Barn Barn

Published Rhagfyr 14, 2018 by gwanas

Da iawn cylchgrawn Barn – sylw da fel arfer i lyfrau plant gan Gwenan Mared a Delyth Roberts.

Dyma ddwy dudalen am lyfrau i blant iau (bydd raid i chi brynu eich copi eich hun o Barn os am ei weld yn well!):

20181213_170720

A dwy arall i blant 7-11 oed:

20181213_170712

Ac yna’r arddegau:

20181213_170633

Digon o syniadau i chi yn fanna ar gyfer anrhegion Nadolig. A diolch i’r adolygwyr am dynnu sylw at y ffaith bod ‘na ddryswch weithiau ynglŷn â pha oedran darged sydd wedi ei nodi ar gyfer rhai o’r llyfrau. Ydyn, mae plant yn wahanol iawn, a rhai yn darllen yn llawer hŷn na’u hoed, ond mae’n dda cael rhyw fath o syniad, tydi?

Dwi wedi dechrau darllen Gwenwyn a gwasgod Felen gan Haf Llewelyn ac yn mwynhau’n arw.

getimg

Mae’n sôn am y cyfnod caled yn y 19eg ganrif, pan fyddai’r meistri tir cefnog yn gwneud bywydau’r werin hyd yn oed yn fwy anodd. Os oeddech chi isio gwybod pam fod y Cymry wedi dilyn Michael D Jones i Batagonia, dyma’r llyfr i chi. Ia, llyfr ar gyfer pobl ifanc, ond, fel yn achos cymaint o lyfrau tebyg, yn berffaith ar gyfer oedolion hefyd.

Mae Henriet y Syffrajet gan Angharad Tomos yn y pentwr ‘Darllen dros y Dolig’ hefyd.

getimg

Edrych ymlaen!

O, a diolch i’r dysgwyr am brynu’r nofel lefel Sylfaen sgwennais i ar gyfer cyfres Amdani:

9781912261307_large

Mae’n gwerthu’n dda, mae’n debyg. Profi bod dysgwyr yn mwynhau chydig o hiwmor yn eu llyfrau darllen? Dwi wedi ei ddeud o o’r blaen ac mi ddyweda i o eto – dydi sgwennu’n ‘ysgafn’ ddim yn hawdd!

138571a9f91d54587ebc05469299bf8c--leo-valdez-what-book

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: