Archif

All posts for the month Awst, 2014

Alffi, nofel i blant 11 +

Published Awst 30, 2014 by gwanas

image

Un arall o gyfres Pen Dafad ydi hon, gan awdures brofiadol: Mared Lewis. Un o Ynys Môn ydi Mared, felly mae’r dafodiaith yn Ynysmonaidd, ond yn berffaith ddealladwy i ddarllenwyr o weddill y gogledd, a buan y byddai darllenwyr o’r de yn dod i arfer.

Dyma i chi’r dudalen gyntaf, i chi gael gweld os ydw i’n ddeud y gwir:

image

Mi fyddwch yn hoffi cymeriad Alffi Jones, bachgen Blwyddyn 9 sy’n “rhy sgint” i fynd ar drip ysgol i Baris, ac yn dechrau gweithio ar rownd laeth/lefrith yn slei bach i godi’r arian.
Mae o’n ffansïo Medi Clarke, ond yn cochi at ei glustiau bob tro mae’n ei gweld hi, bechod.

Wedyn mae gynnoch chi Wayne, y bwli. A Iori Iog, y boi sydd pia’r fan laeth/lefrith, rhywun dydi tad Alffi ddim yn ei hoffi o gwbl am ryw reswm…

Mae’n nofel fywiog, llawn hiwmor ac mae’n gwbl amlwg fod yr awdur wedi hen arfer efo bywyd ysgol, be sy’n digwydd ar y bws, yn y toiledau ac ati. Ond gan ei bod yn diolch i Bl 9 Ysgol Bodedern ar y dechrau, dwi’n amau ei bod hi wedi cael help efo’r darnau hynny! Ac efo’r ddeialog hefyd, synnwn i daten, gan ei fod yn swnio’n real iawn i mi. Syniad da bob amser. Wedi gwneud hynny fy hun, efo Pen Dafad a Sgôr. Mae’n gwneud synnwyr i awdur ymgynghori efo’r bobl mae o/hi eisiau sgwennu ar eu cyfer tydi?

Mi wnes i fwynhau’r stori, a’r cymeriadau yn fwy na dim, er mod i braidd yn OCD efo’r defnydd o ‘ne’ yn lle ‘neu’, dim bwys pwy sy’n siarad. Ond fi ydi honno. Ac fel golygydd, mi fyswn i wedi tynnu ambell ‘!’ di-angen. Ond dwi dipyn hŷn na 11-14 tydw.  Eich barn chi sy’n bwysig!

Os wnaethoch chi fwynhau ‘Alffi’, be am ddweud hynny ar wefan gwales.com, neu wrtha i ar y blog yma?

Dyma adolygiad sydd ar gwales:

image

Byddai barn rhywun o Bl 7-9 Ysgol Bodedern yn ddifyr, ond hefyd, rhywun o ardal Abertawe neu Sir Benfro. Ydi hon yn rhy ogleddol i chi? Neu ydi’r portread o fywyd bachgen Bl 9 yn taro 12 dros Gymru gyfan? Rhowch wybod.

Hunangofiant Richard Rees

Published Awst 15, 2014 by gwanas

Llyfr ar gyfer oedolion am newid bach. Un ro’n i wedi bod yn edrych mlaen at ei ddarllen ers sbel, gan mod i’n nabod yr awdur yn eitha da ar ôl teithio rownd y byd efo fo fwy nag unwaith!

image

‘Bore Da Gymru’ oedd y peth cynta fyddai Richard Rees yn ei ddeud ar raglen Sosban i Radio Cymru. Ro’n i’n gwrando ar y rhaglen yn ffyddlon bob Sadwrn, ond doedd gen i ddim syniad sut y dechreuodd y rhaglen nes i mi ddarllen y llyfr hwn. Difyr, cofiwch! Hanes hogyn ansicr ei Gymraeg ( fel cymaint o bobl Llanelli am ryw reswm) oedd yn cecian ( neu atal deud) yn llwyddo i fod yn DJ Cymraeg. Mae’n dipyn o stori. A stori ro’n i’n gyfarwydd â hi ( ond yn ei mwynhau bob tro) ydi’r un amdano’n trio siarad efo boi continuity yn Llundain. Bydd raid i chi ddarllen y llyfr eich hun i gael gwybod be ddigwyddodd…

Wrth gwrs, y peth cynta mae rhywun ( wel, fi o leia) yn ei wneud efo hunangofiant ydi sbio drwy’r lluniau, ac mae na rai hyfryd yn hwn:

image

A rhai hyfryd o Elin, ei wraig, a Ffion, ei ferch. Ond mae Richard yn dipyn o ffotograffydd felly roedd gynno fo ddigon o ddewis. Ond ges i dipyn o fraw pan welais i’r dudalen yma!

