Nabod rhai o’r llyfrau yma? Llyfrau yng nghyfres Mewnwr a Maswr ar gyfer plant 9-13 oed. Straeon bywiog am bâr o efeilliaid sydd wrth eu bodd yn chwarae rygbi ydyn nhw. Gareth William Jones o Bow Street ger Aberystwyth sgwennodd bob un.
Fo sgwennodd rhain hefyd:
A Gareth ydi’r awdur diweddara i rannu ei hoff lyfrau efo ni. Hen bryd cael dyn yndoedd? Ond nefi, mae ‘na brinder dynion sy’n sgwennu ar gyfer plant a’r arddegau ar hyn o bryd. Mi wnai flogio am hynna eto…
Yn ôl at Gareth: cafodd ei eni a’i fagu yn Nyffryn Ogwen. Yn Ysgol Penybryn ac Ysgol Uwchradd Dyffryn Ogwen ym Methesda y cafodd ei addysgu ac yno y magwyd ei ddiddordeb mewn storiau, drama a pherfformio. Bu’n fyfyriwr yng Ngholeg y Drindod Caerfyrddin ble astudiodd Cymraeg a Drama a fo oedd y cyntaf yng Nghymru i ennill gradd B.Ed. mewn drama drwy gyfrwng y Gymraeg.
Ar ôl dysgu Drama yn Ysgol Gyfun Sandfields ac ysgol Uwchradd Tregaron, bu’n drefnydd gweithgareddau diwylliannol i Llyfrgell Dyfed ac yn Swyddog Celfyddydau mewn addysg i Gyngor Sir Dyfed cyn symud i ddarlithio yng Ngholeg y Drindod.
Erbyn hyn mae wedi ymddeol ac yn mwynhau ysgrifennu nofelau i blant a chwarae golff.
Mae na fwy o luniau a gwybodaeth amdano fan hyn ( cliciwch ar y linc): http://www.llyfrauplant.org/AA_GarethWilliamJones.pdf
A dyma ei atebion i fy nghwestiynau i:
- Pa lyfrau oeddet ti’n eu hoffi yn blentyn? a) Ysgol Gynradd – Cymraeg a Saesneg
Roedd fy Mam yn credu’n gryf bod rhaid i ni’r plant allu darllen cyn ein bod yn cychwyn yn yr ysgol yn bump oed. Felly, y cof cyntaf sydd gen i o lyfrau yw’r llyfr Awn am Dro i’r Fferm. Llyfr arall oedd Y Llyfr Coch sef addasiad o waith E.R. Boyce.
Roedd Llyfr Mawr y Plant yn bwysig hefyd wrth gwrs yn enwedig gan fod yr awduron yn byw ym Methesda. Fy hoff lyfr pan oeddwn i’n oed cynradd oedd llyfr o’r enw Dyddiau Ysgol gan J.M.Edwards
sef detholiad o waith Daniel Owen. Mi ddarllenais i hwnnw drosodd a throsodd yn enwedig y bennod am Wil Bryan yn trwsio’r cloc.
Fy hoff lyfr Saesneg oedd The Boy on the Boat Train gan Dorothy Rice.
Ac mi roeddwn i’n hoff iawn o Robinson Crusoe gan Daniel Defoe hefyd.
- b) Ysgol Uwchradd – Cymraeg a Saesneg
Nid oedd fawr o lyfrau plant ar gael pan oeddwn yn yr ysgol uwchradd ac felly roedd rhaid troi at lyfrau fel William Jones, Chwalfa ac O law i Law. Sy’n swnio’n ofnadwy o henaidd ond dyna oedd y sefyllfa. Roeddech chi’n darllen beth oedd ar gael!
Pan oeddwn i yn Blwyddyn tri (Blwyddyn 9 heddiw!) rydw i’n cofio gofyn i’r athro Cymraeg W.J.Davies os alllwn i fenthyg Un Nos Ola Leuad gan Caradog Pritchard o’r cwpwrdd yn yr Ystafell Gymraeg. Ai ateb oedd : “Dydw i ddim yn credu y dylai plentyn eich oedran chi ddarllen Un Nos Ola Leuad”. Dyna’r cymelliad gorau ges i erioed i ddarllen llyfr!
Y llyfr Saesneg wnes i fwynhau pan yn yr ysgol uwchradd oedd The Lost World gan Conan Doyle.
- Wyt ti’n dal i ddarllen llyfrau plant? Pa rai wyt ti wedi eu hoffi’n ddiweddar?
Mae gen i bump o wyrion, yr ieuengaf yn ddwy a’r hynaf yn un ar ddeg. Felly, rydwi i’n ddarllenwr brwd o lyfrau plant! Yn enwedig llyfrau plant bach. Y dydd o’r blaen a hithau’n wyntog awgrymodd un o’r wyrion mai Strempan oedd yn gyfrifol!
Mae Cyfres Rwdlan yn un o drysorau Cymru. Mae’r sefyllfa o ran yr oedran cynradd yn fy nhristau. Mae lle pwysig i addasiadau o ieithoedd eraill ond yn fy marn i mae’r strategaeth o ganolbwyntio ar addasu llyfrau o un iaith yn unig yn enwedig gan fod y darllenwyr ieuainc yn gallu darllen yr iaith honno yn un beryglus iawn.
- Pwy ydi dy hoff ddylunydd/arlunydd llyfrau? Pam?
Mae Jenny Williams yn bwysig iawn i mi gan mai hi ddyluniodd fy nofel Caru Nodyn.
( a llyfr wnes i ei addasu- Blaiddi! Bethan)
Mae Elgan Griffiths yn berson hyfryd iawn i weithio hefo fo hefyd.
I mi, y cawr yn y maes hwn ydi Jac Jones
oherwydd ei arddull cwbl unigryw a’i gyfraniad aruthrol i lyfrau plant ar hyd y blynyddoedd.
- Be nath i ti ddechrau sgwennu?
Cael beirniadaeth galonogol gan un mae gen i barch mawr iddi sef Siân Lewis yn Eisteddfod Meifod 2005. Roedd hi wedi hoffi fy nofel Caru Nodyn a rhoddodd wobr iddi.
(Nofel i blant 9-11. Disgrifiad Gwales: Mae rhywbeth rhyfedd iawn ac annisgwyl yn digwydd i Shauna Owen – rhywbeth mor anhygoel nes bod pawb yn yr ysgol yn synnu a rhyfeddu. Mae ei rhieni a Mrs Jenkins, y brifathrawes, yn syfrdan ac mae hyd yn oed y doctoriaid yn crafu eu pennau. Y cyfan oherwydd gwers biano nad oedd Shauna eisiau mynd iddi, a chath fach ddu a gwyn o’r enw Nodyn.)
Adolygiad Gwales
Dydy Shauna Owen ddim yn hoffi gwersi piano, ond mae ei mam yn mynnu bod yn rhaid iddi fynd. Un dydd Mawrth arbennig, mae Shauna’n cofio’n sydyn am ei gwers. Ond pan mae’n cyrraedd tŷ’r athrawes, Madam Maria Daniel Davies, mae’n cael sioc ofnadwy! Mae ei hathrawes biano wedi marw! Pwy fydd yn gofalu yn awr am Nodyn, y gath fach ddu a gwyn? Mae Nodyn yn edrych fel cath fach gyffredin, ond mae’n llwyddo i newid bywyd Shauna, gan synnu a rhyfeddu pawb o’i hamgylch!Dyma stori gyffrous sy’n llawn dychymyg am gath fach annwyl iawn. Bydd yn siŵr o apelio at bawb, p’un ai a ydynt yn mwynhau gwersi piano neu beidio!
Erin Gruffydd
- Be wyt ti’n ei fwynhau fwya am sgwennu?
Mae sgwennu yn gallu bod yn broses anodd a rhwystredig iawn i mi ac mae cwblhau’r gwaith yn ryddhad.
Mae’n debyg bod y mwynhad yn dwad pan yw rhywun yn cael ei werthfarwogi! Yn enwedig pan daw llythyr oddi wrth blentyn.
- Dwed chydig am dy nofel ddiweddara i blant.
Mae arna’i ofn mai Breuddwyd Monti oedd y nofel ddiwethaf i mi ei chyhoeddi. A hynny yn 2010!
Nofel i blant 9-11+
Adolygiad GwalesDyma lyfr arbennig o dda a gafaelgar gan Gareth William Jones yn sôn am fachgen ifanc o’r enw Marc Montgomery. Mae ef a’i deulu wedi gorfod symud i fyw i ardal newydd, ac i dŷ diolwg sy’n llawer llai moethus na’u hen gartref. Ond er nad oedd y tŷ na’r ardd anniben yn ddymunol, ochr arall i’r wal roedd yna gwrs golff anferth. Edrychai’r golffwyr i gyd fel petaent yn mwynhau eu hunain yn fawr iawn, felly penderfynodd Marc y byddai yntau’n hoffi troi ei law at y gêm. Yn yr ysgol newydd gwnaeth lawer o ffrindiau, gan gynnwys Tomos a Steffan, a dyna lle cafodd Marc y llysenw Monti, ar ôl y golffiwr enwog Colin Montgomery. Ond mae pethau’n mynd o chwith iddo yn yr ysgol, a chwarae golff yw ei unig wir ddyhead.A all wireddu ei freuddwyd? Neu a yw ei fam yn mynd i’w rwystro rhag creu mwy o helynt? Mae’r atebion oll yn y nofel gyffrous hon!
Ifan Llywelyn
- Pa lyfr(au) plant sydd ar y ffordd nesa gen ti?
Mae gen i ddau brosiect personol ar y gweill ond mae’n dra anhebygol y gwel y naill neu’r llall olau dydd. Yr unig bleser fydd rhannu fy ngwaith â’r wyrion a derbyn eu beirniadaeth!
Diolch, Gareth. Efallai y bydd y blog yma’n dy ysbrydoli i sgwennu mwy ar gyfer plant eto rwan!
.