Archif

All posts for the month Rhagfyr, 2020

Hoff Lyfrau Meilyr Siôn – a Cwm y Wrach

Published Rhagfyr 27, 2020 by gwanas

Un o’r llyfrau newydd ar gyfer plant jest cyn y Nadolig oedd ‘Cwm y Wrach’ gan Meilyr Siôn.

Mae o wedi cyhoeddi o’r blaen, cyfres Parc Deri yn ogystal â nofelau unigol:

Ac mi wnes i adolygiad o ‘Hufen Afiach’ sbel yn ôl (rhowch y teitl yn y bocs chwilio er mwyn dod o hyd iddo).

Stori iasol ydi Cwm y Wrach, fel mae’r clawr yn ei awgrymu: lliwiau tywyll, a hen wraig fechan mewn afal – ac mae’r afal yn bwysig! Merch Blwyddyn 6 o’r enw Daisy yw’r prif gymeriad; mae hi a’i rhieni a Daniel ei brawd wedi symud i’r de o’r gogledd i redeg canolfan arddio, ond mae ‘na wrthdaro’n codi rhyngddyn nhw a chwmni sy’n gobeithio ffracio yn yr ardal. Yn ogystal â hyn, mae Daisy’n cyfarfod Mari, hen wraig fach od sy’n byw efo gwenci a neidr mewn bwthyn yng Nghwm y Wrach – ond dyw’r bwthyn ddim wastad yno… be ar y ddaear sy’n mynd ymlaen yma?

Mae Meilyr yn gallu creu tensiwn yn dda, felly mi wnes i fwynhau’r stori a’r digwyddiadau rhyfedd – a’r darluniau gan Philip Huckin. Maen nhw’n sicr yn ychwanegiad difyr at y stori. A deud y gwir, dwi’n meddwl bod angen mwy o luniau mewn nofelau – i bob oed. Nid pawb sy’n cytuno wrth gwrs, ond mae lluniau’n aros yn y cof yn hirach, rhywsut. Neu ai dim ond fi sy’n teimlo felly?

Dyma flas o’r arddull i chi ar y dechrau un:

Fel y gwelwch chi o’r ‘maeddu’ (curo) a’r ‘roedd e’n…’, deheuol yw’r rhan fwya o’r stori (un o Aberaeron yn wreiddiol ydi Meilyr yr awdur – brawd Eleri Siôn) ond mae teulu Daisy’n siarad yn hynod ogleddol: ‘clywad’, ‘malwodan’ ac ati, felly fe ddylai apelio at chydig o bawb yn ddaearyddol. Ond ‘malwen’ fyddwn i’n ei ddeud… dim clem lle maen nhw’n deud ‘malwodan’ – Ynys Môn o bosib?

Mi faswn i wedi trio cael gwared ag un neu ddau o’r ansoddeiriau neu adferfau di-angen, a dwi’m yn siŵr os oedd gwneud hwyl am ben y dysgwr o dad am siarad ‘Cymlish’ yn deg. Soniodd gwefan sonamlyfra am hyn hefyd, felly dyna ddau ohonon ni wedi gwingo yn yr un lle. Hmm…

Ond ar wahân i hynny, dyma nofel sy’n codi pob math o gwestiynau difyr, o ffracio i fwlio, o atal deud i fadfallod prin.

ac mae ‘na wrach ynddi – sydd wastad yn fy mhlesio i. Ro’n i’n hoff iawn o’r cymeriadau hefyd: Daniel ydi’r brawd mawr ro’n i wastad yn dyheu amdano. Ac mae’r efeilliaid yn ‘baddies’ gwych/afiach – dibynnu sut dach chi’n edrych ar y peth!

Llyfr addas i blant 8/9 oed + ddeudwn i, ac un da i’w ddarllen yn uchel ar gyfer unrhyw athro neu riant sy’n mwynhau gwneud plant yn nerfus. Peidiwch â phoeni, dydi hi ddim yn mynd i’ch dychryn yn rhacs, ond mi fedra i weld ambell blentyn 7-8 oed â llygaid fel soseri bob hyn a hyn.

Dylai plant sy’n hoffi byd natur a’r amgylchedd ei hoffi hi, yn ogystal â plant sy’n hoffi stori efo tipyn o arswyd a hud a lledrith ynddi. (Atebol £6.99) O, ac mae’n un o gyfres: Chwedlau’r Ddraig, cyfres cwbl newydd, felly dyna i ni newyddion da – mwy o lyfrau gwreiddiol Cymraeg ar gyfer cyfnod allweddol 2 – ieee!

Mi wnes i ofyn i Meilyr ateb fy nghwestiynau am ei hoff lyfrau, felly dyma’r atebion i chi, yn ogystal â chydig mwy o wybodaeth am Cwm y Wrach:

Pa lyfrau oeddet ti’n eu hoffi yn blentyn?
Cynradd – Asterix, Famous Five a chomics DC yn Saesneg.

