Dwi wedi cael pecyn hyfryd o lyfrau plant GWREIDDIOL gan Wasg Gomer, rhai gan hen lawiau a rhai gan enwau newydd. Dyma ddau sydd yr un maint (eitha mawr):

Ac un fymryn llai gan Nia Parry:

Yn union fel ‘Siôn Corn a’r Anrheg Gorau Un’, mae ‘Gwyn y Carw Claf’ yn gywaith prydferth rhwng (y Prifardd) Tudur Dylan Jones a Valériane Leblond.

Yn hon, mae merch fach o’r enw Greta yn darganfod carw bach cloff yn y goedwig. Mae’n helpu’r carw bach drwy glymu ei sgarff am ei goes. Fisoedd yn ddiweddarach mae Gwyn, y carw bach, yn rhoi cnoc ar ffenest Greta ar Noswyl Nadolig ac yn mynd â hi ar antur gyda Siôn Corn.

Yn anffodus, fel uchod, mae’r ysgrifen weithiau’n anodd ei weld, ond efallai mai fi a fy llygaid sy’n mynd yn hen. Ond y rhan fwya o’r amser, mae’r stori’n berffaith glir – ffiw!


Mae hi’n stori Nadoligaidd wirioneddol hyfryd, efo tro yn y gynffon fydd yn codi gwên, ac mae’r cwpledi’n llifo’n hawdd (wel, mae o’n brifardd, be dach chi’n ddisgwyl?) a dwi’n edrych mlaen yn arw i’w darllen hi ym Mhlas yn Rhiw Tachwedd 30 a Rhagfyr 1af (dwi wedi cael gwahoddiad i ddarllen yno yn eu dathliadau Nadolig eto eleni).
Partneriaeth newydd sbon ydi’r awdur Llio Maddocks a’r arlunydd Aled Roberts. Mae’r lluniau yn ‘Y Môr-leidr a fi’ yn fwy cartwnaidd, fel y gwelwch chi:

Mae Llio hefyd wedi mynd am gerddi bach sy’n odli, a hynny mewn ffordd llawer mwy boncyrs nag arddull dawel, hamddenol Tudur Dylan. Dwi wrth fy modd efo’r syniad a’r stori: mae’n llawn dychymyg, ac mi fydd unrhyw Nain yn hapus iawn yn darllen hon efo’i hwyrion. Mae’r plentyn yn hoffi dydd Gwener oherwydd mai Nain “sy’n fy nghasglu o’r ysgol, nid Mam.” Ha!

Dan ni’n cael gweld wedyn pam fod cwnmi Nain yn gymaint o hwyl. Mae hi’n un dda am fwydo ei ddychymyg a dan ni’n cael gweld be mae hi’n ei guddio yn y cwpwrdd dan staer a be’n union yw ei chyfrinach. Cawn gwrdd â’r giang ar fwrdd y llong, parot, dolffiniaid a theigr!
Fy hoff ddarn i ydi hwn am gyrtens/llenni’r llofft. Iawn, hwyliau’r llong ta:


Mae’r Carw yn £6.99 a’r Mor-leidr yn £5.99.
Llyfr cwbl wahanol ydi ‘Cwmwl Cai.’ Llyfr pwysig, allai fod o help mawr i blant bach fel Cai: bachgen bach sy’n cael ambell i bwl tywyll di-obaith lle mae o dan straen. Weithiau, mae bob dim yn iawn:

Ond weithiau, mae o’n drist ac yn poeni:


Mae llawer o blant bach fel Cai yn y byd. Mae’r llyfr hwn yn normaleiddio’r teimladau dwys yma ac yn cynnig syniadau ymarferol i blant a’u gofalwyr am ffyrdd i godi’r cwmwl a chodi ysbryd.


Mae Nia, efo help arbenigwyr yn y maes, a lluniau Gwen Millward, wedi creu llyfr hyfryd am y technegau o lonyddu ac ymdawelu sy’n seiliedig ar ‘ymwybyddiaeth ofalgar’ neu ‘mindfulness’. Dwi’n siŵr y bydd o o gymorth mawr i blant fel Cai a’u teuluoedd. Mae ‘na lawer mwy o syniadau a thechnegau yn y llyfr, yn cynnwys rhoi dy hoff degan ar dy fol a’i wylio’n mynd i fyny ac i lawr wrth i ti anadlu. A dychmygu Mam yn diffodd y cyfrifiadur am dipyn.
Dwi’n siŵr y byddai’n talu i oedolion sy’n byw dan gymylau gael copi o hwn hefyd.
Ond dull arall o godi’r galon ydi mynd ar gwrs sgwennu creadigol i Ganolfan Tŷ Newydd, fel y gwnes i a chriw (arbennig) o ddysgwyr dros y penwythnos. Dyma fi a Sarah Reynolds, fy nghyd-diwtor – ar y dydd Sul, cofiwch!

Mae hi wedi cyhoeddi 2 gyfrol yn Gymraeg ers dysgu Cymraeg yn rhugl:
Llyfrau hwyliog, ysgafn, sy’n donic – ond yn llawn gwirioneddau… ac mae hi’n gweithio ar nofel Saesneg ar hyn o bryd. Dwi’n edrych mlaen yn barod!