Wel gofynnwch a chwi a gewch! Y diwrnod ar ôl sgwennu yn fan hyn nad ydw i wedi gweld llyfr plant newydd ers tro, daeth pecyn yn y post gan Wasg Carreg Gwalch, oedd yn cynnwys hwn!
Dyma’r ail yng nghyfres newydd ‘Cyfres Clec’, cyfrolau sy’n cynnwys dwy stori fer ‘Straeon denu darllen’ wedi eu hanelu at blant 6+, efo lluniau bach digri gan Hannah Doyle.
A phwy ydi’r awdur tro ‘ma? Rhywun dwi’n digwydd ei nabod: Dafydd Llewelyn o Abergele’n wreiddiol, ond sy’n byw yng Nghaerdydd ers blynyddoedd bellach.
A boi swil achos er i mi googlo am sbel, ddois i ddim o hyd i lun ohono fo! Ac ynta efo mop o wallt coch del…
Dyma’r llyfr plant cyntaf iddo ei sgwennu, ond gan fod gan y boi ddawn deud a hiwmor sy’n gallu ymylu ar y boncyrs, dwi’n gobeithio y bydd o’n sgwennu llawer mwy ar gyfer plant rwan.
Ar ôl gwneud gwaith ymchwil a dysgu am chydig, mi gafodd swydd fel Golygydd Sgriptiau ‘Pobol y Cwm’ – a fanno fuodd o am flynyddoedd, gan sgwennu ambell ddrama bob hyn a hyn. Mae o wedi ennill llwyth o wobrau am ei ddramau dros y blynyddoedd, a siawns na chaiff o rai am lyfrau yn y dyfodol!
Dyma i chi dudalen gynta’r llyfr:
Gwahanol tydi? Ac mi fyddwch chi’n siwr o fwynhau hanes Morgan a’i gariad at gerddoriaeth a’r ffordd mae’r morgrug eraill yn flin efo fo am beidio gweithio, gweithio, gweithio fel pawb arall.
Honna ydi fy ffefryn i. Mae’r ail stori am y melysion yn ddigri hefyd, ond ddim yn gorffen cweit cystal – yn fy marn i – a dim ond fy marn i ydi hynny – a dwi’n hen ddynes.
Be fydd eich barn chi sgwn i? Darllenwch a rhowch wybod – yn enwedig os dach chi isio canmol achos dwi wir yn meddwl bod angen annog Mr Dafydd Llewelyn i sgwennu mwy ar gyfer yr oedran yma, a llyfrau mwy o faint hefyd, ar gyfer plant sydd wir yn mwynhau darllen ac isio rhywbeth i gael eu dannedd i mewn iddo. Nid i mewn i’r awdur – i’r llyfr. Dyyyh…
Be amdani? Rhowch gomisiwn iddo fo Wasg Carreg Gwalch. Llyfr tewach tro nesa, nofel. Ar gyfer plant tua 9-11? Dyna fyswn i’n ei neud taswn i’n chi/fo.