image

Un llun da ac un erchyll! Diolch Richard…! Ond ia, ffilmio Ar y Lein oedden ni ar y pryd, i lawr yn yr Antarctig roedd hynna. Mi gawson ni dipyn o hwyl yn fanno. A dwi’n cofio taith ar un awyren pan roedd Rich yn darllen fy nofel i, Gwrach y Gwyllt, yr un sy fymryn bach yn, wel, nid ar gyfer Nain ddeudwn i, ac mi fyddai’r diawl drwg yn stopio bob hyn a hyn a rhoi edrychiad i mi… AAA! Sôn am wneud rhywun yn paranoid. Oedd o’n meddwl ei bod hi’n nofel anobeithiol? Y golygfeydd rhywiol yn pathetig?! Profiad od iawn ydi gwylio rhywun yn darllen dy nofel di.

Wel, mae o yn yr un cwch rwan tydi…ha! Dwi’n falch o ddeud mai fi oedd y person cynta i ofyn iddo fo lofnodi fy nghopi  i o’i lyfr o, ac roedd o’n meddwl mai tynnu coes o’n i. Typical Richard Rees. Dyn gwylaidd oedd ddim yn gallu credu y byddai rhywun isio ei lofnod ar ei lyfr. A dyma be sgwennodd o:

image

Wel, dwi wedi gorffen y llyfr rwan, ac wedi mwynhau’n arw. Dwi wedi dysgu cryn dipyn amdano fo a’i fagwraeth, wedi chwerthin, wedi gorfod llyncu’n galed am fod rhywbeth wedi cyffwrdd, wedi rhyfeddu at yr enwau Mawrion fuodd o’n gweithio efo nhw dros y blynyddoedd. Paul Mc Cartney?! Wyddwn i rioed.

Mae’r cyfan yn hawdd iawn i’w ddarllen, dim ond un bai bach bach – cymaint o frawddegau rhy fyr ar ôl ei gilydd. Ond siarad fel golygydd ffyslyd ydw i yn fanna, fydd y darllenydd cyffredin yn poeni dim am hynna. O, ac os ydach chi’n mwynhau pethau gwyddonol ac eisiau gwybod mwy am facteria a llyngyr, mi gewch eich synnu!

Chwip o hunangofiant gonest, difyr ac annwyl. Mwynhewch o.

Dyma’r manylion ar gwales.com

image

Nofel antur iasol

Published Awst 11, 2014 by gwanas

Mae Cyfres Whap gan Wasg Gomer yn gyfres o nofelau ar gyfer yr arddegau, ac mae ‘na un newydd ar gael rwan: Pentrenadredd gan Gerrard Morgan:

image

Clawr da tydi? Ac ydi, mae’n rhoi syniad da iawn o gynnwys y llyfr. Mae ‘na gwn peryglus, brawychus ynddo fo. Ond mae ‘na bobl a digwyddiadau reit annymunol hefyd. Dwi’n meddwl bod dechrau’r nofel yn un o’r rhai mwya effeithiol ar gyfer yr oedran yma i mi ei ddarllen ers tro. Mae Wyn a’i deulu yn symud i fyw i Ffynnon Oer, at ei fam-gu, ond mae rhywbeth yn od am y lle, yn gynyddol od, ac mae ambell berson yn ymddwyn yn fwy a mwy od. Os ydach chi’n hoffi straeon iasol, mi wnewch chi fwynhau hon.

Dyma’r dudalen gyntaf:

image

Arddull glir, hawdd ei darllen, ac er mai yn y de mae’r stori wedi ei lleoli, a deheuwr ydi’r awdur, mae’r cwbl yn hawdd iawn i gogs ei ddeall. Mae’r awdur wedi bod yn ddigon clyfar i wneud tad Wyn yn Gog a’i fam yn Hwntw.

Dyma i chi adolygiad oddi ar wefan gwales.com:

image

Mae’r stori’n troi’n fwy ffantasiol, hud a lledrith-aidd at y diwedd, ac roedd fy mrên i’n gorfod newid gêr yn y fan honno. Diddorol fyddai gwybod os fydd hyn yn digwydd i ddarllenwyr yn eu harddegau hefyd. Cofiwch roi gwybod. Mae pob awdur ( a gwasg) eisiau gwybod barn y darllenwyr sy’n cael eu targedu. Dwi’n llawer rhy hen i hon – ar bapur – ond mi wnes i ei mwynhau hi yn arw.

Dechrau da iawn gan awdur newydd sy’n ddyn, yn ddeheuwr, ac yn amlwg yn gwybod sut i apelio at yr arddegau. Mi ddywedwn i y bydd hon yn apelio at ddarllenwyr da 10 oed + hyd at rhyw 14 oed. Ac oedolion fel fi wrth gwrs.