Ro’n i’n dwli ar Sali Mali a’r Pry Bach Tew yn y Gymraeg.


Uwchradd – Y Llewod a Twm Sion Cati gan T. Llew Jones. Lord of the Rings gan Tolkien.

Wyt ti’n dal i ddarllen llyfrau plant? 
Ydw. Yn ddiweddar mi wnes i ddechrau Yr Horwth. Dwi hefyd wedi mwynhau cyfres Alex Rider gan Anthony Horowitz a Gone gan Michael Grant yn Saesneg.

Pwy ydi dy hoff ddarlunydd/arlunydd llyfrau? Pam?
Dwi’n dwli ar waith arlunio Jacques Lamontagne o gyfres llyfrau llun ‘Y Derwyddon’. Mae ei waith e’n graffig iawn sy’n creu naws yn arbennig o dda. Dwi’n dwli ar ei fanylder. 

Beth wnaeth i ti ddechrau sgwennu?
Nes i ddechrau sgwennu’n hwyr iawn. Ro’n i yn fy 30au cynnar. Diffyg hyder oedd yn gyfrifol am hynny. Tra ro’n i’n gweithio mewn meithrinfa yng Nghaerdydd ges i’r syniad am gyfres Parc Deri wrth fynd a’r plant am dro o gwmpas Parc Thompson gerllaw’r adeilad. Dyna oedd dechrau’r daith sgwennu i mi.

Beth wyt ti’n ei fwynhau am sgwennu?
Dwi’n hoffi’r broses o feddwl am syniad. Yr holl bosibiliadau. Yna dwi’n dwli creu byd a chymeriadau newydd sbon, sy’n lot o hwyl.

Dwed ychydig am dy nofel ddiweddaraf i blant.
Enw’r llyfr yw Cwm Y Wrach. Mae wedi ei leoli yng ngorllewin Cymru. Ges i’n ysbrydoli gan chwedl werin Mari Perllan Pityr, Pennant. Mae Daisy a’i theulu’n symud o’r gogledd i redeg busnes garddio. Ond mae Daisy’n cael ei herlid gan frawd a chwaer yn ei hysgol newydd. Yn ogystal, mae busnes y teulu o dan fygythiad oherwydd mae gan gwmni B.Tec ddiddordeb mewn ffracio’r cwm gerllaw er mwyn creu nwy. Yn ystod y cythrwfwl mae Daisy’n dod yn gyfeillgar gyda gwraig hynod o’r enw Mari ond mae’n amlwg fod  rhywbeth rhyfedd yn perthyn i’r hen ddynes. Mae’r ddwy yn dod yn ffrindiau ac yn cynorthwyo’i gilydd yn erbyn y peryglon sydd yn cau o’u cwmpas. 

Pa lyfr plant sydd a’r y ffordd nesa gen ti?
Dwi wrthi’n gweithio ar Hufen Afiach Dai ar hyn o bryd sy’n ddilyniant o’r llyfr ‘Hufen Afiach’ gaeth ei chyhoeddi llynedd. Mae ‘na grwp o blant ‘gwahanol’ mewn lleoliad ‘ofnadwy’ fydd yn cael eu herlid gan gawr newydd a’i wraig ‘hynod’.

Edrych ymlaen yn arw – diolch am yr atebion, Meilyr, a gobeithio bod gweld be mae o wedi/yn hoffi eu darllen (a sgwennu) wedi rhoi syniadau i chi am lyfrau i’w prynu efo’r pres/tocynnau llyfr gawsoch chi’n anrhegion Nadolig. Do’n i ddim wedi gweld llyfrau Y Derwyddon o’r blaen ac maen nhw’n edrych yn wych, felly dwi’n bendant yn mynd i chwilio amdanyn nhw yn y llyfrgell rŵan!

#Helynt – nofel ar gyfer yr arddegau

Published Rhagfyr 16, 2020 by gwanas

Dwi wrth fy modd bod cymaint o nofelau da allan ar gyfer pobl ifainc rŵan. A dyma i chi un sy’n agos iawn at fy nghalon i: ‘#Helynt’, gan Rebecca Roberts o Brestatyn. Dwi’n gwybod am hon ers tro oherwydd mi ges i’r cyfle i helpu Rebecca i’w datblygu hi, diolch i wobr Ysgoloriaeth Emyr Feddyg drwy’r Steddfod. Diolch yn fawr i Dyfed Edwards am ddyfarnu’r wobr honno iddi, a diolch i Rebecca am weithio mor galed arni. Doedd hi ddim angen llawer o help mewn gwirionedd, roedd yr arddull, y stori a’r cymeriadau yn cydio o’r cychwyn. Mae’r nofel yn chwa o awyr iach oedd gwir ei angen ar y byd llyfrau, am ferch sy’n wahanol iawn i’r criw dosbarth canol arferol sydd mewn llyfrau Cymraeg. Goth o’r Rhyl!

