Diolch i bawb wnaeth anfon llun o Cadi a’i ffrindiau i gystadleuaeth liwio Cadi! Roedd y safon yn wych ac roedd hi’n dda gweld lluniau mor lliwgar!
Enillwyr y gystadleuaeth yw:
1af – Rhiannon Fflur
Cydradd 2ail – Hawys Elin
Cydradd 2ail – Grug Gwent
3ydd – Caio Tudor
Mi faswn i wrth fy modd yn gallu rhoi gwobr i bawb, ond roedd Meinir a minnau’n gorfod dewis y tri gorau. Ond fel mae’n digwydd, mi lwyddon ni i droi braich Y Lolfa a rhoi gwobrau i bedwar!
Yn drydydd, mae Caio Tudor Griffiths, 7 oed, gyda’i lun hynod liwgar a bywiog. Ro’n i’n hoff iawn o’r ffordd mae o wedi gwneud y fadarchen yn felyn ac oren, a’r awyr yn biws. Gwreiddiol a gwahanol. Da iawn, Caio!
Yn gydradd ail, mae Grug Gwent, 7 oed a Hawys Elin, 6 oed. Ro’n i wrth fy modd gyda dail gwyrdd tywyll, artistig Grug a’r marciau glas ar wynebau’r ‘dynion drwg’;
ac mae Hawys Elin wedi lliwio wynebau’r dynion yn wych hefyd, a chlyfar iawn oedd gwneud i un o’r tariannau edrych fel wyneb coch! Llongyfarchiadau i chi eich dwy.
Roedd hi’n agos, ond i mi, Rhiannon Fflur, 7 oed oedd ar y blaen. Lliwio annisgwyl, gwahanol, oedd yn denu’r llygad yn syth. Mae’r madarch yn wych a hynod ddramatig, dail y coed yn ysgafn ac artistig fel rhai Grug, wynebau pob un o’r dynion drwg yn hollol wahanol, ac ro’n i wir yn hoffi’r ffordd glyfar mae hi wedi lliwio’r gwair yn ofalus, yn daclus ac yn drawiadol. Ac edrychwch ar y mafon/mwyar duon! Nid un blob o liw, ond cylchoedd bach pinc a phiws perffaith! Gwych, Rhiannon, a mwynha dy wobr.
Mae’r rhain yn haeddu canmoliaeth uchel hefyd: Sami Joe Williams, Esyllt, Garin Collins a Lily Thatcher (dim ond 4 oed!) oedd wedi gwneud y coed yn lliwiau’r enfys.
Llongyfarchiadau mawr – bydd y gwobrau yn y post yn fuan – a’r Llyfr Lliwio cyn gynted ag y bydd o wedi ei gyhoeddi. O, ac i’ch atgoffa, mae manylion y gwobrau fan hyn:
Gyda llaw, mae’r Cadi go iawn, ysbrydolodd y gyfres pan oedd hi’n llawer iawn iau, wedi cael ceffyl!
Welwn ni lyfr ‘Cadi a’r Ceffyl’ neu ‘Cadi a’r Ceffylau’ ryw dro? Pwy a wyr!