Archif

All posts for the month Mehefin, 2015

Llyfr yr haf – Clwb Darllen Tudur Owen

Published Mehefin 14, 2015 by gwanas

Wel, roedd y panel wedi mwynhau nofel ffantasi Emlyn Gomer Roberts ar y cyfan.

Ar_Drywydd_y_Duwiau_(llyfr)
Doedd Gareth ddim yn rhy hoff o’r genre ffantasi (casau Lord of the Rings!), a bu cryn drafod am ddieithrwch y byd sy’n cael ei greu, enwau’r cymeriadau ac ati, ond roedd Dyl Mei, yn enwedig, wedi hoffi clyfrwch Emlyn, y chwarae ar eiriau ac ati. Ac wrth gwrs, roedd yr hiwmor wedi plesio Tudur – a minnau!

A’r llyfr nesa fydd hwn:

Unknown

A Oes Heddwas? gan Myfanwy Alexander, cyhoeddwyr: Gwasg Carreg Gwalch. Mae’n swnio jest y peth ar gyfer Steddfod Meifod! Nofel dditectif wahanol iawn dybiwn i, am Inspector oedd isio mynd ar wyliau i Wlad Groeg ond sydd wedi ei orfodi i weithio yn y Steddfod – ym Meifod. Yn ôl y cyhoeddwyr, mae ynddi lawer o hiwmor, affêrs, cyffuriau, cyrff marw
images
a pharti merched o Sir Gâr yn cael eu gwenwyno!

Prynwch gopi, darllenwch hi, dowch i faes y Steddfod efo’ch copi ac mi fyddwn ni – gobeithio – yn ei thrafod yn y Steddfod – ar y dydd Iau ryw ben.

Yn ddigon rhyfedd, nofel dditectif wedi ei gosod yn y Steddfod oedd nofel gyntaf Emlyn Gomer hefyd – Y Ddraig Goch.
images-1

Adolygiad difyr Lyn Ebenezer fan hyn:
http://www.bbc.co.uk/cymru/adloniant/llyfrau/adolygiadau/634-draig.shtml

Gawn ni weld pa mor wahanol fydd nofel Myfanwy! Dwi’n edrych ymlaen yn arw – mae ganddi hiwmor hyfryd, clyfar iawn. O, a bydd rhai ohonoch chi’n ei chofio’n cael gwersi canu efo’r criw yma ar S4C flwyddyn neu ddwy yn ôl:
Unknown-1

Clwb Llyfrau Tudur Owen

Published Mehefin 2, 2015 by gwanas

Peidiwch a phoeni – dydi’r clwb ddim wedi darfod!
images-1
Fi oedd wedi rhoi nofel fawr dew iddyn nhw ei darllen, a nofel wahanol iawn hefyd. Trafod y genre ‘gwyddonias/science fiction/ffantasi’ oedden ni ar ddiwedd y sgwrs ddiwetha’, y math o lyfrau sy’n gallu bod yn gwlt, ond ar y llaw arall, ddim at ddant pawb o bell ffordd.
Dwi’n dipyn o ffan fy hun, ac yn arch-ffan o lyfrau George R R Martin ( fo sgwennodd y gyfres ‘A Song of Fire and Ice’ sydd bellach yn gyfres deledu ‘Game of Thrones’ – welsoch chi bennod neithiwr? Waaaaw! NID AR GYFER PLANT GYDA LLAW)

images

Does na’m llawer o awduron Cymru wedi mentro i’r byd hwnnw ond mae ambell un wedi rhoi cynnig arni, felly un o’r rheiny wnes i ei chynnig i’r hogia:

Ar_Drywydd_y_Duwiau_(llyfr)

Ar Drywydd y Duwiau gan Emlyn Gomer Roberts.
p02chm6dMi gafodd ei chyhoeddi yn 2010, a gwerthu’n eitha da. Mi gafodd adolygiadau ffafriol hefyd. Ond dwi’n gwybod bod ambell un ( sydd ddim yn hoffi’r genre beth bynnag) ( neu sydd jest methu derbyn y math yma o beth yn Gymraeg) ddim wedi ei hoffi. Gawn ni weld be fydd barn Tudur, Gareth a Dyl Mei… (dwi’m yn meddwl y bydd Manon Rogers yn darllen hon).

Mae gynnoch chi tan y 12fed o Fehefin i’w darllen hi os ydach chi am gymharu nodiadau efo aelodau’r clwb. Mi fyddwn ni’n ei thrafod hi rhyw dro rhwng 4 a 5 y diwrnod hwnnw.