.
Dyma sut a pham gafodd Lleucu hyd i’r stori, yn ei geiriau ei hun:

Dwi ddim isio difetha hud y stori cyn i chi gael gafael ar gopi, felly dyma chydig o luniau i chi (a chydig eiriau) i godi blas:



Mae’r lliwiau’n hyfryd tydyn? Ac yn cyfleu Patagonia a’r paith i’r dim. Ac mae’r stori jest yn… mi wnewch chi ei licio hi. Addo. Oes, mae ‘na dinc o Blodeuwedd ynddi, a Romeo a Juliet hefyd.
A dyma lun arall o Calaffate (y ferch roddodd ei henw i’r goeden/gwrych/llwyn/ffrwythau/blodau). Sylwch ar liw ei llygaid hi:

Roedd gwir angen llyfr stori am Batagonia, ac am y bobl oedd yn byw yno cyn i’r Cymry a’r Sbaenwyr ac ati gyrraedd. Mae’n cael ei farchnata fel llyfr i blant 7-11 oed, ond mae’n addas i bawb dros 11 hefyd yn fy marn i.
Bu’r llyfr yn llafur cariad i Lleucu am ddwy flynedd, ac mae’r llafur hwnnw’n dangos, a’r cariad hefyd. Diolch am ei sgwennu a’i ddarllunio, Lleucu.

Do, yn bendant, Lleucu.
Nid dim ond darlunydd ydi’r hogan yma o Flaenau Ffestiniog; mae hi’n gallu sgwennu hefyd. Dwi’n cofio dotio at ei syniadau a’i harddull hi pan roedd hi’n hogan ysgol yn y Moelwyn.
Gwasg Carreg Gwalch £6.50.
Diolch Bethan am dynnu sylw at waith rhagorol Lleucu gyda’r gyfrol hon. Mae’n haeddu pob canmoliaeth wrth gyhoeddi llyfr sydd yn sicr o ddiddordeb i ddarllenwyr o bob oed. Gobeithio y daw mor boblogaidd á Bethan Gwanas ymhen amser!
O, Vivian… dach chi’n rhy glen! Wel, efo fi, nid efo Lleucu. Eitha siŵr y gwelwn ni lawer iawn mwy o’i gwaith hi dros y blynyddoedd.