Archif

All posts for the month Mai, 2014

Llyfrau Steddfod yr Urdd

Published Mai 30, 2014 by gwanas

O, ffiw! Wedi llwyddo i gyrraedd y blog yma eto o’r diwedd. Ges i ryw gremlins oedd yn fy rhwystro am ryw reswm. Panicio? Fi?!

Iawn, cymaint i’w ddeud. Yn gynta, cofio clawr Ceri Grafu?
Unknown

Wel, bnawn Llun, mi wnes i gyfarfod y ferch ar y clawr am y tro cynta rioed! Ffion, a dyma hi fel mae hi heddiw:image

Dydi hi’m yn gwisgo fel yna fel arfer, cofiwch. Roedd hi’n un o’r 3 wisgodd fel Gwylliaid ar gyfer ‘seremoni’ anffodus yn y pafiliwn ddydd Llun, pan roedd pawb i fod i weld a chlywed fidio am y llyfr:
image

Ond bu gremlins technegol… Bosib y bydd modd cynnwys y fidio hwnnw ar y blog yma rhyw dro, gawn ni weld – achos dwi’m wedi ei weld o eto!

Ta waeth, dwi wedi arwyddo sawl copi, a dyma’r cwsmer cyntaf, Gweltaz Davalan o Ddinas Mawddwy:
image
Ges i wybod heddiw ei fod o wedi’i orffen o’n barod! A do, mi nath o fwynhau. Dwi’n rhy wylaidd i ddeud mwy… 🙂

Mae’n debyg i seremoni Gwobr Tir na Nog fynd yn llawer gwell na f’un i, a llongyfarchiadau mawr i Haf a Gareth F! Dau enillydd teilwng iawn, iawn, a dyma’r llyfrau enillodd y wobr iddyn nhw:
image
image

Dwi wedi darllen un Haf, a mwynhau’n arw, ond eto i weld un Gareth. Mi wnai, ond dwi’m isio i’r blog yma fynd yn ormod o GarethFest! Welsoch chi be wnes i fanna? Gareth (F)est? Ia, ocĂŞ, braidd yn amlwg ma siwr.

Llongyfarchiadau hefyd i Llio Maddocks am ennill y Goron!
image
Edrych ymlaen at ddarllen nofel ganddi o fewn y blynyddoedd nesaf. Mae’r hogan yn gallu sgwennu… Dewi Prysor a fi wedi mwynhau ei gwaith hi’n arw.

A sbiwch hwyl ges i efo rhai eraill o’r criw oedd ar y llwyfan efo fi!
image

Ia, fo ydi o…

‘Na, Nel!’ gan Meleri Wyn James

Published Mai 24, 2014 by gwanas

image

Cyfrol ar gyfer plant 7-9 oed ydi hon, am Gymraes fach ofnadwy o ddireidus. Mae’r awdures, Meleri Wyn James wedi defnyddio ei phlant ei hun fel ysbrydoliaeth wrth greu cymeriad Nel mae’n debyg, ond does bosib eu bod nhw mor ofnadwy o ddrwg â Nel. Ond eto, does wybod!

Tair stori ddoniol yn arddull Horrid Henry sydd yma, ac er fod y llyfr wedi’i anelu at ddarllenwyr rhwng 7 a 9 oed, mae hefyd yn addas i’w ddarllen i blant iau.
Mae’r iaith yn ddeheuol, gyda phethau fel “yn gwmws” a “clatsho bant” felly plant i’r de o Fachynlleth fydd yn hoffi’r gyfrol hon fwya, ond eto, mae’n ddigon hawdd i oedolyn addasu wrth ddarllen yn uchel yntydi, a phun bynnag, mae hanesion Nel yn siwr o apelio at blant Sir FĂ´n hefyd!
Does gan Meleri ddim ofn sgwennu am bethau sy’n gwneud i blant chwerthin – sef cyfeiriadau at bethau tĹ·-bachaidd, wrth gwrs.
image

Fel y gwelwch chi, mae’r lluniau yn hyfryd, a gan John Lund o Gaerdydd. O, a Sion, gŵr Meleri greodd y clawr. Dyna ei waith o efo’r Cyngor Llyfrau…

Dyma i chi flas o gynnwys ac arddull y llyfr, sef y dudalen gyntaf:

image

Roedd yn well gen i’r ail stori na’r gyntaf; ro’n i wrth fy modd gyda’r ffordd mae Nel yn hanner gwrando ar stori Blodeuwedd ac yn deud wrth bawb ei bod hi ei hun wedi ei gwneud o flodau. Mi wnes i chwerthin yn uchel efo’r ‘Storiau wibli wobli’!

