Dyma’r gwrachod a’r dewin – a’r anifeiliaid – fydd yn y llyfr.
A diolch i sylw Eluned Winney ar y blog, dwi wedi newid yr enwau – a dyma nhw!
Ac os dach chi’n craffu, mi welwch fod ‘na ddau fersiwn o’r sgwarnog a’r deryn du/y fwyalchen yn y llun cyntaf. Fi ofynodd i Janet, yr arlunydd oedd modd rhoi llygaid mwy cartwnaidd, dynol iddyn nhw. Oedd, siŵr! Fel hyn mae awdur ac arlunydd yn gweithio dach chi’n gweld – mi fuon ni’n trafod yr enwau hefyd. Ac mi ges i help Caio, fy nai, i feddwl am yr enwau newydd: Moira a Carlo Cadwaladr. Diolch, Caio.
A DIOLCH YN FAWR i Eluned Winney!
Oherwydd bod y llyfr am wrachod a hud a lledrith, mae’n bosib y y byddwn ni’n aros i gyhoeddi’n nes at Noson Calan Gaeaf. Syniad da? Ond o leia dach chi’n gwybod ei fod o ar ei ffordd rŵan!
Gyda llaw, dyma rywbeth allai fod o ddiddordeb i ddarllenwyr yn eu harddegau:
Cyfle i ennill £20? Ewch amdani! A diolch i Lyfrgelloedd Cymru am y cynllun. Da ydyn nhw ynde?
Yn bendant, mae angen i fwy o blant weld eu hunain mewn llyfrau Cymraeg, o ran y straeon a’r lluniau. Plant aml-hil, plant o dras gwahanol i’r rhai gwyn, Ewropeaidd arferol. Mi wnes i sôn am hyn a rhestru llyfrau addas fan hyn: Llyfrau i daclo hiliaeth
Ond mae angen mwy! Dyna pam wnes i ofyn i’r arlunydd Janet Samuel wneud un o’r cymeriadau yn antur nesaf Cadi: ‘Cadi a’r Gwrachod’ yn ddu. A dyma Dorti!
Tydi hi’n hyfryd? Dwi wedi gwirioni! Nac ydi, dydi hi ddim yn brif gymeriad, achos mae Cadi eisoes wedi ei sefydlu, ond mae hi’n gam i’r cyfeiriad iawn. Ac ia, gwrach ifanc ydi hi; mi fydd ‘na ddwy wrach – a dewin – yn y llyfr. Pam ddylai’r merched gael yr hwyl i gyd? Roedd angen dewin i gynrychioi’r bechgyn hefyd! Gewch chi weld Helen Felen a Caio Coch yn fuan, a’r llyfr gorffenedig erbyn mis Mehefin, gobeithio.
Os am lyfr i blant fymryn hŷn na darllenwyr Cadi, lle mae’r prif gymeriad o gefndir cymysg, mae ‘Sŵ Sara Mai’ gan Casia Wiliam yn hyfryd. Mwy am hwnnw fan hyn: Sw Sara Mai – nofel i blant
Gobeithio y gwelwn ni lawer mwy o lyfrau Cymraeg gwreiddiol fydd yn adlewyrchu ein cymdeithas ni yng Nghymru heddiw, a mwy o awduron amrywiol hefyd. Dwi’n gwybod bod yr awduron a’r llyfrau ar y ffordd a dwi’n edrych ymlaen, bobol bach.
Mae ’na rai llyfrau sy’n cydio ynoch chi fel gefail ac yn gwneud i chi anghofio anadlu. Dydi o ddim yn digwydd yn aml. Roedd ‘Awst yn Anogia’ yn un, yn bendant, a rŵan, dyma un arall sydd wedi fy ysgwyd i’r byw.
