
Hogan o Benisarwaun yng Ngwynedd yw’r awdures Eurgain Haf, ond erbyn hyn mae hi wedi ymgartrefu ym Mhontypridd ac yn fam i ddau o blant bach.

Enillodd Goron Eisteddfod yr Urdd yn 1994 a Choron Eisteddfod Môn yn 2002. Enillodd hefyd Fedal Ddrama yr Eisteddfod Ryng-golegol yn 1994. Roedd yn un o’r rhai a ddaeth i’r brig yng nghystadleuaeth ysgrifennu stori fer y BBC yn 2003 a chyhoeddwyd ei stori yn y gyfrol Nes at Baradwys (Gwasg Carreg Gwalch, 2005). Roedd hi hefyd yn un o griw o awduresau a ddaeth at ei gilydd i gyhoeddi’r nofel gywaith Nerth Bôn Braich (Gwasg y Bwthyn, 2008).

Ond dileit pennaf Eurgain yw ysgrifennu storiau i blant a chyhoeddwyd ei nofel gyntaf Fferm Ffion (Gwasg y Dref Wen) yn 2005

ac yna Stablau Seren yn 2006.

Mae hefyd wedi cyhoeddi cyfres o bedair nofel fer yn dilyn anturiaethau crwydryn o’r enw Siencyn:
a dyma i chi gloriau rhai o’i llyfrau eraill:
Disgrifiad gwefan gwales o Yr Allwedd Aur:
“Y flwyddyn yw 2050. Mae Cymru mewn trafferthion. Mae’r bae yn boddi; y Senedd yn suddo a’r chwareli’n cael eu defnyddio fel ffatrïoedd i chwalu cof y Cymry. Mae Ynys Môn wedi hen ddiflannu oddi ar y map. De Orllewin Prydain yw’r enw ar Gymru bellach. Mae ffyrdd uwchddaearol yn cael eu hadeiladu ym mhobman fel bod pobl yn gallu osgoi Cymru yn llwyr.”
A dyma ran o adolygiad ar Gwales o Gedonia:
“Yn nodweddiadol o’r gyfres hon, y mae’r byd sydd ohoni, y goruwchnaturiol, y dyfodol a’r gorffennol, i gyd yn plethu yn un i greu’r campwaith. O’r dechrau un, hawdd fyddai meddwl mai nofel yw hon o oes y Mabinogi gyda chymeriadau megis Ganthrig Bwt ac Wdull a’r enwog Frenhines Eryri sydd yn dipyn o gymêr, ond 2051 yw’r flwyddyn. Trwy atgyfodi cymeriadau o hen chwedlau Cymru, fel Myrddin Ddewin a Brenin Arthur, a’u cymysgu’n graff iawn gyda rhai fel y gŵr cas o fyd teledu, Jeri Oswyn Cwellyn, mae yma chwrligwgan o stori sydd yn croesi pob math o ffiniau ffantasïol. Yn hudolus iawn, y goruwchnaturiol sydd yn gorchfygu.
Mae’r nofel epig hon yn cynnwys nodweddion sy’n adleisio clasuron chwedlonol ein cenedl, ac mae’r ffordd y mae’n eu cyflwyno mewn modd darllenadwy i blant yn eu harddegau yn glyfar tu hwnt.”
Llinos Griffin
Ac Adolygiad Gwales o Siencyn a’r sipsiwn:
“Dyma stori fach hyfryd, a’r drydedd yn y gyfres Siencyn a Dan Draed. Lleoliad y stori yw gwersyll sipsiwn ar gyrion pentref yng Nghymru a chawn ddarlun o fywyd a diwylliant y sipsiwn. Mae’r clawr yn lliwgar ac yn drawiadol ac mae’r darluniau y tu mewn yn ychwanegu at y deunydd ysgrifenedig. Stori antur yw hi, yn addas i blant oedran 7–9. Prif gymeriad y stori yw Siencyn, ac mae ef ei hun yn grwydryn. Nid oes ganddo unrhyw gof am bwy yw e, o ble mae’n dod, nac unrhyw beth am ei gefndir.
Fel crwydryn mae’n cwrdd â rhai pobl sy’n fodlon ei helpu, fel Glenwen yn y caffi, ond hefyd mae’n wrthrych gwawd a chasineb gan eraill. Tebyg at ei debyg, maen nhw’n ei ddweud, ac yn y llyfr, Twm Twm a Lili’r Sipsiwn sy’n ei helpu i wella o’i salwch ac yn estyn croeso iddo i’w carafán. Cawn ddarlun o fywyd sipsi y garafán a’r ceffyl a’r ffordd y mae’r bywyd hwnnw mor wahanol i fywyd y sipsi modern. Bydd y ffaith fod Siencyn yn datrys dirgelwch y lladrata yn y pentref, ac yn dal y dynion drwg gyda chymorth ei gi a’i ffrindiau, yn apelio at blant. Mae hi hefyd yn stori sy’n addas i’w darllen i ddosbarth am fod yna ddigon o gyfleoedd trafod a gweithgareddau posib ynddi.”
Rosemary Thomas
A dyma i chi ei hatebion i’r cwestiynau am ei hoff lyfrau:
Pa lyfrau oeddet ti’n eu hoffi yn blentyn?
Yn ôl Mam, roeddwn i byth a beunydd yn swnian am stori pan ro’n i’n ddim o beth ac wrth fy modd hefo Cyfres Sali Mali, Llyfr Mawr y Plant a Chwedlau Aesop.


Dwi’n cofio mynd ar y bys Crosville i Gaernarfon (Dre) hefo Mam i wario ein pres ‘Dolig neu bres poced, a fy mrodyr yn anelu yn syth am Siop Dan Cloc i brynu tegan a finna’ yn ysu am gael fy machau ar lyfr newydd yn Siop y Pentan neu WH Smith – g’neud i mi swnio rêl swot, dydi! Roedd llyfrau ym mhob man yn y tŷ ac yn rhan o’m magwraeth ac fe gefais fy nhrwytho ynddynt o oed cynnar iawn a hynny mewn ffordd naturiol braf, a dwi’n ddiolchgar i fy rhieni am hynny.
- a) Ysgol Gynradd – Cymraeg a Saesneg
Fel pob plentyn arall fynychodd yr ysgol gynradd yn yr 70au a’r 80au, fy atgofion cynharaf ydi darllen a mwynhau Cyfres Sali Mali Mary Vaughan Jones, ac yna symud ymlaen at Llyfr Mawr y Plant 1 a 2 ac mae gen i gof cynnar o fwynhau darllen cyfrol Gymraeg Chwedlau Aesop hefyd. Dw i hefyd yn cofio crio am y tro cyntaf wrth ddarllen llyfr, a hynny wrth gael fy nghyffwrdd gan Hanes Babar yr Eliffant, cyfieithiad Gwasg y Dref Wen o glasur Jean de Brunhoff am eliffant bach sy’n gweld ei fam yn cael ei lladd gan helwyr.

Yna, wrth fynd yn hŷn cefais fy sugno i mewn i fyd y ‘Brenin’ ei hun T.Llew Jones

a chofio cael mwy o wefr o ddarllen y llyfrau dirgelwch ac ysbrydion fel Ysbryd Plas Nantesgob yn hytrach na’r rhai am y smyglwyr a’r lladron pen ffordd. Un arall o fy hoff awduron oedd Dafydd Parri ac fe ddarllenais holl lyfrau cyfres Y Llewod

a chyfres Cailo y ci defaid coll hefyd.

Ro’n i’n un o’r genod hynny oedd wrth ei bodd hefo ceffylau hefyd ac yn darllen yn eang amdanyn nhw; yn lyfrau ffuglen a ffeithiol. A diolch i Emily Huws am y chwip o gyfres – Cyfres Marian – a’r wefr a roddodd darllen nofelau fel Merlyn y Mynydd Mawr, Sidan, Ceffyl a Charafán, Ffrwyn a Chyfrwy a Chwip a Pedoli Pedinc i mi pan yn blentyn. (*dim lluniau ar gael ar y we, sori!)
O ran llyfrau Saesneg, Enid Blyton oedd fy arwres.
Roeddwn i wir wedi fy nghyfareddu gan gyfres The Enchanted Wood a The Faraway Tree ac yn ysu am amser gwely i gael mynd i ddarllen am anturiaethau Silky a Moonface a Saucepan Man a’r bydoedd hud a lledrith oedd yn bodoli ar dop y goeden. Fe ddarllenais hefyd holl gyfresi Amelia Jane, Malory Towers, Famous Five a Secret Seven hefyd. Roeddwn wrth fy modd hefo The Lion, The Witch and The Wardrobe a The Chronicles of Narnia yn ogystal.