Bu Rebecca a minnau’n cyfarfod mewn caffi yn Frongoch ger y Bala (bron hanner ffordd rhwng Rhydymain a Phrestatyn) yn rheolaidd i weithio ar y nofel (a sgwrsio a bwyta) ac roedd hi’n bleser gweld y gwaith yn datblygu. Mi wnaeth hi fy helpu i gymaint ag o’n i’n ei helpu hi, achos ro’n i wedi bod ar faglau am chwe mis ar ôl anaf i’r nerfau yn fy nghoes, ac mae gan Rebecca hogan fach sydd â dwy goes brosthetig… dyna sut i roi pethau mewn perspectif. Ro’n i wedi defnyddio fy rhwystredigaeth i sgwennu am gymeriad yn colli ei goes yn nhrioleg y Melanai, ac roedd hanes hogan fach Rebecca wedi fy ysbrydoli i wneud hynny. Dwi’n meddwl mai dyna roddodd yr hyder i Rebecca wneud Rachel, y prif gymeriad, yn amputee. A dwi mor falch.

Felly roedd pori drwy’r llyfr wedi iddo gael ei gyhoeddi yn brofiad arbennig o ddifyr i mi. Mae o fymryn yn fyrrach (syniad da bob amser) ac mae’r iaith weithiau’n teimlo’n ‘gywir’ iawn i mi, ond dwi’n cofio trafod hyn efo Rebecca. Dyna sut mae hi’n siarad Cymraeg. Pan dach chi ‘n dod o deulu di-Gymraeg a’r iaith yn un ysgol, fwy na heb, dach chi YN defnyddio geirfa gywirach na rhywun o Blaenau neu Gaernarfon, yn deud ‘creision’ yn lle ‘crips’. Mae hynny ynddo’i hun yn chwa o awyr iach. A dwi wrth fy modd efo’r ffordd mae Rachel yn gwirioni efo ambell air Cymraeg:

Jolihoitan – am air ffantastig. Mewn ‘ymgais i ehangu ein geirfa’, mae ein hathrawes Gymraeg yn rhoi gair newydd uwchben y bwrdd gwyn bob wythnos. Rwyt ti’n cael pwynt llys am ddefnyddio Gair yr Wythnos mewn darn o waith dosbarth neu waith cartref. Jolihoitan oedd gair yr wythnos ddiwethaf, ond roedd o’n eitha anodd ei ddefnyddio mewn traethawd am Hedd Wyn.

Oherwydd hynny, dylai pobl ifainc a hŷn sydd wedi, neu yn dysgu Cymraeg fwynhau hon yn arw. Ond oherwydd y stori a’r cymeriadau, mae Cymry Cymraeg o bob oed wedi ei mwynhau hi hefyd, ac wrth gwrs, pobl sy’n nabod y Rhyl yn fwy na neb! Bron nad ydi’r dref yn gymeriad arall ynddi, a dwi isio mynd yn ôl yno rŵan, i weld y llefydd a’r bobl sydd yn y nofel. Arwydd o lyfr sydd wedi cydio, ynde?

Bydd cymeriad y fam a Jason, y tad, yn gwneud i chi feddwl, a dwi’n rhagweld trafodaethau difyr yn y dosbarth amdanyn nhw os gaiff hon ei darllen mewn ysgolion – ac mi ddylai! Mae ‘na hen ddigon i’w drafod am y cymeriadau i gyd, deud gwir. A dwi’n caru Rachel. Mae hi’n andros o gymeriad er mod i isio ei hysgwyd hi weithiau, ond roedd gwir angen fy ysgwyd innau pan ro’n i ei hoed hi.

Mae Llyfrgelloedd Cymru wedi creu taflen adnabod awdur am Rebecca:

A dyma linc i’r wefan:https://llyfrgelloedd.cymru/aotm/rebecca-roberts/

Dyma i chi dudalen gynta #Helynt i chi gael blas:

A dyma syniad i chi o sut gymeriad ydi Rachel, a’i chwaer fach, Sara:

A dwi isio dangos y ddwy dudalen hon i chi am weithdy drama, sy’n ffraeth a llawn hiwmor ( a’r hen ast, Eira) ond hefyd yn rhoi syniad i chi o agweddau dwys y nofel:

Na, dydi fy lluniau i ddim yn glir iawn – bydd raid i chi brynu eich copi eich hun yn bydd? £8.50, Gwasg Carreg Gwalch. Mae hi’n nofel onest, gyfoes a phwerus. Ond mae ‘na ddarnau fydd yn gneud i chi wenu hefyd.

Ac mae’r clawr yn berffaith.

A dyma wybodaeth yng ngeiriau Rebecca ei hun:

Beth ydych chi’n gobeithio y bydd darllenwyr yn ei gael o’r stori hon?

Er bod y stori yn delio â themâu difrifol fel camdriniaeth ddomestig, bwlio, anabledd ac iselder, rydw i’n gobeithio bydd pobl yn teimlo fod y stori yn un gadarnhaol sydd â neges am hunanhyder, hunan-barch a charu pwy wyt ti.

Pa wybodaeth arbenigol neu ymchwil oedd ei hangen i ysgrifennu’r llyfr hwn?

Rydw i’n fam i blentyn sydd ag anabledd corfforol, felly doedd dim angen i mi wneud gwaith ymchwil gan fod gen i eisoes ddealltwriaeth eithaf unigryw o’r heriau ymarferol, yr apwyntiadau meddygol, ynghyd â’r cryfder a’r agwedd gadarnhaol sydd ei hangen i fyw bywyd llawn fel mae Rachel yn llwyddo i wneud.

Hefyd, roedd angen i mi ddeall sut brofiad oedd mynd i’r carchar. Yn ffodus, mae fy mam yn ynad yr heddwch felly roedd hi’n medru rhoi disgrifiad manwl o sut brofiad ydi ymweld â charchar, canllawiau dedfrydu ac ati.

Felly os dach chi’n chwilio am anrheg i rywun yn eu harddegau, prynwch hon. Neu os ydi pethau’n fain arnoch chi, benthycwch hi o’r llyfrgell. Mi gaiff Rebecca ryw 8.5c am bob benthyciad – os ydi hi wedi cofio cofrestru efo PLR (Public Lending Rights) – tip i bob awdur yn fan’na!

Y Dyn Dweud Drefn yn y Ardd

Published Rhagfyr 10, 2020 by gwanas

Mae’r ail lyfr allan! A dwi’n falch o ddeud bod yr awdur, Lleucu Fflur Lynch, yn mynd o nerth i nerth – a Gwen Millward yr arlunydd hefyd. Sbiwch ar y clawr mewn difri calon; mae wynebau’r Dyn a’r Ci Bach yn deud cymaint! Dwi’n arbennig o hoff o lygad y Ci… syml ond effeithiol!

Mae’r Dyn yn dal yn flin efo pawb a phopeth yn y llyfr hwn, fel y cynta, ond mae o’n gallu bod yn hapus weithiau… Fel hyn mae’n dechrau:

Ond dydy hynna ddim yn para’n hir wrth gwrs. Mae’r haul yn rhy boeth a’r blodau angen dŵr ac mae’r beipen ddŵr yn creu problemau iddo fo… dydy hi ddim yn ddigon hir! Dwi wedi bod drwy’r profiad yna fy hun ac yn dallt pam ei fod o’n gwylltio! Mae’r Ci Bach yn trio helpu ond bydd raid i chi gael copi o’r llyfr i weld sut a be sy’n digwydd wedyn – ac wedyn…

Dwi wedi syrthio mewn cariad efo’r Ci Bach unwaith eto – mae o’n hyfryd. Ac mi fydd plant wrth eu boddau efo’r deryn bach glas sy’n ymddangos ar bob tudalen hefyd:

Welwch chi o? Ydi o’n cysgu? Yn torheulo? Gewch chi benderfynu!

Mae pob gair yn y llyfr yn haeddu ei le, mae lefel yr iaith yn berffaith ar gyfer yr oedran (Dechrau darllen, tua 5-7 yn fras, ond plant iau hefyd os oes oedolyn neu frawd neu chwaer fawr yn darllen wrth gwrs), a bydd rhai’n dysgu ymadroddion newydd iddyn nhw fel ‘disgyn yn glewt’ ar rywbeth. Hyfryd.

Dwi wrth fy modd hefyd efo’r ailadrodd. Llyfr delfrydol i’w ddarllen yn uchel.

Mae’r stori’n dod i ben yn daclus a chelfydd, ac oes, wrth gwrs bod ‘na ddiweddglo hapus!

£4.95 gan Wasg Carreg Gwalch yn eich siopau lleol – ac yn werth bob ceiniog. Chwip o anrheg Nadolig.

THIS IS A FUNNY, CHARMING BOOK ABOUT A VERY ANGRY MAN AND HIS LONG-SUFFERING DOG. BUY IT!

