Archif

All posts for the month Tachwedd, 2020

Mae’r Cyfan i Ti, Luned Aaron

Published Tachwedd 10, 2020 by gwanas

Dyma i chi gyfrol hyfryd arall neith anrheg Nadolig gwych i blant dan 5 oed.

Dwi’n gallu dychmygu rhieni’n darllen hon efo’u plant bach yn y gwely neu ar soffa gyfforddus, ac yn mwynhau’r lluniau lliwgar, a phwyntio at bethau bach difyr ynddyn nhw, i gyfeiliant rhythm ac odl y geiriau. Fel y pryfed genwair fan hyn:

A’r gwymon a’r cregyn ar lan y môr fan hyn:

Mae’r cyfan yn dechrau efo’r haul yn codi a’r byd yn deffro efo pob math o bryfetach ac adar a rhyfeddodau’r byd o’n cwmpas ni, wedyn yn dod i ben efo’r lleuad ddiwedd nos. Hwnnw ydi fy hoff lun gyda llaw, ond bydd raid i chi brynu copi o’r llyfr i weld os ydach chi’n cytuno!

Fel un sydd wrth ei bodd yn gweld siapiau mewn cymylau, dwi’n hoffi’r tudalennau yma yn arw hefyd. Gewch chi lwyth o hwyl yn chwilio am anifeiliaid ac adar yn fanna:

Dwi wir yn hoffi cwpledi sy’n odli fel hyn, ac mae Luned yn giamstar arnyn nhw. Mae gen i or-nith sy’n hoff iawn o lyfr arall sy’n odli, neu mae ei rhieni hi’n mwynhau ei ddarllen o iddi o leia! Dyma hi a’i thad efo’r hen ffefryn, ‘Tomi ap Gwyn’ gan Gordon Jones:

Dwi’n gwbod y bydd hi wrth ei bodd efo hwn hefyd. Mae hi braidd yn rhy ifanc i weld siapiau mewn cymylau ar hyn o bryd, ond mi ddaw!

Mae hon yn gyfrol annwyl a theimladwy sydd wir yn ein helpu i werthfawrogi’r hyn sydd ar ein stepen drws ni, neu o leia jest i fyny’r ffordd. Ia, fel ddigwyddodd yn ystod y cloi mawr. Dwi’n meddwl mai dyna fydda i’n ei gofio fwya am 2020 (wel, ar wahân i’r “shenanigans” hirfaith, gwallgo yn America ar hyn o bryd), y cyfnod hwnnw o fynd am dro hir bob dydd a chlywed a gweld cymaint mwy nag arfer oherwydd y diffyg traffic a phobl.

Mae’r pum synnwyr yn ran pwysig o’r llyfr, nid dim ond gweld a chlywed, ac fel un sy’n caru coed a choedwigoedd, mi fydda inna hefyd yn annog plant i gyffwrdd rhisgl coed, eu cofleidio hyd yn oed, ac arogli pridd a deiliach a madarch. Mae hi mor bwysig i ni helpu plant (ac oedolion) i agor pob synnwyr i fyd natur.

A sbiwch hyfryd ydi’r lliwiau fan hyn:

And for parents who are learning or haven’t yet mastered Welsh, there’s an English translation of the words at the back of the book. Syniad arbennig o dda.

LLYFR O FFRAINC SY’N ‘HIT’ RHYNGLWADOL

Dwi isio rhannu llyfr arall i blant iau efo chi. A dyma fo:

A dyma’r cloriau Saesneg a Sbaeneg:

Mae’r llyfr yma wedi ei gyfieithu i 35 iaith i gyd, ac wedi gwerthu dros ddwy filiwn o gopïau!

Mae’r awdur, Hervé Tullet, wedi sgwennu a darlunio dros 80 o lyfrau i blant rŵan, ac mae ‘na rywbeth arbennig iawn am ei syniadau o. Mi wnes innau, fel oedolyn, wirioneddol fwynhau cyffwrdd y smotiau ac ysgwyd y llyfr a’i wyro i’r ochr. Yn enwedig yn Ffrangeg!

Dyma fidio i chi os dach chi wedi drysu, neu ddim yn dallt y Ffrangeg yn y fersiwn brynais i:

Gyda llaw, amser maith yn ôl, mi fues i’n dysgu Ffrangeg i Luned Emyr. Sgwn i faint mae hi’n ei gofio?! Gobeithio y caiff ei llyfrau hithau lwyddiant a gwerthiant fel Hervé, ond dyna un peth am gwpledi sy’n odli – dydyn nhw ddim mor hawdd eu cyfieithu!