Y Lolfa

All posts tagged Y Lolfa

Hedyn / Seed Caryl Lewis

Published Gorffennaf 8, 2022 by gwanas

Nofel hyfryd arall gan Caryl Lewis, ar gyfer plant tua 9+ (ac oedolion fel fi). Dyma’r broliant ar y cefn:

A dyma’r tudalennau cyntaf i chi gael syniad:

A dyma lun o Caryl rhag ofn eich bod wedi bod yn byw mewn ogof a ddim yn gwybod pwy ydi hi:

Macmillan Childrens Books gyhoeddodd y fersiwn Saesneg, Seed, a Meinir Wyn Edwards (y flonden) Y Lolfa sydd wedi ei haddasu i’r Gymraeg. Mae hi wedi cael hwyl arni hefyd.

Ond mi gafodd Caryl andros o hwyl yn ei sgwennu yn y lle cynta. Mae’n llawn bob dim dwi’n ei hoffi: hud a lledrith, antur, dawnsio, garddio, natur, cyfeillgarwch a theidiau/tadau-cu chydig bach yn boncyrs. Mae na bob math o themàu ynddi – rhai pwysig iawn, ond does ‘run yn llethu’r stori na’r antur. A dwi’m isio sôn gormod amdanyn nhw fan hyn, rhag ofn i mi ddifetha’r profiad o ddarllen i chi. Ond ocê ta, mae ‘na gymeriad byddar yn y nofel. Mae ei stori hi yn hyfryd hefyd.

Mae na luniau bach difyr bob hyn a hyn:

Mae’r antur yn dechrau efo Marty’n plannu’r hedyn. Edrychwch sut dan ni’n cael gwybod bod rhywbeth hudol am yr hedyn hwn… cynnil a llawn cyffro!

Ia, hedyn pwmpen ydi hi – ac ydi, mae’n tyfu’n anferthol. Ond be maen nhw’n ei neud efo hi? Aha. Bydd raid i chi ddarllen y llyfr eich hun i gael gwybod!

£7.99 ac yn werth pob ceiniog.

Llyfr Lliwio Cadi

Published Gorffennaf 13, 2020 by gwanas

Dyyyh… wnes i anghofio sôn bod Llyfr Lliwio Cadi yn y siopau rŵan. Jest y peth ar gyfer diwrnod gwlyb, glawog fel heddiw.

Dyma’r clawr:

IMG_1672

A dyma’r cefn:

IMG_1707

A dyma syniad i chi o be sy tu mewn, pob un yn A4 gyda llaw:

Dwi wedi sgwennu chydig o frawddegau i fynd efo’r lluniau, ond yr arlunydd Janet Samuel sydd wedi gwneud y gwaith mwya, sef paratoi 23 o luniau i’w lliwio, a gwneud ambell bos hefyd, fel chwilio am wahaniaethau rhwng dau lun ac ati. Mi fues i wrthi am oes yn chwilio!

Mae Llyfr Lliwio Cadi ar gael nawr/rŵan (£4.99, Y Lolfa), ac yn werth bob ceiniog!

Cystadleuaeth Liwio Cadi

Published Mai 30, 2020 by gwanas

Diolch i bawb wnaeth anfon llun o Cadi a’i ffrindiau i gystadleuaeth liwio Cadi! Roedd y safon yn wych ac roedd hi’n dda gweld lluniau mor lliwgar!

Enillwyr y gystadleuaeth yw:

1af – Rhiannon Fflur

Cydradd 2ail – Hawys Elin

Cydradd 2ail – Grug Gwent

3ydd – Caio Tudor

Mi faswn i wrth fy modd yn gallu rhoi gwobr i bawb, ond roedd Meinir a minnau’n gorfod dewis y tri gorau. Ond fel mae’n digwydd, mi lwyddon ni i droi braich Y Lolfa a rhoi gwobrau i bedwar!

Yn drydydd, mae Caio Tudor Griffiths, 7 oed, gyda’i lun hynod liwgar a bywiog. Ro’n i’n hoff iawn o’r ffordd mae o wedi gwneud y fadarchen yn felyn ac oren, a’r awyr yn biws. Gwreiddiol a gwahanol. Da iawn, Caio!