Dyma lyfr delfrydol i rieni ei ddarllen i’w plant, yn enwedig os yw’r plant braidd yn ddrwg eu hunain, neu â brawd neu chwaer fach debyg i Nel. Dwi’n gwybod am ambell un…

“Wrth gwrs, mae llawer o lyfrau da ar gael i blant sy’n addasiadau o lyfrau Saesneg,” meddai Meleri pan gafodd y llyfr ei gyhoeddi eleni, “ond ro’n i eisiau sgrifennu straeon digri oedd â blas Cymreig. Mae’r straeon yn cyflwyno hanesion ac arferion Cymreig yn ogystal ag anturiaethau Nel a’i ffrindiau. Rwy wrth fy modd yn darllen ers fy mod i’n ferch fach ac rwy’n credu ei bod hi’n bwysig bod digonedd o ddewis o lyfrau Cymraeg ar gael.”

Amen, Meleri. Cytuno’n llwyr!

Hwyl Clwb Darllen

Published Mai 20, 2014 by gwanas

Roedd cyfarfod diwetha ein clwb darllen ni ( yr un efo criw o genod, nid un Tudur) yn un hynod ddiddorol. Rydan ni wedi anghytuno am lyfrau o’r blaen, ond tueddu i fod o’r un farn fyddwn ni ar y cyfan. Nid tro ‘ma!
Profodd Awst yn Anogia i fod yn llyfr all hollti barn yn arw!
Unknown-10
Roedd ein hanner ni wedi ei fwynhau’n ofnadwy, wedi gwirioni a deud y gwir. Ond roedd un wedi mynd ar goll yn rhacs a hyd yn oed wedi gorfod mynd nĂ´l i’r dechrau i roi cynnig arall arni. Ond wedyn, mae hi’n feichiog… Ydi hynny’n esgus?!
Roedd un arall wedi gwylltio cymaint efo’r nofel, roedd ei ‘rant’ hi yn ddeunydd stand-up o safon uchel! Roedd hithau wedi rhoi i fyny ymhell cyn hanner ffordd.
Dyna brofi felly na fydd hon yn plesio pawb! Mi fydd y rhestr cymeriadau ar y blog yma yn help, yn sicr. Ond pasiwyd hefyd nad nofel i’w darllen am ryw 10-20 munud bob nos mohoni. Mae angen diwrnod glawog, neu bnawn Sul hamddenol neu ddyddiau ar draeth i werthfawrogi llyfr fel hwn.
Roedd rhai yn dweud bod y dechrau wedi eu drysu, a bod y Cymro sy’n ymddangos ar y dechrau wedi eu drysu hefyd. Roedden nhw wedi disgwyl ei weld eto at y diwedd, neu rhyw gyfeiriad ato o leia. Pwynt teg.
Ond roedd yr olygfa efo’r awyren ar y mynydd wedi eu bachu, ac o fanno mlaen, roedd y stori wedi cydio ynddyn nhw o ddifri. Ac roedden nhw’n canmol safon y sgwennu yn arw.

Tro nesa, rydan ni am fynd am farddoniaeth am y tro cynta rioed. Un o gyfrolau rhestr fer Llyfr y Flwyddyn – Trwy Ddyddiau Gwydr, Sian Northey.image
A hwn gan Martin Davis:image

Gyda llaw, mi fydd fy nofel i, ‘Gwylliaid’ allan wythnos nesa.image
Lansiad ar lwyfan Steddfod yr Urdd ddydd Llun (oherwydd mai Gwobr Goffa T Llew Jones ydi o). Jest cyn dau, am ryw 5 munud. Dwi’n edrych ymlaen ond yn eitha nerfus hefyd.
O, ac mae ‘na gamgymeriad yn y broliant yn y llun uchod. Mi gafodd ei gywiro cyn ei gyhoeddi, diolch byth, ond welais i mono fo. Allwch chi ei weld o? Beryg ei bod hi’n haws ei weld o wybod bod camgymeriad ynddo, wrth gwrs. Ac mi rydw i angen sbectol i ddarllen bellach, dim ond mod i’n anghofio lle dwi wedi ei rhoi hi dragwyddol.