Ro’n i wedi clywed canmol mawr i nofel Megan, ond wnes i ddim brysio i gael fy machau arni. Rhyw chweched synnwyr yn deud wrtha i bod angen rhoi amser i hon, efallai? Ro’n i wedi gweld mymryn ohoni ar gwrs yn Nhŷ Newydd ar gyfer sgwennu llyfrau ar gyfer pobl ifanc, lle roedd Megan yn un o’r myfyrwyr.
Megan Angharad Hunter
Roedd hi wedi sgwennu drafft ohoni ac wedi cael gwybod y byddai’n cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa, ond roedd hi isio fy marn i a Manon Steffan Ros, y tiwtor arall ar ddarnau ohoni.
Rŵan, ches i ddim llawer o amser i sbio ar y darn, ac roedd yr arddull yn sioc i’r system i hen begor fel fi:
“yn diwadd ma llgada fin edrych bach yn conked ond di o ddim yn fatha, mess masif. di o ddim fatha world war three nam byd, di o ddim hynna ddrwg. so mots os fod o bach yn conked na.”
Anest, un o’r ddau brif gymeriad sy’n sgwennu fel’na, a dwi bron yn siŵr fod ’na fymryn bach mwy o atalnodi nag oedd yn y darn welais i, ond alla i ddim bod yn siŵr chwaith. Roedd o’n anodd ei gymryd i mewn beth bynnag, ac ro’n i’n gorfod mynd yn ôl i’r dechrau dragwyddol. Ond yn ara bach, mae rhywun yn dod i arfer ac yn clywed y cymeriad yn siarad. Roedd o’n dda. Yn dda iawn. Ac roedd y darnau eraill sgwennodd hi yn ystod y cwrs yn gwneud i rywun godi ei haeliau. A mynd fatha di hon im yn conked na? Sori, os gawsoch chi drafferth efo’r frawddeg ola ’na, chwarae teg, dach chi ddim yn ‘berson ifanc’ a doeddech chi ddim yn barod amdani. Braidd yn sydyn o bosib, ond mae llais Anest yn fy mhen i fel’na ers dyddiau rŵan!
Ta waeth, ro’n i’n nerfus yn agor tudalen gyntaf y nofel. Roedd y llyfr wedi bod yn syllu arna i ar y bwrdd ers dyddiau, a deud y gwir. Pam y nerfusrwydd? Ofn na fyddwn i’n ei ‘chael’ hi? Ofn na fyddwn i’n gwirioni efo hi fel cymaint o ddarllenwyr ar y cyfryngau cymdeithasol? Dwi’m yn siŵr. Ond o fewn rhyw ugain munud ar y mwyaf, ro’n i wedi fy machu – go iawn.
Mae Deian, y cymeriad arall sydd ym mlwyddyn gyntaf y chweched, yn sgwennu’n fwy traddodiadol, hyd yn oed yn defnyddio semi colon:
“Ma’r giât sy’n arwain fewn i’r ardd yn felyn hefyd ond dydi hi heb gael côt newydd ers blynyddoedd; dwi’n gallu gweld gwythienna’r pren drwy’r paent so ma’n edrych chydig bach cefn dwylo Taid.”
Mae’r llyfr yn pendilio nôl a mlaen rhwng y ddau, ac mae gan y ddau broblemau. Dach chi’n gwingo efo nhw, ond yn rhannu’r adegau da hefyd. Mae yma hiwmor, mae yma sensitifrwydd, ac oes, mae yma dristwch. Ond dyna’r cwbl dwi am ddeud am y stori, rhag ei difetha i chi. Yr hyn oedd yn fy nharo – naci, fy waldio i efo gordd, oedd talent rhyfeddol Megan i greu hud efo geiriau. Iechyd, mae hi’n gallu sgwennu. Mae trosiadau a chymariaethau’n gallu mynd ar fy nerfau i, ond mae pob un fan hyn yn berl ac yn ffitio ac yn dangos mwy am y cymeriad. Mae hi jest yn gampwaith.
