Wel, dwi wedi archebu anrheg Nadolig i mi fy hun. Roedd Janet Samuel, yr arlunydd o Bontarddulais wedi rhoi’r llun uchod at ei gilydd a’i roi ar Instagram. Mi wnes i wirioni’n bot wrth gwrs – cymeriadau Cadi i gyd efo’i gilydd? Gwych! Felly dwi wedi archebu print maint A3 ganddi.
Mae’r lliwiau’n wych, ac mi fydd yn edrych yn hyfryd mewn ffrâm ar y wal. Dwi ddim yn gwybod pa stafell eto. Ond dwi isio prynu cadair freichiau i ddarllen ynddi, ac mae’n eitha posib mai mynd am un goch wna i rŵan!
O, ac mae ‘na si y bydd llyfr lliwio Cadi yn ymddangos flwyddyn nesa – wnai adael i chi wybod yr eiliad gai gadarnhad. Ond dwi’n rhyw deimlo efallai bod gynnon ni glawr yn barod…
Diolch i bawb brynodd gopiau o Cadi a’r Celtiaid yn nosweithiau Siopa Hwyr y Bala a Dolgellau, gyda llaw. Ges i andros o hwyl yn darllen chydig o’r llyfr i blant boncyrs y Bala, a modd i fyw yn rhannu stondin yn Nhŷ Siamas efo Sharon Marie Jones.
Mae Sharon wedi sgwennu dwy nofel am wrach o Gymru – yn Saesneg, a dyma nhw:
A dyma Sharon, sy’n dod o Ddolgellau yn wreiddiol, fel fi!
Mi wnes i brynu ‘Grace- Ella, Spells for Beginners’ ganddi, sef y gyntaf yn y gyfres. A mwynhau! Mae hi wedi ei hanelu at blant 7-9 oed, a dyma i chi’r dudalen gynta:
A dyma dudalen sy’n dangos yr elfen gymreig gref sydd ynddi – ac ia, dyna pam dwi’n rhoi sylw i lyfr Saesneg yn y blog yma, am mai awdures o Gymru sydd dan sylw, ac mae’n rhoi sylw i’n iaith ni!
Mi faswn i wedi bod wrth fy modd yn darllen am anturiaethau Grace-Ella a’i chath, Mr Whiskins a’i ffrindiau pan ro’n i’n 7-9 oed. Mi faswn i wedi bod wrth fy modd gyda darluniau Adriana J Puglisi o’r Ariannin a Sbaen hefyd.
Ond dwi’m yn siŵr pam ei bod hi’n ‘Adribel’ yng nghefn y llyfr – efallai mai dyna be mae ei theulu yn ei galw hi? Beth bynnag, dyma lun o’r ail lyfr, ‘Grace-ella, Witch Camp’ – edrych yn ddifyr!
Mae’r ddau lyfr yn £5.99 yr un ac yn cael eu cyhoeddi gan Firefly Press o Gaerdydd. Plîs cefnogwch Sharon a gwasg o Gymru!