- b) Ysgol Uwchradd – Cymraeg a Saesneg
Dwi’n meddwl i’r math o lyfrau ro’n i’n eu darllen yn yr ysgol Uwchradd gael eu dylanwadu gan y llyfrau gosod roedd yn rhaid i ni eu darllen.
Roeddwn wrth fy modd gydag Y Stafell Ddirgel a dwi’n dal i ddychmygu golygfeydd o’r nofel yna hyd heddiw bob tro dwi’n dreifio ar yr A470 heibio Dolgellau a Brithdir. Roedd Un Nos Ola Leuad hefyd yn ffefryn yn enwedig â minnau wedi fy magu yn ardal y chwareli yn ogystal â nofelau T.Rowland Hughes Chwalfa, O Law i Law a William Jones.

O ran nofelau Saesneg dwi’n cofio darllen nofelau’r chwiorydd Brontes a nofelau Jane Austen i gyd ac roeddwn hefyd wrth fy modd gyda nofelau’r byd ffantasi yn enwedig gwaith Tolkien.

Mae’r ardal lle cefais fy magu yn Eryri ac o gwmpas pentref Penisarwaun sy’n swatio yng nghesail Yr Wyddfa, yn frith o chwedlau a straeon o bob math am dylwyth teg a chewri a ffynhonnau a thwneli tanddaearol heb sôn am chwedloniaeth y Brenin Arthur. Ac roeddwn i wrth fy modd yn gwrando arnyn nhw yn yr ysgol a gwrando ar Mam yn eu hadrodd. Pan oeddwn i’n blentyn fe dreuliais i oriau yn chwilota am dwneli tanddaearol a oedd yn rhedeg o’r Graig Fawr i’r gaer Geltaidd Pen Dinas y pen arall i’r pentref a hefyd yn ffureta am ffynhonnau hud. Yn rhyfedd iawn, ddois i fyth o hyd iddyn nhw! Ond yr hyn y gwnes i ei ganfod oedd fy nychymyg byw ac roedd gwrando ar y straeon yma yn gwneud i mi fod eisiau sgwennu straeon fy hunan ac maen nhw yn sicr wedi cael dylanwad ar y nofelau dw i wedi eu hysgrifennu wedi hynny fel Yr Allwedd Aur a Gedonia.
Wyt ti’n dal i ddarllen llyfrau plant? Pa rai wyt ti wedi eu hoffi’n ddiweddar?
Dw i’n gwneud dim byd ond darllen llyfrau plant ‘dyddiau yma! Dwn i ddim pa bryd ddarllenais i lyfr i oedolion ddiwethaf a bod yn onest gan fod bywyd yn brysur gyda dau fach o dan bump oed ar yr aelwyd. Ac mae’r ddau wrth eu boddau hefo llyfrau a chael stori gan Mam neu Dad. Mae yna lyfrau ym mhob ystafell yn y tŷ bron ac er bod rhywun yn baglu drostyn nhw weithiau does dim teimlad gwell pan fo un ohonyn nhw yn dod atoch hefo llyfr yn eu llaw ac eisiau eistedd ar eich glin i gael stori.
Mae Cian Harri, sy’n 5 wrth ei fodd ar y funud gyda llyfrau Julia Donaldson fel Y Gryffalo, Plentyn Y Gryffalo, Stick Man, a The Snail And the Whale ohonynt wedi eu cyfieithu i’r Gymraeg felly rydym yn eu darllen yn y ddwy iaith. Ac un o’i hoff lyfrau erioed yw’r Ych-a-feiliaid, cyfiiethiad doniol iawn Tudur Dylan Jones o lyfr Sam Lloyd.

Dw i hefyd yn mwynhau darllen straeon i blant ar odl – mae’r rhythm yn helpu i symud y stori yn ei blaen ac yn helpu plant i ddysgu geiriau newydd yn fy marn i ac i odli! Mae Lois Rhodd, sy’n flwydd a hanner, hefo crysh mawr ar Jac y Jwc dwi’n amau ac wrth ei bodd hefo straeon newydd Sali Mali a “Wc yr Wc”!