A dyma lun o Lleucu’r awdur efo’r llyfr cyntaf, i chi gael rhoi wyneb i’r llais. Fel petae. A dwi’n 95% siŵr bod perthynas agos iawn iddi wedi ysbrydoli’r syniad o ddyn sy’n dweud y drefn gryn dipyn…

Hoff Lyfrau Rhian Cadwaladr

Published Rhagfyr 9, 2020 by gwanas

Dyma fi’n ail-ddechrau holi awduron llyfrau plant am yr hyn fydden nhw’n ei ddarllen ers talwm. Dwi wedi cael ymateb da i’r rhain – gan oedolion sy’n mwynhau hel atgofion, gan amlaf, ond dwi ddim yn siŵr pa mor ddifyr ydy nhw i blant, rhaid cyfadde! Ond dwi’n gwybod y byddwn i wedi bod wrth fy modd yn cael gwybod be oedd hoff lyfrau Enid Blyton neu Jane Edwards. Felly dwi’n dal ati…

Felly yr awdur nesa i anfon ei hatebion ydi Rhian Cadwaladr, a dyma chydig o wybodaeth amdani:

Mae hi wedi sgwennu tair nofel ar gyfer oedolion, a newydd gyhoeddi ei hail ar gyfer plant. Nain Nain Nain oedd y gyntaf:

ac Ynyr yr Ysbryd ydi’r diweddaraf. Sgroliwch yn ôl drwy’r blog os am weld fy adolygiadau i o’r ddau.

Actores oedd hi am flynyddoedd, a dyma un o’i phinaclau: ia, hi oedd Siani Flewog yng Nghaffi Sali Mali! Glam iawn, doedd?

Bu hefyd yn actio yn Amdani a Rownd a Rownd ac fel brân mewn coedwig…

a bydd pobl Caernarfon yn ei chofio’n ran mawr o’r cynllun Sbarc; bydd miloedd o bobl ifanc y gogledd yn ei nabod hi achos mae hi wedi bod yn gwneud llawer iawn o waith mewn ysgolion drwy gynlluniau fel Ysgolion Creadigol, a dwi’n siwr y bydd hyn yn oed mwy yn ei chofio fel cymeriad Hannah yn yr Amgueddfa Lechi yn Llanberis.

Mae hi hefyd yn fam i bedwar, ac mae’r rheiny wedi dechrau cael babis, felly digon o ysbrydoliaeth ar gyfer llyfrau plant yn fanna, ddwedwn i.

Felly dyma ni, yr atebion:

1. Pa lyfrau oeddet ti’n eu hoffi yn blentyn?

a) Ysgol Gynradd  – Cymraeg a Saesneg

Roedd Mam yn arfer dweud mod i’n medru darllen pan oeddwn i ddigon bach i fod yn defnyddio poti achos mi fyddwn i’n eistedd arno efo llyfr ac yn ‘darllen’ yn uchel. Doeddwn i ddim yn  medru darllen wrth gwrs – jesd wedi dysgu y geiriau o’n i. Fy hoff lyfr pan yn fach iawn, ac mae o dal gen i, oedd Hwiangerddi gan Wasg y Brython wedi eu trefnu gan Jennie Thomas.

Roeddwn i’n ddarllenwr brwd drwy gydol fy mhlentyndod ac yn darllen pob math o bethau – o Lyfr Mawr y Plant a llyfrau T Llew Jones

i lyfrau Enid Blyton a chlasuron Saesneg fel Swiss Family Robinson a Treasure Island ond yn arbennig llyfrau efo merch yn brif gymeriad. Roedd bywydau’r merched yma mor wahanol i fy mywyd i. Heidi oedd y ffefryn mawr yn ogystal ag Anne of Green Gables, Pippi Longstocking a What Katie did a What Katie did Next. Rhain sydd wedi aros yn fy meddwl, fwy nag unrhyw rai Cymraeg.

b) Ysgol Uwchradd – Cymraeg a Saesneg

Yn gynnar yn yr ysgol uwchradd roeddwn i wedi symud ymlaen i glasuron oedolion Saesneg – Little Women gan Louisa May Alcott, llyfrau y Brontes – yn enwedig Jayne Eyre a Wuthering Hights;

a llyfrau Thomas Hardy, George Elliot a Jane Austen. Roeddwn i wrth fy modd efo llyfrau wedi eu sgwennu neu eu gosod yn ‘yr oes o’r blaen’.

Roeddwn i’n lwcus fod yna lyfrgell i fyny’r ffordd o tŷ ni ac roedd Mrs Williams y llyfrgellydd yn gadael i mi fynd i’r adran oedolion tra roedd y plant eraill yn cael eu gyrru i’r adran plant. Yno nesh i ddarganfod clasuron Cymreig – nofelau Daniel Owen a Kate Roberts ac yn arbennig T Rowland Hughes – brodor o Lanberis fel finna.

Wyt ti’n dal i ddarllen llyfrau plant? Pa rai wyt ti wedi eu hoffi’n ddiweddar?

Rhaid cyfadda dwi ddim wedi darllen llawer o lyfrau plant ers i fy mhlant fy hun dyfu fyny, ac eithrio llyfrau dwi wedi eu darllen er mwyn creu prosiectau creadigol efo plant mewn ysgolion. Llynedd gesh i’r fraint o feirniadu cystadleuaeth Darllen Dros Gymru y Cyngor Llyfrau ac mi nes i fwynhau darllen y bwndel mawr o lyfrau a lanioddd acw yn sgîl hynny. Yr un nes i fwynhau fwyaf oedd nofel Myrddin ap Dafydd ‘Pren a Chansen’ sy’n adrodd hanes y Welsh Not. Dyna’r union math o nofel y byddwn i wedi bod wrth fy modd efo hi pan yn blentyn.