100982340_3176149369112280_1781141311521292288_o

Yn gydradd ail, mae Grug Gwent, 7 oed a Hawys Elin, 6 oed. Ro’n i wrth fy modd gyda dail gwyrdd tywyll, artistig Grug a’r marciau glas ar wynebau’r ‘dynion drwg’;

101059473_3176148675779016_4364230927912534016_o

ac mae Hawys Elin wedi lliwio wynebau’r dynion yn wych hefyd, a chlyfar iawn oedd gwneud i un o’r tariannau edrych fel wyneb coch! Llongyfarchiadau i chi eich dwy.

101565364_3176149062445644_5060355550756208640_o

Roedd hi’n agos, ond i mi, Rhiannon Fflur, 7 oed oedd ar y blaen. Lliwio annisgwyl, gwahanol, oedd yn denu’r llygad yn syth. Mae’r madarch yn wych a hynod ddramatig, dail y coed yn ysgafn ac artistig fel rhai Grug, wynebau pob un o’r dynion drwg yn hollol wahanol, ac ro’n i wir yn hoffi’r ffordd glyfar mae hi wedi lliwio’r gwair yn ofalus, yn daclus ac yn drawiadol. Ac edrychwch ar y mafon/mwyar duon! Nid un blob o liw, ond cylchoedd bach pinc a phiws perffaith! Gwych, Rhiannon, a mwynha dy wobr.

100984363_3176147232445827_1207132311234019328_o

Mae’r rhain yn haeddu canmoliaeth uchel hefyd: Sami Joe Williams, Esyllt, Garin Collins a Lily Thatcher (dim ond 4 oed!) oedd wedi gwneud y coed yn lliwiau’r enfys.

Llongyfarchiadau mawr – bydd y gwobrau yn y post yn fuan – a’r Llyfr Lliwio cyn gynted ag y bydd o wedi ei gyhoeddi. O, ac i’ch atgoffa, mae manylion y gwobrau fan hyn:

EUbvKQvXsAAUmtq

Gyda llaw, mae’r Cadi go iawn, ysbrydolodd y gyfres pan oedd hi’n llawer iawn iau, wedi cael ceffyl!

c9714019-f828-483f-8e4d-c9c95126e3d4

Welwn ni lyfr ‘Cadi a’r Ceffyl’ neu ‘Cadi a’r Ceffylau’ ryw dro? Pwy a wyr!

Awduron ar-lein

Published Ebrill 9, 2020 by gwanas

Gan nad ydan ni’n gallu mynd i ysgolion neu lyfrgelloedd i gyfarfod ein darllenwyr am sbel, mae nifer o awduron wedi addasu eu gwaith ar gyfer y we.

th-2

Mae’r gantores, Gwawr Edwards, sydd bellach yn awdures hefyd wrth gwrs, wedi recordio clipiau ohoni ei hun yn darllen rhai o anturiaethau Mali, efo’i merch fach, Nel wrth ei hochr yn gwrando’n astud. Os dach chi am eu clywed, ewch i’w thudalen facebook hi, Gwawr Edwards-Phillips, ac mae ‘na glip ohoni hi’n canu’r caneuon hefyd, efo’i chwaer, Meinir, yn cyfeilio. Mwynhewch!

9781784617240_300x400

Cystadleuaeth!

Mae Cwmni Atebol wedi dechrau cystadleuaeth, gyda gwobr o werth £25 o lyfrau Atebol a chyfle i lansio un o’u llyfrau yn eich hysgol chi pan fydd pob dim yn ôl i drefn:

Y cwbl sydd raid ei wneud ydi gyrru llun, neges neu fidio atyn nhw am rai o’u llyfrau nhw cyn y cyntaf o Fai. Un o’u llyfrau ydi hwn gan Huw Aaron, sydd ar restr fer Tir Na n’Og eleni, ac mae ‘na adolygiad ar wefan https://www.sonamlyfra.cymru/:

IMG_0620

Ac hefyd, llyfr newydd sbon gan Sioned Wyn Roberts, a lluniau gan Bethan Mai:

ffwlbart_ffred_-_drewi_fel_ffwrbart_newydd

Dim ond ar werth drwy http://atebol-siop.com ar hyn o bryd. Does ‘na ddim byd ar y wefan yn deud ar gyfer pa oed mae o, ond tua 4-7 oed dybiwn i? Dyma’r disgrifiad:

Mae Ffred a’i ffwlbart yn ffrindiau gorau
ond digwyddodd rhywbeth od un bore
wnaeth newid lliw trwyn Anti Gyrti –
ar fy ngwir! Dyma’r stori …

Dewch i gwrdd â Ffred a’i ffwlbart yn y llyfr cyntaf mewn cyfres newydd o lyfrau stori-a-llun am ffrindiau bach direidus.