Pwy ydi dy hoff ddylunydd/arlunydd llyfrau? Pam?
Mae gwaith Alex Scheffler yn apelio yn sicr.

Mae yna hiwmor annwyl yn perthyn i’w waith yn y ffordd mae’n gallu gwneud i fwystfilod sydd i fod i ymddangos yn frawychus, fel Y Gryffalo, edrych yn hoffus.
Be nath i ti ddechrau sgwennu?
Cystadlu mewn Eisteddfodau! Dwi’n cofio ennill tlws y Prif Lenor yn Eisteddfod Bentref Penisarwaun am y tro cyntaf a finnau’n rhyw 9 oed a’r beirniad yn fy ngalw i’r llwyfan ac yn gafael yn fy llaw a sbïo i fyw fy llygaid a holi, “wnei di addo un peth i mi, wnei di barhau i ysgrifennu.” Mae’n sicr yn rhoi hwb i chi – fe wnaeth hynny i rywun swil fel fi yn bendant – un a fyddai’n cochi ar ddim – ac yn rhoi’r hyder yna i chi gario ymlaen. Ac mi rydach chi wastad yn gallu cuddio tu ôl i ffugenw drwy gystadlu mewn Eisteddfod, oedd yn apelio! Fe fues yn ffodus i ennill y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn ddiweddarach a gwobrau llenyddol mewn Eisteddfodau eraill wedi hynny, a dw i’n grediniol na fydden ni wedi cael yr hyder i gyhoeddi llyfr oni bai i mi gael yr hwb hynny o gystadlu mewn Eisteddfodau, yn ogystal â’r anogaeth ar yr aelwyd.

Be wyt ti’n ei fwynhau fwya am sgwennu?
Rhoi’r atalnod llawn olaf ar ddiwedd y drafft cyntaf! Dydi sgwennu ddim yn dod yn hawdd i mi o gwbl. Mae golchi llestri, ll’nau, smwddio …. unrhyw beth yn haws na thrio gwagio eich pen i’r dudalen wag yna ar y sgrin wrth geisio sgwennu rhywbeth o’r newydd. Mae’n broses hir a phoenus yn fy mhrofiad i! Ond be dw i wir yn ei fwynhau ydi cael mynd yn ôl at y drafft cyntaf hwnnw a’i olygu a rhoi sglein arno. A hyd yn oed wedyn bydd yna rhai paragraffau neu frawddegau yn jario. Ond does dim i guro’r profiad pan fyddwch yn dreifio’r car neu’n gwneud rhywbeth hollol amherthnasol ac fe ddaw’r hyn ‘dach chi’n drio ei ddweud fel bollt o rywle ac mae’n rhaid i chi ruthro i’w sgwennu i lawr (fel arfer am 3 o’r gloch y bore!) Ond yn rhyfedd iawn mae hynny yn rhoi gwefr i mi!
Dwed chydig am dy nofel ddiweddara i blant.
Y nofel ddiwetha’ i mi ei chyhoeddi oedd Y Bws Hud ac O.M.B sy’n rhan o Gyfres Clec gan Wasg Carreg Gwalch.

Dwy stori fer i blant 6+ sydd yma ac mae un yn adrodd hanes merch fusneslyd o’r enw Mabli Haf sy’n mynd ar daith gofiadwy ar y Bws Hud a’r llall yn adrodd hanes y cawr clên O.M.B (neu Orig Mwyn Benfawr) sy’n trio annog pobl i fod yn fwy caredig wrth yr amgylchedd. ( * mae adolygiad o’r llyfr ar y blog hwn – rhowch y teitl yn y bocs chwilio)
Pa lyfr(au) plant sydd ar y ffordd nesa gen ti?
Does gen i ddim byd penodol ar y gweill ond mae gen i ddigon o ysbrydoliaeth hefo’r ddau fach yn porthi’r dychymyg yn ddyddiol a llond pen o syniadau yn stiwio. Dod o hyd i’r amser sy’n anodd i’w gwagio nhw ar dudalen!
Diolch Eurgain – gobeithio y cei di gyfle i sgwennu mwy cyn bo hir!