Mae arna i ofn nad ydi’r hen feirws yma wedi fy ysbrydoli i o gwbl. Mae darllen yn anodd, heb sôn am sgwennu. Ond diolch byth am Angharad Tomos: mae hi wedi sgwennu a darlunio a chyhoeddi llyfr cyfan: ‘Pawennau Mursen’ – yn ddigidol. Mae hanes Rwdlan a’r Dewin Dwl yn styc yn y tŷ ar gael am ddim (“i blant drwg o bob oed”) fan hyn:
Dwi’n arbennig o hoff o’r ffaith fod Ceridwen yn cael trafferth dysgu’r criw drwg – bydd sawl rhiant yn cydymdeimlo, ddeudwn i!
Da iawn, Angharad.
Mae ‘na lyfr arall, mwy ffeithiol am y feirws ar gael am ddim hefyd.
Addasiad ydi o, ac mae ‘na adolygiad dwyieithog ar gael fan hyn ar wefan sonamlyfra:
Dyma’r linc i’r llyfr ei hun:
https://atebol-siop.com/coronafeirws-llyfr-i-blant.html
Nofel hanesyddol
Mae Gwasg Carreg Gwalch wedi cyhoeddi e-lyfr am y tro cyntaf hefyd:
Y Ci a’r Brenin Hywel gan Siân Lewis. Nofel ar gyfer Bl 5 a 6 (yn fras) ydi hi, yn rhan o gyfres am hanes Cymru, a chyfnod Hywel Dda sydd dan sylw fan hyn.
Dyma’r broliant ar wefan gwales.com:
Mae Gar mewn helynt. Mae wedi cnoi marchog pwysig, un o ffrindiau’r brenin Hywel. Yn ôl cyfraith newydd y brenin, fe gaiff ei gosbi’n llym. Felly rhaid i Gar adael ei gartref a mynd i chwilio am loches yng nghwmni Nest, ei ffrind.
Ond pan aiff Nest i lys y brenin ar ddiwrnod cyhoeddi’r gyfraith, mae Gar yn mynnu ei dilyn er gwaetha’r perygl. A fydd e’n dianc heb niwed o lys y Tŷ Gwyn?
Mae unrhyw beth gan Siân Lewis yn werth ei ddarllen! Ar gael am £5.95.
Tip sgwennu:
Un o’r sgwennwyr gorau erioed oedd John Steinbeck, ac mae’n debyg mai ei arddull o oedd i sgwennu’n hynod gyflym a pheidio â golygu na newid dim nes roedd y cyfan i lawr. A dyma pam: ‘Rewriting as a process is usually found to be an excuse for not going on,’ meddai. A wyddoch chi be, mae ‘na wirionedd yn hynna. Efallai mai dyna pam dwi mor araf yn sgwennu nofelau. Reit, dwi am drio dull Steinbeck, i weld os ga i well hwyl arni.
Roedd o hefyd yn credu bod sgwennu un dudalen bob dydd yn ganlyniad da, hyd yn oed os oedd o’n cymryd drwy’r dydd i’w sgwennu. O? Ydi hynna’n gwrthddeud yr uchod, dwch? Ond dim bwys, mae un dudalen yn rywbeth y galla i anelu ato, siawns.
Hefyd, roedd o, fel fi, yn hoffi deud ei ddeialog yn uchel wrth ei sgwennu. Mae o wir yn gweithio, os am gael deialog sy’n swnio fel sgwrs naturiol. Triwch o.
Iawn, dwi’n meddwl mod i’n teimlo rhyw fymryn o ysbrydoliaeth rŵan. Croesi bysedd!