Mi wnes i wylltio’n arw efo llyfr yn ddiweddar. Roedd o wedi cael ei ganmol i’r cymylau ar wahanol wefannau, ac Amazon yn ei argymell i mi… Grrrr. A ges i gopi i’r Kindle am nesa peth i ddim. Taswn i wedi talu pris llawn amdano fo mi faswn i wedi gwylltio’n RHACS!
Mae’n bosib y bydd rhai ohonoch chi wedi ei ddarllen a’i fwynhau, ond wnes i ddim. Iawn, roedd hi’n amlwg mai chick-lit oedd o, ond mae ‘na chick-lit da i’w gael. Mi ddechreuodd yn dda, ro’n i’n hoffi’r syniad Sliding Doors-aidd a’r cymeriadau a’r sgwennu, ond mwya sydyn, dyma ddarnau dros ben llestri o flodeuog…chwerthinllyd o flodeuog, ac fel golygydd, ro’n i’n berwi. Roedd pwy bynnag olygodd y nofel hon angen ei saethu! Wel, yn haeddu coblyn o row o leia. Wedyn aeth pethau o ddrwg i waeth, ac roedd y sgwennu yn mynd ar fy nerfau i go iawn.
Pan orffenais i’r llyfr ro’n i’n flin am mod i wedi gwastraffu cymaint o fy amser prin yn darllen y bali peth.
Darllen adolygiadau a gweld nad fi oedd yr unig un, ond gweld hefyd bod cannoedd yn canmol i’r cymylau a ddim wedi sylwi ar y pethau oedd yn fy nghorddi i gymaint. Efallai mai fi sy’n ffysi. Ond wir rwan, os ydach chi’n hoffi’r un math o lyfrau â fi, peidiwch a chredu’r heip am y nofel hon.
Mae na dipyn o heip i ffilm Divergent rwan:
Do’n i’n gwybod dim am y stori nes i mi sylwi mai addasiad o nofel i bobl ifanc ydi hi, a bod ‘na ddau arall hefyd.
Iawn, felly ges i gopi o’r llyfr cynta ar y Kindle. O, waaaw! Dwi wrth fy modd efo hon, a hanner ffordd drwyddi yn barod. Ydi, mae’n debyg i The Hunger Games ond dim ond oherwydd yr elfen dystopaidd ac mai merch gref, tyff ydi’r prif gymeriad.
Dyma be ydi stori sy’n bachu’r dychymyg! Gwych ar gyfer darllenwyr yn eu harddegau, ond oedolion fel fi hefyd – ac mae’r sgwennu yn dda – dim byd wedi mynd ar fy nerfau i hyd yma o leia! Methu disgwyl i ddarllen y ddwy nofel arall ac mae fy nith yn deud bod y ffilm yn well na’r llyfrau.
A tra dwi’n sôn am lyfrau oedolion, mae’n rhaid i mi roi sylw i hon:
Nofel ar gyfer oedolion, ac ia, nofel y gwnes i ei golygu, ond nofel wnaeth fy hudo o’r cychwyn cynta. Diolch byth, ers iddi gael ei chyhoeddi, mae pobl eraill yn, ac wedi ei mwynhau hi hefyd. Mae hi’n nofel fawr, dew, a wnewch chi byth orffen hon mewn noson.
Roedd Catrin Beard yn llygad ei lle ar raglen Dewi Llwyd, fe ddylen ni fod wedi cynnwys rhestr o’r cymeriadau ar y dechrau, gan fod cymaint ohonyn nhw, ond dyna fo, rhy hwyr rwan.
Hon ydi nofel orau Gareth F Williams yn fy marn i, ac roedd ei golygu yn ddosbarth meistr ar sut i sgwennu.
Ond os ydach chi’n anghytuno, rhowch wybod. Yn bwysicach, rhowch wybod os ydach chi wedi ei mwynhau hi!