Pwy ydi dy hoff ddylunydd/arlunydd llyfrau? Pam?

Wel mae rhaid i mi ddweud Leri Tecwyn sydd wedi darlunio y gyfres plant bach Tomos Llygoden y Theatr, ac a ddarluniodd fy llyfr i Ynyr yr Ysbryd.

Mae Leri yn digwydd bod yn ferch i mi felly gwirioni fel mam ydw i!

Fel arall Jac Jones ydi’r meistr yn fy llygaid i. Mae Jac yn medru amrywio ei steil i siwtio’r llyfr ac yn ychwanegu haen arall i’r stori. Mae ei luniau yn gallu bod yn gryf a thrawiadol, bron yn fygythiol, neu’n hynod ddoniol – yn ôl angen y stori.

Un o luniau Nain Nain Nain, Jac Jones

Be nath i ti ddechrau sgwennu?

Dwi wedi bod isho sgwennu ers erioed. Yn syth ar ôl gadael y coleg fe fuesh i ar gynllun YTS (youth training scheme) am chydig ond nes i’m llwyddo i sgwennu dim a buan yr a’th bywyd â fi i gyfeiriad arall ac mi gymerodd fy ngwaith fel actor a mam fy holl amser. Ond pan es i i weithio fel tiwtor drama nes i ddechra sgwennu sgriptia i’r bobl ifanc eu perfformio ac ers hynny dwi wastad wedi bod yn sgwennu rhywbeth – er nes i ddim dechra sgwennu nofela tan o’n i’n 50 a llyfra plant saith mlynedd wedi hynny.

Be wyt ti’n ei fwynhau fwya am sgwennu?

Creu cymeriadau a wedyn gweld be sy’n digwydd iddyn nhw pan dwi’n rhoi nhw mewn sefyllfaoedd gwahanol.

Dwed chydig am dy lyfr ddiweddara i blant.

Llyfr i blant bach ydi’r llyfr diweddara – Ynyr yr Ysbryd – stori am ysbryd bach ofnus fasa ofn ei gysgod tasa ganddo fo un!

Pa lyfr(au) plant sydd ar y ffordd nesa gen ti?

Y bwriad ydi sgwennu cyfres am Ynyr. Thema’r gyfres ydi meddylfryd o dwf, neu meddylfryd creadigol a thema’r stori nesa fydd cydweithio a dychymyg.

Gwefan sonamlyfra a #Helynt

Published Rhagfyr 8, 2020 by gwanas

Mi fydda i’n sgwennu am #Helynt cyn bo hir, ond yn y cyfamser, dyma adolygiad gwych o #Helynt gan Rebecca Roberts: https://www.sonamlyfra.cymru/post/helynt-rebecca-roberts

Mae ‘na lwythi o adolygiadau ar y wefan hon, AND THEY’RE BILINGUAL! Defnyddiol tu hwnt, ac wedi ei chreu gan rywun llawer mwy dawnus o ran technoleg na fi. Mae o dipyn iau na fi…

A chofiwch logio mewn er mwyn gallu gadael sylw. Mae eich sylwadau chi’n bwysig. Mae’r un peth yn wir am fy mlog innau; dwi’n gwirioni bob tro y bydd rhywun yn gadael sylw. Er gwybodaeth…

A rhag ofn eich bod yn chwilio am lyfr lliwio i’w roi fel anrheg Nadolig, cofiwch am hwn. Tydi o’n lun hyfryd?

Dwi wedi gofyn am lun o’r canlyniad…

Ynyr yr Ysbryd

Published Rhagfyr 4, 2020 by gwanas

Do, mae’r llyfrau Nadolig ar gyfer plant wedi dechrau fy nghyrraedd i! Ond ges i sioc pan welais i ‘Ynyr yr Ysbryd’. Ro’n i wedi disgwyl iddo fo fod yn llyfr bychan fel llyfrau ‘Y Dyn Dweud Drefn’ neu ‘Tomos Llygoden y Theatr’ ond na, mae Ynyr yn FAWR! Maint A4, os dach chi’n un o’r bobl hynod daclus ‘ma sy’n licio silffoedd taclus. Neu’n brin o bapur lapio.

Ond mae’n werth gwneud lle iddo fo! Mae tîm y fam a’r ferch greodd o, sef Rhian Cadwaladr (y stori)

a Leri Tecwyn (y lluniau)

wedi creu cymeriad bach hoffus tu hwnt. Mae Ynyr yn gariad, o ran ei gymeriad a’i olwg. Mae ei lygaid fel dwy bêl bowlio, a Leri wedi cael hwyl garw ar gyfleu ei emosiynau drwy’r stori.