Stori llawn hwyl gyda thestun sy’n odli yn seiliedig ar un o’n dywediadau Cymraeg mwyaf od!

A dyma lun o’r awdures efo’r llyfr:

EUwHK_nXYAE4t4a-1

Cofiwch hefyd am gystadleuaeth lliwio Cadi! Mae gynnoch chi tan ddiwedd y mis:

EUbvKQvXsAAUmtq

A dyma syniadau am bethau i’w gwneud tra dach chi adre:

EU_iWWoWAAANGA7

AR GYFER YR OEDOLION

Dwi newydd orffen Wal gan Mari Emlyn, sydd ddim yn nofel i blant er ei bod hi’n edrych felly i gychwyn!

9781784618452

Nofel glyfar, gynnil, hyfryd fydd yn bendant yn taro pob math o dannau efo pobl tua fy oed i a Mari, ond yn gweithio i bawb o tua 15 i fyny, ac mi fydd yn arbennig o dda ar gyfer dysgwyr hefyd.

Dywedodd Mereid Hopwood yn ei beirniadaeth ar y nofel hon yng nghystadleuaeth Y Fedal Ryddiaith, Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy 2019, fod yma waith ‘cynnil, meistrolgar a chwbl wreiddiol’. Cytuno’n llwyr.

A difyr oedd gwylio Mererid Hopwood yn holi Mari yn y lansiad digidol. Dyma’r sgwrs fan hyn:
http://www.amam.cymru/ylolfa/693

Ar yr un wefan, mae Heiddwen Tomos (efo papur wal ffynci iawn y tu ôl iddi) yn trafod ei chasgliad o straeon byrion, O’r Cysgodion,

ETYqNKoXgAAzHBX

a gyhoeddwyd fis Mawrth eleni ac yn darllen ‘Brodyr’, sef un o’r straeon o’r gyfrol. Dwi ddim wedi cael fy machau ar gopi eto ond dwi’n edrych ymlaen yn arw:

http://www.amam.cymru/ylolfa/820

Cyfrannwch!

Dwi’n sylwi nad oes llawer wedi mentro rhoi sylwadau ar y llyfrau sydd ar wefan https://www.sonamlyfra.cymru/ eto. Plîs gwnewch! Mae’n ddifyr gweld barn gwahanol bobl, a phlant yn enwedig. Does dim angen sgwennu traethawd, dwi’n meddwl bod brawddeg neu ddwy yn gallu deud cymaint mwy weithiau. ee: y cwbl dwi wedi’i ddeud am Hwdi, Gareth F Williams ydi hyn…

Nofel wych ar gyfer unrhyw un sy’n mwynhau cael eu dychryn. Roedd yn rhaid i mi ei rhoi i lawr ar un adeg, i mi gael dechrau anadlu eto. A dydw i ddim yn dychryn yn hawdd!

Ond os dach chi isio syniadau am sgwennu adolygiadau, mae ‘na ganllawiau fan hyn:

https://www.booktrust.org.uk/books-and-reading/tips-and-advice/writing-tips/writing-tips-for-teens/how-to-write-a-book-review/

Lliwio a gwrando

Published Ebrill 2, 2020 by gwanas

Cystadleuaeth lliwio Cadi:

Mae Janet Samuel, Meinir Y Lolfa a finnau wrthi’n gweithio ar lyfr lliwio Cadi, sy’n cynnwys lluniau o’r pedwar llyfr sydd yn y gyfres hyd yma. Dyma’r llun fydd ar y clawr:

CADI POSTER A4 FRONT COVER BLEED copy

A deud y gwir, mae’r lluniau a’r posau i gyd yn barod (diolch, Janet!) a dwi wedi sgwennu brawddegau ar gyfer pob llun. Meinir sy’n goruwchwylio a golygu’r cwbl o’i chartref. Ond does ‘na neb yn y Lolfa i argraffu ac ati am sbel, nag oes! Felly yn y cyfamser, mi gafodd Gwenllian, y ferch greadigol sy’n gwneud gwaith marchnata Y Lolfa, y syniad gwych o gynnal cystadleuaeth lliwio.