Iawn, fydd hi ddim at ddant pawb. Dwi’n gwybod nad oes llawer o bwynt ei dangos i fy rhieni. Fy chwaer – o bosib. Fy nith sy’n ei 30au – yn bendant. Ro’n i’n teimlo fel deinosor yn ei darllen hi ar adegau oherwydd mae ’na dipyn o dalfyriadau iaith ‘text’ fel idk a ngl a af. Bu’n rhaid i mi eu gŵglo bron i gyd, felly byddai eglurhad rhywle ar y dechrau wedi bod o help i rywun fel fi. Roedd idk reit hawdd – I don’t know. Ngl – not gonna lie. Ond fiw i mi egluro ‘af’ i chi. Os ydach chi dan 30, mi fyddwch chi’n gwybod beth bynnag. Am wn i. idk
O, a mae ’na ddau ddyfyniad ar ddechrau’r nofel: geiriau cân gan fand o’r enw The Blue Jacks, ac un gan gerflunydd.
Ac yn nes ymlaen, mae Deian yn cael ei swyno gan un o ganeuon y band jazz o’r 1930au. Rŵan, mi fydda i’n licio gwrando ar unrhyw ganeuon sy’n ran o nofel, er mwyn teimlo’r hyn roedd y cymeriad yn ei deimlo (bosib mod i’n od, ond dyna fo). Ond doedd ‘na affliw o ddim yn Google. A doedd dim sôn am gerflun anhygoel Brenda Elias chwaith a finnau gymaint o isio’i weld o.
Bu’n rhaid imi gysylltu efo Megan i gael gwybod ai dychmygol oedden nhw. Ia, drapia! Y siom… ond parch hefyd, achos mi ges i fy llyncu’n llwyr yn do?
Mi fydd ein grŵp darllen ni’n trafod hon cyn bo hir, a dwi wir yn edrych ymlaen at glywed sut brofiad gawson nhw i gyd. Cofiwch, efallai na fydd pawb wedi mopio gymaint â fi. Roedd un wedi casau ‘Awst yn Anogia’ wedi’r cwbl! Ond yn fy marn i, os na fydd hon ar restr Llyfr y Flwyddyn eleni, mi fydda i’n flin.
Yn flin af, ac wedi fy siomi. Ac mi fydd ar restr Tir na n-Og hefyd. Mae hi’n berffaith ar gyfer darllenwyr tua 13/14 + yn fy marn i ond mae rhai’n meddwl y dylai fod ar gyfer oedran 16+. ee:
“Fasa ni (Sôn am Lyfra) ddim yn argymell y llyfr ar gyfer cynulleidfa sydd o dan un ar bymtheg ar y cyfan gan fod y llyfr yn trafod hunan laddiad a hunan niweidio.”
Digon teg. Dwi ddim yn y byd addysg a rioed wedi bod y gorau am weld peryglon. ngl. Dyna pam fod fy mhengliniau i’n rhacs. Felly dach chi wedi cael eich rhybuddio.
Ond mae’n rhaid iddi ennill RHYWBETH!
Yn ôl Manon Steffan Ros ar y clawr: “Y nofel orau, fwyaf pwerus i mi ei darllen ers blynyddoedd. Mae’n ysgytwol.” Deud mawr. Ond dwi’n cytuno efo hi. Dwi’n dal i ysgwyd.
Llongyfarchiadau i bawb fu’n ran o daith y nofel, ond Megan yn fwy na neb.
Os am glywed a gweld Megan yn sgwrsio efo Marged Tudur am y nofel, cliciwch ar hwn:
A diolch i Glwb Lyfrau Cara ar Facebook, dyma linc difyr arall. Mae Megan wedi rhannu ei rhestr chwarae Spotify o ganeuon a ysbrydolodd hi wrth sgwennu Tu ôl i’r awyr a rhai ohonyn nhw’n ymddangos yn y nofel! Dilynwch y linc isod neu chwiliwch am ‘tu ôl i’r awyr’ ar Spotify