Caernarfon

All posts tagged Caernarfon

Parti Maes y Mes

Published Mai 22, 2018 by gwanas

Sbiwch syniad da!

33037685_1993892883976366_70318995571474432_n

Hyd yn oed os nad ydech chi wedi darllen un o 4 llyfr Maes y Mes eto, mi fyddwch yn siŵr o gael hwyl yn y parti yng Nghaernarfon ddydd Sadwrn Mai 26 – dydd Sadwrn yma.

Cyfle i glywed Nia, yr awdures, yn darllen y ddau lyfr newydd – a gwneud pethau difyr fel gwneud tylwyth teg allan o begiau, ac adeiladu nythod! Ac ar ben hynny, mi gewch chi fag parti fydd yn cynnwys llyfr. Bargen am £5.

Mae’r llyfrau wedi eu hanelu at blant 7-9 oed, ond dwi’n meddwl y bydd plant 6 oed yn eu mwynhau hefyd os ydyn nhw’n mwynhau darllen, a phlant 5 oed os ydyn nhw’n mwynhau gwrando ar straeon.

Ewch i siop lyfrau Palas Print ddydd Sadwrn.

A dwi newydd dderbyn 2 lun o’r sesiwn wnes i yng Nghastell Caerdydd yn ddiweddar fel rhan o ŵyl Llên Plant. Dyma fi’n darllen i’r criw:

dav

A dyma rai o’r lluniau wnaethon nhw o ddeinosoriaid a môr-forynion. Ond pam na fyddai rhywun wedi deud wrtha i mod i’n dal y poster ar ben i lawr?!

sdr

Advertisements

Ysgol Maesincla

Published Mai 22, 2017 by gwanas

Dyma i chi lun o griw Bl 5 Ysgol Maesincla, Caernarfon – a dwi yn eu canol nhw!

Bethan Gwanas

Mi ges i awr o siarad am lyfrau a darllen a sgwennu efo nhw, a nefi, roedd ‘na chwerthin! Roedden nhw’n griw gwych, arbennig o hwyliog, a wnaethon nhw ddim dal dig am fy mod i’n hwyr… ro’n i wedi mynd i Ysgol yr Hendre ( dyyyh) ac wedyn wedi mynd ar goll yn trio dod o hyd i’r ysgol gywir ynghanol strydoedd Maesincla. Na, dydi Caernarfon ddim yn fawr – ond mae’n fwy nag o’n i wedi sylweddoli!

IMG_0195

Dim syniad be dwi’n ei ddeud fan hyn. Rhywbeth am Gwylliaid yn ôl clawr y llyfr yn fy llaw.

51l62jze4CL

Ond dwi’n meddwl mai Pen Dafad oedd yn apelio at yr hogia…

Dwi’n mynd yn ôl yno fis Medi – a dwi’n addo bod yno’n GYNNAR!

Diwrnod y Llyfr? Mis y llyfr!

Published Mawrth 1, 2015 by gwanas

Mi fydd hi’n Ddiwrnod y Llyfr ar Fawrth y 5ed, felly gobeithio y byddwch chi’n dathlu llyfrau mewn rhyw ffordd ar y diwrnod hwnnw. Mae llawer o ysgolion yn ei gwneud hi’n wythnos y llyfr, pam lai?
Ar y 4ydd fydda i’n mynd i Ysgol Bro Cinmeirch a thrafod llyfrau sy’n gwneud i ni chwerthin fyddwn ni – a rhoi gwobrau i’r darllenwyr gorau! Y rhai sydd wedi gwella eu sgiliau darllen, y rhai sy’n
Unknown bwyta llyfrau fwya (ddim go iawn) ayyb.

Ond fel mae’n digwydd, dwi wedi bod yn teithio i bob cwr o Gymru yn ddiweddar yn sôn am lyfrau a hybu darllen a sgwennu. Ro’n i yn ysgolion ardal hyfryd Abergwaun Unknown-1
yn Sir Benfro ddechrau Chwefror. Plant hyfryd – a gobeithio bod y siop lyfrau yn gwerthu llawer iawn mwy o lyfrau Cymraeg rwan!