EUbvKQvXsAAUmtq

Mi allwch chi weld a lawrlwytho’r daflen i’w lliwio fan hyn: https://rebrand.ly/Cadi

Mae gynnoch chi fis i liwio! Dyddiad cau: 30 Ebrill 2020

Ond cofiwch, os nad oes gynnoch chi argraffwr, mi allwch chi gopïo’r llun neu greu eich dehongliad eich hun, dim problem. Pob lwc! Dwi’n edrych ymlaen yn arw at gael gweld eich lliwiau llachar chi.

PROLOG MERCH Y GWYLLT

Dwi’n sgwennu ar gyfer oedolion hefyd wrth gwrs, ac ar gyfer oedolion YN UNIG mae Merch y Gwyllt sydd i fod i gael ei gyhoeddi yn yr haf… ryw dro… rhyw sut.

Merch y Gwyllt f2

Gwasg Gomer sydd yng ngofal y nofel honno, ac mae eu Mr Marchnata nhw, Sam, yn llawn syniadau creadigol hefyd. Roedd o am i mi ddarllen fersiwn sain o’r Prolog, sydd ddim yn hir o gwbl, ond diolch byth, mi wnaeth actores go iawn sy’n ffan o Gwrach y Gwyllt gynnig ei chymorth: Fflur Medi Owen:

66760796_10157043061605239_2245877805403340800_o60687759_10161525970390618_4548100264560689152_o

Ia, hi! Un o’n hactoresau gorau ni. Ers dechrau’n ifanc iawn efo Rownd a Rownd (dyna sut ddois i i’w nabod hi gynta) mae hi wedi gwneud llwyth o bethau: Pili Pala yn ddiweddar, Blodau, Y Tad, a wna i byth anghofio ei pherfformiad fel Iesu Grist yn Iesu! drama Aled Jones Williams.

Wel, mae ganddi’r llais perffaith ar gyfer llyfrau hefyd. Dwi wedi gwirioni efo’i pherfformiad. Ro’n i’n bownsio rownd y tŷ ar ôl gwrando arno!

A dyma sut mae Nici Beech wedi ei ddisgrifio:

Trît amser te!
Dyma prolog Merch y Gwyllt – dilyniant i Gwrach y Gwyllt gan Bethan Gwanas sydd i fod i ddod allan mis Mehefin.
Perffaith efo panad…6 munud a hanner o hyd ac yn cael ei ddarllen gan yr hyfryd Fflur Medi Ferch Rhiannon

Felly, os oes gynnoch chi 6.5 munud i’w sbario/llenwi, ac yn enwedig os oes gynnoch chi nam ar eich golwg, cliciwch ar hwn:

https://amam.cymru/GwasgGomerPress

Mwynhewch!

free-audio-books-e1472412645291

A sôn am lyfrau sain, mae @BorrowBox ar gael o’ch llyfrgell am ddim, er eu bod wedi cau. Mae ‘na e-lyfrau llafar ac e-lyfrau Cymraeg arno, ar gyfer plant ac oedolion. Yn ôl Bethan M Hughes (sy’n gweithio yn y maes):

Y cwbl sydd angen ei wneud ydi lawrlwytho’r ap, creu cyfrif hefo’ch cerdyn llyfrgell, ac awê! Mae modd ymaelodi arlein trwy wefan eich llyfrgell/cyngor. Yn yr ap chwiliwch dan ‘categori’ am y rhai Cymraeg.

Pob hwyl ar y gwrando – a’r lliwio!

Llun o gymeriadau Cadi! A chyfres am wrach o Gymru – Grace Ella.

Published Rhagfyr 11, 2019 by gwanas

Cadi'n darllen

Wel, dwi wedi archebu anrheg Nadolig i mi fy hun. Roedd Janet Samuel, yr arlunydd o Bontarddulais wedi rhoi’r llun uchod at ei gilydd a’i roi ar Instagram. Mi wnes i wirioni’n bot wrth gwrs – cymeriadau Cadi i gyd efo’i gilydd? Gwych! Felly dwi wedi archebu print maint A3 ganddi.

Mae’r lliwiau’n wych, ac mi fydd yn edrych yn hyfryd mewn ffrâm ar y wal. Dwi ddim yn gwybod pa stafell eto. Ond dwi isio prynu cadair freichiau i ddarllen ynddi, ac mae’n eitha posib mai mynd am un goch wna i rŵan!