Dwi’n arbennig o hoff o’r lluniau lle mae ei fam o’n ei gysuro:

Does ‘na ddim llawer o waith darllen ar y stori felly mi gewch chi orffen hon mewn un eisteddiad – a mynd yn nôl ati faint fynnwch chi, wrth gwrs. Llyfr i blant dan 7 oed ydi o, ac un y bydd oedolion wrth eu boddau’n ei ddarllen yn uchel i blant iau.

Dyma sut mae’r stori’n dechrau:

Dwi’n falch o weld ‘Lleian Ddu’ yn lle’r bali ‘Black Nun’ oedd yn boen ar f’enaid i pan oeddwn i’n gweithio yng Ngwersyll Glan-llyn! Ges i lond bol o drio egluro i blant ofnus nad oedd ‘na ysbryd i ddechrau cychwyn, a pham yn y byd fyddai pobl Llanuwchllyn wedi rhoi enw Saesneg arni mewn lle mor hynod o Gymreig? Grrr. Ta waeth, yn nôl at y llyfr.

Problem Ynyr druan ydi bod ganddo ofn bob dim. Ofn trio pethau newydd, ofn mentro… swnio’n gyfarwydd? Felly yn ogystal â bod yn adloniant – achos bydd plant wrth eu boddau efo’r ‘Bw!’s i gyd – a’r dudalen yma! –

mae o hefyd â neges am bwysigrwydd mentro a dal ati. Mae’r ysgolion cynradd yn chwilio am fwy o lyfrau Cymraeg sy’n cynnwys themáu ‘Meddylfryd o Dwf’ (dyna un rheswm pam sgwennais i Cadi a’r Celtiaid…) ac mae Ynyr yn ffitio’r thema ‘dyfalbarhad’ i’r dim.

Dwi’n dallt bod Rhian am sgwennu mwy o helyntion Ynyr ac am ddelio efo ‘dychymyg’, ‘cydweithio’, ‘chwilfrydedd’ a ‘disgyblaeth’ yn y llyfrau sydd i ddod. Iawn, athrawon cynradd Cymru? Maen nhw ar y ffordd!

Wna i ddim difetha’r stori drwy ddeud sut mae hi’n gorffen, ond mae ‘na glyfrwch yma. Mi ges i fy mhlesio, a dwi’n eitha siŵr y cewch chithau hefyd. Mae’n stori annwyl, gynnes fydd yn rhoi gwên ar wyneb y plant iau cyn setlo i gysgu. Ac mi fyddan nhw isio edrych ar y llun o Ynyr yn gwenu fel giât am hir. Na, dwi ddim am ddangos hwnnw fan hyn – bydd raid i chi brynu’r llyfr! (Gwasg Carreg Gwalch, £6.50)

Gyda llaw, fydd unrhyw blant sy’n darllen hwn ddim yn debygol o wybod am ffilmiau Alfred Hitchcock, ond roedd o’n gyfarwyddwr fyddai weithiau’n cynnwys ei hun yn y ffilm. A sbiwch ar y llun yma:

Atgoffa chi o rywun?

Oes, mae isio mwy o bobl efo gwallt coch mewn llyfrau! Da iawn, Leri.

Ble Mae Boc? Huw Aaron

Published Rhagfyr 2, 2020 by gwanas

Maen nhw wedi bod yn brysur iawn yng nhartref yr Aaroniaid yn ddiweddar; mae Huw, hefyd, wedi bod yn chwysu dros luniau lu, ac mae’r canlyniad yn werth ei weld! Dwi’n meddwl bod yr ail lyfr, sef ‘Ble mae Boc? Ar Goll yn y Chwedlau’ hyd yn oed yn well na’r cyntaf!

Roedd y llyfr cyntaf yn HYNOD boblogaidd, efo oedolion yn ogystal â’r plant, ac roedd plant ein teulu ni wrth eu boddau’n chwilio am Boc y ddraig fach goch ynghanol y lluniau prysur, boncyrs. Mi fues innau wrthi am oriau hefyd, ac roedd y plant yn llawer gwell na fi am ddod o hyd i Boc. Dwi wedi cael sbectol ers hynny, felly: GAME ON!

Pam fod hwn hyd yn oed yn well? Wel, mae o am chwedlau, a dwi wrth fy modd efo chwedlau a straeon llawn hud a lledrith a chymeriadau a digwyddiadau rhyfedd. A dach chi’n gwybod be ddwedodd Einstein, un o’r bobl mwya clyfar welodd y byd erioed?

If you want your children to be intelligent, read them fairy tales. If you want them to be very intelligent, read them more fairy tales.

Amen, Einstein.