Cymeriadau Awst yn Anogia

Published Mai 14, 2014 by gwanas

Mae’r awdur Gareth F Williams wedi bod yn ddigon clen i yrru’r rhestr isod ata i. Mi fydd o help i ddarllenwyr sy’n cael trafferth cofio pwy ydi pwy mewn llyfrau mawr, epig, fel Awst yn Anogia!
Diolch, Gareth.
A’r gweddill ohonoch chi – mwynhewch.

1. Y Cretiaid

(a) Anogia a Mynydd Ida:

Y teulu Alevizakis:

MANOLI Alevizakis – y tad, bugail, ymladdwr gyda’r andartes
THERA Alevizakis – y fam, gartref yn Anogia
LEVTHERI Alevizakis – y mab hynaf, bugail, ymladdwr gyda’r andartes
MARKO Alevizakis – y mab ieuengaf, bugail, ymladdwr gyda’r andartes
MARIA Alevizakis – y plentyn ieuengaf, merch ddeunaw oed

YANNI Tyrakis (Yanni’r Chwibanwr) – bugail, ffrind pennaf Manoli Alevizakis a’r teulu
ELIAS Vernadakis – rhedwr (Elias y Rhedwr)

NIKOS – bachgen 12 oed, wedi’i gymryd i mewn gan y teulu Alevizakis
ADONIA – mam Nikos, hefyd wedi cael cartref gyda’r teulu Alevizakis

GRIGORI Daskalakis – athro ysgol yn Anogia
GAIA Leladakis – merch oddeutu 18 oed, ffrind Maria
ERIS Stagakis – merch oddeutu 18 oed, ffrind Maria, merch arlywydd Anogia
HANNA Kallergis – merch oddeutu 18 oed, ffrind Maria

KOSTA Yrakis – un o offeiriad Anogia
EVA Yrakis – ei wraig

ELENI Vandoulakis – bydwraig yn ei 80-au
IRINI a RODIANTHE Saviolakis – dwy chwaer yn eu 70au, bydwragedd

DIMITRIS Peros – dyn yn ei 50-au ond â meddwl plentyn
MAIA Peros – ei fam

NIKOLAOS Leladakis – tad Gaia, ymladdwr gyda’r andartes, ffrind Manoli
XYLOURIS (Michali) – arweinydd andartes ardal Anogia

GEORGIOS Stagakis – arlywydd Anogia, tad Eris
ELEFTHERIA Stagakis – ei wraig, mam Eris

PAULOS, PETRAKA a STAVRO – bechgyn 10 oed, ffrindiau Nikos

KALLINIKOS – mynach ifanc
STAMATI – rhedwr ifanc

(b) Knossos a Heraklion

ALEXANDROS – glanhäwr ffordd yn Knossos
DISMAS – dihiryn, aelod blaenllaw o isfyd Heraklion
EFTHALIA – gwraig Dismas
ILTHYIA – gwraig o Heraklion, hen gariad i Yanni’r Chwibanwr
IANOS – ffrind coleg Grigori, mab perchen sinema yn Heraklion

(c) Kondomari

IOANNIS a MARIOS – ffrindiau Nikos
VANGELI – brawd mawr Nikos
GEORGIOS – tad Nikos
MANOUSSOS – gŵr ifanc, ymwelydd â Kondomari
EMMANUEL Kostifis – hen ŵr

2. Yr Almaenwyr

TOBIAS Jung – is-gapten gyda’r gatrawd barasiwtio, cyn-gerddor o Regensburg
GOLO Wolf – capten gyda’r gatrawd barasiwtio, yn wreiddiol o Köln (Cologne)
MAGDA Dürr – cariad Tobias Jung

Heinrich KREIPE – cadfridog
Hans FRUNZE – milwr, gyrrwr Kreipe
Friedrich-Wilhelm MÜLLER – cadfridog, “Cigydd Creta”
Dieter LOSCH – aelod o’r Gestapo
Josef KELLER – rhingyll, garsiwn Yení Gavé