O, ac mae ‘na si y bydd llyfr lliwio Cadi yn ymddangos flwyddyn nesa – wnai adael i chi wybod yr eiliad gai gadarnhad. Ond dwi’n rhyw deimlo efallai bod gynnon ni glawr yn barod…

CADI CELTIAID P37 copy

Diolch i bawb brynodd gopiau o Cadi a’r Celtiaid yn nosweithiau Siopa Hwyr y Bala a Dolgellau, gyda llaw. Ges i andros o hwyl yn darllen chydig o’r llyfr i blant boncyrs y Bala, a modd i fyw yn rhannu stondin yn Nhŷ Siamas efo Sharon Marie Jones.

20191206_231207

Mae Sharon wedi sgwennu dwy nofel am wrach o Gymru – yn Saesneg, a dyma nhw:

EGloAN-XUAAqwLd

A dyma Sharon, sy’n dod o Ddolgellau yn wreiddiol, fel fi!

Sharon Marie Jones

Mi wnes i brynu ‘Grace- Ella, Spells for Beginners’ ganddi, sef y gyntaf yn y gyfres. A mwynhau! Mae hi wedi ei hanelu at blant 7-9 oed, a dyma i chi’r dudalen gynta:

20191211_182619

A dyma dudalen sy’n dangos yr elfen gymreig gref sydd ynddi – ac ia, dyna pam dwi’n rhoi sylw i lyfr Saesneg yn y blog yma, am mai awdures o Gymru sydd dan sylw, ac mae’n rhoi sylw i’n iaith ni!

20191209_082448

Mi faswn i wedi bod wrth fy modd yn darllen am anturiaethau Grace-Ella a’i chath, Mr Whiskins a’i ffrindiau pan ro’n i’n 7-9 oed. Mi faswn i wedi bod wrth fy modd gyda darluniau Adriana J Puglisi o’r Ariannin a Sbaen hefyd.

20191211_182537

Ond dwi’m yn siŵr pam ei bod hi’n ‘Adribel’ yng nghefn y llyfr – efallai mai dyna be mae ei theulu yn ei galw hi? Beth bynnag, dyma lun o’r ail lyfr, ‘Grace-ella, Witch Camp’ – edrych yn ddifyr!

wc3

Mae’r ddau lyfr yn £5.99 yr un ac yn cael eu cyhoeddi gan Firefly Press o Gaerdydd. Plîs cefnogwch Sharon a gwasg o Gymru!

Llyfr adar i blant

Published Rhagfyr 4, 2019 by gwanas

Mae Onwy Gower wedi cyhoeddi llyfr hyfryd am adar i blant, a dim ond disgybl Blwyddyn 6 ydi hi!

Dyma’r llyfr:

9781784617776

A dyma lun o Onwy efo’i thad yn y lansiad:

EKoIILeXsAAJYgD

Mae’r ddau yn mynd i wylio adar yn rheolaidd, yn enwedig i Benclacwydd ger Llanelli. Dyma linc i wefan y lle: https://www.wwt.org.uk/wetland-centres/llanelli/experience/

er mai Llanelli Wetland Centre ydi’r enw yn ôl fanno. Dim sôn am Benclacwydd a hwnnw’n enw mor wych ar gyfer ardal sy’n llawn adar. Mr Gwydd ydi clacwydd neu glagwydd, rhag ofn nag oeddech chi’n gwybod. Arddelwch yr enw os gwelwch yn dda, WWT!

Gyda llaw, dyma i chi ddywediad sy’n ddiarth i mi, ond dwi wrth fy modd efo fo: ‘Trot hwch a galap clacwy’ – sef rhedeg heb frysio llawer… ‘a leisurely trot.’
51556375_10156417235217415_3539919969577861120_o
22da52950037d2bbad53f45559a88d91

Gwych ynde! Pobl ardal Dyfed oedd – neu sydd – yn ei ddeud o, ond weithiau, mae angen i weddill Cymru fabwysiadu dywediadau fel’na.

Yn ôl at Llyfr Adar Mawr y Plant: Mae o’n hawdd i’w ddarllen, gydag ambell air allai fod yn ddiarth i blant mewn bold ac yna mewn rhestr eirfa yn y cefn; efo ffeithiau difyr am bob aderyn ac unai gerdd fach gan feirdd enwog, neu gan Onwy ei hun (a’i thad wedi ei helpu mae’n debyg – ond ddim llawer, dwi’n siŵr!).

