Mae’r Eisteddfod Genedlaethol yn le gwych ar gyfer llyfrau o bob math, ac mi wnes i gyfarfod llawer iawn o bobl a phlant sy’n caru darllen pan wnes i ymweld â’r maes yn y Fenni eleni. Dyma i chi ddwy o Bethesda oedd wedi gwirioni efo’r llyfrau gawson nhw. Liwsi Mô a Betsi Lŵ ydi eu henwau nhw os cofia i’n iawn.
A dyma i chi chwip o lun arall sy’n gwneud i mi wenu – mae’n profi bod plant yn hoffi darllen am bob math o bethau annisgwyl tydi? A taswn i’n ddigon clyfar mi faswn i’n gallu ychwanegu llun o bry copyn yn hongian wrth ei hymyl, fel golygfa allan o Miss Muppet. Ond tydw i ddim.
Mi fues i’n darllen Coeden Cadi i griw o blant a’u rhieni yn hwn, cofiwch:
Ia, eirinen wlanog ( peach) anferthol fel yn stori Roald Dahl! Roedd hi braidd yn gynnes tu mewn ar ôl sbel, ac ro’n i’n teimlo’n sal môr pan o’n i’n edrych i fyny o’r llyfr, ond roedd o’n goblyn o hwyl! A dyma i chi un bachgen fu yn yr eirinen efo fi:
Sebastian oedd ei enw o, a dwi’m yn cofio o ble roedd o’n dod, ond nid yn rhy bell o’r Fenni, ddeudwn i. Roedd o isio copi o’r llyfr beth bynnag!
Roedd ‘na lyfr newydd yn y gyfres Na, Nel gan Meleri Wyn James yn barod erbyn y Steddfod hefyd, a dyma fo:
Tair stori newydd, wedi eu hanelu at blant 6-8 oed, yn cynnwys stori am wyliau gwersylla, wedi ei seilio ar brofiad go iawn yr awdures a’i theulu! Os am wybod mwy am y gyfres a gwneud posau fel chwilair a gweld gwahaniaethau mewn lluniau, mae ‘na wefan hefyd:
Mi wnes i ofyn i Cadi, fy nith ( yr un sydd yn Coeden Cadi) adolygu ‘Na, Nel! Aaaa!’ i mi wedi iddi gael ‘sleepover’ acw er mwyn trafod stori nesaf Cadi ‘Cadi dan y Dwr’ sy’n llawn môrforynion a physgod ac ati, ac mi ges y llythyr hwn ganddi:

Llythyr Cadi
Felly roedd y ddau lyfr wedi plesio! A dyma i chi lun o Cadi efo gwymon ar ei phen ar lan y môr yn esgus bod yn fôr-forwyn:
Dw i fwy neu lai wedi gorffen y stori gyda llaw, bydd Janet Samuel yn dechrau ar y lluniau wedyn, ac rydan ni’n gobeithio ei gyhoeddi erbyn Steddfod yr Urdd 2017. Dw i wedi cynhyrfu’n barod!