CHRISTOPH Jung – tad Tobias, cyfreithiwr a cherddor
Walter SCHULTZE – cyfaill Christoph
GRETA Schultze – merch Walter

Sophie SCHOLL – merch ifanc, cyfaill Magda
Hans SCHOLL – brawd Sophie

MANFRED Reikmann – arweinydd criw o’r “Hitler Youth”
GERDA Lehmann – cyn-gariad Golo Wolf

3. Y Prydeinwyr

“SIPHI” – Cymro, gweithredwr radio gyda’r SOE
“MIHALI” – Sais (sef Patrick Leigh Fermor), SOE

Ambell Glwb Llyfrau

Published Mai 8, 2014 by gwanas

Dyma i chi lun o’r criw ( heb Gareth, fo sy’n tynnu’r llun) sy’n aelodau o Glwb Darllen Tudur Owen.

Image

Ac ydw, dwi am fynd ar ddeiet. Fory.

Trafod Craciau gan Bet Jones fuon ni tro ‘ma:

Image

Ac er bod ynddi wendidau ( Gareth a Dyl yn meddwl bod sgwrs y bobl ifanc yn ystrydebol weithia), a rhai o’r cymeriadau angen chydig mwy o stwffin, roedd pawb yn gytĂ»n fod y stori a’r plot yn cydio, ac roedd Manon wedi ei mwynhau hi’n arw! Mi wnes i grybwyll nad ydi pawb yn cytuno efo ni, ond mae pawb yn mwynhau pethau gwahanol tydyn? Stori dda ydi hon, efo rhywbeth difyr yn digwydd yn gyson, ond os ydach chi’n un am fwy o ddyfnder a disgrifiadau llenyddol ac ati, efallai nad hon ydi’r nofel i chi.

Nofel cwbl wahanol tro nesa! Mehefin 6ed gyda llaw.

Image Fydd hon ddim yn apelio at bawb chwaith. Mae ynddi iaith gref ( iawn) a lot fawr o drais a gwaed ac ati. Ond mae hi wedi plesio’r gwybodusion yn ogystal â hogia caled Blaenau ( sy’n nabod Dewi Prysor, ond sy’n fwy na pharod i ddeud eu barn yn berffaith onest, a fysa byth yn sbio ar lyfr Cymraeg fel arfer).

Image

Gawn ni weld be fydd barn y criw, ynde? Fydd Manon wedi rhoi fyny hanner ffordd, yn teimlo’n sal? Neu ai dyma’r math o beth mae hi’n ei hoffi o ddifri? Dwi’n meddwl y bydd y tri hogyn/dyn (!) yn ei hoffi hi, ond does na’m dal nagoes?

Dwi’n aelod o glwb darllen arall hefyd: criw o genod ydan ni, yn cyfarfod yn nhai ein gilydd i fwyta ac yfed a chofio trafod y llyfrau yn y diwedd. Mi fyddwn ni’n dewis un llyfr Cymraeg ac un Saesneg bob tro, a’r rhain fyddwn ni’n eu  trafod wsnos nesa:

ImageImage

Ia, fi gynigiodd y ddau yma am mod i wedi eu mwynhau nhw gymaint. Un i blant/yr arddegau ( ac oedolion sy’n mwynhau llyfrau felly), sef Wonder, nath i mi grio, a’r llall yn bendant yn un mawr, tew, ar gyfer oedolion. Mae rhywun newydd ei ddisgrifio fel ‘storm o lyfr’, a dwi’n meddwl bod hynna’n deud y cwbl. A rwan dwi’n edrych ymlaen yn arw i weld be fydd barn y genod eraill.

Na, dydi criw Tudur ddim yn barod ar gyfer hon eto. 500 tudalen?! Na, ara bach a bob yn dipyn mae… creu darllenwyr.

O, a bron i mi anghofio, dwi’n cynnal cwis yn nhafarn yr Eryrod, Llanuwchllyn heno, am 8.00, a dyma’r wobr dwi’n ei chyfrannu. Wel? Costio mwy nag unrhyw botel win fydd yno!
llyfrefiphoto