IMG_4470

Mae’r lluniau gan Ffion Gwyn yn hyfryd:

73407439_576201779875876_2479043330882251281_n

IMG_4469IMG_4468

O, a hoff ffaith Onwy ydi’r un am y robin goch. A be ydi hwnnw? Bydd raid i chi brynu’r llyfr yn bydd… £7.99 Y Lolfa.

Mi wnaiff anrheg arbennig i unrhyw blentyn sydd â diddordeb mewn adar neu natur. Da iawn ti, Onwy!

Llyfr am barchu pobl wahanol i ni

Published Tachwedd 28, 2019 by gwanas

EHeOqcAWsAAbUAI

Perl arall gan Manon a Jac. Llyfr gyda’r mymryn lleia o eiriau, sy’n gadael i blentyn ‘ddarllen’ y lluniau. Felly mi allwch chi orffen hwn yn hawdd mewn un eisteddiad, a dwi’n siŵr y bydd y plant (a’r oedolion) yn sylwi ar rywbeth newydd yn y lluniau gyda phob darlleniad.

Ond cofiwch, “easy reading is damned hard writing” felly mi fedra i eich sicrhau chi bod Manon wedi pwyso a mesur bob gair, bob cymal, ac wedi torri a chwynnu er mwyn cael y cyfniad perffaith o eiriau a lluniau.

20191128_085402

Mae’n stori bwysig hefyd, yn enwedig yn yr oes sydd ohoni. Mae’n ein dysgu i beidio â beirniadu rhywun sy’n edrych ac yn ymddwyn yn wahanol i ni, a bod rhaid parchu pawb.

20191128_085436

Mae gan y cymdogion eu iaith eu hunain, ond maen nhw’n gallu siarad Cymraeg hefyd, a dwi wrth fy modd efo’r dudalen hon. Mi fydd plant wedi dotio.

20191128_085623

Fel mae’n digwydd, mae’r plentyn gwahanol (piws) yn hoffi chwarae pêl-droed hefyd…gêm sydd wedi dod â phobl wahanol at ei gilydd ers blynyddoedd; ond nid pawb sy’n ddigon lwcus i gael byw drws nesa i’r teulu newydd a dod i’w nabod, ac mae rhai o’r plant yn yr ysgol yn gas efo’r plentyn newydd piws, ond mae’n plentyn gwyrdd ni yn edrych ar ei ôl…

20191128_085602

Llyfr wirioneddol hyfryd. Bargen gan Y Lolfa am £3.99, ac yn eisin ar y gacen i mi, mae Manon wedi cyflwyno’r llyfr i’w chymdogion: “I Tomos Wyn a Huw Evans – y bobol drws nesaf ond un” sy’n digwydd perthyn i mi! Mi fydd y ddau wedi gwirioni.

Cadi a’r Celtiaid

Published Tachwedd 26, 2019 by gwanas

Wps! Dwi wedi bod mor brysur yn blogio am lyfrau pobl eraill, dwi wedi anghofio deud bod Cadi a’r Celtiaid bellach yn y siopau!

Dyma’r clawr:

3351_Untitled-1

A dyma rai o fy hoff luniau gan Janet Samuel:

A dyma luniau efo’r ysgrifen yn y darnau adawodd Janet ar gyfer yr ysgrifen:

20191126_154626

20191126_154742

A dyma ddarn efo tipyn golew o sgwennu. Oes, mae ‘na waith darllen ar lyfrau Cadi, ond ro’n i isio creu llyfrau oedd yn rhy hir i’w darllen mewn un eisteddiad, achos – yn fy marn i – mae’n gwneud i blant arfer efo’r syniad o stori hirach/hwy, a gobeithio eu bod yn edrych ymlaen at gael mwy o’r stori y noson wedyn – a’r un wedyn! O, ac os sylwch chi, mae’r gair ‘pwmpian’ yna eto. Achos dyna, yn bendant, fyddai’n digwydd pan fyddai pawb yn cysgu yn yr un lle, a dwi’n nabod llawer o blant sy’n mwynhau hiwmor ‘blas y pridd’… a rhieni hefyd!