Mae Boc yn ein harwain i lefydd gwych a rhyfeddol, fel i fyd y Cewri, i Gantre’r Gwaelod, ac i fyd y Mabinogi:

Chwip o lun ynde? Welwch chi Bendigeidfran? A’i chwaer o, Branwen yn gollwng drudwy i fynd â neges ato fo? A be am y boi druan sy’n cael ei daro gan wawyffon sydd wedi ei thaflu drwy dwll mewn carreg? A pam yr holl foch? Mi wnes i ddod o hyd i Boc yn eitha sydyn yn y llun yma, ond hwn ydy’r darlun cyntaf yn y llyfr, felly mae Huw yn glyfar (fel Einstein) yn gwneud i ni deimlo’n glyfar ar y dechrau. Ac yn gwneud i ni dynnu gwallt ein pen yn nes ymlaen!

Ond be sy’n hyfryd am y llyfr hwn ydi ei fod yn gallu cyflwyno plant (a’u rhieni?) i straeon y Mabinogi, neu atgyfnerthu’r hyn maen nhw’n ei wybod yn barod – a’i neud yn hwyl! Mae’r un peth yn wir am yr hen Hwiangerddi Cymraeg. Dyma i chi ddarn sy’n dangos y Tŷ Bach Twt:

Dach chi’n ei chofio hi? “Mae gen i dipyn o dŷ bach twt, o dŷ bach twt, o dŷ bach twt. Mae gen i dipyn o dŷ bach twt, a’r gwynt i’r drws bob bore. Hei di ho’ – ac ati. Wedyn tybed pa hwiangerdd sydd â dynes yn dringo dros gamfa a mochyn yn eistedd ar ben stol? Hm… Dwi’n cymryd bod yr hen hwiangerddi yma’n cael eu dysgu yn y feithrinfa, neu ar ddechrau’r ysgol gynradd, os nad oes ‘na daid neu nain o gwmpas? Mae gen i go mai fy nain oedd yn dysgu’r rhan fwya i ni, achos doedd Mam erioed yn un am ganu ryw lawer. Diolch, Nain!

Felly mae’r llyfr yn fwy na dim ond llyfr chwilio (sy’n wych ar gyfer hyfforddi’r meddwl i ganolbwyntio), mae o’n gyfle gwych i ddysgu/trafod ein diwylliant, ein hanes, bob dim.

Fy hoff ddarn i ydy hwn:

Teyrnas y Tylwyth Teg! Mae’r lliwiau’n wych, mae’r ffordd mae o wedi gallu cyfleu golau yn hyfryd, ac mi allwch chi nabod adar a blodau, aeron ac ati yn ogystal â sylwi ar y manylion bychain cywrain dros y lle i gyd. A do, pan ddois i o hyd i Boc, roedd o* mor blwmin amlwg WEDYN yn doedd?!

*Neu hi – y ddraig hon ynde? Dyna pam mae Huw’n ei galw hi’n ddraig fach, nid bach. Ddwedes i ei fod o’n glyfar yndo?

Ond dwi’n hoff iawn o’r tudalennau yma hefyd:

Parti Llyfrau Plant, yn llawn o gymeriadau o bob math o lyfrau Cymraeg (gwreiddiol!) hen a newydd. Mae Sali Mali reit amlwg, ond dach chi’n gallu nabod cymeriadau eraill? Dwi ddim wedi cynnwys y cyfan, ond os brynwch chi’r llyfr (bargen am £4.99) mi welwch chi Tomos Caradog a Superted a dwi’n siŵr mai Nel allan o ‘Na! Nel!’ ydy honna. Mi gaiff plant sy’n caru llyfrau fodd i fyw yn nabod y gwahanol gymeriadau a chofio be ydy enw cath Gwlad y Rwla (mae hi ar y bwrdd). Bydd awduron llyfrau plant hefyd yn craffu i weld os yw eu cymeriadau nhw yna… Caryl Lewis – mae ‘na ferch yn cadw gwenyn yna! Ac er y gallai’r dylwythen deg ‘na fod yn unrhyw dylwythen deg, dwi’n licio meddwl mai Brenhines y tylwyth teg allan o Coeden Cadi ydi hi! Dwi’n eitha siŵr mod i’n nabod y Bwbach ‘na hefyd, a’r môr-leidr ‘na…

Chwip o lyfr wnaiff anrheg Nadolig gwych. Rieni, os fyddwch chi isio chydig o lonydd dros y Dolig, mi fydd hwn yn eu cadw’n hapus am hiiir. Nid dim ond chwilio am ddraig ydi’r gêm – mae ‘na lawer iawn mwy o bosau!

Rhowch wybod os fydd o’n plesio, a pha ddarnau oedd eich ffefrynnau. Bet y bydd sawl un yn mynd am yr Angenfilod… ond y tylwyth teg i mi, bob tro.

Tybed ble fydd Boc 3 yn mynd?