Wythnos dwytha, ro’n i ym mhen arall y wlad, yng Nghaergybi, Ynys Môn efo plant Ysgol Morswyn, a dyma i chi lun ohona i efo’r plant bach:

photo1

Y wenynen fawr felen yna ydi rhywbeth ddois i o hyd iddo wedi ei daflu ar ochr y ffordd yn ymyl Cwm Pennant,
image008
coeliwch neu beidio. Wel, mi wnes i syrthio mewn cariad efo hi’n syth wrth reswm, ac es i a hi efo fi i Gaergybi i ofyn i’r plant am help i:
a) roi enw iddi
b) feddwl am stori amdani.
Diolch i ferch fach benfelen o’r enw Millie (dwi’n meddwl), mae gen i enw hyfryd iddi – Heulwen y Wenynen! Ac efo help plant Morswyn, mae gen i syniad am stori, a wyddoch chi byth, efallai y gwelwch chi lyfr am Heulwen yn y siopau un o’r dyddiau yma!

Siarad efo oedolion ro’n i yng Nghaernarfon fore Sadwrn, fel rhan o Gwyl Ddewi Arall y dre – da! Daeth criw da i wrando arna i’n sôn am drafferthion sgwennu a chyhoeddi, ac mi wnes i anghofio tynnu llun o’r stondin lyfrau tra roedd y genod yn gwerthu’n brysur, ond dyma lun wedi i bawb fynd:

photo3

Mae gweld stondin yn llawn o’ch llyfrau yn brofiad hyfryd i’r hyder a’r ego. Ac os wnewch chi sbio’n ofalus, mi welwch bod gen i lyfr newydd ar y stondin:

photo2

Nid llyfr i blant bach! Dylai’r gair ‘Crogwr’ fod yn gliw… mae ‘na dipyn o waed a ballu yn hon. Rhan o gyfres Stori Sydyn ydi hi – cyfres oedd yn arfer bod yn £1.99 y copi, ond maen nhw hyd yn oed yn rhatach rwan! £1 yn unig. Llyfrau wedi eu hanelu at bobl sydd ddim yn darllen llawer, am eu bod nhw’n rhy brysur neu’n ddi-hyder o ran eu Cymraeg efallai, ac mae’r gyfres hon i fod yn addas ar gyfer ysgolion uwchradd hefyd, plant tua 15+ ddeudwn i, neu 14+ os ydach chi’n eitha aeddfed.

Llyfr arall ar gyfer oedolion sydd wedi cyrraedd yr wythnos yma ydi hwn:
photo5
Dwi’n hoff iawn o lyfrau Mared Lewis, felly dwi’n edrych ymlaen i ddarllen hwn yn arw.

Ond cwyn sydd gen i i orffen: dwi’n falch bod cynllun Llyfr y Mis i Blant wedi dechrau, ond pam o pam oedd raid ei lansio efo nofel sy’n gyfieithiad?
photo4
Bydd, mi fydd yn hawdd ei farchnata am fod David Walliams yn enw mor fawr yn y byd llyfrau bellach. Ond llyfrau Cymraeg sydd angen eu marchnata, awduron Cymraeg sydd angen hwb i’r gwerthiant! A sut fath o neges mae hyn yn ei roi am gyflwr y byd cyhoeddi yng Nghymru? Ydw, dwi’n flin…
images

Sioe Lyfrau Fwyaf y Byd

Published Chwefror 17, 2015 by gwanas

Ydach chi wedi clywed am y digwyddiad GWYCH yma fydd yn y Galeri, Caernarfon ar y 10fed o Fawrth? Mae o am ddim i blant bl 5-6 ardal Caernarfon fel rhan o ddathliadau Diwrnod y Llyfr 2015. Mae seddi yn dechrau mynd yn brin, felly brysiwch!

anni1

Anni Llyn fydd yn arwain y sesiwn ac yn cyflwyno:

Huw Aaron, Gruffudd Antur, Aneirin Karadog
Unknown-3Unknown-1Unknown

– a fi.

Photo on 17-02-2015 at 20.53

Dwi’m yn edrych fel yna go iawn siwr! Yr opsiwn ‘nose twirl’ ar y ‘photo booth’ dwi newydd ei ddarganfod ar fy Mac i ydi o.

Beth bynnag, os ydach chi’n un o griw bl 5 a 6 ardal Caernarfon fydd yn mynd i Sioe Lyfrau Fwyaf y Byd – welai chi yno. Yn edrych yn weddol normal gobeithio.