Iawn, roedd pawb wedi eu plesio efo ‘Sais’ gan Alun Cob, er nad oedd y diweddglo wedi plesio pawb, ond mae hi’n gwbl amhosib plesio pawb tydi?
Y llyfr fyddwn ni’n ei drafod nesa ar raglen Tudur, ymhen rhyw fis, rhywbeth felly, ydi hwn:
Galwad y Blaidd gan Cledwyn Fychan. Cymdeithas Lyfrau Ceredigion. Llyfr ffeithiol ydi o, un mawr, tew yn llawn ffeithiau a straeon am fleiddiaid, gyda sylw arbennig i fleiddiaid Cymru. e.e mae’n rhaid bod ‘na gannoedd ar gannoedd, os nad miloedd yng Nghymru ers talwm gan fod sôn yma am Edgar, brenin Lloegr, yn hawlio treth o 300 pen blaidd y flwyddyn gan un o frenhinoedd Gwynedd. Be oedd o am wneud efo’r holl bennau sgwn i?
Yn bendant, mae ‘na nifer fawr o enwau llefydd yng Nghymru efo ‘blaidd’ neu ‘bleiddiaid’ ynddyn nhw. Difyr fydd cael gwybod mwy drwy ddarllen hwn ynde?
O ia, wyddoch chi be ydi’r gair Cymraeg am flaidd ifanc? Bothan. Enw hefyd ar greaduriaid yn ffilmiau Star Wars!
Digon tebyg i flaidd tydi? Mae’n rhaid bod George Lucas ( greodd Star Wars) wedi astudio hen eiriau Cymraeg…
Ond yn ôl at Cledwyn Fychan, awdur y llyfr dan sylw. Mi dreuliodd 4 blynedd yn ei sgwennu ac mi gafodd ei gyhoeddi nôl yn 2006 ond chafodd o’m hanner digon o sylw bryd hynny. Doedd o ddim yn rhad: £14.99. Ond yn ôl gwefan gwales.com, mae o dipyn rhatach rwan: £5! Ond mi fedrwch gael copi o’r llyfrgell hefyd wrth gwrs.
Edrych mlaen i weld be fydd barn pawb.