Does dim byd penodol wedi ei drefnu eto hyd y gwn i, ond bydd Diwrnod y Llyfr 2018 ar ddydd Iau, 1 Mawrth. Digon o rybudd i chi ddechrau meddwl a threfnu a chysylltu gydag awduron i ddod i’ch ysgolion/ llyfrgelloedd/ cymdeithasau. Gobeithio y bydd pobl yn cofio rhoi sylw i lyfrau o Gymru gan awduron o Gymru ‘de!
Dyma i chi rai o ddigwyddiadau’r gorffennol:
Bydd y Cyngor Llyfrau yn cyhoeddi cylchlythyr gyda gwybodaeth a newyddion ynglŷn â digwyddiadau, gweithgareddau ac adnoddau Diwrnod y Llyfr 2018, ac mi fydd ar gael erbyn 20 Chwefror 2018. A bydd pecynnau adnoddau yn cael eu hanfon allan yn ystod mis Ionawr.
Dylid cyfeirio unrhyw ymholiad ynglŷn â Diwrnod y Llyfr at Angharad Wyn Sinclair yn y Cyngor Llyfrau. Dyma hi:
Ffôn: 07896 664797
E-bost: angharad.sinclair@llyfrau.cymru
Yn y byd Llyfrau Saesneg, mi fydd 11 llyfr gwahanol ar gael am £1 yr un, ac mae ‘na dipyn o drafodaeth wedi bod am gynnwys y rhestr: nifer ohonyn nhw wedi eu sgwennu gan ‘selebs’ fel Clare Balding, Julian Clary, un o aelodau band Mc Fly ac enillydd Bake Off, Nadiya Hussain.
Mae gen i feddwl mawr o Nadiya a Clare ( enwau cynta ylwch…), ac maen nhw’n role models gwych i ferched. Ond dwi yn poeni bod llyfrau plant gan selebs yn cymryd lle llyfrau gan awduron ‘go iawn.’ Rhain ydi’r llyfrau sy’n cael eu harddangos wyneb am allan ar silffoedd siopau. Maen nhw’n cael sylw mawr yn y wasg a’r cyfryngau, yn gwerthu’n dda, ac yn cael disgowntiau da. Ond mae’n arwain plant ac (oedolion) i gysylltu llyfrau plant gyda selebs.
Mae hynny, yn anffodus, yn arwain pobl i feddwl bod sgwennu llyfrau plant yn hawdd. Sbiwch – mae’r bobl ‘ma’n brysur yn gwneud bob math o bethau eraill ond yn gallu sgwennu tomen o lyfrau plant hefyd: Chris Hoy, David Walliams, Dermot O’Leary ac yn y blaen. Mae nifer o awduron ‘go iawn’ yn gorfod gwneud pethau eraill hefyd er mwyn talu biliau, wrth gwrs, ond er mwyn creu llyfr sy’n wirioneddol dda, mae angen chwysu! Ail-sgwennu, golygu, ac ail-sgwennu eto. Mae llwyddo pan does neb yn gwybod pwy ydach chi yn anodd. Mi gafodd Malorie Blackman ei gwrthod 82 gwaith!
Ond does dim rhaid i lyfrau selebs fod cystal i werthu’n dda. Weithiau, does dim rhaid iddyn nhw eu sgwennu hyd yn oed – awduron eraill sydd wrthi ar eu rhan nhw! Sef yr hyn sy’n cael ei alw yn ‘ghost writers.’ Y broblem efo hyn ydi bod llyfrau sydd wir yn wych yn mynd ar goll a neb yn sylwi arnyn nhw – sy’n drasiedi; canlyniad posib arall i hyn ydi bod yr awdur yn digalonni a rhoi ffidil yn y to a dyna ni, ffarwel awdur da.
Mae hyn i gyd yn digwydd yn y byd Saesneg ond mae’n waeth fyth yn y byd Cymraeg yn fy marn i – achos mae hi hyd yn oed yn fwy anodd yn Gymraeg. Pa obaith cael sylw ynghanol selebs y byd Saesneg? Ac i chi gael dallt, nid yr addaswyr sy’n cael breindal (royalties) addasiadau, ond yr awdur gwreiddiol. Teulu Enid Blyton sy’n cael breindal yr holl lyfrau addasodd awdures wych fel Manon Steffan Ros!
Oes, mae ‘na lyfrau Cymraeg yn cael eu cyhoeddi sydd ddim yn ddigon da. Dw i’n gwybod ac yn cyfadde hynny. Ond mae ‘na rai gwych sydd jest yn cael eu hanwybyddu a phlant ddim yn cael gwybod amdanyn nhw. Aaaaaa!
Ta waeth, dwi’n falch o ddeud bod ‘na lyfr ar gyfer oedolion gan ‘seleb’ Cymraeg fyddai’n gwneud anrheg gwych i’ch mam neu’ch modryb neu’ch nain neu’ch chwaer fawr – a dynion hefyd o ran hynny. Syllu ar Walia gan Ffion Dafis.
Mae’r actores/gyflwynydd hon yn gallu sgwennu, myn coblyn i! Ro’n i’n gwybod hynny’n barod… mi gyfrannodd hi chwip o ysgrif i’r gyfrol hon gan amrywiol awduron:
Ond mae’r llyfr yma’n Ffion 100%. Difyr, gonest, teimladwy, ingol … mi allwn i restru ansoddeiriau, ac mae ‘marw-isio-siarad-amdano-fo’ yn un arall. Mi fydda i’n ei holi yn Gwin Dylanwad, Dolgellau nos Iau nesa y 5ed, a dwi’n edrych ymlaen bobol bach.
Dow… sgwn i fyddai hi’n ystyried sgwennu nofel i blant…?