Archif

All posts for the month Gorffennaf, 2018

Deian a Loli a’r Bai ar Gam

Published Gorffennaf 29, 2018 by gwanas

LLYFR CYMRAEG GWREIDDIOL NEWYDD I BLANT HYD AT 8 OED!

9781784615789_300x400

Yn dilyn llwyddiant y gyfres deledu, mae’r Lolfa wedi cyhoeddi hwn. Y gyntaf o gyfres mae’n debyg – ieee!

Dyma’r awdures, Angharad Elen:

qoU2uuOO

Hi ydi cynhyrchydd y rhaglenni teledu hefyd, a’i ffrind hi, Nest Llwyd Owen (aeth y ddwy i Ysgol Gynradd Llandwrog efo’i gilydd) wnaeth y lluniau ar gyfer y llyfr. Dyma hi wrth ei gwaith:

Dgz8P-aXkAEzs96

Felly be ydi’r stori? Wel, mae Deian a Loli, yr efeilliaid direidus sydd â phwerau hudol, yn cael antur wrth ddysgu am fyd natur, ac am adar yn benodol. A sbiwch pa dderyn sy’n cael sylw – o gofio cân a champ Geraint Thomas yn y Tour de France heddiw!

20180729_175017

Beth bynnag, er eu bod nhw wedi bod yn ddrwg iawn (peidiwch chi â meiddio eu copio nhw…) yn taflu goriadau car Mam i’r cae drws nesa, mae’r efeilliaid yn cael profiad gwych (dwi’n llawn cenfigen) yn hedfan ar gefn y titw – a sbiwch hyfryd ydi’r lliwiau:

20180729_175039

Moeswers y stori yw i ofalu ar ôl pethau (yn enwedig pethau Mam a Dad!) ac hefyd i beidio â rhoi bai ar gam.

Stori fach hyfryd, efo enwau hyfryd fel Pia Brith i bioden – sy’n “big” ar un adeg – ha! Da.
Bargen am £4.99.

Gobeithio y bydd y gyfres mor boblogaidd a llwyddiannus â’r gyfres deledu – a Geraint Thomas.

0_Tour-de-France-2018-Stage-20-Saint-Pee-Sur-Nivelle-to-Espelette

Darllen i gŵn!

Published Gorffennaf 24, 2018 by gwanas

Dwi newydd weld y fidio isod ar Facebook. Waw! Pwy fyddai’n meddwl? Be am i ganolfannau cŵn yng Nghymru wneud yr un peth? Dwi’n eitha siŵr y byddai ‘na fflyd o blant yn fodlon helpu.

Ac am ffordd wych o ddangos bod darllen yn gwneud gwahaniaeth ac yn gwneud lles. Rheswm i ddarllen go iawn!