20191126_154652

Mi fydd plant Ynys Môn yn nabod lle mae Cadi’n beicio ato fan hyn:

20191126_154555

Ia, stafell gladdu Bryn Celli Ddu. Yno, ar fore diwrnod hira’r flwyddyn, mae Cadi’n cael ei gyrru’n ôl mewn amser i Oes y Celtiaid, ac yn dysgu ambell wers – ac yn cael ambell antur! Mae hi’n dysgu pa mor bwysig ydi dal ati a pheidio â rhoi’r ffidil yn y to, ac nad oes angen poeni os fydd hi’n gwneud camgymeriadau, achos fel’na mae rhywun yn dysgu.

Mae hi hefyd yn dysgu agor ei llygaid a’i chlustiau a chanolbwyntio go iawn.

Mi fydda i’n darllen peth o’r stori ym Mhlas yn Rhiw ddydd Sadwrn a Sul Tachwedd 30/Rhagfyr 1af, ac hefyd yng Nghanolfan Henblas, Y Bala ar nos Iau Rhagfyr 5ed rhwng 6 a 7 (noson siopa hwyr y Bala), ac wedyn yn Nhŷ Siamas yn ystod noson siopa hwyr Dolgellau tua 5-6 o’r gloch. Gobeithio eich gweld yno a chofiwch atgoffa eich rhieni/nain/taid/modryb/ewyrth i ddod â £5.99 efo nhw i brynu copi!

Ty Siamas and Eldon Square 
Dolgellau
Gwynedd
Mid
Towns and Villages

Mi ges i wahoddiad i’r Sioe Aeaf yn Llanelwedd ond dwi’n dysgu Cymraeg i oedolion bob bore Llun a Mawrth, sori. A sôn am rheiny: mae fersiwn newydd o Bywyd Blodwen Jones hefyd yn y siopau, efo clawr newydd gan Brett Breckon!

9781785623059

Y Cwilt

Published Tachwedd 13, 2019 by gwanas

9781784617974_300x400

Mi fyddwch chi wedi gweld darluniau Valériane Leblond o’r blaen, mewn llyfrau (rhai Caryl Lewis, Elin Meek a Haf Llewelyn er enghraifft), ar gardiau a chalendrau ac ati. Mae hi wedi ennill gwobrau am ei gwaith. Ond y tro yma, a hynny am y tro cyntaf erioed, hi sy’n gyfrifol am y geiriau hefyd.

Stori hyfryd, dawel a chynnil am ymfudo a hiraeth ydi hi. Mae teulu bychan yn gadael Cymru a mynd i chwilio am fywyd gwell yn America. Mae’r fam yn creu cwilt cyn gadael, ac mae’r cwilt hwnnw’n dod â chysur mawr pan mae hiraeth yn codi ar y daith ac wedi cyrraedd byd a bywyd newydd, diarth. Dyma i chi flas o’r dechrau:

20191113_165121.jpg

A dyma’r fam yn gweithio ar y cwilt. Mae’r defnydd o liwiau a phatrymau yn glyfar iawn drwy’r llyfr:

20191113_165204

Sbiwch ar y ffordd mae patrymau’r cwilt yn troi’n wenoliaid. Ac mi welwn ni wenoliaid fwy nag unwaith. A’r lliwiau hyn hefyd. Mae ‘na elfen o farddoniaeth yn y darluniau, yn bendant!

20191113_165231

Be am y geiriau? Dyma fwy i chi:

20191113_165416

20191113_165308

20191113_165358

Ia, cynnil, syml a phwyllog. Bydd rhieni a modrybedd/teidiau/neiniau ac ati wrth eu bodd yn darllen hon yn uchel i blant ifanc 3+ a bydd plant sy’n gallu darllen drostyn nhw eu hunain yn ei mwynhau hefyd. Dwi’n eitha siŵr y byddan nhw’n mwynhau sylwi ar yr ail-adrodd o liwiau a delweddau hefyd.

“Mae gen i ddiddordeb mewn cwiltiau a gwaith clytwaith ers fy arddegau, pan wnaeth fy mam gwilt i mi,” meddai Valériane, ac ers symud o Ffrainc i Gymru, mae hi wedi peintio a darllen llawer am y grefft gwiltio Gymreig, “sy’n hollol unigryw.” Mae’n mynnu ei fod yn llawer mwy na chrefft, “mae’n gelf haniaethol gain!” Mae’r gyfrol hyfryd hon yn hynod gain hefyd – llongyfarchiadau, Valériane! Mi wnaiff anrheg Nadolig gwych. Mae’n glawr caled ac yn fargen am £5.99 (Y Lolfa).