Manawydan Jones – Y Pair Dadeni

Published Gorffennaf 14, 2022 by gwanas

Oes, mae ‘na gryn dipyn o lyfrau wedi deillio o straeon y Mabinogi bellach, a dyma’r un diweddaraf. Nofel ar gyfer yr arddegau gan Alun Davies, y boi greodd y ditectif Taliesin MacLeavy yn y drioleg ddechreuodd efo Ar Drywydd Llofrudd. Roedd y llyfrau hynny’n arbennig, wedi eu plotio’n grefftus a’r cymeriadau’n cydio. Ro’n i wedi disgwyl i Alun gael rhyw fath o glod ar restr fer o lyfrau gorau’r flwyddyn ond dyna fo, anodd plesio pawb am wn i. Roedd o’n amlwg wedi cael blas ar y creu beth bynnag:

“Ar ôl gorffen trioleg Taliesin MacLeavy roeddwn i’n awyddus i ysgrifennu rhywbeth oedd yn fwy na stori dditectif. Gwnaeth y syniad o ddod â straeon a chymeriadau’r Mabinogi o’r canol oesoedd i Gymru gyfoes afael ynddo i’n syth – rwy’n teimlo ei bod hi’n stori fydd yn apelio i lot fawr o bobl, ac yn enwedig rhywbeth fydde fy mhlant i’n gallu darllen a mwynhau. Fel yn straeon Taliesin mae yna lofruddiaethau yn digwydd a dirgelwch i’w ddatrys i Manawydan, ond ar ben hynny mae yna antur, drwgdeimlad, chwedloniaeth, cleddyfau, a hyd yn oed hud a lledrith – rhywbeth i bawb o bob oedran, gobeithio!”

Mi wnes i fwynhau yn sicr – dyma’r math o lyfrau sy’n apelio ata i, rŵan, fel yn fy arddegau. Wrth fy modd efo chydig o hud a lledrith ac antur a chleddyfau. Dyna pam fod gen i grys T Game of Thrones…

Dwi’n meddwl y bydd ‘na drioleg arall fan hyn. Neu ddwy nofel o leia.

Mae’r syniad yn un gwych. Hogyn ysgol swil sydd wedi methu siarad ers colli ei dad, yn sydyn yn dysgu ei fod yn perthyn i Manawydan fab Llyr – brawd Bendigeidfran a Branwen, a bod angen iddo fo fynd i ynys ddirgel ar arfordir Sir Benfro i weld os oes gynno fo allu arbennig fel rhyfelwr. Pam? Am fod disgynyddion Efnisien a Gronw Pebr a bois drwg felly yn chwilio am ffeit ac hefyd yn chwilio am rywbeth fydd yn eu gwneud yn fwy pwerus na neb. Mae’n rhaid i’r criw da eu rhwystro! Ia, y criw drwg V y criw da. Be gewch chi well? – Dwi wedi trio bod yn ofalus i osgoi gormod o sboilars yn fanna gyda llaw. Dim ond i sylweddoli nad oedd raid i mi osgoi enwi’r Pair Dadeni – mae o yn y blincin teitl tydi! Dyyy. Felly ydyn, mae’r baddies yn benderfynol o roi’r Pair hudol yn ôl at ei gilydd. Fyddan nhw’n llwyddo? Wel mi fydd raid i chi ddarllen y nofel yn bydd?

Mi wnes i ei mwynhau hi’n arw – ond efallai oherwydd bod yr enwau a’r hen chwedlau yn ffres iawn yn fy meddwl i. Mi wnes i dreulio misoedd yn ddiweddar yn cyfieithu straeon Saesneg ar gyfer plant yn The Mab – sydd hefyd yn werth ei ddarllen, ond ar gyfer criw iau, ac yn ddrytach – £18.99 – ond efo lluniau lliw, hyfryd.

Dyma enghraifft o’r problemau cyfieithu ges i. Sut fyddech chi wedi ei wneud o tybed?!

Ta waeth. Y peth ydi, dwi’n nabod fy Mabinogi. Ond faint o’r arddegau sydd? Stori Branwen efallai, a Blodeuwedd o bosib, dibynnu lle dach chi’n byw. Oes angen gwybod pwy ydi pwy er mwyn mwynhau stori Manawydan Jones? Dwi’m yn siŵr. Mae’n sicr yn help, ac mi ges i deimlad efallai y byddai’r holl enwau yn drysu neu lethu’r darllenwyr llai amyneddgar. Ond efallai ddim. Mi fydd yn ddifyr cael gwybod!

Mae angen bod â Chymraeg eitha da i’w deall a’i darllen hi yn fy marn i (gyda llaw, er gwaetha’r ymdrech i neud Mogs yn Gog – fyddai o ddim yn deud ‘lan’ am ‘fyny’!) Dyma’r bennod gynta i chi gael blas o’r arddull. Ydi, mae’n pendilio nôl a mlaen rhwng yr heddlu a stori’r rhyfelwyr – sy’n gweithio’n dda i mi.

A dyma dudalen o’r canol, pan mae Manawydan a’i gyfeillion newydd yn gorfod gwneud tasgau i’w profi:

Roedd y cynnwrf a’r tasgau a’r cyfeillgarwch a chymeriad Manawydan yn gweithio i mi. Ond mi faswn i wedi licio dod i nabod ambell gymeriad arall yn well, fel Alys a Mogs ei ffrindiau newydd, ac Arthur y snichyn, ond dan ni’n siŵr o gael mwy yn y dilyniant.

Un cwestiwn arall, a chwestiwn mae’r arddegau yn siŵr o’i ofyn: pam nad yw’r rhyfelwyr cyfoes yn defnyddio gynau i ladd ei gilydd? Os oes ‘na gyfeiriad at hynny yn y llyfr, wnes i ddim sylwi, sori, a dwi’n rhy llawn o blincin Covid i fynd yn ôl drwyddi eto efo crib fân. Ond dyna gadwodd fi’n effro neithiwr. Dwi ddim ISIO gynau, mae cleddyfau’n llawer mwy o hwyl, ond… jest gofyn.

Edrych mlaen at y dilyniant yn arw.

Manawydan Jones: Y Pair Dadeni gan Alun Davies. Y Lolfa. £8.99

One comment on “Manawydan Jones – Y Pair Dadeni

  • Dwnim os dwi’n cal hyd yn oed deud hyn dyddia yma – fod y llyfr yma yn addas i fechgyn… Peth ydi, wrth gwrs fod o’n addas ar gyfer merched, oedolion ifanc, darllenwyr hŷn, ac anything in between… ond… siarad o brofiad, fatha hogyn sydd ddim yn dod ar draws ffuglen sy’n apelio yn aml iawn – mi oedd hwn yn dda iawn iawn ac yn cydio’n syth (enwedig penodau byrion). Gobeithio wir gawn ni fwy!

  • Gadael Ymateb

    Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

    WordPress.com Logo

    You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

    Facebook photo

    You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

    Connecting to %s

    %d bloggers like this: