Wel, mae’r llyfr yma’n hwyl! Dwi’n eitha siŵr y bydd y teulu i gyd yn cael modd i fyw yn chwilio am gymeriad Boc y ddraig fach goch yn y lluniau yma gan Huw Aaron:
Bydd darllenwyr comic Mellten yn gyfarwydd â chwilio am Boc, ond dyma fo rŵan yn cael llyfr cyfan iddo fo’i hun!
Mae’n dipyn o fargen yn fy marn i: 10 llun tudalen ddwbl a phob un yn dangos golygfa eiconig Gymreig, fel yr Wyddfa, Castell Caerffili, fferm, gêm bêl-droed, Portmeirion ac ati.
Nabod fan hyn?
A dyma’r fferm:
Mae ‘na gyfle i chwilio am bethau eraill hefyd (250 i gyd!), a chyfle i drafod a holi cwestiynau rhwng plant â’i gilydd, neu rhwng rhiant/Nain/Taid/Modryb a phlentyn.
Dyma i chi anrheg delfrydol i blant ac oedolion, ac i deuluoedd di-Gymraeg hefyd.
Mae ‘na ddyfyniad da ar y cefn hefyd, ylwch:
Dywedodd Huw Aaron:
“Dwi wrth fy modd yn arlunio golygfeydd brysur llawn manylion bach doniol, felly roedd hi’n lot o hwyl creu’r llyfr yma…a lot o waith hefyd! Yn 2019, fydd Boc yn mentro eto wrth i ni gyhoeddi’r llyfr yn Saesneg hefyd. Pob hwyl gyda’r chwilio!”
Mae Ble Mae Boc? gan Huw Aaron (£4.99, Y Lolfa).
Llyfr arall sydd newydd gyraedd y siopau ydi un arall yn y gyfres Deian a Loli:
Dwi wrth fy modd efo’r lluniau ‘ma gan Nest Llwyd Owen:
Mae’n stori fach hyfryd gan Angharad Elen hefyd, efo ymadroddion bach bywiog fydd yn cyfoethogi iaith plant ifanc: mae’r efeilliaid yn cael trafferth cysgu un noson, ac wrth edrych allan drwy’r ffenest tra’n stwffio’u boliau ganol nos, maen nhw’n sylwi bod y sêr wedi diflannu… felly ydyn, maen nhw’n neidio mewn llong ofod i ddatrys y dirgelwch – ac yn cael gweld y planedau – a llawer mwy.
Maen nhw’n cyfarfod cymeriad hyfryd gafodd ei hysbrydoli gan berson hyfryd go iawn o’r enw Madam Sera. Dydi hi ddim efo ni bellach yn anffodus, ond mae pobl fy oed i yn ei chofio’n iawn ar y teledu – mi sgwennodd ei llyfr ei hun, sbiwch:
“Mae gen i gof clir iawn o Madam Sera pan o’n i’n hogan fach,” meddai Angharad. “Roedd hi’n gweithio yn Llyfrgell Caernarfon ac roedd hi’n dotio at blant. I mi, roedd hi’n rhyw gymeriad arallfydol – gyda llais cryg a bynsan ddu ar dop ei phen. Roedd hi’n sêr-ddewines, wrth gwrs, ac mi wnaeth dipyn o argraff arna i mae’n rhaid! Rhyw gyfuniad o Madam Sera a’r Ddewines Hud yn Superted ydi’r Madam Zêra yma.”
Deian a Loli a’r Sêr sy’n Cysgu (£4.99, Y Lolfa).
Llwyth o sêr i’r ddau lyfr!